Eligibility varies depending on which position you are running for.
Mae cymhwystra yn amrywio yn ddibynnol ar y rôl.
For Campaign Officer roles (those with Officer in the title) all current students at Cardiff University are eligible to run providing they are intending to be a student for the next full academic year (2025/2026). We simply ask that a student interested in a Campaign Officer position feels confident in their ability to represent the group of students their chosen role is intended to represent.
Ar gyfer rolau Swyddogion Ymgyrchu (rheiny gyda Swyddog yn y teitl), mae holl fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd yn gymwys ar yr amod eu bod yn bwriadu bod yn fyfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn nesaf (2025/2026). Gofynnwn i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb yn y rolau yma deimlo’n hyderus yn eu gallu i gynrychioli’r grŵp o fyfyrwyr y bwriedir i'r rôl berthnasol eu cynrychioli.
For Sabbatical Officer roles (those with President or Vice President in the title) all current students at Cardiff University are eligible to run as long as they are either finishing their studies or are willing/able to take an interruption of study for the next full academic year (2025/2026).
Ar gyfer rolau Swyddogion Sabothol (rheiny gyda Llwydd neu Is-lywydd yn y teitl) mae holl fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd yn gymwys ar yr amod eu bod naill ai’n gorffen eu hastudiaethau neu’n fodlon cymryd toriad i’w hastudiaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn nesaf (2025/2026).
For Student Senate all Cardiff University students are eligible providing they do not already hold a position on Student Senate (i.e. are not a Campaign Officer).
Ar gyfer Senedd y Myfyrwyr mae holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gymwys ar yr amod nad oes eisoes ganddynt le ar y Senedd (h.y. nid ydynt yn Swyddog Ymgyrchu).
For each of the Officers' Exec committees you must have a clear connection to the Exec you are running for. e.g. to run for the Postgraduate Exec you must be a postgraduate student.
Ar gyfer Pwyllgorau Gweithredol y Swyddogion rhaid bod gennych gysylltiad clir â’r Pwyllgor perthnasol e.e. os ydych yn sefyll ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig rhaid i chi fod yn fyfyriwr ôl-raddedig.