Black History Month is a time to celebrate the rich history and diversity of Black, African and Caribbean culture, and it’s been a busy time on campus with activities including quizzes, music events and more. Here are some of my highlights from this October.
Young Black professionals reclaiming the narrative of success
The panel and discussion event included: Sanjiv Vedi (First Black President of the SU), Plamedi Santima (Founder of AFJ Cardiff) and Sheryl Njini (Founder of Black Girls Space Cardiff).
Three inspiring professionals shared what they’ve learned along their journey as ethnic minorities, and it’s something we can all learn from:
- Own your story. It’s not always easy and can take some practice but share your achievements and your unique experiences with confidence.
- Challenge barriers. Resist limiting labels and aim high if you’re ambitious. However, if you’re content, it’s fine to reject pressures to constantly excel – the panel discussed ‘Black mediocrity’ – you’ve got nothing to prove to anyone.
- Nurture your community. A supportive community is vital for resilience and success, and don’t be afraid to reach out for help – you’ll be surprised how willing people are to support you where they can.
BHM Book Clwb!
Shola (VP Heath Park) and Ana (VP International Students) introduced lots of you to two influential thinkers: Ta-Nehisi Coates and Audre Lorde. Coates wrote a heart-wrenching letter to his teenage son about racism in the USA in Between the World and Me, and Black feminist Audre Lorde’s, revolutionary work, Sister Outsider, reminds us to use our anger to power our work to enact change, and keep our solidarity with our sisters strong. If you want to read the books but didn’t get the chance, you can borrow them from the University’s library.
Dance session with Plamedi
High energy and a lot of fun was had at an Afro dance session with Plamedi, founder of AFJ Cardiff. Unfortunately, I wasn’t able to attend, but that’s probably for the best as I have two left feet… If you missed it, check out Plamedi’s Instagram @afj_cardiff or check out all the dance societies we have within the SU!
Last reflection
This year, as every year, my main takeaway is how little I know about Black history and culture and how much knowledge, stories and wisdom are waiting to nourish us. Black History Month in Wales is labelled ‘365’ in recognition of the fact that the appreciation of the rich and important history of Black people should not be limited to one month a year. True allyship with ethnic minorities means celebrating diverse cultures throughout the year, not just when we’ve scheduled them in the calendar. This matters because marginalised people and groups can begin to feel ‘used’ and ‘objectified’ if their skills are only sought for a short period of time a year – we should be celebrating talent throughout the year. So, I hope you’ll join me in committing to reading more about Black history this year, in November … all the way through to October 2025 and beyond. And I’m committing to hosting a Black History event in the coming months so keep an eye out on @antiracismofficercsu.
Dyna Fis Hanes Pobl Dduon drosodd am 2024!
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn amser i ddathlu hanes cyfoethog ac amrywioldeb diwylliant Croenddu, Affricanaidd a Charibïaidd, ac mae wedi bod yn amser prysur ar y campws gyda gweithgareddau gan gynnwys cwisiau, digwyddiadau cerddoriaeth a mwy. Dyma rai o fy uchafbwyntiau o fis Hydref eleni.
Proffesiynwyr Du ifanc yn hawlio hanes llwyddiant yn ôl.
Roedd y panel a’r digwyddiad trafod yn cynnwys: Sanjiv Vedi (Llywydd Du Cyntaf yr UM), Plamedi Santima (Sylfaenydd AFJ Caerdydd) a Sheryl Njini (Sylfaenydd Black Girls Space Caerdydd). Rhannodd tri gweithiwr proffesiynol ysbrydoledig yr hyn y maent wedi’i ddysgu ar hyd eu taith fel lleiafrifoedd ethnig, ac mae’n rhywbeth y gallwn oll ddysgu ohono:
- Mynnwch berchenogaeth ar eich stori. Nid yw bob amser yn hawdd, a gall gymryd rhywfaint o ymarfer, ond rhannwch eich cyflawniadau a'ch profiadau unigryw yn hyderus.
- Heriwch unrhyw rwystrau. Gwrthwynebwch labeli a allai eich cyfyngu ac anelwch yn uchel os ydych chi'n uchelgeisiol. Fodd bynnag, os ydych yn fodlon eich byd, mae'n iawn gwrthod pwysau i ragori'n barhaus - bu'r panel yn trafod 'dinodedd Croenddu' - does gennych chi ddim byd i'w brofi i unrhyw un.
- Cofleidiwch eich cymuned. Mae cymuned gefnogol yn hanfodol ar gyfer gwytnwch a llwyddiant, a pheidiwch â bod ofn estyn allan am help – byddech yn synnu pa mor barod yw pobl i'ch cefnogi lle gallant.
Clwb Llyfrau Mis Hanes Pobl Dduon
Cyflwynodd Shola (Llywydd Parc y Mynydd Bychan) ac Ana (IL Myfyrwyr Rhyngwladol) lawer ohonoch i ddau feddyliwr dylanwadol: Ta-Nehisi Coates ac Audre Lorde. Ysgrifennodd Coates lythyr torcalonnus at ei fab yn ei arddegau am hiliaeth yn UDA yn Between the World and Me, ac mae gwaith chwyldroadol y ffeminydd Du Audre Lorde, Sister Outsider, yn ein hatgoffa i ddefnyddio ein dicter i bweru ein gwaith i weithredu newid, a chadw ein hundod â'n chwiorydd yn gryf. Os ydych chi eisiau darllen y llyfrau hyn ond heb gael y cyfle, gallwch eu benthyca o lyfrgell y Brifysgol.
Sesiwn ddawns gyda Plamedi
Cafwyd llawer o egni a llwyth o hwyl mewn sesiwn ddawns Affro gyda Plamedi, sylfaenydd AFJ Caerdydd. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn gallu mynychu, ond mae'n debyg bod hynny am y gorau gan fod gen i ddwy droed chwith... Os methoch chi’r sesiwn hon, beth am fwrw golwg ar Instagram Plamedi @afj_cardiff neu edrychwch ar yr holl gymdeithasau dawns sydd gennym o fewn yr UM!
Myfyrdod olaf
Eleni, fel pob blwyddyn, yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw cyn lleied yr wyf yn ei wybod am hanes a diwylliant Du a faint o wybodaeth, straeon a doethineb sy'n aros i'n goleuo. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru wedi’i labelu’n ‘365’ i gydnabod y ffaith na ddylai gwerthfawrogiad o hanes cyfoethog a phwysig pobl Dduon gael ei gyfyngu i fis y flwyddyn. Mae gwir gefnogaeth i leiafrifoedd ethnig yn golygu dathlu diwylliannau amrywiol trwy gydol y flwyddyn, nid dim ond pan fyddwn ni wedi eu hamserlennu yn y calendr. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall pobl a grwpiau ymylol ddechrau teimlo eu bod yn cael eu 'defnyddio' a'u 'gwrthrycholi' os mai dim ond am gyfnod byr yn ystod y flwyddyn y ceisir eu sgiliau – dylem fod yn dathlu talent trwy gydol y flwyddyn. Felly, gobeithio y byddwch chi'n ymuno â mi i ymrwymo i ddarllen mwy am hanes Pobl Dduon eleni, ym mis Tachwedd … hyd at Hydref 2025 a thu hwnt. Ac rwy'n ymrwymo i gynnal digwyddiad Hanes Pobl Dduon yn y misoedd nesaf, felly cadwch lygad ar @antiracismofficercsu.