Cymraeg

Medical and Dental Care at University

 

Registering with a GP

 

When you get to University you must register with a GP near to where you are living. This is called the catchment area.

 

In order to use the services of a GP surgery, you will need to be registered with them. This process can take some time, so it is very important to do this before you get ill or need medication.

 

As GP’s have catchment areas, you will need to find a local GP surgery and contact them to ask about registering with them. You will normally have to complete a registration form and provide ID and proof of address.

 

Since the pandemic, the majority of GP surgeries are asking patients to refrain from visiting the practise in person unless specifically told to by a member of staff. Registration forms may be available on the surgery’s website, but if not, you may need to call your GP to enquire about the registration process.

 

You can also find more information about registering with GP Services here. 

 

 

Park Place GP Practice

 

Students living in the catchment area (a map of the catchment area is available at 37 Park Place) are invited to register with the surgery.

 

Park Place Surgery is open Monday to Friday 12:30-15:30 and operates an appointment system, although new patients may call in between to collect registration documents. For any inquiries relating to advice or appointments please call in or telephone +44 (0)29 2087 0660 during opening hours; out of hours registered patients need to telephone +44 (0)29 2046 1100.

 

Community Pharmacy

 

In the UK you can quickly access free medical advice from your community pharmacist, often much faster than speaking to your GP. If you need to speak to your GP, then your pharmacist will tell you.

 

In Wales, a number of pharmacies operate the common ailments scheme, which allows anyone to go to a pharmacy and get certain medications for free, paid for by the NHS.

 

When using this service, you will need to speak to the pharmacist, who will diagnose and provide treatments at their discretion.

 

If you are suffering from something, it is often best to speak to a pharmacist before trying to book a GP appointment.

 

Pharmacists in the UK can also provide many other services, such as;

 

  • Help to stop smoking
  • Emergency contraception (morning after pill).
  • Drinking less
  • Losing weight
  • Advice on new medicines
  • Needle exchange and substance misuse support

 

Please note, that not every pharmacy can provide all the services listed above.

 

Registering with a dentist

 

There is no requirement to register with a dentist, but many people prefer to do so. If you need dental care, then you should ring a dentist and ask if they have any available appointments.

 

When you call the dentist you can ask whether they provide NHS care or not.

 

If the dentist that you call is full or doesn’t provide NHS care, then you can contact the dental helpline in your local health board area, or see the Find an NHS Dentist page on the NHS website.

 

For Cardiff, the Telephone number available 24 hours a day, 7 days a week - Cardiff 02920 444500

 

NHS Care is almost always cheaper than private care, but many dentists do not accept NHS patients or provide NHS treatment. You can find a list of dentists, albeit some private, on the NHS Find a Dentist page.

 

blue and white toothbrush in clear glass jar

 

Urgent Dental Care

 

If you think you need urgent dental care, then you should call the emergency dental helpline for your local area. Cardiff, Telephone number available 24 hours a day, 7 days a week - Cardiff 02920 444500

 

You will be triaged and you may be directed to the emergency dental clinics at the Dental Hospital or St David’s Hospital.

 

 

You may also be booked into a primary care dentist if this is more appropriate.

 

 

You will be given advice on managing the symptoms of your problem over the phone.

 

Opticians

 

Visit an optician or GP if you have concerns about your vision.

 

The NHS recommends an eye test at least every 2 years, or more often if recommended by your optician.

 

 

If you are experiencing any issues with your eyes, or if you are not sure who to speak to about your eyes, you can use the NHS Direct Eye problems checker.

 

This guide will tell you who the best person to speak to is, based on your symptoms.

 

Sexual Health

 

For more information on sexual health, including where you can get free contraception and available sexual health services in Cardiff, please see our Sexual Health page.

 

Mental Health

 

For more information on mental health, including what additional support at University, please see our Mental Health page.

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 


Gofal Meddygol a Deintyddol yn y Brifysgol

 

Cofrestru gyda Meddyg Teulu

 

Pan fyddwch chi'n cyrraedd y Brifysgol mae'n rhaid i chi gofrestru gyda Meddyg Teulu yn agos at eich llety. Gelwir hyn yn ddalgylch.

 

Er mwyn defnyddio gwasanaethau meddygfa, bydd angen i chi gofrestru gyda nhw. Gall y broses hon gymryd peth amser, felly mae'n bwysig iawn gwneud hyn cyn i chi fynd yn sâl neu angen meddyginiaeth.

 

 

Gan fod gan feddygon teulu ddalgylchoedd penodol, bydd angen ichi ddod o hyd i feddygfa leol a chysylltu â nhw i ofyn am gofrestru gyda nhw. Fel arfer bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru a darparu ID a thystiolaeth o'ch cyfeiriad.

 

 

Ers y pandemig, mae'r mwyafrif o feddygfeydd teulu yn gofyn i gleifion beidio ag ymweld wyneb yn wyneb oni bai bod aelod o staff yn gofyn. Mae’n bosibl y bydd ffurflenni cofrestru ar gael ar wefan y feddygfa, ond os na, efallai y bydd angen i chi ffonio’ch meddyg teulu i holi am y broses gofrestru.

