Mentrau Diogelwch
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol am flynyddoedd er mwyn darparu mentrau sy'n helpu eich diogelu gyda'r nos. Mae'r mentrau canlynol ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu defnyddio:
Bws Diogelwch
Rydym wedi partneru gyda Heddlu De Cymru i sefydlu Bws Diogelwch Caerdydd. Mae'r bws yng nghanol y ddinas ar nosweithiau Mercher, Gwener, a Sadwrn a bydd yn darparu cymorth i unrhyw sydd ei angen.
Staff Meddygol Preifat
Yn ystod pob digwyddiad clwb nos, rydym yn talu ar gyfer staff meddygol preifat, gyda pharafeddygon hyfforddedig, yn ein lleoliadau i gefnogi gydag unrhyw broblemau meddygol sy'n codi.
Cynllun Tacsi Diogel
Dim ots ble yng Nghaerdydd ydych, gallwch gyrraedd adre gyda'ch cerdyn myfyriwr yn unig diolch i'n Cynllun Tacsi Diogel. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Veezu i helpu myfyrwyr i gyrraedd adre'n ddiogel heb arian. Dysgwch fwy am y cynllun yma.
Ap Where You At
Yn newydd ar gyfer 2024, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ap Where You At. Mae'r ap yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad a dod o hyd i'ch ffrindiau yn ein hadeilad. Bydd gennych fynediad at fapiau all-lein, adnodd canfod ffrindiau, a gwybodaeth ddigwyddiad - gallwch hefyd anfon pings er mwyn rhannu eich lleoliad gyda ffrindiau all-lein. Cadwch mewn cysylltiad a mwynhewch eich noson!
Lawrlwythwch yr ap
Citiau Profi Sbeicio Diodydd
Rydym yn cymryd diogelwch ein mynychwyr o ddifrif. Mae sbeicio diodydd gyda chyffuriau yn hynod anghyffredin. Mae sbeicio gyda phigiad hyd yn oed yn fwy anghyffredin. Mae tipyn o drafodaeth am y mater yn y wasg wedi cynyddu pryderon am y drosedd real yma. Ond mae ymchwil yn awgrymu ei fod yn anghyffredin iawn.
Os credwch eich bod wedi cael eich sbeicio, adroddwch y mater i aelod o staff a fydd yn rhoi gwybod i'r parafeddyg ar y safle. Rydym wedi buddsoddi mewn citiau profi diodydd er mwyn rhoi'r opsiwn i chi brofi ar unwaith yn ein hadeilad, ac mi fydden yn annog unrhyw fyfyriwr sy'n pryderi am eu hunain neu ffrind i siarad gydag aelod o staff er mwyn cael mynediad at y rhain.
Peidiwch boeni am wneud prawf sbeicio yn yr Undeb, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i brawf positif ar gyfer cyffuriau gwnaethoch eu cymryd yn bwrpasol. Mae staff meddygol wedi'u cyflogi ar gyfer eich diogelwch.
Topwyr Diodydd
Gweinir pob diod gyda chaead*. Mae stopwyr poteli ar gael am ddim o bob bar ar gyfer unrhyw un sydd am ddiogelu eu diodydd ymhellach.
*Nid oes gan wydrau 'shots' caeadau oherwydd eu maint.
Staff Diogelwch
Rydym yn cyflogi tîm diogelwch mawr er mwyn sicrhau eich diogelwch yn ein digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys sawl aelod o staff wedi'u gosod mewn mannau arsylwi er mwyn gwylio am, a gweithredu os fydd, ymddygiad anaddas.
Chwilio wrth y Fynedfa
Rydym yn chwilio ar hap fel amod mynediad. Ar gyfer rhai digwyddiadau, bydd cŵn synhwyro cyffuriau yn cefnogi ein gwaith wrth ddod o hyd i sylweddau anghyfreithlon. Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at gyffuriau yn ein hadeilad, a gall y rheiny sy'n cael eu dal wynebu gwaharddiad oes o bob digwyddiad (clwb nos, gig, a digwyddiadau allanol), ac efallai fe wnawn adrodd y mater i'r heddlu.
Teledu Cylch Cyfyng a Chamerŵu Corff
Rydym wedi buddsoddi mewn system teledu cylch cyfyng gyda dros 300 o gamerau ar draws ein hadeilad. Ar ben hyn, bydd llawer o'n staff diogelwch yn gwisgo camerau corff i gynorthwyo gyda thystiolaeth os bydd digwyddiad yn arwain at ymchwiliad heddlu.
Rhaglen Hyfforddi Staff
Rydym yn datblygu rhaglen hyfforddi staff i gynnwys gwybodaeth ar sut rydym yn delio gydag ymddygiad anaddas a'n adnabod arwyddion o sbeicio diodydd.
Mae'r mentrau yma'n cael eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn deall eu heffeithiolrwydd, ac rydym yn croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau am wellianau trwy e-bost at SUCustomerService@caerdydd.ac.uk.