Register. Vote.

 

On the 4th July, the United Kingdom will hold a general election to elect the next Members of the UK Parliament (MPs). The deadline to register to vote is Tuesday 18th June. Make sure your voice is heard, and follow the 4 steps below. 

Cofrestrwch. Pleidleisiwch.

 

Ar y 4ydd o Orffennaf bydd y Deyrnas Unedig yn cynnal etholiad cyffredinol er mwyn ethol aelodau newydd Senedd y DU (MPs). Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth y 18fed o Fehefin. Gwnewch yn siŵr fod eich llais yn cael ei glywed, a dilynwch y 4 cam isod. 

A timeline of dates for the General Election.

1. Check you're eligible

You don't have to be a British citizen to vote in UK elections. To vote in a general election you must: 

 

  • be 18 or over on the day of the election 
  • be a British, Irish or qualifying Commonwealth citizen 
  • be resident at an address in the UK or living abroad and registered as an overseas voter 
  • not be legally excluded from voting 

Use the 'Can I Vote?' tool developed by Citizens UK, Migrant Democracy Project and Just Register to find out whether you can vote. You can also find out more about eligibility on the UK government website.

2. Register to vote

It takes less than 5 minutes to register to vote.  You'll be asked to provide your nationality, date of birth, national insurance number,  and address.  If you are eligible to vote but don't have a national insurance number DO NOT worry, you can still register without one. 

 

The deadline to register to vote is 23:59 on Tuesday 18th June. 

 

Remember you can register to vote at both your term-time (University) address and your home address. You just need to know you will only be able to cast your vote at one of the two, but you can decide! 

 

You can register to vote online via the UK Government website here.

 

If you're going to be away for the general election or will be busy on polling day you can always register for a postal vote. The deadline to register for a postal vote is 5pm on Wednesday 19th June. 

3. Check or get your Voter ID

This general election will be the first in the UK to register photo ID. This means you will need to show a valid form of photo ID at polling stations to vote in person. There are 22 accepted forms of ID including passports and driving licences. 

 

You can find a full list of acceptable forms of ID on the electoral commission website here

 

Don't have a valid ID? Don't panic, NUS have you covered. NUS UK have teamed up with CitizenCard to provide students with Free ID cards which is an acceptable form of ID for polling day. For more details on how to get your free CitizenCard visit NUS' dedicated webpage here

4. Vote on 4th July

Once you're reigstered to vote, and before the 4th July, you'll be sent a poll card. On you're poll card you will be informed of where your polling station is, you will only be able to vote at the polling station location on your card. You do not need to take your poll card with you when voting (but don't forget your ID). 

 

Polling stations will be open from 7am to 10pm on the day of the election (Thursday 4th July). 

 

When you arrive at the polling station you will need to give your name and address to staff inside the polling station. You'll then need to show your photo ID. Once you've done this you'll be given a ballot paper and directed to a voting booth. Remember to follow the instructions on the ballot paper and place only one 'X' in the box next to the candidate you wish to vote for, unless you intend to spoil your ballot paper. You will then need to fold your ballot paper and place it in the ballot box. 

 

Once you've voted you are all done, but why not encourage your friends and family to get out and vote, and follow the election results from 10pm. If you're unable to vote in-person, don't forget you can register for a postal vote here. 

A timeline of dates for the General Election.

1. Gwiriwch eich bod yn gymwys

Nid oes rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig i bleidleisio yn etholiadau'r DU. I bleidleisio mewn etholiad cyffredinol rhaid i chi fod: 

 

  • yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad 
  • yn ddinesydd cymwys Prydeinig, Gwyddelig neu o'r Gymanwlad 
  • yn byw mewn cyfeiriad yn y DU neu'n byw tramor ac wedi cofrestru fel pleidleisiwr tramor 
  • heb eich gwahardd yn gyfreithiol o bleidleisio 

Defnyddiwch adnodd 'Can I Vote?', wedi'i ddatblygu gan Citizens UK, y Migrant Democracy Project a Just Register, i weld os allwch bleidleisio. Gallwch hefyd ddysgu mwy am gymhwysedd ar wefan llywodraeth y DU.

2. Cofrestru i bleidleisio

Mae'n cymryd llai na 5 munud i gofrestru i bleidleisio.  Bydd gofyn i chi ddarparu eich cenedligrwydd, dyddiad geni, rhif yswiriant cenedlaethol, a chyfeiriad. Os ydych yn gymwys i bleidleisio ond heb rif yswiriant cenedlaethol, PEIDIWCH boeni, gallwch gofrestru heb un. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 23:59 dydd Mawrth y 18fed o Fehefin. 

 

Cofiwch, gallwch gofrestru gyda'ch cyfeiriad tra yn y brifysgol a'ch cyfeiriad adref. Dim ond mewn un man byddwch yn gallu pleidleisio ar y dydd, ond gallwch chi benderfynu! 

 

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein trwy wefan llywodraeth y DU.

 

Os fyddwch i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad neu'n brysur ar y dydd gallwch gofrestru am bleidlais trwy'r post. Y dyddiad cau er mwyn cofrestru am bleidlais trwy'r post yw 5yh dydd Mercher 19eg Mehefin. 

3. Gwiriwch neu cewch eich ID Pleidleisio

Dyma fydd yr etholiad cyffredinol cyntaf yn y DU i ofyn am ID pleidleisio ffotograffig. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi ddangos ID dilys yn yr orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio mewn person. Mae 22 math o ID yn cael eu derbyn gan gynnwys pasbortau a thrwyddedau gyrru. 

 

Gallwch weld rhestr lawn o'r ID sy'n cael eu derbyn ar wefan y Comisiwn Etholiadol

 

Heb ID dilys? Peidiwch fynd i banig, mae UCM yma i chi. Mae UCM y DU wedi partneru â CitizenCard i ddarparu myfyrwyr â cherdyn ID dilys. Am fwy o fanylion ar sut i gael CitizenCard am ddim ewch i wefan UCM

4. Pleidleisiwch ar y 4ydd o Orffennaf

Unwaith i chi gofrestru i bleidleisio, a chyn y 4ydd o Orffennaf, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio. Bydd y cerdyn pleidleisio yn dweud wrthoch chi lle mae eich gorsaf bleidleisio, a byddwch ond yn gallu pleidleisio yn y lleoliad ar eich cerdyn. Nid oes rhaid i chi fynd â'r cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio (ond peidiwch anghofio eich ID). 

 

Bydd gorsafoedd bleidleisio ar agor o 7yb tan 10yh ar ddiwrnod yr etholiad (Dydd Iau y 4ydd o Orffennaf). 

 

Wedi i chi gyrraedd yr orsaf bleidleisio bydd gofyn i chi rhoi eich enw a chyfeiriad i'r staff yno. Bydd wedyn angen i chi ddangos eich ID ffotograffig. Unwaith i chi wneud hyn byddwch yn derbyn papur pleidleisio ac yn cael eich cyfeirio at fwth pleidleisio. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio a gosodwch un X yn unig yn y bocs ar bwys yr ymgeisydd hoffech bleidleisio dros, oni bai eich bod yn bwriadu sbwylio eich pleidlais. Bydd wedyn angen i chi blygu eich papur pleidleisio a'i osod yn y bocs pleidleisio. 

 

Unwaith i chi bleidleisio pam ddim annog eich ffrindiau a theulu i bleidleisio hefyd, a dilynwch ganlyniadau'r etholiad o 10yh ymlaen. Os na allwch bleidleisio mewn-person, peidiwch anghofio gallwch gofrestru i bleidleisio trwy'r post yma.