September/October Round-up! | Crynodeb Medi/Hydref!

No ratings yet. Log in to rate.


We are thrilled to reflect on what have been some of the most unforgettable months at Cardiff Students' Union EVER, and it’s all because of you - our amazing student community! 

Whether you're a first-year student stepping into Cardiff for the very first time, or a returning student rejoining us after the summer break, we understand that adjusting to university life is a major transition. But as always, you embraced it with enthusiasm and an open mind, making the most of all the Freshers’ events and activities we had planned. 

At Cardiff Students' Union, our mission is to help you build lasting friendships and create extraordinary memories, which is why we work hard to make each year even more exciting than the last. 

Here’s a quick look back at some of the highlights so far: 

 

Freshers’ 

We had an amazing turnout with nearly 15,000 of you getting involved in our Freshers’ events, activities and fairs across the welcome fortnight.  

The fairs are all about showcasing our brilliant student groups, and we are excited to see that more than 5,800 of you have joined the Guild of Societies so far and there have been almost 4,900 sign-ups for AU memberships. If you haven’t joined yet, don’t worry -there’s still plenty of time to get involved with our many clubs and societies.  

Many of you were looking for alcohol-free events and activities that aren’t centered around drinking, that's why we brought back Escape Room, Laser Tag and Roller Disco during Freshers’ for sober fun with friends. 

YOLO has been a massive hit as per usual, and our other regular club nights, Q, Panic! At Y Plas and more themed Silent Discos are still going strong. 

Our fantastic Give it a Go program had over 1,100 of you trying out trips, tours and events. A huge shoutout to our Welcome Team—over 50 volunteers gave more than 550 hours to make all of this happen! 

Our postgrad community showed up in style, with nearly 700 students coming together for brunch, quizzes, tours and meet-ups. If you want to get in on future events, follow VP PG Micaela on socials. 

 

New spaces!

Y Plas had a brand-new makeover, with a revamped seating area for socialising and studying, and not one, but TWO new food spots, Ty Tatws and Vegan Filth. Have you grabbed a bite in The Cwtch yet? 

 

Campaigns

Throughout September and October, your Sabbatical Officers have been busy campaigning on a range of issues and it’s been amazing to see students getting involved - check out the highlights below! 

PGR Wellbeing Week

88 students attended events organised across the week, and there have been 42 survey responses – there is still time to take part here! 

"PGR Wellbeing Week highlighted the essential student services available at Cardiff University and supported in breaking down the stigma that they are only available for taught students. Throughout the week we held community events and a workshop in collaboration with the Doctoral Academy and Wellbeing Team. We also surveyed Postgrad Research students to find out their experiences of student support at the University and will use this data to lobby the University for improvements and additional support."

Micaela Panes, VP Postgrad.
 

Black History Month

40 students attended events across the month, including Book Clwbs, an Afrodance workshop and panel event.  

"Having the opportunity to co-lead and use our initiatives to partake in Black History Month has been amazing! Giving students the space to celebrate through literature, expression of dance and an in-detailed panel discussion filled with inspirational individuals went down an absolute treat. The opportunity for students to engage in discussions about their lived experiences, what Black History Month meant to them and how we as a Students’ Union can continue to aid 'reclaiming narratives' and anti-racism throughout the year, every year, has been so fundamental. Thank you to everyone involved!"

Shola Bold, VP Heath.
 

Let's Talk Consent

A new campaign for this year launched by Georgia, your VP Sports in October with the aim to educate students on the different kinds of sexual violence, how to be an active bystander and to signpost to support and report services. 300 committee members attended the 'How to be an Active Bystander' training, helping spread the message and educate our societies and sports clubs. 

 

Elections

Our Autumn Elections took place in October and were a huge success, with over 100 candidates standing for election, and more than 5000 votes cast! We are so pleased to welcome the new Student Senate members and Executive Committee members. If you missed out, be sure to check out this page to see how you can get involved and take part in future SU Elections. 

