Cymraeg
Student Behaviour at AGM
Cardiff Students’ Union is proud to host one of the largest student democratic meetings in the UK. The AGM (Annual General Meeting) is a space to debate and determine the direction of the orgnanisation, alongside agreeing to collective stances on important issues students want to take future action on.
Two fundamental principles guide the discussions: the unwavering commitment to freedom of speech and the equally crucial commitment to ensuring that the meeting conduct remains respectful and free from harm.
Freedom of speech lies at the heart of any academic community, and it is our collective responsibility to uphold and cherish this freedom. However, with this freedom comes the responsibility to use our words thoughtfully and to be mindful of the potential impact they may have on others. The debates and discussions must be conducted with respect for the dignity of every individual present. We must strive to create an environment where differing opinions can coexist, and where our diversity is celebrated rather than compromised.
In the spirit of maintaining a safe and inclusive space, we ask that all members be conscious of the potential harm that certain language or expressions may cause. We are here to learn from each other, and that process is most effective when conducted with empathy and respect. To be clear, we unequivocally reject all forms of racism, antisemitism and islamophobia and remain committed to rooting out any behaviours within the student and wider community that lead to hate or discrimination.
A set of principles to guide the meeting have been set out below, we will not hesitate to act should we think that anyone has overstepped the mark on those behaviours, which may include issuing warnings, pausing or abandoning the meeting in its entirety.
AGM Debate Principles
- Respectful debate free from hate: Engaging in debates on topics is an integral part of the shaping the academic community. However, it's crucial that we approach such debates with care and respect, and we will not tolerate any debate that incites hate or discrimination against any characteristic.
- Acknowledge Emotional Impact: Recognise that sensitive topics may evoke strong emotions. Be aware of the feelings of others and approach discussions with empathy, sensitivity and humanity.
- Avoid Personal Attacks: Refrain from directing criticism or negative remarks towards individuals. Focus on the ideas presented rather than attacking the person expressing them. Let's create an environment where everyone feels comfortable sharing their perspectives.
- Be Mindful of Language: Choose your words thoughtfully. Offensive language can escalate tensions and hinder productive discussion. Emphasise the importance of expressing opinions in a way that promotes understanding rather than causing discomfort. Whilst the duty of freedom of speech does not protect those from being upset or offended by others, we want to request speakers minimise this to ensure we reduce the chance of causing upset and harm. We want the behaviours of our students to reflect our diverse student community, which aims to set a higher bar on having healthy yet inclusive debate.
- Listen Actively: Engage in active listening to fully understand others' viewpoints. Avoid interrupting or dismissing ideas and demonstrate respect for diverse perspectives. We will not tolerate interruptions, heckling or any significant disruption from the floor.
- Call it out: Please do raise with SU staff if you see or hear anything that you believe you witness any hateful, discriminatory and abusive behaviour. Bystander intervention is an important part of this, should it be safe to do so and you’re comfortable to challenge, please do call out behaviours you see.
Dealing with challenging behaviours
Depending on the severity of the actions of individuals or groups, the following actions may be taken if behaviours :
- You may be given a warning, followed by a final warning. If behaviours continue, you may be asked to leave the meeting
- We may have to temporarily stop the meeting to deal with any disruption or complaint submitted
- We may have to abandon the meeting in its entirety
- Students found to be in breach of acceptable behaviour standards may be subject to Cardiff University Student Disciplinary procedures following the meeting
Support Services / Signposting:
- If you need any support, we strongly encourage you to reach out to the University Disclosure Response Team who are on hand to help those affected by an incident of violence, abuse or unwanted behaviour that is distressing or offensive.
- Students’ Union Advice is independent of the University, this means that we can advise and represent students in University policies and procedures. Our fundamental role is to give you impartial advice and guidance and help you understand the options available to you.
- Student Behaviour Policy outlines the University rules around student conduct and outlines sanction that may take place should those behaviours not be adhered to.
Sefydlu ymddygiad trafodaeth yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn falch cynnal un o ddigwyddiadau democrataidd myfyrwyr mwyaf y DU. Mae’r CCB (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) yn lle ar gyfer trafod a phenderfynu ar gyfeiriad y sefydliad, tra’n cytuno ar safbwynt ar y cyd am faterion pwysig y mae myfyrwyr am weithredu’n bellach arnynt.
Dwy egwyddor sylfaenol sydd i’r trafodaethau: Ymrwymiad diwyro i ryddid i lefaru a’r ymrwymiad un mor hanfodol i sicrhau fod y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn ffordd sy’n parhau’n barchus ac yn rhydd o niwed.
Mae’r rhyddid i lefaru yn graidd i unrhyw gymuned academaidd ac mae’n gyfrifoldeb ar bawb i sicrhau ein bod yn cynnal a gwerthfawrogi’r rhyddid yma. Ond, gyda’r rhyddid yma daw cyfrifoldeb i ddefnyddio geiriau mewn ffordd ystyriol, ac i ystyried yr effaith posib gallant gael ar eraill. Rhaid cynnal dadleuon a thrafodaethau gyda pharch am urddas pob unigolyn sy’n bresennol. Rhaid i ni weithio i greu amgylchedd lle gall gwahanol farn cydfodoli, a lle bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu yn hytrach na’i gyfyngu.
