Academic Future
On the 28th January 2025, the University launched a formal consultation on proposed changes to the academic make-up of the University. The proposals, in the University’s words, are designed to help secure the University’s long-term future. These proposals include cuts equivalent to 400 full-time academic staff, the closure of several schools and programs, and the merger of others.
The full list of proposals included in University’s statement are:
- A reduction of academic headcount by c.400 FTE (7% of total workforce), using compulsory redundancy, only if absolutely necessary
- Ceasing subjects and programmes in Ancient History, Modern Languages and Translation, Music, Nursing, and Religion and Theology
- Increasing student and staff ratios across the University, while at the same time revising our approaches to learning, teaching and assessment, and simplifying bureaucratic processes
- Bringing complementary disciplines together through proposed school mergers:
- The creation of the School of Natural Sciences (merge Chemistry, Earth Sciences and Physics)
- The creation of the School of Data Science, Computing and Mathematics (merge Computer Science and Maths)
- The creation of the School of Human and Social Sciences (merge Social Sciences, Geography and Planning) and
- The creation of the School of Global Humanities (merge English, Communication and Philosophy, Welsh, and remaining elements of History Archaeology and Religion and Modern Languages).
You can read the University’s full statement include the proposals here.
While we do not yet know what the outcome of this consultation will be, we want you to know that the Students' Union will listen, lobby, and advocate for you all.
What is the timeline?
29th January – 6th May 2025: The University will formally consult on the proposals
June 2025: University Council will approve the final plan
September 2025: The University will begin to implement the approved changes.
Our Key Principles
We are taking immediate action to challenge these proposals and demand better solutions.
- Challenging the cuts – We will hold the University to account, insisting they fully explore alternative solutions before making decisions.
- Protecting your education – We demand clear assurances that current students will not suffer as a result of these proposals.
- Amplifying student voices – The consultation period runs for 90 days, and we will use this time to gather students’ concerns and ensure they are represented at every stage.
- Standing with staff & stakeholders – We will work alongside trade unions, affected schools, and key stakeholders to fight for alternative solutions.
What we are doing?
- Student town hall – We have secured for the Vice-Chancellor to hold a student town hall for students to share concerns and ask questions.
- Consultation feedback – We are collecting student's views from across the University to ensure students are represented at every stage. Complete our initial consultation survey here.
- Regular updates & transparency – We will keep you informed of developments and provide honest, up-to-date information as this situation unfolds.
Petitions
A series of petitions have been created by staff, students, and alumni at Cardiff University in response to the plans. Click on the links below to show your support.
Events
Throughout the consultation period the Students’ Union will be working hard to put on a range of events to ensure you are able to have your voices heard and your questions answers. Check out the latest events we have planned below.
Dyfodol Academaidd
Ar yr 28ain o Ionawr 2025, fe wnaeth y Brifysgol lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig i gyfansoddiad academaidd y Brifysgol. Mae'r cynigion, yng ngeiriau'r Brifysgol, wedi'u dylunio er mwyn ddiogelu dyfodol hirdymor y Brifysgol. Mae'r cynigion yn cynnwys toriadau sy'n cyfateb i 400 o staff academaidd amser llawn, cau sawl ysgol a rhaglen, a chyfuno eraill.
Y rhestr lawn o gynigion wedi'u cynnwys yn natganiad y Brifysgol yw:
- Gostyngiad o oddeutu 400 cyfwerth ag amser llawn (7% o gyfanswm y gweithlu) yn nifer y staff academaidd, gan ddiswyddo’n orfodol dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol gwneud hynny
- Terfynu pynciau a rhaglenni mewn Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio, a Chrefydd a Diwinyddiaeth
- Cynyddu cymarebau myfyrwyr a staff ledled y Brifysgol, wrth adolygu ein hagweddau at ddysgu, addysgu ac asesu, a symleiddio prosesau biwrocrataidd
- Dod â disgyblaethau tebyg at ei gilydd drwy gynnig uno ysgolion:
- Ysgol y Gwyddorau Naturiol (uno Cemeg, Gwyddorau’r Ddaear a Ffiseg)
- Ysgol Gwyddor Data, Cyfrifiadura a Mathemateg (uno Cyfrifiadureg a Mathemateg)
- Ysgol y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (uno’r Gwyddorau Cymdeithasol, Daearyddiaeth a Chynllunio) a
- Ysgol y Dyniaethau Byd-eang (uno Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, y Gymraeg a’r elfennau sy’n weddill o Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern).
Gallwch ddarllen datganiad llawn y Brifysgol gan gynnwys y cynigion yma.
Tra nad ydym yn gwybod beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn eto, rydym am i chi wybod y bydd Undeb y Myfyrwyr yn gwrando, yn lobïo ac yn eirioli drosoch chi.
Beth yw'r amserlen?
29ain Ionawr – 6ed Mai 2025: Bydd y Brifysgol yn ymgynghori ar y cynigion
Mehefin 2025: Bydd Cyngor y Brifysgol yn cymeradwyo'r cynllun terfynol
Medi 2025: Bydd y Brifysgol yn dechrau gweithredu'r newidiadau.
Ein Hegwyddorion Allweddol
Rydym yn cymryd camau ar unwaith i herio'r cynigion hyn a mynnu datrysiadau gwell.
- Herio'r toriadau – Byddwn yn dwyn y Brifysgol i gyfrif, gan fynnu eu bod yn archwilio atebion amgen yn llawn cyn gwneud penderfyniadau.
- Diogelu eich addysg – Rydym yn mynnu sicrwydd na fydd myfyrwyr presennol yn dioddef o ganlyniad i'r cynigion hyn.
- Lleisio barn myfyrwyr – Bydd y cyfnod ymgynghori yn para am 90 diwrnod, a byddwn yn defnyddio'r amser hwn i gasglu pryderon myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli ar bob adeg.
- Cydweithio gyda staff a rhanddeiliaid – Byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag undebau llafur, ysgolion yr effeithir arnynt, a rhanddeiliaid allweddol i frwydro am ddatrysiadau amgen.
Beth ydyn ni'n ei wneud?
- Cyfarfod neuadd y dref – Rydym wedi sicrhau bod yr Is-Ganghellor yn cynnal cyfarfod neuadd y dref er mwyn i fyfyrwyr rannu pryderon a gofyn cwestiynau.
- Casglu adborth – Rydym yn casglu barn myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli ar bob adeg. Cwblhewch ein harolwg ymgynghori cychwynnol yma.
- Diweddariadau rheolaidd a thryloywder – Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau ac yn darparu gwybodaeth onest wrth i'r sefyllfa hon ddatblygu.
Deisebau
Mae cyfres o ddeisebau wedi cael eu creu gan staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd mewn ymateb i'r cynlluniau. Cliciwch ar y dolenni isod i ddangos eich cefnogaeth.
Digwyddiadau
Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n galed i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn sicrhau eich bod yn gallu lleisio eich barn a derbyn atebion i'ch cwestiynau. Gwelwch y digwyddiadau diweddaraf rydym wedi'u cynllunio isod.