 

 

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gofrestru gyda Gwasanaethau Meddygon Teulu yma.

 

Meddygfa Plas y Parc

 

Myfyrwyr sy'n byw yn y dalgylch (mae map o'r dalgylch ar gael yn 37 Plas y Parc yn cael eu gwahodd i gofrestru gyda'r feddygfa.

 

Mae Meddygfa Plas y Parc ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 12:30-15:30 ac yn gweithredu system apwyntiadau, er y gall cleifion newydd alw i mewn i gasglu dogfennau cofrestru. Ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chyngor neu apwyntiadau, galwch i mewn neu ffoniwch +44 (0)29 2087 0660 yn ystod oriau agor; i gleifion cofrestredig gallant gysylltu y tu allan i oriau ffonio +44 (0)29 2046 1100.

 

Fferyllfa Gymunedol

 

Yn y DU gallwch gael mynediad cyflym at gyngor meddygol am ddim gan eich fferyllydd cymunedol, sydd yn aml yn llawer cyflymach na siarad â'ch meddyg teulu. Os bydd angen i chi siarad â'ch meddyg teulu, yna bydd eich fferyllydd yn dweud wrthych.

 

Yng Nghymru, mae nifer o fferyllfeydd yn gweithredu’r cynllun anhwylderau cyffredin, sy’n caniatáu i unrhyw un fynd i fferyllfa a chael rhai meddyginiaethau am ddim, y telir amdanynt gan y GIG.

 

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi siarad â'r fferyllydd, a fydd yn gwneud diagnosis ac yn darparu triniaethau yn ôl eu disgresiwn.

 

Os ydych chi'n dioddef o rywbeth, yn aml mae'n well siarad â fferyllydd cyn ceisio trefnu apwyntiad meddyg teulu.

 

Gall fferyllwyr yn y DU hefyd ddarparu llawer o wasanaethau eraill, megis;

 

  • Helpu i roi'r gorau i ysmygu
  • Atal cenhedlu brys (y bilsen bore wedyn).
  • Yfed llai o alcohol
  • Colli pwysau
  • Cyngor ar feddyginiaethau newydd
  • Cymorth cyfnewid nodwyddau a chamddefnyddio sylweddau

 

Sylwch na all pob fferyllfa ddarparu'r holl wasanaethau a restrir uchod.

 

Cofrestru gyda deintydd

 

Nid oes angen cofrestru gyda deintydd, ond mae'n well gan lawer o bobl wneud hynny. Os oes angen gofal deintyddol arnoch, yna dylech ffonio deintydd a gofyn a oes ganddynt unrhyw apwyntiadau sydd ar gael.

 

Pan fyddwch yn ffonio'r deintydd gallwch ofyn a ydynt yn darparu gofal GIG ai peidio.

 

Os yw’r deintydd rydych yn ei ffonio’n llawn neu os nad yw’n darparu gofal y GIG, yna gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol yn ardal eich bwrdd iechyd lleol, neu weld y dudalen Dod o hyd i Ddeintydd GIG ar wefan y GIG.

 

Ar gyfer Caerdydd, y rhif ffôn sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yw 02920 444500

 

Mae Gofal GIG bron bob amser yn rhatach na gofal preifat, ond nid yw llawer o ddeintyddion yn derbyn cleifion GIG nac yn darparu triniaeth GIG.

 

Gofal Deintyddol Brys

 

Os credwch fod angen gofal deintyddol brys arnoch, yna dylech ffonio llinell gymorth ddeintyddol frys eich ardal leol. Ar gyfer Caerdydd, y rhif ffôn sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yw 02920 444500

 

Byddwch yn cael eich brysbennu ac efallai y cewch eich cyfeirio at y clinigau deintyddol brys yn yr Ysbyty Deintyddol neu Ysbyty Dewi Sant.

 

 

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn cael eich bwcio i ddeintydd gofal sylfaenol os yw hyn yn fwy priodol.

 

 

Byddwch yn cael cyngor ar reoli symptomau eich problem dros y ffôn.

 

Optegwyr

 

Ewch i weld optegydd neu feddyg teulu os oes gennych bryderon am eich golwg.

 

Mae'r GIG yn argymell prawf llygaid o leiaf bob 2 flynedd, neu'n amlach os bydd eich optegydd yn argymell hynny.

 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'ch llygaid, neu os nad ydych chi'n siwr â phwy i siarad am eich llygaid, gallwch chi ddefnyddio'r Gwiriwr problemau llygaid Galw Iechyd Cymru.

 

 

Bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych pwy yw'r person gorau i siarad ag ef, yn seiliedig ar eich symptomau.

 

Iechyd Rhywiol

 

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol, gan gynnwys lle y gallwch gael dulliau atal cenhedlu am ddim a gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael yng Nghaerdydd, gweler ein tudalen Iechyd Rhywiol .

 

Iechyd Meddwl

 

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl, gan gynnwys pa gymorth ychwanegol yn y Brifysgol, gweler ein tudalen Iechyd meddwl.

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410