Cwestiynau Cyffredin
Os oes gennych ddiddordeb fod yn Gynrychiolwr Academaidd Myfyrwyr, neu os hoffech ddysgu mwy am y rôl, darllenwch ein cwestiynau cyffredin isod.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r rôl gyda thîm Llais y Myfyrwyr, cysylltwch â StudentReps@caerdydd.ac.uk.
Beth yw Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr?
Mae gan bob rhaglen gynrychiolwr academaidd myfyrwyr er mwyn cynrychioli barn eu carfan. O fewn y 24 ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hyn yn golygu dros 1000 o Gynrychiolwyr bob blwyddyn ar draws y sefydliad. Mae cynrychiolwyr yn pontio’r bwlch rhwng myfyrwyr ac aelodau staff, casglu adborth perthnasol, codi materion mewn cyfarfodydd, ac yn adrodd yn ôl ar unrhyw ganlyniadau.
Pa fath o faterion y mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â?
Caiff Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr eu hethol er mwyn lleisio pryderon addysgol eu carfannau. Mae hyn yn golygu eu bod yn delio â materion neu broblemau sy'n codi ynghylch cyrsiau (gan gynnwys asesiadau ac adborth, cynnwys modiwlau, neu amserlennu). Ni ddisgwylir iddynt ddelio ag unrhyw bryderon lles na materion personol sy'n ymwneud â myfyrwyr ar eu cwrs. Fodd bynnag, byddant yn gallu cyfeirio myfyrwyr â phryderon o'r fath at wasanaethau priodol o fewn y brifysgol.
Sut ydw i'n dod o hyd i Gynrychiolydd Academaidd fy ysgol?
Dylai eich Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr wneud ei hun yn hysbys i chi yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion eich cynrychiolydd drwy glicio ar eich ysgol ar hafan yr Hyb Cynrychiolwyr Myfyrwyr.
I ble mae'r adborth yn mynd?
Mae gan y Brifysgol strwythur pwyllgorau cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i sicrhau y gellir datrys neu drafod yr holl adborth ar y lefel briodol. Bydd unrhyw adborth sy'n cael ei drosglwyddo at Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn cael ei godi gyda staff yr ysgol mewn cyfarfod Panel Staff-Myfyrwyr. Yn dibynnu ar natur y mater, efallai y bydd y panel o staff a myfyrwyr yn dod o hyd i ateb, a fydd wedyn yn cael ei adrodd yn ôl i fyfyrwyr. Os na ellir dod o hyd i ateb, bydd y mater yn cael ei drosglwyddo at bwyllgor priodol arall, a fydd yn gweithio tuag at ddatrysiad.
Beth yw Panel Staff-Myfyrwyr?
Mae Paneli Staff-Myfyrwyr yn gyfarfodydd sy'n digwydd rhwng Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr a staff yn yr ysgol. Mae'r rhain yn digwydd unwaith y semester, ac maent yn fodd o sicrhau bod deialog effeithiol rhwng staff a myfyrwyr. Arweinir y rhain gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd myfyrwyr, ac mae staff yr ysgol yn hwyluso cynnal y cyfarfod. Dylid cyfathrebu unrhyw ganlyniadau o gyfarfodydd Panel Staff-Myfyrwyr gyda myfyrwyr.
Beth yw Fforwm Coleg?
Mae’r Fforymau Colegau yn gyfarfodydd a hwylusir gan Undeb y Myfyrwyr, ac maent yn rhoi cyfle i Gynrychiolwyr adrodd am faterion na ellir eu datrys mewn Paneli Staff-Myfyrwyr. Mae'r rhain yn cael eu rhannu yn ôl colegau, ac maent yn cael eu cadeirio gan Swyddogion Sabothol. Gwahoddir Cadeirydd ac Is-gadeirydd pob Panel Staff-Myfyrwyr i fynychu a rhoi'r diweddariad am y materion a drafodwyd yn eu cyfarfod diweddaraf. Bydd Deoniaid y Colegau a staff gwasanaethau proffesiynol hefyd yn bresennol, felly os oes unrhyw adborth nad sy’n addas ar gyfer Paneli Staff-Myfyrwyr, gellir ei godi mewn Fforwm Coleg.
Pam ddylwn i wirfoddoli?
Mae dod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn gyfle gwych. Nid yn unig y gallwch chi gynrychioli eich carfan a chael mewnwelediad i sut mae eich ysgol yn gweithio, byddwch hefyd yn ennill llawer o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn edrych yn wych ar eich CV. Fel Cynrychiolydd, byddwch hefyd yn derbyn gohebiaeth reolaidd gan Undeb y Myfyrwyr gyda chyfleoedd ychwanegol. Gallwch hefyd dderbyn tystysgrif ar ddiwedd y flwyddyn!
A fyddaf yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth?
Fel Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gan dîm Llais y Myfyriwr ar gyfer eich rôl, gan gynnwys hyfforddiant pellach os byddwch yn ymgymryd â rôl Cadeirydd neu Is-gadeirydd. Bydd hyn yn mynd â chi drwy'r hyn i'w ddisgwyl o'ch rôl, a'r gefnogaeth sydd ar gael. Byddwch hefyd yn derbyn cyflwyniad gan Gydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr eich ysgol, a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut y gallwch gyfathrebu â staff a myfyrwyr, a'r hyn y gall fod angen i chi ei ystyried wrth ddarparu adborth.
Mae gen i ddiddordeb! Sut ydw i’n gwirfoddoli?
Gwych! I enwebu eich hun fel Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, bydd angen i chi gysylltu â Chydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr eich ysgol, neu siarad ag aelod arall o staff a all drosglwyddo'ch manylion i'r person cywir. Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i'r person iawn, cysylltwch â thîm Llais y Myfyriwr.
Fel Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, sut alla i gyfathrebu â’m carfan?
Gall cael adborth gan eich carfan fod yn heriol, ond gall eich ysgol eich cefnogi gyda hyn. Mae gan bob ysgol wahanol ffyrdd o wneud hyn, felly mae'n syniad da cysylltu â'ch Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr i weld pa ddulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer cynrychiolwyr blaenorol. Ceisiwch ystyried beth allai fod orau i'ch carfan – os oes gennych 'groupchat' gweithredol, efallai y byddai'n syniad da ei ddefnyddio, ond os nad ydych yn cyfathrebu'n aml iawn, efallai y bydd yn haws gofyn i staff eich helpu i e-bostio'r garfan yn uniongyrchol.
Pa gydnabyddiaeth y mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ei gael?
Mae’r rôl yn wirfoddol, ond mae ffyrdd y gellir cydnabod myfyrwyr am ymgymryd â'r rôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, gall pob Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr a gwblhaodd hyfforddiant hawlio tystysgrif fel tystiolaeth o'r sgiliau y maent wedi'u hennill drwy wneud y rôl. Mae hefyd gan Wobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr gategori ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr y Flwyddyn, gydag enillydd ar gyfer pob coleg. Os ydych chi'n creu argraff yn eich rôl, efallai y cewch eich enwebu!