Diweddariad gan Eich Swyddogion Sabothol ar Wersyll Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Dydd Mawrth 15fed Mai 2024 gwnaethom gyhoeddi Datganiad gan Eich Swyddogion Sabothol ar Wersyll Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Sefydlwyd y gwersyll gan gynghrair o fyfyrwyr Cymreig er mwyn ymgyrchu dros gadoediad ym Mhalesteina. Yn y datganiad yma gwnaethom amlinellu ein cefnogaeth ar gyfer hawliau myfyrwyr i brotestio’n heddychlon a’n hymrwymiad i gefnogi lles ein cymuned o fyfyrwyr. Gwnaethom hefyd amlinellu ein bwriad i gynnal cyfathrebu gweithredol a chlir gyda myfyrwyr sy’n rhan o’r gwersyll, a pharhau i gyfathrebu gyda’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod lles yr holl fyfyrwyr yn cael ei ddiogelu.
Dros y naw wythnos ddiwethaf ac ers i’r Gwersyll Myfyrwyr cael ei sefydlu rydym wedi bod yn gwneud hynny. Ar ben hyn rydym hefyd wedi gweithio’n galed i hwyluso nifer o drafodaethau rhwng cynrychiolwyr Prifysgol Caerdydd a chynrychiolwyr y Gwersyll Myfyrwyr. Hyd yma, maent wedi cwrdd ar 8 achlysur gwahanol mewn cyfarfodydd wedi’u hwyluso gan Undeb y Myfyrwyr, gyda’r cyfarfodydd mwyaf diweddar yn ffocysu ar ofynion y Gwersyll.
Bwriad datganiad heddiw yw darparu diweddariad ar gynnydd sydd wedi’i wneud o ganlyniad i’r ddeialog hon. Mae’r Gwersyll Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd wedi dod i gytundeb ar nifer o ymrwymiadau gan y Brifysgol, gyda’r cynnydd presennol yma yn arwain at y Gwersyll yn dod i ben yn wirfoddol dydd Mercher 17eg Gorffennaf. Mae’r ymrwymiadau’n cynnwys:
- Cadarnhad gan y Brifysgol nad oes ganddynt unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn cwmnïau wedi’u henwi’n benodol yn yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Gwersyll neu unrhyw un o’r cwmnïau wedi’u rhestru yng nghronfa ddata’r Cenhedloedd Unedig yn Seiliedig ar Benderfyniad 31/36 y Cyngor Hawliau Dynol, neu unrhyw fuddsoddiadau yn nyled sofran Israel.
- Adolygiad o ddiffiniad presennol y Brifysgol o arfau fel amlinellir ym Mholisi Buddsoddi Moesegol y Brifysgol, a’i berthynas i bartneriaethau ymchwil.
- Adolygiad o Gôd Moesau Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol, a fyddai’n cynnwys alinio gydag egwyddorion y Panel Cynghori Arianwyr a digwyddiadau recriwtio graddedigion.
- Cyhoeddi daliadau buddsoddi’r Brifysgol erbyn dydd Llun 30ain Medi 2024.
- Cadarnhad gan y Brifysgol nad ydynt wedi derbyn unrhyw roddion dienw gan sefydliadau am o leiaf deg mlynedd, a bod unrhyw roddion gan sefydliadau i’w gweld ar y gofrestr roddwyr.
- Cyhoeddi gwybodaeth yn manylu ar waith parhaol y Brifysgol i gefnogi ailadeiladu addysg Palesteinaidd.
- Dyblu’r nifer o ysgoloriaethau sydd ar gael i geiswyr lloches o’r 6 presennol i 12.
- Cytundeb rhwng y ‘Campaign for at Risk Academics’ (CARA) a’r Brifysgol i groesawu academydd o Gaza.
- Creu cynnwys gwe a mewnrwyd penodol yn manylu ar gefnogaeth ar gyfer myfyrwyr Palesteinaidd.
- Datblygu sesiynau galw heibio lles a chwnsela sy’n ddiwylliannol sensitif.
Byddwn yn diweddaru ar gynnydd a wneir tuag at yr ymrwymiadau llawn wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Hoffem ddatgan ein diolch i bawb a fu’n rhan o’r dialog yma, ac i rheiny sydd wedi mynd i'r afael â'r sgyrsiau hyn yn ddidwyll gyda’r nod o ddarparu datrysiad er budd pob myfyriwr. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl bartïon perthnasol wrth i'r cyfarfodydd a'r adolygiadau fynd rhagddynt.
Rydym yn annog unrhyw fyfyrwyr wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau diweddar a phresennol i gysylltu â’r gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael.
Gwasanaethau Cefnogaeth
Gall myfyrwyr cysylltu â Chyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr er mwyn cael mynediad at wasanaethau cefnogaeth, gan gynnwys cwnsela a chyngor lles. Mae hefyd modd i fyfyrwyr cael mynediad am ddim at gyngor cyfrinachol a diduedd gan Gyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.
Os yw myfyriwr yn pryderu am effaith digwyddiadau diweddar ar eu hastudiaethau, gallant gysylltu â’u tiwtor personol er mwyn trafod y polisi amgylchiadau esgusodol. Mae’r polisi yma’n cynnwys darpariaethau ar gyfer rheiny sydd wedi profi profedigaeth ac amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol, a byddem yn annog y rheiny wedi’u heffeithio i gysylltu â’u hysgolion er mwyn gwneud defnydd o’r polisi lle bo’n addas.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cefnogaeth fugeiliol ac ysbrydol i bob aelod o gymuned y Brifysgol, ni waeth a oes gennych ffydd benodol neu beidio. Gallwch gysylltu ag un o’r caplaniaid a byddant yn trefnu amser i gwrdd neu’n eich cysylltu â chynrychiolydd o’ch ffydd chi.
Eich Tîm Swyddogion Sabothol, 2024-25.