Cardiff set to host Welsh Varsity 2025 | Caerdydd i gynnal Varsity Cymru 2025

featured
No ratings yet. Log in to rate.

The hugely popular Welsh Varsity event will make a triumphant return to the Welsh capital on Wednesday 9th April 2025, bringing the fiercest university rivalry back to Cardiff. Following a successful year in Swansea in 2024, the Welsh capital is gearing up for an action-packed day of sport, passion and unforgettable moments.

Welsh Varsity represents one of the biggest days in the student calendar, bringing together more than 10,000 students from Cardiff University and Swansea University to cheer on their teams in this festival of sport.

Varsity has been ever-present on the sporting calendar for both universities since it began in 1997, originating as a men’s rugby fixture and expanding into the sporting showpiece that it is today.

More than 30 teams will compete for the prestigious Varsity shield and cup. Cardiff retained the shield in 2024 and are looking to keep it on home ground for another year. In the Men’s rugby game, Swansea will be looking to repeat their performance, while Cardiff Women’s Rugby will be looking to defend their victory from last year.

Georgia Spry, VP Sports and AU President at Cardiff University said: "Welsh Varsity is one of the most anticipated days in the student calendar and it comes with a huge sense of pride for all our Cardiff student athletes and supporters. In 2024, Team Cardiff battled hard on Swansea's turf to claim victory and take home the Welsh Varsity Shield! This year, the competition comes to Cardiff and our players are putting in the hard work to be prepped and ready to take on Swansea's best. The day always brings a huge sense of camaraderie with unwavering support towards our fabulous student athletes".

Cameron Messetter, Sports Officer for Swansea said: “The Swansea vs Cardiff rivalry is unmatched and every year our students turn out in their thousands to support our teams. This year, the Green and White army will be travelling to the capital, looking for a strong performance to retain the cup and regain the shield. Every Swansea player is training hard to deliver results in their sport and we couldn’t be prouder of them. Make sure you’re joining us to cheer them on in Cardiff on the 9th April!”

The action will unfold across iconic Cardiff venues including Cardiff Arms Park, Sophia Gardens Cricket Ground and Sport Wales. As always, the tournament will culminate with the Women’s and Men’s rugby fixtures at Cardiff Arms Park, one of the highlights of the day.

Cardiff tickets will go on sale to Athletic Union members on Monday 24th February and on general sale on Wednesday 26th February. 

Bydd digwyddiad hynod boblogaidd Varsity Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru unwaith eto dydd Mercher y 9fed o Ebrill 2025, gan ddod â’r gornest Prifysgol fwyaf yn ôl i Gaerdydd. Ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn Abertawe yn 2024, mae’r brifddinas yn paratoi am ddiwrnod llawn chwaraeon, angerdd, ac eiliadau bythgofiadwy.

Varsity Cymru yw un o’r diwrnodau mwyaf yn y calendr i fyfyrwyr, gan ddod â 10,000 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ynghyd i gefnogi eu timoedd yn yr ŵyl chwaraeon hon.

Mae Varsity wedi bod yn rhan o galendr chwaraeon y ddwy brifysgol ers 1997, gan gychwyn fel gêm rygbi dynion cyn ehangu i’r arddangosfa chwaraeon byddwn yn ei chynnal eleni.

Bydd mwy na 30 tîm yn cystadlu ar gyfer y darian a’r cwpan eleni. Enillodd Caerdydd y darian unwaith eto yn 2024 ac maen nhw'n edrych i'w chadw ar dir cartref am flwyddyn arall. Yng ngêm rygbi’r dynion bydd Abertawe yn gobeithio ailadrodd perfformiad y llynedd, tra bydd tîm Rygbi Menywod Caerdydd yn edrych i amddiffyn eu buddugoliaeth.

Dywedodd Georgia Spry, IL Chwaraeon a Llywydd yr UA ym Mhrifysgol Caerdydd: “Varsity Cymru yw un o’r diwrnodau mwyaf yn y calendr i fyfyrwyr, ac mae’n dod ag ymdeimlad enfawr o falchder i holl athletwyr a chefnogwyr Caerdydd. Yn 2024, brwydrodd Tîm Caerdydd am fuddugoliaeth yn Abertawe gan ennill Tarian Varsity Cymru! Eleni, mae’r gystadleuaeth yn dod i Gaerdydd ac mae ein hathletwyr wrthi’n gweithio’n galed a’n paratoi er mwyn herio goreuon Abertawe. Mae'r diwrnod bob amser yn creu awyrgylch o gyfeillgarwch gyda chefnogaeth ddiwyro ar gyfer at ein hathletwyr anhygoel.”

Dywedodd Cameron Messetter, Swyddog Chwaraeon Abertawe: “Mae’r gystadleuaeth rhwng Abertawe a Chaerdydd yn ddigymar, a phob blwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn dod i gefnogi ein timoedd. Eleni, bydd y fyddin Gwyrdd a Gwyn yn teithio i’r brifddinas, gan obeithio am berfformiad cryf er mwyn cadw’r cwpan ac adennill y darian. Mae holl athletwyr Abertawe yn ymarfer yn galed er mwyn llwyddo yn eu camp ac rydym yn hynod falch o bob un ohonynt. Dewch i ymuno â ni i’w cefnogi yng Nghaerdydd ar y 9fed o Ebrill!”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar draws rhai o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd gan gynnwys Parc yr Arfau, Maes Criced Gerddi Sophia, a safle Chwaraeon Cymru. Fel bob tro, bydd y twrnamaint yn gorffen gyda gemau rygbi’r dynion a menywod ym Mharc yr Arfau – un o uchafbwyntiau’r diwrnod.

Bydd tocynnau Caerdydd ar werth i aelodau'r Undeb Athletau dydd Llun y 24ain o Chwefror ac ar werth i bawb arall dydd Mercher y 26ain o Chwefror.

Comments