The Students’ Union hereby gives notice that the Student Members’ Annual General Meeting (AGM) will take place at 18:00 on Thursday 21 November 2024.
The meeting will be held in the Great Hall on the first floor of the Students’ Union at 18:00. Doors will open at 17.30. Every student at Cardiff University is invited and encouraged to attend. Just remember to bring your Student ID card as it will be required on entry.
The business to be transacted at the AGM includes:
Ratification of minutes of the previous meeting
Receiving the report of the Trustees on the Union’s activities since the previous meeting
Receiving the accounts of the Union for the previous financial year
Approving proposed changes to the Union's Memorandum and Articles of Association
Approving the list of affiliations of the Union
Open questions to the Trustees by the Student Members
Any motions submitted by members as well as lapsing policies from previous years.
All students are invited to submit motions to the AGM. Motions should be submitted to the Union’s AGM Motion Submission Portal no later than 10am on Monday 4th November. Once submitted the motions will be reviewed to ensure they are within the powers of AGM.
Anyone wishing to submit a motion proposal to AGM should read the attached Motion Submission Guidance and Procedure Document. This document is an extension of this Notice of Poll and explains in detail the rules regarding motions submitted to AGM.
From 10am on Tuesday 12th November to 4pm on Thursday 14th November students will have the opportunity to vote on which of the submitted motions they would like to see debated at this years’ AGM. The top four motions will then be selected for debate at the AGM. Any other submitted motions which receive more than 25 votes will then be considered by Student Senate where it is within their powers to do so.
Policies expire after 3 years of their original approval date. Previous policies passed by AGM that are due to expire include:
-
Full-Time Welsh Language Officer for Cardiff University
-
Vice President Welfare and Campaigns Role and Name Change
-
Adopting the International Holocaust Remembrance Alliance Definition of antisemitism in full
-
Acceptance without Exception: Protection for our Trans students
-
UCU Industrial Action
-
Hybrid Events, Seminar, Meetings and Guest Policy
-
Refugees Welcome – University of Sanctuary Campaign
If you would like this policy to remain in effect, they will need to be re-submitted in the same fashion as new motions (highlighted above).
Members also have the opportunity to ask questions to the trustees, represented by the Sabbatical Officers. These questions can be submitted in advance via this typeform or asked on the night. Please note that due to the time available not all submitted questions may be answered at the AGM.
The full agenda pack will be available online from Friday 15th November.
Appoint a Proxy
Remember if you cannot attend you can appoint a proxy. To appoint a proxy you simply fill in this 'Appointment of Proxy' form Cymraeg | English and return it to the Student Voice team. It must be received before Noon on Thursday 21st November by the Student Voice team via email to AGM@cardiff.ac.uk, or in-person on the third floor of the Students' Union building. Those unable to attend can also request to watch and listen to the AGM event online. Requests to watch and listen to the event must be received before Noon on Thursday 21st November.
If you require any other reasonable adjustments to support your attendance at AGM please get in touch via AGM@cardiff.ac.uk to discuss the options available.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn eich hysbysu y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yr Aelodau yn cael ei gynnal am 18:00 dydd Iau 21 Tachwedd 2024.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Neuadd Fawr ar lawr cyntaf Undeb y Myfyrwyr am 18:00. Bydd y drysau’n agor am 17:30. Gwahoddir ac anogir pob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd i fynychu. Cofiwch ddod â’ch ID Myfyriwr oherwydd bydd ei angen er mwyn cael mynediad.
Mae’r materion i’w trafod yn y CCB yn cynnwys:
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol
Derbyn yr adroddiad gan yr Ymddiriedolwyr ar weithgareddau’r Undeb ers y cyfarfod blaenorol
Derbyn cyfrifon yr Undeb ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol
Cymeradwyo newidiadau arfaethedig i Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu'r Undeb
Cymeradwyo'r rhestr o ymlyniadau’r Undeb
Cwestiynau agored i’r Ymddiriedolwyr gan Aelodau
Unrhyw gynigion wedi’u cyflwyno gan aelodau ynghyd â pholisïau sy’n dirwyn i ben.
