Being part of a Sports Club or an IMG team is one of the best things a student can do at university to meet new friends, take a break from studies and keep fit, just to name a few. But sometimes we don’t see the silent struggles many of our student athletes are facing.
Many think that if you’re doing sports and staying active then nothing could be wrong, but most of the time this is just not true. The pressure from teammates and coaches to push your body to the max and produce good results can take a big toll. The financial requirements to pay for equipment and transport as well as living essentials can be stressful. The expectations we put on ourselves to be perfect and give 110% all the time can be exhausting.
Our athletes are performing week in and week out alongside part-time jobs, studies, exams, placements and caring responsibilities. Juggling all of this is overwhelming and has a negative knock-on effect for our student athletes’ mental health. I know I definitely experienced this as a full-time student competing in sports and I am still experiencing it now.
Here are some signs a student athlete needs to take a break:
It can be hard to step away and take a break from your sport when you love it so much and your teammates are depending on you. However, our mental health is just as important as our physical health. If you hurt your leg, you rest and let it recover – it’s the same for our mental health.
Athletes, here are some important reminders:
Bod yn rhan o Glwb Chwaraeon neu dîm IMG yw un o’r pethau gorau gall myfyriwr ei wneud yn y Brifysgol er mwyn cwrdd â ffrindiau newydd, cymryd saib o’u hastudiaethau, a chadw’n heini, i enwi ond rhai o’r buddion. Ond weithiau, nid ydym yn gweld yr heriau cudd y mae athletwyr yn eu hwynebu.
Mae llawer yn meddwl os ydych yn gwneud chwaraeon a’n cadw’n actif ni all unrhyw beth fod o’i le, ond y rhan fwyaf o’r amser nid yw hyn yn wir. Gall pwysau gan aelodau eraill o’ch tîm a hyfforddwyr i wthio eich corff i'r eithaf a chyflawni canlyniadau da cael effaith fawr. Gall y gofynion ariannol i dalu am gyfarpar a thrafnidiaeth ar ben costau byw arferol hefyd achosi straen. A gall y disgwyliadau rydym yn gosod ar ein hunain i fod yn berffaith a rhoi 110% trwy’r amser fod yn ormod.
Mae ein hathletwyr yn perfformio bob wythnos ochr yn ochr â swyddi rhan-amser, astudiaethau, arholiadau, lleoliadau, a chyfrifoldebau gofalu. Gall fod pwysau mawr ar fyfyrwyr wrth iddynt gydbwyso popeth gyda hyn yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl. Rydw i'n gwybod fy mod i wedi profi hyn wrth gystadlu mewn chwaraeon tra’n fyfyriwr amser llawn, ac rwy’n dal i'w brofi nawr.
Dyma rhai arwyddion bod angen saib ar athletwr:
Gall fod yn anodd camu i ffwrdd a chymryd saib pan rydych chi’n caru eich camp ac mae eich cyd-chwaraewyr yn dibynnu arnoch. Ond, mae ein hiechyd meddwl yr un mor bwysig â’n hiechyd corfforol. Os ydych chi’n derbyn anaf, rydych chi’n cymryd saib er mwyn gwella – mae'r un peth yn wir am iechyd meddwl.
Athletwyr, dyma rhai pethau i'w cofio:
-
Mae colli yn rhan o fod yn athletwr, y tric yw dysgu ohono, symud ymlaen, a pheidio gadael iddo effeithio arnoch yn ormodol. Nid yw un canlyniad gwael yn eich diffinio.