 

Student Advice

We understand that things don’t always go perfectly, which is why our dedicated Student Advice team has been hard at work, helping with everything from housing to course-related issues. If you’re facing any challenges, don’t hesitate to reach out to them for support. 

Crynodeb Medi/Hydref! 

Rydym wrth ein bodd yn edrych yn ôl ar rai o’r misoedd mwyaf bythgofiadwy yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd ERIOED, ac mae’r cyfan oherwydd chi – ein cymuned myfyrwyr anhygoel!

P’un a ydych yn fyfyriwr ar eich blwyddyn gyntaf yn camu i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed, neu’n fyfyriwr sy’n dychwelyd gan ailymuno â ni ar ôl gwyliau’r haf, rydym yn deall bod addasu i fywyd prifysgol yn drawsnewidiad mawr. Ond fel bob amser, fe aethoch ati gyda brwdfrydedd a meddwl agored, gan wneud y gorau o holl ddigwyddiadau a gweithgareddau'r Glas yr oeddem wedi'u trefnu.

Yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ein cenhadaeth yw eich helpu chi i adeiladu cyfeillgarwch parhaol a chreu atgofion rhyfeddol, a dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud bob blwyddyn hyd yn oed yn fwy cyffrous na'r un ddiwethaf.

Dyma gipolwg sydyn yn ôl ar rai o'r uchafbwyntiau hyd yn hyn:

 

Cyfnod y Glas

Cyfranogodd bron i 15,000 ohonoch yn ein digwyddiadau, gweithgareddau a ffeiriau'r Glas yn ystod y pythefnos croeso. 

Bwriad y ffeiriau yw arddangos ein grwpiau myfyrwyr gwych, ac rydym yn falch iawn i weld bod mwy na 5,800 ohonoch chi wedi ymuno ag Urdd y Cymdeithasau hyd yn hyn, ac mae bron i 4,900 wedi cofrestru ar gyfer aelodaeth o’r UA. Os nad ydych wedi ymuno eto, peidiwch â phoeni - mae digon o amser o hyd i gymryd rhan yn ein holl glybiau a chymdeithasau. 

Roedd llawer ohonoch yn chwilio am ddigwyddiadau di-alcohol a gweithgareddau nad ydynt yn canolbwyntio ar yfed, dyna pam y daethom â’r Ystafell Dianc, Laser Tag a Roller Disco yn ôl yn ystod y Glas er mwyn i chi gael hwyl sobr gyda ffrindiau.

Mae YOLO wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ôl yr arfer; felly hefyd ein nosweithiau clwb rheolaidd eraill, Q, Panic! yn Y Plas, ac mae ein Disgos Distaw yn dal i fod yn boblogaidd.

Bu dros 1,100 ohonoch yn cymryd rhan mewn teithiau a digwyddiadau yn ein rhaglen wych Rhowch Gynnig Arni. Go dda chi’r Tîm Croeso - cyfrannodd dros 50 o wirfoddolwyr fwy na 550 awr i sicrhau bod hyn i gyd yn gallu digwydd!

Daeth ein cymuned ôl-raddedig at ei gilydd mewn steil, gyda bron i 700 o fyfyrwyr yn dod ynghyd ar gyfer brecinio, cwisiau, teithiau a chyfarfodydd. Os ydych chi am gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, dilynwch Is-Lywydd yr Ôl-raddedigion, Micaela, ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Mannau newydd!

Cafodd Y Plas weddnewidiad newydd sbon, gydag ardal eistedd wedi’i hailwampio ar gyfer cymdeithasu ac astudio, ac nid un, ond DAU lecyn bwyd newydd - Tŷ Tatws a Vegan Filth. Ydych chi wedi cael tamaid yn Y Cwtch eto?

 

Ymgyrchoedd

Trwy gydol mis Medi a mis Hydref, mae eich Swyddogion Sabothol wedi bod yn brysur yn ymgyrchu ar amrywiaeth o faterion, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld myfyrwyr yn cymryd rhan - edrychwch ar yr uchafbwyntiau isod!