Gwahoddir pob myfyriwr i gyflwyno cynigion ar gyfer y CCB. Dylid cyflwyno cynigion trwy Borth Cyflwyno Cynnig CCB yr Undeb dim hwyrach na 10yb dydd Llun 4ydd Tachwedd. Unwaith iddynt gael eu cyflwyno bydd y cynigion yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod o fewn pwerau’r CCB.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno cynnig i’r CCB darllen y Ddogfen Canllaw a Gweithdrefn Cyflwyno Cynnig atodedig. Mae’r ddogfen yn estyniad o’r Hysbysiad yma ac mae’n esbonio yn fanwl y rheolau ynghylch cyflwyno cynnig ar gyfer y CCB.
O 10yb dydd Mawrth 12fed Tachwedd i 4yh dydd Iau 14eg Tachwedd bydd gan fyfyrwyr cyfle i bleidleisio ar ba gynigion hoffent eu gweld yn cael eu trafod yn CCB eleni. Bydd y pedwar cynnig mwyaf poblogaidd wedyn yn cael eu dewis i’w trafod yn y CCB. Bydd unrhyw gynigion eraill sy’n derbyn mwy na 25 pleidlais yn cael eu hystyried gan Senedd y Myfyrwyr lle mae o fewn eu pwerau i wneud hynny.
Mae polisïau’n dirwyn i ben 3 mlynedd ar ôl eu dyddiad cymeradwyo gwreiddiol. Mae polisïau blaenorol sydd yn dirwyn i ben yn cynnwys:
- Swyddog y Gymraeg Amser Llawn ar gyfer Prifysgol Caerdydd
- Is-lywydd Lles a Rolau Ymgyrchu a Newid Enw
- Mabwysiadu Diffiniad Llawn yr International Holocaust Remembrance Alliance o Wrthsemitiaeth
- Derbyniad heb Eithriad: Diogelu ein Myfyrwyr Traws
- Gweithredu Diwydiannol UCU
- Digwyddiadau, Seminarau, Cyfarfodydd a Pholisi Gwesteion Hybrid
- Croeso i Ffoaduriaid – Ymgyrch Prifysgol Noddfa
Os hoffech i’r polisïau yma barhau, rhaid eu hail-gyflwyno fel cynigion newydd (proses wedi’i fanylu uchod).
Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r ymddiriedolwyr, wedi’u cynrychioli gan y Swyddogion Sabothol. Gellir cyflwyno’r cwestiynau yma o flaen llaw trwy’r typeform yma, neu gellir eu gofyn ar y noson. Nodwch, o ganlyniad i gyfyngiadau amser ni fydd pob cwestiwn a gyflwynir yn cael eu hateb yn y CCB.
Bydd y pecyn agenda llawn ar gael ar-lein dydd Gwener 15fed Tachwedd.
Penodi Dirprwy
Cofiwch, os ni allwch fynychu gallwch benodi dirprwy. I benodi dirprwy llenwch y ffurflen ‘Penodi Dirprwy’ yma Cymraeg | English a’i dychwelyd i dîm Llais y Myfyrwyr. Rhaid i’r tîm ei derbyn erbyn canol dydd Iau 21ain Tachwedd dros e-bost at AGM@caerdydd.ac.uk, neu yn uniongyrchol ar drydydd lawr adeilad Undeb y Myfyrwyr. Gall y rheiny sy’n methu mynychu hefyd gwneud cais i wylio a gwrando ar y CCB ar-lein. Rhaid derbyn ceisiadau i wylio a gwrando ar-lein erbyn canol dydd Iau 21ain Tachwedd.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill arnoch i'ch helpu i fynychu'r CCB cysylltwch ag AGM@caerdydd.ac.uk i drafod yr opsiynau sydd ar gael.