A Statement from Your Sabbatical Officers on Cardiff University Student Encampment
As many of you will be aware, students have formed a camp outside Cardiff University’s Main Building in support of the Palestinian people and to make demands of the University. You can find out more about the groups involved, why they are protesting, and their demands here.
The increasing violence in, and beyond, Gaza is unacceptable and deeply concerning. We condemn this violence in the strongest possible terms and continue to call for an immediate ceasefire, as voted for by our students at our Annual General Meeting in November 2023. We also stand firmly against any Islamophobia, Antisemitism, and racism, which has spiked since the recent escalations.
Antisemitism, Islamophobia, and racism has no place in our Students’ Union, University or wider community and we will continue to be a Union, directed by our members, who stand against such instances wherever they may occur.
Cardiff Students’ Union actively supports every student’s right to peacefully protest and is committed to supporting the wellbeing of our student community.
As the Students' Union Sabbatical Officers, we intend to maintain an active and clear line of communication with the students engaged in the camp. Following our first visit to the camp this morning we intend to attend routinely to ensure the students involved are supported and their wellbeing remains our key focus.
We will continue to liaise with the University and all relevant student groups to ensure the welfare of all students is safeguarded, including minimizing any impact on exams. The Students’ Union facilities will continue to operate as normal, which includes gender neutral toilets, a multi-faith room, charging spaces, and kitchen facilities.
We understand this may be a difficult time for students. Any student requiring support is encouraged to reach out to the Union’s Student Advice team or CU Student Life Support Services. The Students’ Union Student Advice team is a free, confidential and impartial advice service who can be contacted via email at advice@cardiff.ac.uk.
In solidarity,
Your Sabbatical Officer Team, 2023-24.
Datganiad gan Eich Swyddogion Sabothol ar Wersyll Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Fel y bydd llawer ohonoch eisoes yn ymwybodol, mae myfyrwyr wedi sefydlu gwersyll tu allan i Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd i gefnogi pobl Palesteina a gwneud galwadau ar y Brifysgol. Gallwch ddysgu mwy am y grwpiau sy’n gysylltiedig, pam eu bod yn protestio, a’u gofynion yma.
Mae’r trais cynyddol yn, a thu hwnt i, Gaza yn annerbyniol ac yn destun pryder mawr. Rydym yn condemnio'r trais hwn yn gryf ac yn parhau i alw am gadoediad ar unwaith, fel y pleidleisiwyd o blaid gan ein myfyrwyr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd 2023. Rydym hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn Islamoffobia, Gwrthsemitiaeth, a hiliaeth, sydd wedi cynyddu ers y cynnydd diweddar mewn trais.
Nid oes gan Wrthsemitiaeth, Islamoffobia, na hiliaeth le yn ein Hundeb Myfyrwyr, Prifysgol, neu gymuned ehangach a byddwn yn parhau i fod yn Undeb, wedi’i arwain gan ein haelodau, sy’n sefyll yn erbyn y fath ymddygiad lle bynnag y bydd yn digwydd.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cefnogi hawl pob myfyriwr i brotestio’n heddychlon ac mae wedi’i ymroi i gefnogi lles ein cymuned o fyfyrwyr.
Fel Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, rydym yn golygu cynnal cyfathrebu clir a gweithredol gyda’r myfyrwyr sy’n rhan o’r gwersyll. Yn dilyn ein hymweliad cyntaf i’r gwersyll bore ‘ma rydym yn bwriadu mynychu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr sy’n gysylltiedig wedi’u cefnogi, ac mae eu lles yn brif ffocws i ni.
Byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda’r Brifysgol a phob grŵp myfyrwyr perthnasol er mwyn sicrhau bod lles ein holl fyfyrwyr wedi’i ddiogelu, gan gynnwys cyfyngu’r effaith ar arholiadau. Bydd cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithredu fel yr arfer, gan gynnwys toiledau rhywedd-niwtral, yr ystafell aml-ffydd, mannau gwefru, a chyfleusterau’r gegin.
Rydym yn deall y gall hyn fod yn amser anodd i fyfyrwyr. Rydym yn annog unrhyw fyfyriwr sydd angen cefnogaeth i gysylltu â thîm Cyngor i Fyfyrwyr yr Undeb neu wasanaethau cymorth Prifysgol Caerdydd. Mae tîm Cyngor i Fyfyrwyr Undeb y Myfyrwyr yn wasanaeth cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim, y gellir cysylltu â dros e-bost at advice@caerdydd.ac.uk.
Mewn undod,
Eich Tîm Swyddogion Sabothol, 2023-24.