Cardiff Students to join Pride Cymru march | Myfyrwyr Caerdydd i ymuno â gorymdaith Pride Cymru

Cardiff Students’ Union and Cardiff University proudly announces its participation in the upcoming Pride Cymru march, which will take place on June 17th and 18th in the vibrant Cardiff City Centre. 🏳️‍🌈

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Photo: PRIDE CYMRU

Cardiff Students’ Union and Cardiff University proudly announces its participation in the upcoming Pride Cymru march, which will take place on June 17th and 18th in the vibrant Cardiff city centre. The University and Students’ Union, recognised for their commitment to diversity and inclusion, are excited to join this momentous event that celebrates the rich LGBTQ+ culture in Wales. 

Pride Cymru is a volunteer-led charity that works to promote the elimination of discrimination, be it on the grounds of sexual orientation, gender, race, religion, or ability. 

Cardiff Students' Union, an integral part of the university community, plays a pivotal role in creating a welcoming space for all. With inclusivity at its heart, the Students' Union provides a platform for individuals to express themselves freely and engage in a wide range of activities that promote understanding, acceptance, and social cohesion through societies, clubs, and events throughout the year. 
 
Every year, Cardiff Students’ Union celebrates LGBTQ+ History Month in February and runs numerous events from performance showcases and book clubs, to film viewings and guest speaker events. The Students' Union also supports Stonewall's Rainbow Laces campaign at the Welsh Varsity sports tournament each year, encouraging athletes competing to wear Rainbow Laces. Supporting this campaign reaffirms the Students' Union's belief that all students should feel welcome and able to play sport regardless of sexuality, gender identity or ability. 

Cardiff University is dedicated to fostering an inclusive environment where all students and staff feel valued, respected, and supported. As an institution that embraces diversity as one of its core values, the university recognises the importance of promoting equality and celebrating the LGBTQ+ community. 

Shreshth Goel, the Vice President for Societies and Volunteering at Cardiff University, expressed his enthusiasm for the University's involvement in the Pride Cymru march, stating:

"This is an incredible opportunity to come together as a community and celebrate the vibrant LGBTQ+ culture in Wales.” 
 

"Cardiff University and the Students’ Union values the rich diversity of its student body and staff, and we are proud to stand in solidarity with the LGBTQ+ community during this momentous event. Pride Cymru is a testament to the progress we have made, and it is a reminder that we must continue striving for a more inclusive society."

The Pride Cymru march is an annual event that brings people together from all walks of life to support and celebrate LGBTQ+ rights. It serves as a powerful platform for raising awareness, promoting acceptance, and advocating for equality. Cardiff University's participation in this event reflects its ongoing commitment to creating an environment where diversity is embraced and celebrated. 

By joining the Pride Cymru march, both the University and Students’ Union reinforces its dedication to supporting the LGBTQ+ community and fostering an environment where everyone feels valued and empowered. 

To find out more about the Pride Cymru 2023 march, click here. 



Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y byddant yn cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 17eg a 18fed yng nghanol bywiog dinas Caerdydd. Mae ymrwymiad y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i gydnabod, ac maent wrth eu bodd yn ymuno â’r digwyddiad pwysig hwn sy’n dathlu diwylliant LHDTC+ cyfoethog Cymru. 

Mae Pride Cymru yn elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n gweithio dros ddileu rhagfarn a gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd, neu allu. 

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd, sy’n rhan annatod o gymuned y brifysgol, yn chwarae rôl allweddol o safbwynt creu gofod sy’n croesawu pawb. Gyda chynwysoldeb yn gwbl greiddiol, mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu llwyfan i unigolion gael mynegi eu hunain yn ddilyffethair ac ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth, cyd-dderbyn, a chydlyniant cymdeithasol drwy gymdeithasau, clybiau, a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. 
 
Bob blwyddyn, mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dathlu Wythnos Hanes LHDTC+ ym mis Chwefror ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, o berfformiadau arddangos a chlybiau darllen i ddangosiadau ffilmiau a digwyddiadau gyda siaradwyr gwadd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi ymgyrch Lasys Enfys Stonewall yn nhwrnamaint Varsity Cymru bob blwyddyn hefyd, gan annog yr athletwyr sy’n cymryd rhan i wisgo Lasys Enfys. Drwy gefnogi’r ymgyrch hon, mae Undeb y Myfyrwyr yn ailddatgan ei gred y dylai pob myfyriwr deimlo bod croeso iddynt allu cymryd rhan mewn chwaraeon, waeth beth fo’u rhywioldeb, eu hunaniaeth o ran rhywedd neu eu gallu. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn benderfynol o feithrin amgylchedd cynhwysol ble bydd yr holl fyfyrwyr a staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu, a’u cefnogi. Fel sefydliad sy’n ymfalchïo bod amrywiaeth yn un o’i werthoedd craidd, mae’r brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu’r gymuned LHDTC+. 

Mynegodd Shreshth Goel, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ei frwdfrydedd dros rôl y Brifysgol yng ngorymdaith Pride Cymru, a dywedodd:

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddod ynghyd fel cymuned a dathlu diwylliant LHDTC+ bywiog Cymru.”
 

"Digwyddiad blynyddol ydy Pride Cymru sy’n tynnu pobl ynghyd o bob math o gefndir i gefnogi a dathlu hawliau LHDTC+. Mae’n llwyfan dylanwadol sy’n codi ymwybyddiaeth, yn hyrwyddo cyd-dderbyn, ac yn hybu cydraddoldeb. Mae cyfraniad Prifysgol Caerdydd at y digwyddiad hwn yn adlewyrchu ei hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd lle caiff amrywiaeth ei groesawu a’i ddathlu."

Drwy ymuno â gorymdaith Pride Cymru, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cadarnhau eu hymrwymiad i gefnogi’r gymuned LHDTC+ a meithrin amgylchedd ble bydd pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod wedi’u grymuso. 

I gael gwybod mwy am orymdaith Pride Cymru 2023, cliciwch yma

Comments

 
dominos