Annual General Meeting
Read the full Notice of AGM
Read the Agenda
Submit a Question to Trustees
The Students’ Union hereby gives notice that the Student Members’ Annual General Meeting (AGM) will take place at 18:00 on Thursday 21 November 2024.
The meeting will be held in the Great Hall on the first floor of the Students’ Union at 18:00. Doors will open at 17.30. Every student at Cardiff University is invited and encouraged to attend. Just remember to bring your Student ID card as it will be required on entry.
What is the AGM?
It is a large forum where a wide variety of students come to debate and determine the direction of Cardiff Students’ Union, which usually takes place at the end of November. As the Students’ Union is directed by you, our student members, we use the AGM to adopt a collective stance on an issue and decide what action we will take.
Any student can attend the AGM and have their say on the items discussed. The Union is a transparent organisation which is run by the student population. This is a great opportunity to have a hands on impact on the democracy and running of the Students’ Union.
In unusual circumstances when an urgent desicion needs to be made, an Extraordinary General Meeting may also be called at another point in the year.
What happens at the AGM?
The Union's AGM plays a cruical role in the governance processes of the Union. It sees hundreds of students come together to debate and vote on a series of motions which will determine the campaigning work of the elected officers. It also sees students recieve the financial accounts of the Union from the previous financial year, approve the affilations of the Union including BUCS, and ask questions to the Board of Trustees.
Business to be transacted at this years' AGM includes:
> ratification of minutes of the previous meeting;
> receiving the report of the Trustees on the Union’s activities since the previous meeting
> receiving the accounts of the Union for the previous financial year;
> approving proposed changes to the Union's Memorandum and Articles of Association
> approving the list of affiliations of the Union;
> open questions to the Trustees by the Student Members;
> and any motions submitted by members.
How do I propose a motion?
Motions for change can be submitted by any student. A motion consists of an idea that you think the Union should follow. To find out more about how to write a motion check out our AGM Motion Submission Guidance and Procedure document.
Students have from 4pm on Wednesday 23rd October to 10am on Monday 4th November to submit motions they want to be considered at AGM. Submissions should be made through the AGM Motion Submission Portal.
Once submitted, motions will be reviewed to ensure they are within the power of AGM. Any motions considered to be within the powers of AGM will then be put to a vote by students via a priority ballot. This priority ballot will determine which motions get to be debated at the AGM, with only the top 4 motions making it onto the agenda. Any motion which does not make it into the top 4 but does recieve at least 25 votes will be submitted to Student Senate for consideration as long as Student Senate have the power to consider such an item.
The priority ballot will open at 10am on Tuesday 12th November and close on Thursday 14th November. The final agenda for the meeting will be made available from Thursday 15th November.
What has AGM done for you?
In previous Annual General Meetings, students have voted on many different issues. These are just some of the motions passed by students in past meetings:
> Voted to introduce a full time Heath Park Officer and Postgraduate Students Officer
> Voted for the introduction of the first ever Vice President Cymraeg
> Voted to support UCU Industrial Action
> Voted to introduce a Mental Health Campaign Officer
> Started the 'Periods in Poverty Campaign'
> Stopped minimum memberships for sports clubs and societies being raised to 30
> Voted to ensure the Great Hall didn't become a full time lecture theatre
What if I can't attend?
If you are unable to attend the meeting but still want your voice to be heard and your vote to be counted, you can have another student attend as your proxy. That means that another individual attends in your place, speaks and votes on your behalf.
To appoint a proxy you simply fill in this 'Appointment of Proxy' form Cymraeg | English and return it to the Student Voice team. It must be received before Noon on Thursday 21st November by the Student Voice team via email to AGM@cardiff.ac.uk, or in-person on the third floor of the Students' Union building.
Those unable to attend can also request to watch and listen to the AGM event online. Requests to watch and listen to the event must be received before Noon on Thursday 21st November.
Previous AGMs (including relevant documents and agendas)
Thursday 23rd November 2023
Tuesday 6th December 2022
Previous AGM Agendas
November 2021 Agenda Pack
April 2021 Agenda Pack
November 2019 Agenda Pack
November 2018 Agenda Pack
November 2017 Agenda Pack
Future AGMs
> Thursday 20 November 2025
> Thursday 19 November 2026
> Thursday 18 November 2027
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Darllen yr Hysbysiad o CCB llawn
Darllena'r agenda
Cyflwyno Cwestiwn i'r Ymddiriedolwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn eich hysbysu y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yr Aelodau yn cael ei gynnal am 18:00 dydd Iau 21 Tachwedd 2024.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Neuadd Fawr ar lawr cyntaf Undeb y Myfyrwyr am 18:00. Bydd y drysau’n agor am 17:30. Gwahoddir ac anogir pob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd i fynychu. Cofiwch ddod â’ch ID Myfyriwr oherwydd bydd ei angen er mwyn cael mynediad.
Beth yw'r CCB?
Mae'n fforwm mawr ble mae amrywiaeth eang o fyfyrwyr yn dod i ddadlau a phenderfynu ar gyfeiriad Undeb Myfyrwyr Caerdydd, sydd fel arfer yn cael ei gynnal ddiwedd mis Tachwedd. Gan mai chi, ein haelodau, sy'n cyfarwyddo Undeb y Myfyrwyr, rydym yn defnyddio'r CCB i fabwysiadu safbwynt ar y cyd ar faterion, a phenderfynu pa gamau i’w cymryd.