Gyda’r nod o gadw gofod diogel a chynhwysol, gofynnwn i bob aelod fod yn ystyriol o’r niwed posib y gallai iaith neu ymadroddion penodol eu cael. Rydym yma i ddysgu wrth eraill, ac mae’r proses yna mwyaf effeithiol pan gaiff ei gynnal gydag empathi a pharch. I fod yn glir, rydym yn hollol gwrthod unrhyw fath o hiliaeth, gwrthsemitiaeth ac islamoffobia, ac rydym yn parhau wedi’n hymroi i fynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad o fewn y gymuned myfyrwyr ac yn ehangach a gall arwain at gasineb neu wahaniaethu.
Mae cyfres o egwyddorion er mwyn arwain y cyfarfod wedi eu nodi isod, ac ni fyddwn yn oedi gweithredu os teimlwn fod rhywun yn torri’r egwyddorion yma – gall hyn cynnwys rhoi rhybudd, oedi, neu roi’r gorau i’r cyfarfod cyfan.
Egwyddorion Trafodaeth CCB
- Trafodaeth barchus yn rhydd o gasineb: Mae cymryd rhan mewn trafodaethau ar bynciau yn rhan annatod o lunio’r gymuned academaidd. Ond mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y math trafodaethau gyda gofal a pharch, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw drafodaeth sy’n annog casineb neu wahaniaethau yn erbyn unrhyw nodwedd bersonol.
- Cydnabod Effaith Emosiynol: Cydnabyddwch y gall themâu sensitif ennyn emosiynau cryf. Byddwch yn ymwybodol o deimladau eraill a thrafodwch gydag empathi, sensitifrwydd a dyngarwch.
- Osgoi Ymosodiadau Personol: Peidiwch anelu beirniadaeth neu ddatganiadau negyddol tuag at unigolion. Canolbwyntiwch ar y syniadau a gyflwynwyd yn hytrach nag ymosod ar y person sy’n eu mynegi. Dewch i ni greu awyrgylch lle mae pawb yn teimlo’n gyfforddus rhannu eu safbwynt.
- Bod yn Ystyriol o Iaith: Dewiswch eich geiriau mewn modd ystyriol. Gall iaith sarhaus cynyddu tensiynau ac atal trafodaeth gynhyrchiol. Pwysleisiwch bwysigrwydd mynegi safbwyntiau mewn ffordd sy’n hybu dealltwriaeth yn hytrach nag achosi anghysur. Tra nad yw dyletswydd rhyddid i lefaru yn diogelu pobl rhag cael eu digio gan eraill, rydym eisiau gofyn i siaradwyr ceisio lleihau’r siawns o niweidio neu ddigio rhywun. Rydym eisiau i ymddygiad ein myfyrwyr adlewyrchu ein cymuned myfyrwyr amrywiol, sy’n anelu i gael trafodaeth iach a chynhwysol.
- Gwrando’n Weithredol: Gwrandewch yn weithredol er mwyn deall safbwyntiau pobl eraill yn llawn. Dylech osgoi torri ar draws neu ddiystyru syniadau a dangoswch barch am safbwyntiau amrywiol. Ni fyddwn yn goddef torri ar draws, gweiddi neu unrhyw amhariad sylweddol arall o’r llawr.
- Galwch e allan: Rhowch wybod i staff yr UM os welwch neu clywch unrhyw beth deimlwch sydd gyfystyr ag ymddygiad atgas, gwahaniaethol a chamdriniol. Mae ymyrraeth yn rhan bwysig o hyn, felly os mae’n ddiogel gwneud ac rydych yn teimlo’n gyfforddus, tynnwch sylw at yr ymddygiad yma os gwelwch yn dda.
Delio ag ymddygiad heriol
Yn dibynnu ar ddifrifoldeb gweithredoedd unigolion neu grwpiau, gall y camau canlynol cael eu cymryd:
- Gallwch dderbyn rhybudd, wedi’i ddilyn gan rybudd olaf. Os yw’r ymddygiad yn parhau efallai y bydd gofyn i chi adael y cyfarfod.
- Efallai y bydd angen i ni oedi’r cyfarfod am gyfnod er mwyn delio ag amhariad neu gŵyn a gyflwynwyd.
- Efallai y bydd rhaid i ni roi’r gorau i’r cyfarfod yn ei gyfanrwydd.
- Gall myfyrwyr sy’n torri ar safonau ymddygiad derbyniol wynebu mesurau disgyblu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar ôl y cyfarfod.
Gwasanaethau Cymorth / Cyfeirio:
- Os oes angen unrhyw cymorth arnoch, rydym yn eich annog i gysylltu â Thîm Ymateb i Ddatgeliadau’r Brifysgol, a gall helpu’r rheiny a effeithiwyd gan drais, cam-drin, neu ymddygiad sarhaus.
- Mae Cyngor Undeb Myfyrwyr yn annibynnol o’r Brifysgol, sy’n golygu y gallwn gynghori a chynrychioli myfyrwyr ym mholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Ein rôl sylfaenol yw rhoi cyngor ac arweinyddiaeth ddiduedd a’ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael.
- Mae Polisi Ymddygiad Myfyrwyr yn amlinellu rheolau’r Brifysgol ar ymddygiad myfyrwyr ac mae’n amlinellu’r camau gall cael eu cymryd os yw’r polisi’n cael ei dorri.