An update from your Sabbatical Officers on the academic future of Cardiff University.
Cardiff University has officially announced proposals regarding the “Academic Future” of the institution, citing serious financial challenges and the need for significant changes to protect its future. The University statement can be accessed here.
These proposals include cuts equivalent to 400 full-time academic staff, the closure of several schools and programs, and the merger of others. The distress and uncertainty these proposals have caused students is unacceptable.
Cardiff Students’ Union exists to champion student interests, and we will not stand by while these cuts jeopardise the quality of education, access to services, and student wellbeing. Our priority is clear: students must not bear the brunt of these decisions.
We recognise that Cardiff University’s financial outlook is difficult. However, our position is that these cuts should not be the default option.
This is a critical moment for our University. We will fight to protect student interests and ensure that every option is considered before the University makes cuts that could damage education and student experiences for years to come.
Our principles: Having your back
We are taking immediate action to challenge these proposals and demand better solutions.
1. Challenging the cuts – We will hold the University to account, insisting they fully explore alternative solutions before making decisions that will weaken academic excellence and the student experience.
2. Protecting your education – We demand clear assurances that current students will not suffer as a result of these proposals. This includes clarity on course closures, school mergers, module availability, and student support services.
3. Amplifying student voices – This is your university, and your voice must be heard. The consultation period runs for 90 days, and we will use this time to gather students’ concerns and ensure they are represented at every stage.
4. Standing with staff & stakeholders – We recognise the indispensable role of academic and professional service staff in student success. We will work alongside trade unions, affected schools, and key stakeholders to fight for alternative solutions.
What we’re doing next?
1. Student town hall – We will push for the Vice-Chancellor to hold a student town hall as soon as possible for students to share concerns and ask questions.
2. Consultation feedback – We will provide accessible, structured ways for students to submit their views and ensure they are represented at every stage.
3. Regular updates & transparency – We will keep you informed of developments and provide honest, up-to-date information as this situation unfolds.
Diweddariad gan eich Swyddogion Sabothol ar ddyfodol academaidd Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi cynigion yn swyddogol ynghylch “Dyfodol Academaidd” y sefydliad, gan nodi heriau ariannol difrifol a’r angen am newidiadau sylweddol i ddiogelu ei ddyfodol. Gellir cael mynediad at ddatganiad y Brifysgol yma.
Mae’r cynigion hyn yn cynnwys toriadau sy’n cyfateb i 400 o staff academaidd llawn amser, cau ysgolion a rhaglenni, ac uno eraill. Mae'r trallod a'r ansicrwydd y mae'r cynigion hyn wedi'u hachosi i fyfyrwyr yn annerbyniol.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn bodoli i hyrwyddo buddiannau myfyrwyr, ac ni fyddwn yn sefyll o’r neilltu tra bod y toriadau hyn yn peryglu ansawdd addysg, mynediad at wasanaethau, a lles myfyrwyr. Mae ein blaenoriaeth yn glir: ni ddylai myfyrwyr ysgwyddo baich y penderfyniadau hyn.
Rydym yn cydnabod bod rhagolygon ariannol Prifysgol Caerdydd yn anodd. Fodd bynnag, ein safbwynt ni yw na ddylai'r toriadau hyn fod y dewis rhagosodedig.
Mae hon yn foment dyngedfennol i’n Prifysgol. Byddwn yn brwydro i warchod buddiannau myfyrwyr ac yn sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei ystyried cyn i’r Brifysgol wneud toriadau a allai niweidio addysg a phrofiadau myfyrwyr am flynyddoedd i ddod.
Ein hegwyddorion: Cadw eich cefn
Rydym yn cymryd camau ar unwaith er mwyn herio'r cynigion hyn a mynnu datrysiadau gwell.
1. Gwrthwynebu’r Toriadau – Byddwn yn dal y Brifysgol i gyfrif, gan fynnu eu bod yn archwilio datrysiadau gwahanol yn llawn cyn gwneud penderfyniadau a fydd yn gwanhau rhagoriaeth academaidd a phrofiad myfyrwyr.
2. Diogelu Eich Addysg – Byddwn yn mynnu sicrwydd clir gan y Brifysgol na fydd myfyrwyr presennol yn dioddef o ganlyniad i'r cynigion hyn. Mae hyn yn cynnwys eglurder ynghylch cau cyrsiau, argaeledd modiwlau, uno ysgolion a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
3. Sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed – dyma'ch prifysgol chi, a mae’n rhaid clywed eich lleisiau chi. Mae’r cyfnod ymgynghori yn rhedeg am 90 diwrnod, a byddwn yn defnyddio’r amser hwn i gasglu pryderon myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli ym mhob cam.
4. Gweithio gyda Staff a Rhanddeiliaid – Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae staff academaidd a staff gwasanaethau prodffesiynol yn ei chwarae o ran llwyddiant myfyrwyr. Byddwn yn ymgysylltu ag undebau llafur staff, ysgolion yr effeithir arnynt, a rhanddeiliaid allanol er mwyn trafod datrysiadau amgen.
Beth ydym am wneud nesaf?
1. Neuadd y Dref Myfyrwyr – Byddwn yn gofyn i'r Is-Ganghellor gynnal digwyddiad Neuadd y Dref cyn gynted a bod modd er mwyn i fyfyrwyr rhannu pryderon a gofyn cwestiynau.
2. Adborth Ymgynghoriad – Byddwn yn darparu ffyrdd clir i fyfyrwyr gyflwyno eu barn a byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli yn y broses ymgynghori.
3. Diweddariadau Rheolaidd a thryloywder– Byddwn yn eich hysbysu ynghylch datblygiadau ac yn darparu gwybodaeth onest a chyfredol wrth i'r sefyllfa ddatblygu.