Top 10 Tips for Freshers at Cardiff University | 10 Awgrym Defnyddiol ar gyfer Glas-Fyfyrwyr Prifysg

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

 

Cymraeg                                                                                                                          

Students' Union President, Madison, wearing a blue dress.

Shwmae, I’m Madison, your Students’ Union President. Welcome to Cardiff University!As a Cardiff University student myself, I've been in your position, navigating my first year at Cardiff, and I'm here to help you make the most of it. Here are my top 10 tips to kickstart your university journey: 

1. Get Involved Early

University life is more than just lectures. Join societies, sports teams, or volunteering groups. Cardiff Students' Union offers a wide range of activities, so there’s something for everyone. Make sure to come to all of the Freshers’ Fairs to find out what we have on offer. Getting involved is the best way to make friends, develop new skills, and enrich your university experience. 

2. Explore the City 

Cardiff is a vibrant city with so much to offer. From Bute Park to Cardiff Bay, take time to explore the city. Try the local food spots, visit museums, and enjoy the nightlife. Even if sport isn’t your thing, there is nothing better than a rugby day in the capital! Knowing your city inside out makes it feel more like home. 

3. Balance Your Time 

University is a juggling act. Balancing your studies, social life, and personal time is key. Make a schedule, prioritise your tasks, and don’t forget to take breaks. Learning to manage your time early on will save you from last-minute stress during exam season. Ensure you always make time for yourself!  

4. Budget Wisely 

It’s easy to overspend in the first few weeks but remember to budget your money. Track your spending, take advantage of student discounts, and don’t be afraid to cook at home with your flatmates. 

5. Attend Your Lectures 

It might be tempting to skip a lecture, but attending regularly is crucial. Lectures provide essential content that’s often not in textbooks, and they give you a chance to ask questions directly to your lecturers. Plus, it’s easier to keep up with coursework when you’re on top of your lectures. Trust me on this one!  

6. Make Use of Campus Resources 

Cardiff University and the Students’ Union has a wealth of resources available to support you. From personal tutors to mental health services, don’t hesitate to reach out when you need help. The libraries, career services, Student Advice Centre and IT support are all there to help you succeed. 

7. Stay Healthy 

Maintaining your physical and mental health is essential. Cardiff has plenty of gyms, sports facilities, and green spaces for exercise. Eat well, get enough sleep, and don’t hesitate to talk to someone if you’re feeling overwhelmed. A healthy body and mind lead to a successful university experience. 

8. Build a Support Network 

University can be challenging, so having a support network is important. Whether it’s friends, flatmates, or university staff, find people you can talk to and rely on. Building a strong support system will help you through tough times. 

9. Be Open to New Experiences 

University is a time to step out of your comfort zone. Whether it’s trying a new hobby with a sports club or society, meeting people from different cultures, or taking a challenging course, be open to new experiences. They can lead to personal growth and lasting memories. 

10. Don’t Be Afraid to Ask for Help 

Finally, don’t be afraid to ask for help. Whether it’s academic assistance, personal advice, or just someone to talk to, there are plenty of people at Cardiff University who are willing to help. You’re never alone, and asking for help is a sign of strength, not weakness. 

Your time at Cardiff University is what you make of it. By following these tips, you’ll set yourself up for a successful and enjoyable first year. Embrace the experience, stay positive, and make the most of every opportunity. Make sure to come and visit us at the Students’ Union. Welcome to Cardiff and enjoy the journey! 

 


Awgrymiadau ar gyfer Glas-Fyfyrwyr wrth Lywydd eich Undeb Myfyrwyr  

Shwmae, Madison ydw i, Llywydd eich Undeb Myfyrwyr. Croeso i Brifysgol Caerdydd! Fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd fy hun, rydw i wedi bod yn yr un sefyllfa â chi, ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, ac rydw i yma i’ch helpu i wneud y mwyaf ohono. Dyma 10 awgrym defnyddiol i’ch helpu ar eich siwrnai brifysgol:  

1. Cymryd Rhan yn Gynnar 

Mae bywyd prifysgol yn golygu mwy na darlithoedd. Ymunwch â chymdeithasau, clybiau chwaraeon, neu grwpiau gwirfoddoli. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, felly mae yna rywbeth i bawb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i holl Ffeiriau’r Glas er mwyn darganfod beth sydd ar gael. Cymryd rhan yw’r ffordd orau o wneud ffrindiau, datblygu sgiliau newydd, a chyfoethogi’ch profiad prifysgol.  

