Rhesymau dros gwblhau y wobr
- Datblygu eich sgiliau a'ch priodoleddau cyflogadwyedd.
- Gwella eich dealltwriaeth a magu hyder o'r broses recriwtio graddedigion.
- Er mwyn deall a myfyrio ar eich cryfderau a'ch galluoedd.
- Byddwch yn derbyn tystysgrif ddigidol y gellir ei hargraffu a'i defnyddio ar LinkedIn.
- 5. Bydd yn mynd ar eich Cofnod Cyrhaeddiad Addysg Uwch i gyflogwyr ei weld (ddim yn berthnasol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig).
"
Mae’n ffordd wych o gael achrediad am y gweithgareddau/interniaethau allgyrsiol rwyf wedi’u gwneud ochr yn ochr â’m hastudiaethau ond hefyd yn gallu myfyrio ar fy nghyflogadwyedd/sgiliau fy hun cyn i mi ddechrau gwneud cais am swyddi gradd. Mae Gwobr Caerdydd yn rhoi cychwyn da i’r farchnad raddedigion a byddwn yn ei hargymell yn llwyr i unrhyw fyfyriwr prifysgol yng Nghaerdydd.
Evan Johnson-Charteris , BA Cyfryngau a Chyfathrebu
Dechreuwch eich taith
Mae Gwobr Caerdydd yn hunan-reoli, yn eich rhoi mewn rheolaeth o'r hyn yr ydych yn ei wneud ac yn gwneud dewisiadau sy'n cyd-fynd â'ch llwybr gyrfa eich hun.