Ym mis Mai 2023, pasiodd Senedd y Myfyrwyr gynnig a gyflwynwyd gan ein Swyddog LHDTC+ Traws ar y pryd, Nodie Caple-Faye, yn gofyn:
1. I Undeb y Myfyrwyr ymgyrchu dros gyflwyno cronfa Hunaniaeth Rhywedd, a ariennir gan y Brifysgol ac a weinyddir gan Undeb y Myfyrwyr.
2. I'r gronfa hon gael ei chynllunio i gefnogi myfyrwyr sy'n dymuno cael eitemau cadarnhau rhywedd (gender affirming).
3. I Undeb y Myfyrwyr hyrwyddo'r gronfa, unwaith y bydd ar gael, gyda ffocws penodol ar fyfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd.
Rydym wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers i’r cynnig hwnnw gael ei basio, ac rydym bellach yn hynod falch o gyhoeddi lansiad y gronfa, sy’n agored i bob myfyriwr sydd angen cynnyrch cadarnhau rhywedd. Mewn cyfnod lle mae pobl traws yn wynebu stigma a heriau cynyddol ledled y DU, rydym yn gobeithio y bydd y cymorth hwn yn lleihau’r pwysau sylweddol a roddir ar fyfyrwyr traws yn ein prifysgol, ac yn eu helpu i garu eu hunain a mwynhau eu profiad yma.
“Mae’n hanfodol bod pob myfyriwr yn teimlo wedi eu clywed, eu gwerthfawrogi, a’u cefnogi gan yr UM a’r Brifysgol, ac rwyf mor falch o lansio’r gronfa anhygoel hon, a helpu pawb sydd ei hangen”
- AJ Lumley, Swyddog LHDTC+
Mae'r gronfa hon wedi'i chynllunio i ddarparu mynediad i gynnyrch cymorth tymor byr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, bacwyr, rhwymwyr, a dillad isaf twcio, er mwyn helpu myfyrwyr i frwydro yn erbyn dysfforia rhywedd wrth iddynt gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy hirdymor. Mae prosiectau tebyg wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus gan brifysgolion ac undebau myfyrwyr eraill ar draws y DU, ac edrychwn ymlaen at ehangu’r gefnogaeth a gynigiwn i’n myfyrwyr traws ac anneuaidd.
Gall myfyrwyr ddysgu mwy am y gronfa a gwneud cais yma.
Mae hygyrchedd cyllid ar gyfer cynnyrch cadarnhau rhywedd yn bwysig iawn i ni fel undeb, gan na all llawer o fyfyrwyr fforddio neu gael mynediad at eitemau sy’n allweddol wrth fynd i’r afael â dysfforia rhywedd ac sy’n eu galluogi i deimlo’n gyfforddus ynddynt eu hunain. Ni ellir disgwyl i fyfyrwyr ragori yn eu hastudiaethau a mwynhau eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd os nad ydynt yn cael eu cefnogi wrth drawsnewid neu ddod i delerau â'u hunaniaeth rhywedd. Rydym eisiau sicrhau bod cymuned ddiogel a chroesawgar o fewn ein hundeb ac mae hwn yn gam pwerus wrth sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus i siarad â ni a’u bod yn gallu derbyn pwy ydyn nhw tra yn y brifysgol.
“Fel dyn traws a ddaeth allan tra’n astudio yng Nghaerdydd, rwy’n deall pa mor unig a dryslyd y gall deimlo, a gobeithio y gall gwaith caled Noah barhau i greu amgylchedd croesawgar a diogel i’n holl fyfyrwyr traws”
- AJ Lumley, Swyddog LHDTC+
I gyd-fynd â hyn mae ein Swyddog Traws presennol, AJ Lumley, yn rhedeg ymgyrch yn seiliedig ar gymorth arall gall myfyrwyr ei dderbyn gennym ni yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gael ID myfyriwr newydd am ddim os ydych yn dymuno newid eich llun neu'ch enw am resymau cadarnhau rhywedd. Nid oes angen unrhyw dystiolaeth ar gyfer y broses hon a cheir rhagor o fanylion ar dudalen Polisi Traws Prifysgol Caerdydd .