Wythnos Llesiant Ôl-raddedigion Ymchwil

Mynychodd 88 o fyfyrwyr ddigwyddiadau a drefnwyd yn ystod yr wythnos, a chafwyd 42 o ymatebion i’r arolwg – mae amser o hyd i gymryd rhan yma!

"Amlygodd Wythnos Llesiant ÔRY y gwasanaethau hanfodol i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, a helpodd i chwalu'r gamdybiaeth eu bod ar gael i fyfyrwyr a addysgir yn unig. Trwy gydol yr wythnos fe gynhaliwyd digwyddiadau cymunedol a gweithdy ar y cyd â’r Academi Ddoethurol a’r Tîm Lles. Hefyd cynhaliwyd arolwg ymhlith myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig i ganfod eu profiadau o gymorth i fyfyrwyr yn y Brifysgol, a byddwn yn defnyddio'r data hwn i lobïo'r Brifysgol am welliannau a chymorth ychwanegol."

Micaela Panes, VP Ôl-raddedig.
 

Mis Hanes Pobl Dduon

Mynychodd 40 o fyfyrwyr ddigwyddiadau yn ystod y mis, gan gynnwys Clybiau Llyfrau, gweithdy Afrodance a digwyddiad panel.

"Mae cael y cyfle i gyd-arwain a mynd ati i gymryd rhan ym Mis Hanes Pobl Dduon wedi bod yn anhygoel! Roedd rhoi’r lle i fyfyrwyr ddathlu trwy lenyddiaeth, mynegiant o ddawns a thrafodaeth banel fanwl oedd yn cynnwys unigolion ysbrydoledig yn bleser pur. Mae’r cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn trafodaethau am eu profiadau bywyd, beth mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu iddyn nhw a sut y gallwn ni fel Undeb Myfyrwyr barhau i gynorthwyo ‘hawlio’n hanes yn ôl’ a gwrth-hiliaeth trwy gydol y flwyddyn, bob blwyddyn, wedi bod mor sylfaenol. Diolch i bawb a gymerodd ran!"

Shola Bold, Is-lywydd y Mynydd Bychan.
 

Gadewch i ni Siarad am Gydsyniad

Lansiwyd ymgyrch newydd ar gyfer eleni gan Georgia, eich Is-lywydd Chwaraeon ym mis Hydref gyda'r nod o addysgu myfyrwyr ynghylch y gwahanol fathau o drais rhywiol, sut i fod yn wyliwr gweithredol a chyfeirio at wasanaethau cefnogi ac adrodd. Mynychodd 300 o aelodau gwahanol bwyllgorau’r hyfforddiant 'Sut i fod yn Wyliwr Gweithredol', gan helpu i ledaenu'r neges ac addysgu ein cymdeithasau a'n clybiau chwaraeon.

 

Etholiadau

Cynhaliwyd Etholiadau’r Hydref fis diwethaf ac roeddent yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 100 o ymgeiswyr yn sefyll mewn etholiadau, a mwy na 5,000 o bleidleisiau wedi’u bwrw! Rydym mor falch o groesawu aelodau newydd i Senedd y Myfyrwyr a’r Pwyllgor Gwaith. Os gwnaethoch chi golli allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y dudalen hon i weld sut y gallwch chi gymryd rhan yn Etholiadau’r UM yn y dyfodol.

 

Cyngor i Fyfyrwyr

Rydym yn deall nad yw pethau bob amser yn mynd yn berffaith, a dyna pam mae ein Tîm Cyngor i Fyfyrwyr ymroddedig wedi bod yn gweithio'n galed, gan helpu gyda phopeth o dai a llety i faterion yn ymwneud â chyrsiau. Os ydych chi'n wynebu unrhyw heriau, gallwch estyn allan atynt am gefnogaeth.
 

Comments