Here's how we engaged with you in Term 1! | Dyma sut gwnaethom ymgysylltu â chi yn Nhymor 1!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

 

Cymraeg

Term 1 was very eventful at Cardiff Students' Union. From democratic milestones to celebrations and sporting achievements, here are some of the standout moments from the first term:

Democracy in Action

As the term unfolded, Cardiff Students' Union continued its commitment to fostering democracy among its student body. The Annual General Meeting (AGM) held in November brought together 899 engaged students who actively participated in lively discussions and voting on 5 key motions. The event, which was also live-streamed to proxy voters, marked a triumph in making democracy inclusive and accessible to all students.

Following the success of the Autumn Elections, the By-Elections in November garnered an impressive 261 votes. The election resulted in the appointment of La'shaunna Williamson as the new Anti-Racism Officer for the 23-24 academic year, along with 50 other roles, including NUS delegate and Student Senate positions.

Movember, Pink Week and Sober Socials Week

November saw the union actively supporting global initiatives, with Movember taking centre stage. In collaboration with Sober Socials Week, Sabbatical officers organised 'Walk and Talk' events, encouraging open conversations about physical and mental health. The student body, including sports clubs and societies, rallied together, raising over £80,000 for men's health causes, and hosting various well-being and fundraising events throughout the month.

Sober Socials Week itself saw an impressive turnout, with Sabbatical Officers arranging walk-and-talk events to promote socialising without alcohol. Over 75 student groups enthusiastically participated, contributing to an inclusive atmosphere on campus.

October was Breast Cancer Awareness Month (BCAM), and Cardiff Students' Union joined in the global effort to raise awareness. Our Pink Week was dedicated to spreading the word about the signs and symptoms of breast cancer, as well as the importance of regular self-examination. We encouraged hundreds of students to take charge of their health and seek support when needed during the week of October 23rd to 29th.

Through outreach stalls, craft evenings, glittering events at YOLO and even a dodgeball tournament, we managed to engage with 789 of you, with many signing up to CoppaFeel's text reminder service to check your chest. It's not too late to sign up either, follow the information on the Pink Week page.

Carers Rights Week

VP Postgrad, Micaela, took the lead in raising awareness for student carers during Carers Rights Week. Through engaging with over 100 individuals at three stalls and reaching nearly 3000 accounts via social media, the campaign successfully informed students about their rights and available support. The Carers Rights Quiz attracted 133 participants, further solidifying the impact of the initiative.

You can find out more about what Micaela is up to here.

Black History Month and Afrogene Celebration

Throughout October, we used all platforms to celebrate the achievements and contributions of black people in Cardiff and around the world. Our aim was to promote inclusivity and strengthen our student community by recognising the significant impact of black individuals. Importantly, we are dedicated to ensuring that Black History is represented and celebrated all year round.

To mark Black History Month, Cardiff University revealed a 14-meter mural on the Sports Centre building, serving as a tribute to the enduring strength of sisterhood and a recognition of the contributions of black women as the foundation of our community.

We engaged with 281 students through our Black History Month events, including book clubs, seminars, outreach stalls and Blackademia (a networking evening to celebrate BHM).

In November, Cardiff University celebrated Afrogene, an annual event showcasing African and Caribbean culture and talent. The event drew in 155 students who enjoyed performances from 14 acts, contributing to the important and vibrant cultural community of Cardiff University.

Feed Your Flat and Cost of Living Support

One of the standout initiatives during term 1 at Cardiff Students' Union was the impactful, and ongoing, Feed Your Flat campaign, which plays a crucial role in supporting students facing financial challenges and ensuring their well-being.

The primary objective of Feed Your Flat is to provide essential cost of living support to students, acknowledging the financial pressures many face during their academic journey. The campaign, led by the Sabbatical Officer and Campaign Officer team, focusses on addressing the immediate needs of students.

Feed Your Flat returned to support students during term 1, with over 130 students accessing cost of living support.

Clean Up Cardiff and Commitment to Environmental Well-being

Clean Up Cardiff, an initiative focusing on improving the city's environment and enhancing the well-being of the student community, saw dedicated volunteers taking to the streets armed with bin bags. The campaign not only underscored the importance of a clean city but also highlighted the connection between a pleasant environment and the well-being of students.

Our Venues

It's been a very busy term in terms of gigs and club nights at your Students' Union. In term 1 alone, we welcomed 54,902 students through the doors to enjoy the best club nights in Cardiff (but we are biased). YOLO and JUICE continue to be popular among students - but don't worry if you missed out in term 1. Our regular club night YOLO (Wednesday) will be in full swing for term 2.

Cardiff Box office did a great job of welcoming some amazing performers to the stage in The Great Hall and Y Plas in term 1, encouraging over 22,000 people through the SU doors to enjoy some unforgettable gigs. Click here to find out what we've got in store for term 2!

BUCS Sporting Achievements

Sporting activities reached new heights during term 1, with an astounding 560 BUCS weekly fixtures, making it one of the busiest terms ever for sporting events. November alone witnessed a staggering 304 fixtures, increasing 6% compared to the previous year. Thanks to these new fixtures, our clubs have travelled a total of 31,000 miles in the SU minibuses alone. That's almost 1.5 journeys around the world.

