University Mental Health Day | Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Hi everyone 

I’m Grace, a final year Media student at Cardiff University and your Mental Health Officer. 

Last semester I met all my manifesto points for this year already: 

  • Create more opportunities for students to express themselves, especially First Year and International students who are struggling to fit in at university. Expand the amount of resources that the University provides to students and create more awareness on how students can receive support.
  • Meet with Sports Societies Wellbeing Officers to discuss the importance of balancing playing matches and completing university work, in order to maintain good mental health and reduce students' stress.
  • Have regular meetings with the Mental Health Association to help meet students' needs, especially at the first point of poor mental health and not waiting until crisis point.

On Thursday 14th October I set up a stall in the Students’ Union for World Mental Health Day in collaboration with Cardiff Mind, Student Minds and Wolfson Centre for Young People’s Mental Health who are conducting research with the Psychology school on campus. 

Using my positions as Sports Director for CUTV and Sports Editor for Gair Rhydd, I have spoken to University teams about mental health and wellbeing and will be producing and directing a documentary about women’s mental health in football called More Than Just a Game, which will be available for everyone to watch in late February 2025! 

I work at Cardiff City Football Club and have asked them about what they do for their athletes in order to maintain good mental health around condensed fixtures similar to BUCS. 

I have organised regular monthly meetings with Student Minds and my association based on the feedback and data collected at the Freshers Fairs in September. 

The work that the Sabbatical Officer team have done with the Alright Mate? campaign throughout the month of November saw an amazing number of sports Societies raise money for Movember and it was incredible to see the large promotion of men’s mental health on campus. I did photography on the 16th of November at the Talybont Sports Centre for the Movember Charity Netball Match and was delighted with the turnout. 

I supported Eve and Georgia with promoting their Winter Wellbeing campaign that provided resources and safe spaces for students to take care of their wellbeing during the colder months. Listen here: Winter Wellbeing Podcast.

This semester I hope to use the information from the Refreshers Fair to encourage more students to attend Student Minds events. I will continue to work closely with Cardiff Mind throughout the semester to organise events for University Mental Health Day and Mental Health Awareness Week.  

Lastly, I just want to say a massive thank you to my Sabbatical Officer buddy the VP Sports & AU President Georgia Spry, for all her continued support and guidance. Mental Health in sport is something I have always wanted to explore and with Varsity fast approaching I look forward to seeing positive mental health in action on the pitch! 

Shwmae bawb
 
Grace ydw i, myfyriwr Cyfryngau blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd a'ch Swyddog Iechyd Meddwl.
 
Rwyf wedi cwblhau pob un o’m mhwyntiau maniffesto ar gyfer y flwyddyn hon yn barod, a hynny yn y semester diwethaf.
 
  • Creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fynegi eu hunain, yn enwedig myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf a Rhyngwladol sy'n cael trafferth ffitio i mewn yn y brifysgol. Ehangu’r adnoddau y mae’r Brifysgol yn eu darparu i fyfyrwyr a chreu mwy o ymwybyddiaeth o sut y gall myfyrwyr dderbyn cymorth.
  • Cyfarfod â Swyddogion Lles y Clybiau Chwaraeon i drafod pwysigrwydd cydbwyso cystadlu a chwblhau gwaith prifysgol, er mwyn cynnal iechyd meddwl iach a lleihau straen ar fyfyrwyr.
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Rhwydwaith Iechyd Meddwl i helpu i ddiwallu anghenion myfyrwyr, yn enwedig ar yr achlysur gyntaf o iechyd meddwl gwael yn hytrach nag aros iddo gyrraedd pwynt argyfwng.
 
Ddydd Iau’r 14eg o Hydref gwnes i gynnal stondin yn Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd mewn cydweithrediad â Mind Caerdydd, Meddyliau Myfyrwyr a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc sy'n cynnal ymchwil gyda'r Ysgol Seicoleg ar y campws.
 
Gan ddefnyddio fy swyddi fel Cyfarwyddwr Chwaraeon CUTV a Golygydd Chwaraeon Gair Rhydd, rwyf wedi siarad â thimau’r Brifysgol am iechyd meddwl a lles a byddaf yn cynhyrchu a’n cyfarwyddo rhaglen ddogfen am iechyd meddwl menywod mewn pêl-droed o’r enw Mwy Na Gêm, a fydd ar gael i bawb ei gwylio diwedd Chwefror 2025!
 
Rwy’n gweithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac wedi gofyn iddynt am yr hyn y maent yn ei wneud ar gyfer eu hathletwyr er mwyn cynnal iechyd meddwl da o amgylch amserlen brysur o gemau yn debyg i BUCS.
 
Rwyf wedi trefnu cyfarfodydd misol rheolaidd gyda Meddyliau Myfyrwyr a’m rhwydwaith yn seiliedig ar yr adborth a’r data a gasglwyd yn Ffeiriau’r Glas ym mis Medi.
 
Gwelodd ymgyrch Iawn Mêt? y Swyddogion Sabothol ym mis Tachwedd nifer fawr o glybiau chwaraeon yn codi arian ar gyfer Movember ac roedd yn anhygoel gweld iechyd meddwl dynion yn cael ei hyrwyddo ar y campws. Fe es i dynnu lluniau o’r gêm bêl-rwyd elusennol ar gyfer Movember ar yr 16eg o Dachwedd yng Nghanolfan Chwaraeon Talybont ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld gymaint yn mynychu.
 
Cefnogais Eve a Georgia i hyrwyddo eu hymgyrch Gofalu Gyda’r Gaeaf a oedd yn darparu adnoddau a mannau diogel i fyfyrwyr ofalu am eu lles yn ystod y misoedd oerach. Gwrandewch yma.
 
Semester yma rwy’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn Ffair Tymor Dau i annog mwy o fyfyrwyr i fynychu digwyddiadau Meddyliau Myfyrwyr. Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Mind Caerdydd trwy gydol y semester i drefnu digwyddiadau ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol ac Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
 
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fy nghyfaill Swyddog Sabothol, yr IL Chwaraeon a Llywydd yr UA, Georgia Spry, am ei holl gefnogaeth ac arweiniad parhaus. Mae iechyd meddwl mewn chwaraeon yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau dysgu mwy amdano erioed a gyda Varsity yn prysur agosáu rwy'n edrych ymlaen at weld iechyd meddwl cadarnhaol ar waith ar y cae!

Comments