2. Ymweld â’r Ddinas 

Mae Caerdydd yn ddinas fywiog gyda llawer i’w chynnig. O Barc Bute i Fae Caerdydd, treuliwch ychydig o amser yn dod i adnabod y ddinas. Rhowch gynnig ar lefydd bwyd lleol, ewch i’r amgueddfeydd, a mwynhewch ddigwyddiadau gyda’r nos. Hyd yn oed os nad yw chwaraeon o ddiddordeb i chi, does dim byd yn well na diwrnod gêm rygbi yn y brifddinas! Bydd adnabod eich dinas yn gwneud iddi deimlo mwy fel adref.  

3. Cydbwyswch eich Amser 

Mae’r brifysgol yn gyfnod prysur. Mae cydbwyso eich astudiaethau, bywyd cymdeithasol, ac amser personol yn allweddol. Gwnewch amserlen, blaenoriaethwch dasgau, a pheidiwch anghofio cymryd seibiau. Bydd dysgu i reoli eich amser yn gynnar yn eich arbed rhag straen ychwanegol yn ystod y cyfnod arholiadau. A chofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwneud amser i’ch hunain!  

4. Gosodwch Gyllideb Ddoeth 

Mae’n hawdd gorwario yn y cwpwl o wythnosau cyntaf, ond cofiwch osod cyllideb bersonol. Traciwch eich gwario, gwnewch y mwyaf o ddisgowntiau myfyrwyr, a pheidiwch ofni coginio adref gyda’ch ffrindiau newydd.  

5. Mynychwch eich Darlithiau 

Weithiau gall fod temtasiwn i beidio mynd i ddarlith, ond mae mynychu’n rheolaidd yn hollbwysig. Mae darlithiau’n darparu cynnwys hanfodol sy’n aml heb ei gynnwys yn y gwerslyfr, ac maent yn gyfle i ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i’ch darlithwyr. Ac mae’n llawer haws cadw fyny gyda gwaith cwrs os ydych wedi bod i’ch holl ddarlithoedd. Credwch fi!  

6. Defnyddiwch Adnoddau’r Campws 

Mae llwyth o adnoddau ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Undeb Myfyrwyr i’ch cefnogi. O diwtoriaid personol i wasanaethau iechyd meddwl, peidiwch oedi i ofyn am gymorth. Mae’r llyfrgelloedd, gwasanaethau gyrfaol, Canolfan Cyngor Myfyrwyr, a chefnogaeth TG oll yma i’ch helpu i lwyddo.  

7. Cadwch yn Iach 

Mae gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn hanfodol. Mae gan Gaerdydd digon o gampfeydd, cyfleusterau chwaraeon, a pharciau er mwyn i chi wneud ymarfer corff. Bwytwch yn iach, cewch ddigon o gwsg, a pheidiwch oedi siarad â rhywun os yw pethau’n teimlo’n ormod. Mae corff a meddwl iach yn arwain at brofiad prifysgol llwyddiannus.  

8. Adeiladwch Rwydwaith Cefnogol 

Gall y brifysgol fod yn heriol, felly mae cael rhwydwaith cefnogol yn bwysig. Boed yn ffrindiau neu staff prifysgol, dewch o hyd i bobl gallwch siarad gyda, a dibynnu arno. Bydd adeiladu system gefnogaeth gref yn eich helpu trwy adegau anodd.  

9. Byddwch yn Agored i Brofiadau Newydd 

Mae’r brifysgol yn adeg ar gyfer rhoi cynnig ar bethau newydd. Boed yn ddiddordeb newydd gyda chlwb chwaraeon neu gymdeithas, cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau, neu gymryd cwrs heriol, byddwch yn agored i brofiadau newydd. Gallant arwain at ddatblygiad personol ac atgofion bythgofiadwy.  

10. Peidiwch Ofni Gofyn am Gymorth 

Yn olaf, peidiwch ofni gofyn am gymorth. Boed yn gefnogaeth academaidd, cyngor personol, neu rywun i siarad gyda, mae yna ddigon o bobl ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n barod i’ch helpu. Dydych chi byth ar eich pen eich hun, ac mae gofyn am help yn arwydd o gryfder, nid gwendid. 

Chi sydd efo’r gallu i lywio eich profiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth ddilyn yr awgrymiadau yma byddwch yn barod am flwyddyn gyntaf llwyddiannus a llawn hwyl. Byddwch yn agored i brofiadau newydd, arhoswch yn bositif, a gwnewch y mwyaf o bob profiad. Gwnewch yn siŵr i ddod i’n gweld ni yn yr Undeb Myfyrwyr. Croeso i Gaerdydd a mwynhewch eich siwrnai yma gyda ni!  

 

Comments

 
dominos