Two new clubs, Dodgeball and Rugby League, were introduced into the BUCS competition structure, with the Women's Dodgeball team maintaining an unbeaten record. Clay Pigeon secured a BUCS gold medal, setting the stage for more achievements in term 2.

As we wrap up term 1, Cardiff Students' Union looks back at a semester filled with diverse activities, celebrations, and achievements. The union remains committed to providing a vibrant and supportive community for all students, looking forward to more exciting endeavours in the upcoming term. Thank you for your ongoing support in making Cardiff University a safe and inclusive environment.


Roedd Tymor 1 yn gyfnod cyffrous yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. O gerrig milltir ddemocrataidd i ddathliadau a llwyddiannau athletaidd, dyma rhai o uchafbwyntiau'r tymor cyntaf:

Democratiaeth ar Waith

Wrth i'r tymor ddatblygu, gwnaeth Undeb Myfyrwyr Caerdydd parhau ei ymrwymiad i fagu democratiaeth o fewn cymuned y myfyrwyr. Cafodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ei gynnal ym mis Tachwedd, gydag 899 o fyfyrwyr yn mynychu er mwyn cymryd rhan mewn trafodaethau bywiog a phleidleisio ar 5 prif gynnig. Roedd y digwyddiad, a gafodd ei ffrydio'n fyw i unigolion wnaeth penodi procsi, yn llwyddiant wrth sicrhau bod democratiaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob myfyriwr.

Wedi llwyddiant Etholiadau'r Hydref, gwnaeth 261 o bobl bleidleisio mewn Is-Etholiadau ym mis Tachwedd. O ganlyniad i'r etholiadau cafodd La'shaunna Williamson ei phenodi fel y Swyddog Gwrth-Hiliaeth newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 23-24, tra cafodd 50 unigolyn arall hefyd eu hethol i rolau megis cynrychiolydd UCM a llefydd ar Senedd y Myfyrwyr.

Tashwedd, Wythnos Binc ac Wythnos Cymdeithasu Sobr

Ym mis Tachwedd bu'r Undeb yn weithredol wrth gefnogi ymgyrchoedd rhyngwladol, gyda Tashwedd yn ganolbwynt i hyn. Ochr yn ochr ag Wythnos Cymdeithasu Sobr gwnaeth y Swyddogion Sabothol drefnu digwyddiadau 'Cerdded a Sgwrsio', gan annog trafodaethau agored am iechyd meddwl a ffisegol. Gwnaeth myfyrwyr, gan gynnwys clybiau chwaraeon a chymdeithasu, cydweithio er mwyn codi dros £80,000 ar gyfer achosion iechyd dynion, drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau lles a chodi arian trwy gydol y mis.

Gwnaeth nifer sylweddol o bobl hefyd ymgysylltu ag Wythnos Cymdeithasu Sobr, gyda'r Swyddogion Sabothol yn trefnu digwyddiadau 'Cerdded a Sgwrsio' er mwyn annog cymdeithasu heb alcohol. Gwnaeth 75 grŵp myfyrwyr gymryd rhan, gan gyfrannu at amgylchedd cynhwysol y campws.

Mis Hydref oedd Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ac roedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn rhan o ymdrech rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth. Roedd Wythnos Binc wedi'i ffocysu ar rannu gwybodaeth am arwyddion a symptomau canser y fron, ynghyd ag annog unigolion i wirio'i hunain yn rheolaidd. Gwnaethom annog myfyrwyr i ofalu am eu hiechyd a gofyn am gymorth pan fod angen.

Trwy stondinau, nosweithiau crefft, YOLO llawn gliter a hyd yn oed twrnamaint dodgeball, gwnaethom gysylltu  789 ohonoch, gyda llawer yn cofrestru ar gyfer gwasanaeth neges destun atgoffa CoppaFeel. Nid yw'n rhy hwyr i gofrestru chwaith - dilynwch y wybodaeth ar dudalen Wythnos Binc.

Wythnos Hawliau Gofalwyr

IL Myfyrwyr Ôl-raddedig, Micaela, bu'n arwain wrth godi ymwybyddiaeth am fyfyrwyr sy'n ofalwyr yn ystod Wythnos Hawliau Gofalwyr. Trwy ymgysylltu  dros 100 o unigolion ar draws tri stondin a chyrraedd bron 3000 o gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol bu'r ymgyrch yn llwyddiannus wrth hysbysu myfyrwyr am eu hawliau a chefnogaeth sydd ar gael. Gwnaeth 133 o bobl gwblhau'r Cwis Hawliau Gofalwr, gan bellach sicrhau effaith yr ymgyrch.

Gallwch ddarganfod mwy am waith Micaela yma.

Mis Hanes Pobl Ddu a Dathliad Afrogene

Trwy gydol mis Hydref, buom yn defnyddio gwahanol blatfformau i ddathlu llwyddiannau a chyfraniadau pobl du yng Nghaerdydd ac ar draws y byd. Ein nod oedd hyrwyddo cynwysoldeb a chryfhau ein cymuned drwy gydnabod effaith sylweddol unigolion du. Bellach, rydym wedi'n hymroi i sicrhau bod Hanes Du yn cael ei gynrychioli a'i ddathlu trwy gydol y flwyddyn.

