Gender Identity Fund

 

The Cardiff Students’ Union Gender Identity Fund was an idea initiated by Student Senate in 2023, it called for the creation of a fund which could be accessed by transgender students for gender affirming items. The idea behind this is to aid those in the process of getting longer term support and care, by financing the purchase of items which can assuage gender dysphoria in the short term. 

 

 

How do I access the fund?

 

In order to access the Cardiff Students’ Union Gender Identity Fund, a student must apply through the application form here

 

You will be asked for the details of the item you wish to purchase and we will assess how much can be allocated. For larger bids, money may be put toward the item but not cover it in entirety due to the financial limitations of the fund. Once approved we will be baqck in touch with you to arrange the transfer for money. 

 

Money will then be sent to you in order to personally purchase the item, you will also be able to order it to the Students’ Union if you do not feel comfortable ordering the item to where you are currently living. We will ask for a receipt of purchase to validate the money is being used appropriately, but this is not mandatory.  

 

 

What is the fund for?

 

This is a fund used for items which you cannot afford, or which may put you in financial hardship if you were to purchase them, while we cannot check what you spend the money on we want to remind students that this fund is operated on a good will principle, many will need access to it and misappropriation may prevent others getting access to items they require.  

 

If you’re unsure as to the specifics of an item you require, the Gender Kit site has advice on a wide range of gender affirming items and care support.  

 

This fund is designed as a single use tool for those in specific need, but in exceptional circumstances we may be able to aid an individual more than once, this will be assessed by the amount in the fund and the circumstances of a second bid for funding.  

 

Example items this fund is designed for: 

 

  • Transport to and from gender clinics, 
  • Packers, 
  • Binders, 
  • Tucking underwear, 
  • Stand to pee devices, 
  • Breast forms 

 

Examples of what this fund is not designed for: 

 

  • Long term support or surgery, 
  • Items or support not directly linked to issues of gender dysphoria or identity. (IE groceries, meals out after a gender clinic session, literature) 
  • Both short- and long-term medication or hormone treatment.  

 

This fund is subject to external funding, and so will likely not be a permanently available fund to students, we will strive to keep it open for as long as possible, however. 

 

 

Help and Support

 

If you’d like any more support or information on help provided by the Students’ Union, the University or local charities and support groups, information can be found on our page on trans and nonbinary students, at the Cardiff University Trans Policy page, or on the TransAid Cymru website

 

 

 

Cronfa Hunaniaeth Rhywedd

 

Syniad a gychwynnwyd yn Senedd y Myfyrwyr yn 2023 yw Cronfa Hunaniaeth Rhywedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd, wedi galw am greu cronfa er mwyn i fyfyrwyr traws gael mynediad at eitemau cadarnhau rhywedd. Y syniad y tu ôl i hyn yw cynorthwyo'r rhai sydd yn y broses o gael cymorth a gofal hir dymor, trwy ariannu eitemau a all leddfu dysfforia rhywedd yn y tymor byr.

 

Sut ydw i'n cael mynediad i'r gronfa?

 

Er mwyn cael mynediad at Gronfa Hunaniaeth Rhywedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd, rhaid i fyfyrwyr wneud cais drwy'r dudalen hon.

 

Byddwn yn gofyn am fanylion yr eitem yr ydych yn dymuno ei phrynu ac yn asesu faint y gellir ei ddyrannu. Ar gyfer ceisiadau mwy, gellir rhoi arian tuag at yr eitem ond efallai ni chaiff ei hariannu’n gyfan gwbl oherwydd cyfyngiadau ariannol y gronfa.

 

Yna bydd arian yn cael ei anfon atoch er mwyn prynu’r eitem yn bersonol, a gallwch ei harchebu i Undeb y Myfyrwyr os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei danfon i’ch llety. Byddwn yn gofyn am dderbynneb pryniant i ddilysu bod yr arian wedi cael ei ddefnyddio'n briodol, ond nid yw hyn yn orfodol.

 

Ar gyfer beth mae'r gronfa?

 

Mae hon yn gronfa ar gyfer eitemau na allwch eu fforddio, neu a allai eich rhoi mewn caledi ariannol pe baech yn eu prynu, a thra na allwn wirio ar beth rydych yn gwario'r arian rydym am atgoffa myfyrwyr bod y gronfa hon yn cael ei gweithredu ar sail ewyllys da. Bydd llawer angen mynediad iddi a gallai camddefnydd atal eraill rhag cael mynediad at yr eitemau sydd eu hangen arnynt.

 

Os ydych chi'n ansicr ynghylch manylion eitem sydd ei hangen arnoch chi, mae gwefan Gender Kit yn cynnig cyngor ar ystod eang o eitemau cadarnhau rhywedd a gofal.

 

Cynlluniwyd y gronfa hon fel adnodd untro ar gyfer unigolion ag angen penodol, ond mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwn yn gallu cynorthwyo unigolyn fwy nag unwaith - asesir hyn yn seiliedig ar y cyllid yn y gronfa ac amgylchiadau unrhyw ail gais.

 

Eitemau enghreifftiol y mae’r gronfa hon wedi’i dylunio ar eu cyfer:

 

  • Cludiant i ac o glinigau rhywedd,
  • Pacwyr,
  • Rhwymwyr,
  • Dillad isaf twcio,
  • Dyfeisiau sefyll i bisio,

 

Enghreifftiau o'r hyn nad yw'r gronfa hon wedi'i chynllunio ar ei gyfer:

 

  • Cefnogaeth hirdymor neu lawdriniaeth,
  • Eitemau neu gymorth nad sy’n uniongyrchol gysylltiedig â materion yn ymwneud â dysfforia rhywedd neu hunaniaeth. (e.e. bwyd, prydau allan ar ôl sesiynau clinig rhywedd, llenyddiaeth)
  • Meddyginiaeth tymor byr a hirdymor neu driniaeth hormonau.

 

Mae’r gronfa hon yn ddibynnol ar gyllid allanol, ac felly mae’n debygol na fydd yn gronfa barhaol, er byddwn yn ymdrechu i’w chadw ar agor cyhyd â phosibl.

 

Cymorth a chefnogaeth

 

Os hoffech gael rhagor o gefnogaeth neu wybodaeth am gymorth a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol neu elusennau a grwpiau cymorth lleol, mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalen ynglŷn â myfyrwyr traws ac anneuaidd, tudalen Polisi Traws Prifysgol Caerdydd, neu wefan TransAid Cymru.