Gall unrhyw fyfyriwr fynychu'r CCB a chael eu dweud ar yr eitemau a drafodir. Mae'r Undeb yn sefydliad tryloyw sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith ymarferol ar ddemocratiaeth a rhedeg Undeb y Myfyrwyr.
Mewn amgylchiadau anarferol pan fydd angen gwneud penderfyniad brys, gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ar adeg arall yn ystod y flwyddyn hefyd.
Beth sy’n digwydd yn y CCB?
Mae’r CCB yn chwarae rôl allweddol o fewn prosesau llywodraethu’r Undeb. Mae’n gweld cannoedd o fyfyrwyr yn dod ynghyd i drafod a phleidleisio ar gyfres o gynigion a fydd yn penderfynu ar waith ymgyrchu’r swyddogion etholedig. Dyma pan fydd myfyrwyr yn derbyn cyfrifon ariannol yr Undeb o’r flwyddyn ariannol flaenorol, cadarnhau ymlyniadau’r Undeb gan gynnwys BUCS, a gofyn cwestiynau i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae busnes i’w gynnal yn CCB eleni yn cynnwys:
> Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol
> Derbyn adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar weithgareddau’r Undeb ers y cyfarfod blaenorol
> Derbyn cyfrifon yr Undeb ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol
> Cymeradwyo newidiadau arfaethedig i Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu'r Undeb
> Cymeradwyo'r rhestr o ymlyniadau’r Undeb
> Cwestiynau agored i’r Ymddiriedolwyr gan Aelodau
> Unrhyw gynigion wedi’u cyflwyno gan aelodau
Sut ydw i’n cyflwyno cynnig?
Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig. Mae cynnig yn syniad teimlwch dylai’r Undeb ei ddilyn. I ddysgu mwy am sut i ysgrifennu cynnig darllenwch ein dogfen Canllaw a Gweithdrefn Cyflwyno Cynnig CCB.
Mae gan fyfyrwyr o 4yh dydd Mercher 23ain Hydref i 10yb dydd Llun 4ydd Tachwedd i gyflwyno cynigion hoffent eu trafod yn yr CCB. Dylid cyflwyno cynigion trwy’r Porth Cyflwyno Cynnig CCB.
Ar ôl eu cyflwyno, bydd cynigion yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod o fewn pwerau’r CCB. Bydd unrhyw gynigion wedi’u hystyried o fewn pwerau’r CCB wedyn yn cael eu rhoi i bleidlais flaenoriaeth gan fyfyrwyr. Bydd y bleidlais flaenoriaeth yma’n penderfynu pa gynigion bydd yn cael eu trafod yn y CCB, gyda dim ond y 4 cynnig sy’n dod i’r brig wedi’u rhoi ar yr agenda. Bydd unrhyw gynnig nad sy’n cyrraedd y 4 uchaf ond sydd yn derbyn o leiaf 25 pleidlais yn cael ei gyflwyno i Senedd y Myfyrwyr am ystyriaeth cyn belled â’i fod o fewn pwerau’r Senedd i wneud felly.
Bydd y bleidlais flaenoriaeth yn agor am 10yb dydd Mawrth 12fed Tachwedd ac yn cau dydd Iau 14eg Tachwedd. Bydd agenda terfynol y cyfarfod ar gael dydd Iau 15fed Tachwedd.
Beth mae’r CCB wedi’i wneud i chi?
Mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol blaenorol, mae myfyrwyr wedi pleidleisio ar lawer o faterion gwahanol. Dyma ddim ond rhai o’r cynigion a basiwyd gan fyfyrwyr o’r blaen:
> Cyflwyno Swyddog Parc y Mynydd Bychan a Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig amser llawn
> Cyflwyno’r rôl o Is-lywydd y Gymraeg am y tro cyntaf
> Cefnogi Gweithredu Diwydiannol UCU
> Cyflwyno Swyddog Ymgyrchu Iechyd Meddwl
> Dechrau’r Ymgyrch ‘Misglwyf mewn Tlodi’
> Atal codi isafswm aelodaeth clybiau chwaraeon a chymdeithasau i 30
> Sicrhau na ddaeth y Neuadd Fawr yn ddarlithfa amser llawn
Beth os na allaf fynychu?
Os na allwch fynychu’r cyfarfod ond eisiau lleisio eich barn a phleidleisio o hyd, gallwch benodi myfyriwr arall fel eich dirprwy. Mae hynny’n golygu gall unigolyn arall mynychu, siarad, a phleidleisio ar eich rhan.
I benodi dirprwy llenwch y ffurflen ‘Penodi Dirprwy’ hon Cymraeg | English a’i dychwelyd i dîm Llais y Myfyrwyr. Rhaid ei derbyn erbyn canol dydd, dydd Iau 21ain Tachwedd naill ai dros e-bost at AGM@caerdydd.ac.uk, neu mewn person ar drydydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Gall y rheiny sy’n methu mynychu hefyd gwneud cais i wylio a gwrando ar y CCB ar-lein. Rhaid derbyn ceisiadau i wylio a gwrando ar-lein erbyn canol dydd, dydd Iau 21ain Tachwedd.
CCB blaenorol (gan gynnwys dogfennau ac agendâu perthnasol)
Agendâu CCB Blaenorol
Pecyn Agenda Tachwedd 2021
Pecyn Agenda Ebrill 2021
Pecyn Agenda Tachwedd 2019
Pecyn Agenda Tachwedd 2018
Pecyn Agenda Tachwedd 2017
CCB y Dyfodol
> Dydd Iau 20fed Tachwedd 2025
> Dydd Iau 19eg Tachwedd 2026
> Dydd Iau 18fed Tachwedd 2027