Officer message: ongoing violence and unrest | Neges gan Swyddogion: trais ac aflonyddwch parhaus

A word from your Sabbatical Officers on the ongoing violence and unrest across the UK | Gair gan eich Swyddogion Sabothol ar y trais a’r aflonyddwch parhaus ledled y DU

No ratings yet. Log in to rate.

A word from your Sabbatical Officers on the ongoing violence and unrest across the UK

Since last week, the UK has been shaken by violent demonstrations and riots targeting migrants, Muslims, and other marginalised communities. These attacks are rooted in racism, Islamophobia, and anti-migrant sentiment fuelled by the normalisation of such rhetoric within mainstream media.

These disturbing events followed a campaign of misinformation following the murder of three young girls in Southport named Bebe King, Elsie Dot Stancombe, and Alice Dasilva Aguiar. Our thoughts and condolences go out to the family, friends and loved ones of these individuals. 

Cardiff Students’ Union condemns all forms of racism and instances of hate-crime, wherever they may occur, and will continue to be an organisation that is proud of the welcoming, inclusive and diverse nature of our community and members.

We are proud of the University’s status as a University of Sanctuary which celebrates the multicultural environment of our campuses and the openness with which we welcome students seeking refuge. We are also proud of our continued affiliation with organisations such as Student Action for Refugees (STAR) and want to remind our students that they are valued and respected members of our community.

The actions and behaviours we have seen in recent weeks and continue to see in many other forms of day-to-day life, should never be normalised. No one should have to go through these challenging times alone. The student community at Cardiff has a strong history of coming together to show support for each other and we do not doubt that that will continue. However, should you be concerned about yourself or others around you, please do not hesitate to reach out to the Students’ Union, University support services or in the event of an emergency 999, all of which have been listed below.

  • You can contact Student Advice in the Students' Union for free, confidential, independent and impartial advice via email at advice@cardiff.ac.uk, by calling us on 029 2078 1410 or by visiting our office in person, Monday-Friday 09.30-16.30 on the Third Floor of the Students' Union;
  • The University's Student Life Services, including the Counselling and Wellbeing Service, are available via studentconnect@cardiff.ac.uk or by calling 029 2251 8888, or using the online Student Connect portal.
  • The University's Disclosure Response Team is also available for students who have experienced any form of violence, abuse, hate crime, or any other form of unacceptable behaviour. You can contact them via their online referral form here, or search 'Disclosure Response Team' on the intranet.  
  • In the event that you are a witness or victim of a crime taking place, or in an emergency, we advise you immediately call the emergency services on 999. If the event and danger has passed you can report potential criminal activity by ringing 101.   

Gair gan eich Swyddogion Sabothol ar y trais a’r aflonyddwch parhaus ledled y DU

Ers yr wythnos diwethaf, mae’r DU wedi cael ei hysgwyd gan wrthdystiadau treisgar a therfysgoedd yn targedu ymfudwyr, Mwslemiaid, a chymunedau Ymylol eraill. Mae'r ymosodiadau hyn wedi'u gwreiddio mewn hiliaeth, Islamoffobia, a theimlad gwrth-ymfudwyr a ysgogwyd gan normaleiddio rhethreg o'r fath o fewn cyfryngau prif ffrwd.

Daeth y digwyddiadau brawychus hyn yn dilyn ymgyrch o ffug-wybodaeth yn dilyn llofruddiaeth tair merch ifanc yn Southport o’r enw Bebe King, Elsie Dot Stancombe, a Alice Dasilva Aguiar. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn mynd allan i deulu, ffrindiau ac anwyliaid yr unigolion hyn. 

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn condemnio pob math o hiliaeth ac achosion o droseddau casineb, lle bynnag y maent yn digwydd, a bydd yn parhau i fod yn sefydliad sy'n falch o natur groesawgar, gynhwysol ac amrywiol ein cymuned a'n haelodau.

Rydym yn falch o statws y Brifysgol fel Prifysgol Noddfa sy'n dathlu amgylchedd amlddiwylliannol ein campysau a'r croeso rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n ceisio lloches. Rydym hefyd yn falch o'n cysylltiad parhaus â sefydliadau fel Myfyrwyr yn Gweithredu dros Ffoaduriaid (STAR) ac rydym am atgoffa ein myfyrwyr eu bod yn aelodau gwerthfawr ac uchel eu parch o'n cymuned.

Ni ddylid byth normaleiddio’r gweithredoedd a’r ymddygiadau yr ydym wedi’u gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf ac yn parhau i’w gweld mewn llawer o rannau eraill o fywyd o ddydd i ddydd. Ni ddylai neb orfod mynd trwy'r cyfnod heriol hwn ar ei ben ei hun. Mae gan gymuned y myfyrwyr yng Nghaerdydd hanes cryf o ddod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth i’w gilydd, ac nid ydym yn amau y bydd hynny’n parhau. Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am eich diogelwch eich hun neu eraill o'ch cwmpas, mae croeso i chi gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth y Brifysgol neu mewn achos o argyfwng 999, sydd i gyd wedi'u rhestru isod.

  • Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr am gyngor cyfrinachol, annibynnol a diduedd am ddim trwy e-bost yn cyngor@caerdydd.ac.uk, drwy ein ffonio ar 029 2078 1410 neu drwy ymweld â'n swyddfa, Llun-Gwener 09:30-16:30 ar Drydydd Llawr Undeb y Myfyrwyr;
  • Mae Gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol, gan gynnwys y Gwasanaeth Cwnsela a Llesiant, ar gael drwy cyswlltmyfyrwyr@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio 029 2251 8888, neu ddefnyddio porth Cyswllt Myfyrwyr ar-lein.
  • Mae Tîm Ymateb i Ddatgeliad y Brifysgol hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi profi unrhyw fath o drais, cam-drin, trosedd casineb, neu unrhyw fath arall o ymddygiad annerbyniol. Gallwch gysylltu â nhw drwy eu ffurflen atgyfeirio ar-lein yma, neu chwiliwch 'Tîm Ymateb i Ddatgeliad’ ar y fewnrwyd.  
  • Os ydych yn dyst neu’n ddioddefwr trosedd, neu mewn sefyllfa argyfwng, rydym yn eich cynghori i ffonio’r gwasanaethau brys ar unwaith ar 999. Os yw’r digwyddiad a’r perygl wedi mynd heibio, gallwch roi gwybod am weithgarwch troseddol posibl drwy ffonio 101.   

Comments

 
dominos