Term 2 so far... | Tymor 2 hyd yn hyn...

No ratings yet. Log in to rate.

Shwmae March! The first few months of Term 2 have been NON. STOP. From new openings and campaigns, to selling out Varsity in 48 hours and kicking off election season – let’s look back at everything we managed to cram in! 

Y Plas reached the incredible milestone of 10 years of YOLO, of course we had to throw a birthday party…Thank you for a whole decade of VKs, staying til’ Angels and iconic costumes. Here’s to another 10 years of SNOWLOS, YOLOWEENS and more! 

The SU building has welcomed Boba Time’s new store to the Student Arcade, you were loving their launch special offers! Also, Yutai have expanded their Asian convenience store to dessert! Pop into their new space next door, KU, for a sweet treat. 

We celebrated St David’s Day the only way we know how – free Welsh cakes from UMCC and a Cymraeg takeover in The Taf. PLUS there is still time to enter the St David’s Day giveaway! (Closes 14/03/2025) 

 

Campaigns

 

Global Campus

Your VP International, Ana, has been hard at work on the all-new Global Campus campaign, to help students celebrate their culture, share their traditions and connect with others. 

So far, we have celebrated Lunar New Year, with a Potluck event, and now Ramadan has begun, ResLife & ISOC will be holding Iftar events, so keep an eye out on our website for updates! Another upcoming celebration is Nowruz (Iranian New Year), join us for the first festivity of the festival -  Charharshanbe Suri

"It’s been incredible talking to so many students at Global Campus events over the last few months. Students have taught me so much about themselves and their culture and I hope I’ve been able to provide a platform where they can feel seen and proud of it. The Potluck event for Lunar New Year was so much fun! All the food was so delicious, who would have known Spinach and Gruyere Casserole could be so yummy!"

Ana, VP International.

 

Student Volunteering Week

Student Volunteering Week was such a success with lots of students getting involved with our volunteering projects like Clean Up Cardiff and Global Gardens! 

"It was great to connect with so many students who are interested in keeping Cardiff clean! Everyone deserves to live in a clean environment, and even the smallest contributions make a difference. During volunteer week we were excited to see more people getting involved and were inspired by the growth of our group following the session, with even more societies getting involved! We're looking forward to more societies participating in the future."

Harley M, Student Volunteer for Clean Up Cardiff.

 

Race Equality Week

During race equality week, VP International, Ana, engaged with students via a book stall, handing out free books (Citizen, an American Lyric; Sister Outsider & Between the World and Me’, starting important conversations and sharing an anti-racist reading list. 

"It is so important to never stop talking about inequalities in society and stand up for our students. In this stall, we handed out 40+ books to students for free and engaged in constructive conversations about microaggressions. There’s still so much work to be done though!"

Ana, VP International.

 

LGBTQ+ History Month

February was LGBTQ+ History Month, so your VP Societies & Volunteering organised stalls around campus with free pronoun badges, held a themed Book Clwb which gave away free copies of Your Driver is Waiting & Tomorrow Will Be Different, and put on an iconic LGBTQ+ Showcase!  

"It was so lovely seeing everyone celebrating LGBTQ+ History Month together, especially at the Showcase! There's such a strong sense of community between all of our amazingly talented societies"

Eve, VP Societies & Volunteering.

 

Elections

Nominations for our Spring Elections opened in February, and we received an incredible 64 nominations across 14 roles! We love to see so many students excited to engage with how the SU is run and look forward to voting week which runs from Monday 24th – Thursday 27th March. Make sure to check out the candidates and familiarise yourself with the voting system. 

 

Tymor 2 hyd yn hyn...

 

Shwmae Mis Mawrth! Mae dau fis cyntaf Tymor 2 wedi bod yn DDI-STOP. O agoriadau ac ymgyrchoedd newydd, i werthu pob tocyn ar gyfer Farsiti mewn 48 awr a dechrau tymor yr etholiadau – gadewch i ni edrych yn ôl ar bopeth y llwyddon ni ei gyflawni!

Cyrhaeddodd Y Plas garreg filltir anhygoel o 10 mlynedd o YOLO, ac wrth gwrs roedd rhaid i ni gynnal parti penblwydd…Diolch am ddegawd cyfan o VKs, aros tan Angels a gwisgoedd eiconig. Edrychwn ymlaen at 10 mlynedd arall o SNOWLOS, YOLOWEENS a mwy!

Mae adeilad yr UM wedi croesawu siop newydd Boba Time i Arcêd y Myfyrwyr; roeddech chi wrth eich bodd â'u cynigion lansio arbennig! Hefyd, mae Yutai wedi ehangu eu siop gyfleus Asiaidd i gynnwys pwdinau! Galwch i mewn i'w gofod newydd drws nesaf, KU, am ddanteithion melys.

Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi yn yr unig ffordd y gwyddom – pice ar y maen am ddim gan UMCC, a’r Gymraeg yn cymryd drosodd y Taf. HEFYD mae amser o hyd i gael gafael ar nwyddau am ddim Dydd Gŵyl Dewi! (Daw i ben 14/03/2025)

 

Ymgyrchoedd

 

Campws Byd-eang

Mae eich Is-Lywydd Rhyngwladol, Ana, wedi bod yn gweithio'n galed ar yr ymgyrch Campws Byd-eang cwbl newydd, i helpu myfyrwyr i ddathlu eu diwylliant, rhannu eu traddodiadau a chysylltu ag eraill.

Hyd yn hyn, rydym wedi dathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad, gyda digwyddiad Potluck, a nawr mae Ramadan wedi dechrau, bydd ResLife ac ISOC yn cynnal digwyddiadau Iftar, felly cadwch lygad ar ein gwefan am ddiweddariadau! Dathliad arall sydd ar ddod yw Nowruz (Blwyddyn Newydd Iran), ymunwch â ni ar gyfer dathliad cyntaf yr ŵyl -  Suri Charharshanbe.

"‘Mae wedi bod yn anhygoel siarad â chymaint o fyfyrwyr mewn digwyddiadau Campws Byd-eang dros y misoedd diwethaf. Mae myfyrwyr wedi dysgu cymaint i mi amdanynt eu hunain a'u diwylliant, a gobeithio fy mod wedi gallu darparu llwyfan lle gallant deimlo eu bod yn cael eu gweld ac yn falch o’r diwylliant hwnnw. Roedd digwyddiad Potluck ar gyfer Blwyddyn Newydd y Lleuad yn gymaint o hwyl! Roedd y bwyd i gyd mor flasus; pwy fyddai wedi meddwl bod caserôl Sbigoglys a Gruyere mor flasus!"

Ana, IL Rhyngwladol

 

Wythnos Myfyrwyr yn Gwirfoddoli

Roedd Wythnos Myfyrwyr yn Gwirfoddoli yn gymaint o lwyddiant gyda llawer o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn ein prosiectau gwirfoddoli fel Glanhau Caerdydd a Gerddi Byd-eang!

"‘Roedd yn wych cysylltu â chymaint o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cadw Caerdydd yn lân! Mae pawb yn haeddu byw mewn amgylchedd glân, ac mae hyd yn oed y cyfraniadau lleiaf yn gwneud gwahaniaeth. Yn ystod yr wythnos wirfoddoli roeddem yn gyffrous i weld mwy o bobl yn cymryd rhan, a chawsom ein hysbrydoli gan dwf ein grŵp yn dilyn y sesiwn, gyda hyd yn oed mwy o gymdeithasau’n cyfranogi! Rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o gymdeithasau’n cymryd rhan yn y dyfodol."

Harley M, Myfyriwr Wirfoddolwr ar gyfer Glanhau Caerdydd.

 

Wythnos Cydraddoldeb Hiliol

Yn ystod wythnos cydraddoldeb hiliol, bu’r IL Rhyngwladol, Ana, yn ymgysylltu â myfyrwyr trwy stondin lyfrau, gan ddosbarthu llyfrau am ddim (Citizen, an American Lyric; Sister Outsider a Between the World and Me), gan ddechrau sgyrsiau pwysig a rhannu rhestr ddarllen gwrth-hiliaeth.

"‘Mae mor bwysig peidio byth â rhoi’r gorau i siarad am anghydraddoldebau mewn cymdeithas a sefyll dros ein myfyrwyr. Yn y stondin hon, fe wnaethom ddosbarthu dros 40 o lyfrau i fyfyrwyr am ddim, a chymryd rhan mewn sgyrsiau adeiladol am ficro-ymosodedd. Ond mae cymaint o waith i'w wneud o hyd!"

Ana, IL Rhyngwladol.

 

Mis Hanes LHDTC+

Roedd mis Chwefror yn Fis Hanes LHDTC+, felly trefnodd eich IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli stondinau o amgylch y campws gyda bathodynnau rhagenw am ddim; cynhaliodd Clwb Llyfrau â thema gan ddosbarthu copïau am ddim o Your Driver is Waiting a Tomorrow Will Be Different, yn ogystal â chynnal Arddangosfa LHDTC+ eithriadol!

"‘Roedd hi mor hyfryd gweld pawb yn dathlu Mis Hanes LHDTC+ gyda'i gilydd, yn enwedig yn yr Arddangosfa! Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned rhwng pob un o’n cymdeithasau hynod dalentog"

Eve, IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli.

 

Etholiadau

Agorodd yr enwebiadau ar gyfer ein Hetholiadau Gwanwyn ym mis Chwefror, a derbyniwyd 64 o enwebiadau ar draws 14 rôl, sy’n anhygoel! Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o fyfyrwyr yn awyddus i ymgysylltu â sut mae’r UM yn cael ei redeg, ac edrychwn ymlaen at yr wythnos bleidleisio sy'n cael ei chynnal rhwng dydd Llun 24ain a dydd Iau 27ain Mawrth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr hyn sydd gan yr ymgeiswyr i’w gynnig ac yn ymgyfarwyddo â'r system bleidleisio.

 

Comments

 
dominos