Fforymau Colegau
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnwys 24 o ysgolion academaidd sydd wedi'u rhannu rhwng tri choleg:
- Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)
- Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (BLS)
- Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (PSE)
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal Fforymau Colegau, i roi cyfle i Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr drafod adborth gyda'r Swyddogion Sabothol etholedig ac uwch staff y brifysgol. Gwahoddir Cadeirydd ac Is-gadeirydd pob Panel Staff-Myfyrwyr i fynychu, er mwyn darparu diweddariad am yr hyn a drafodwyd yn eu cyfarfod diwethaf, a chodi unrhyw faterion na ellir eu datrys gan staff yr ysgol. Os na ellir datrys problem mewn Panel Staff-Myfyrwyr, gellir ei thrafod mewn Fforwm Coleg.
Bydd Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr o ar draws y coleg yn cael cyfle i siarad ar ran eu hysgolion. Bydd Swyddogion Sabothol yn cadeirio'r cyfarfodydd, ac yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau â Deoniaid y coleg a chynrychiolwyr gwasanaethau proffesiynol eraill. Yn ogystal â chodi pryderon, mae hwn yn gyfle da iawn i Gadeiryddion rannu arferion gorau yn eu colegau. Gallant rannu syniadau a datrysiadau i broblemau cyffredin gyda'u cyfoedion.
Mae'r dyddiadau ar gyfer y Fforymau Coleg 2024/25 isod, ond nodwch y gall rhai dyddiadau newid. Bydd pob Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn cael eu gwahodd yn awtomatig gan Dîm Llais y Myfyriwr. Os hoffech drafod y Fforymau Colegau, neu gyfarfod penodol, cysylltwch â StudentReps@caerdydd.ac.uk.
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
|
Israddedig
|
Ôl-raddedig a Addysgir
|
Ymchwil Ôl-raddedig
|
2il o Ragfyr 2024
|
2il o Ragfyr 2024
|
4ydd o Ragfyr 2024
|
13eg o Fawrth 2025
|
12fed o Fawrth 2025
|
19eg o Fawrth 2025
|
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
|
Israddedig
|
Ôl-raddedig a Addysgir
|
Ymchwil Ôl-raddedig
|
3ydd o Ragfyr 2024
|
2il o Ragfyr 2024
|
4ydd o Ragfyr 2024
|
11eg o Fawrth 2025
|
12fed o Fawrth 2025
|
19eg o Fawrth 2025
|
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
|
Israddedig
|
Ôl-raddedig a Addysgir
|
Ymchwil Ôl-raddedig
|
05ydd o Ragfyr 2024
|
2il o Ragfyr 2024
|
4ydd o Ragfyr 2024
|
18fed o Fawrth 2025
|
12fed o Fawrth 2025
|
19eg o Fawrth 2025
|