I nodi Mis Hanes Pobl Ddu, gwnaeth Prifysgol Caerdydd greu murlun 14 metr ar adeilad y Ganolfan Chwaraeon, sy'n deyrnged i gryfder parhaol chwaeroliaeth ac yn gydnabyddiaeth o fenywod du fel seiliau i'n cymuned.

Gwnaethom ymgysylltu  281 o fyfyrwyr trwy ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Ddu, gan gynnwys clybiau llyfrau, seminarau, stondinau a Blackademia (noswaith rhwydweithio i ddathlu MHPDd).

Ym mis Tachwedd, dathlodd Prifysgol Caerdydd Afrogene, gŵyl flynyddol yn arddangos diwylliant a thalent Affricanaidd a Charibïaidd. Daeth 155 o fyfyrwyr i'r digwyddiad gan fwynhau 14 perfformiad a chyfrannu at gymuned ddiwylliannol fywiog a phwysig Prifysgol Caerdydd.

Bwydo Eich Fflat a Chefnogaeth Costau Byw

Un o'r prif fentrau yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ystod tymor 1 oedd ymgyrch Bwydo Eich Fflat, sy'n dal i barhau. Mae'r ymgyrch yn cael effaith hanfodol wrth gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol a diogelu eu lles.

Prif nod Bwydo Eich Fflat yw darparu cefnogaeth costau byw hanfodol i fyfyrwyr, gan gydnabod y pwysau ariannol mae llawer yn ei wynebu yn ystod eu siwrnai academaidd. Mae'r ymgyrch, wedi'i arwain gan y timoedd Swyddogion Sabothol a Swyddogion Ymgyrchu, yn ffocysu ar ddiwallu anghenion presennol myfyrwyr.

Ailddechreuwyd Bwydo Eich Fflat yn nhymor 1, gyda dros 130 yn defnyddio'n gwasanaethau cymorth costau byw.

Clirio Caerdydd ac Ymrwymiad i Les Amgylcheddol

Gwelodd Clirio Caerdydd, ymgyrch sy'n ffocysu ar wella amgylchedd y ddinas a hybu lles myfyrwyr, gwirfoddolwyr ymroddedig yn glanhau'r strydoedd gyda'u bagiau bin. Mae'r ymgyrch nid yn unig yn dangos pwysigrwydd dinas glan, ond hefyd y cysylltiad rhwng amgylchedd pleserus a lles myfyrwyr.

Ein Digwyddiadau

Roedd yn dymor prysur o ran gigs a nosweithiau clwb yn Undeb y Myfyrwyr. Yn nhymor 1 yn unig, fe wnaethon ni groesawu 54,902 o fyfyrwyr i'r nosweithiau clwb gorau yng Nghaerdydd (yn ein barn ni!). Roedd YOLO a JUICE yn parhau i fod yn boblogaidd gyda myfyrwyr - ond peidiwch boeni os wnaethoch golli allan yn nhymor 1. Bydd YOLO (dydd Mercher) yn parhau yn nhymor 2.

Gwnaethom hefyd groesawu perfformwyr anhygoel i'r llwyfan yn Y Neuadd Fawr a'r Plas yn nhymor 1, gyda dros 22,000 o bobl yn dod trwy ddrysau'r UM ar gyfer cerddoriaeth fyw anhygoel. Cliciwch yma i weld beth sydd ar y gweill am dymor 2!

Llwyddiannau Athletaidd BUCS

Roedd tymor 1 yn gyfnod syfrdanol ar gyfer llwyddiannau athletaidd gyda 560 o gemau BUCS wythnosol yn golygu taw dyma un o'r tymhorau prysuraf ar gyfer chwaraeon. Ym mis Tachwedd bu 304 o gemau, cynnydd o 6% o gymharu Â'r flwyddyn flaenorol. Diolch i'r gemau yma gwnaeth clybiau teithio 31,000 o filltiroedd ym mysiau mini yr UM - bron 1.5 gwaith o amgylch y byd!

Cafodd dau glwb newydd, Dodgeball a Rygbi'r Gynghrair, eu cyflwyno i'r strwythur BUCS, gyda thîm menywod Dodgeball heb eu trechu eto. Gwnaeth y tîm Saethu Colomennod Clai sicrhau medal aur BUCS a gobeithio byddan nhw'n gweld yr un llwyddiant yn nhymor 2.

Wrth i ni ddweud hwyl fawr i dymor 1 mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn edrych yn Ôl ar semester llawn digwyddiadau, dathliadau a llwyddiannau amrywiol. Mae'r Undeb yn parhau wedi'i ymrwymo i ddarparu cymuned fywiog a chefnogol ar gyfer pob myfyriwr ac edrychwn ymlaen at ragor o gyffro tymor yma. Diolch am eich cefnogaeth barhaol wrth wneud Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd diogel a chynhwysol.

 

Comments