Pursuing a PhD can be one of the most intellectually rewarding yet challenging experiences. It’s a journey of academic discovery, but it can also be filled with long hours, self-doubt, and pressure to perform.
While dedicating yourself to your research, it’s essential your wellbeing doesn’t take a back seat. Maintaining a balanced, healthy lifestyle is key to thriving, not just surviving, during this demanding process.
Below are three themes to help you prioritise your mental, emotional, and physical health as a PhD student.
1. Set boundaries with your work
One of the most common struggles for PhD students is knowing when to stop working. With research often feeling like it’s never finished, it’s easy to fall into the trap of working all day, every day. However, setting clear boundaries is essential.
-
Guard your weekends: Whenever possible, reserve your weekends for rest, hobbies, or socialising. Your brain needs downtime to recharge.
2. Build a support system
The PhD journey can often feel isolating, especially when you're deep in research. Having a solid support system can be invaluable for your mental and emotional health.
-
Connect with peers: Other PhD students understand your struggles more than anyone else. Form study groups, join online communities, or simply grab coffee with fellow researchers to share experiences and advice. The Postgrad Network frequently hold events to help you build your community!
-
Don’t be afraid to seek help: There is a range of support available for you in the University, Students’ Union, and in the local community. Don’t be afraid to reach out – below are some resources which may help!
3. Celebrate the small wins
-
Recognise your progress: The PhD journey is long and full of small victories that deserve to be celebrated. Whether it’s finishing a chapter, submitting a paper, or simply making it through a tough day, acknowledge and appreciate your accomplishments.
-
Remember your ‘Why’: It’s important to remind yourself why you started your PhD journey in the first place. Passion for your field, curiosity, and the desire to contribute knowledge are powerful motivators. When things get tough, reconnect with your purpose and passion for your research. This will give you the mental and emotional fuel needed to keep moving forward.
Conclusion: You’re more than your PhD
Your PhD journey is important, but so is your overall wellbeing. The key to thriving throughout your PhD is balance—making time for rest, connection, self-care, and professional growth. Remember that taking care of your mind, body, and emotions isn’t just about getting through your PhD; it’s about developing habits that will serve you in your career and life beyond academia.
Ultimately, you are more than your research or your title—you’re a whole person deserving of care and fulfilment. Prioritise your wellbeing, and you’ll find greater joy and success in your PhD journey.
Resources
The Wellbeing Thesis – A free online resource for PhD students covering a huge variety of themes from dealing with stress and managing your workload to debunking PhD myths and planning for life beyond the PhD.
The Balanced Researcher – A guide by Vitae filled with strategies for busy researchers.
Managing your Mental Health during your PhD: A Survival Guide by Zoë J. Ayres - A book providing tips and tricks on managing your mental health as a PhD student, in addition to examining research culture.
The PhD Life Raft Podcast – A podcast covering a range of topics and themes on PhD life. Also available on Spotify and Apple Music.
NHS Guide on Mindfulness.
Student Advice – The Students’ Union’s free, independent, confidential, and impartial advice service. We provide advice on simple to very complex issues, such as academic issues, housing, and university complaints.
Cardiff University Student Services – Cardiff’s one stop hub for your student needs, including, disability, advice and money, health and wellbeing, and visa support.
Blaenoriaethu eich lles fel myfyriwr PhD
Gall cwblhau PhD fod yn brofiad academaidd hynod gwerth chweil, ond hefyd heriol. Mae’n siwrnai o ddarganfod, ond gall hefyd fod llawn oriau hir, hunan-amheuaeth, a phwysau i berfformio.
Wrth ymroi eich hun i’ch ymchwil, mae’n bwysig nad ydych yn anghofio am eich lles. Mae cynnal ffordd o fyw cytbwys ac iach yn allweddol er mwyn ffynnu, nid goroesi yn unig, yn ystod y proses heriol hwn.
Isod mae tair thema i’ch helpu i flaenoriaethu eich lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol fel myfyriwr PhD.
1. Dyrannu amser am waith ac ymlacio
Un o’r heriau mwyaf ar gyfer myfyrwyr PhD yw gwybod pryd i beidio gweithio. Gydag ymchwil yn aml yn teimlo fel nad yw erioed wedi’i gorffen, gall fod yn hawdd dechrau’r arfer o weithio trwy’r dydd, pob dydd. Felly, mae rhannu eich amser yn hanfodol.
- Sefydlwch drefn ddyddiol: Penderfynwch ar oriau penodol ar gyfer gwaith a chadwch atyn nhw. Gall cael ‘amser gorffen’ penodol ar gyfer pob diwrnod eich helpu i osgoi gorflino.
- Cymerwch seibiau: Mae ymchwil yn dangos y gall seibiau rheolaidd hybu cynhyrchiant a chreadigrwydd. Rhowch gynnig ar y dechneg Pomodoro (25 munud o waith wedyn hoe o 5 munud) er mwyn cynnal eich lefelau egni.
- Mwynhewch eich penwythnosau: Lle bo’n bosibl, cadwch eich penwythnosau ar gyfer ymlacio, diddordebau, a chymdeithasu. Mae angen saib ar eich ymennydd.
2. Adeiladwch system gefnogaeth
Gall y siwrnai PhD weithiau teimlo’n unig, yn enwedig pan fyddwch yn ddwfn yn eich ymchwil. Gall cael system gefnogaeth gref fod yn amhrisiadwy ar gyfer eich iechyd meddyliol ac emosiynol.
- Cysylltwch â chyd-fyfyrwyr: Mae myfyrwyr PhD eraill yn deall yr heriau rydych yn eu hwynebu mwy nag unrhyw un arall. Ffurfiwch grwpiau astudio, ymunwch â chymunedau ar-lein, neu ewch am goffi gydag ymchwilwyr eraill i rannu profiadau a chyngor. Mae’r Rhwydwaith Ôl-raddedig yn aml yn cynnal digwyddiadau i’ch helpu i adeiladu eich cymuned!
- Dewch o hyd i fentoriaid: Tu hwnt i’ch goruchwyliwr, ceisiwch adeiladu perthynas gydag aelodau eraill o staff a all cynnig arweiniad ac anogaeth.
- Peidiwch fod ofn gofyn am help: Mae yna ystod o wasanaethau cefnogaeth ar gael yn y Brifysgol, yr Undeb Myfyrwyr, ac yn y gymuned leol. Peidiwch ofni estyn allan – isod mae rhai adnoddau i’ch helpu!
3. Dathlwch y pethau bychain
- Cydnabyddwch eich cynnydd: Mae’r siwrnai PhD yn un hir, llawn llwyddiannau bach sy’n haeddu cael eu dathlu. Boed os ydych wedi gorffen pennod, cyflwyno papur, neu wedi goroesi diwrnod heriol, cydnabyddwch a gwerthfawrogwch eich cyflawniadau.
- Cofiwch eich ‘Pam’: Mae’n bwysig atgoffa eich hun pam wnaethoch ddechrau ar eich PhD yn y lle cyntaf. Mae angerdd am eich maes, diddordeb, a chwant i gyfrannu yn rhesymau pwerus. Pan eith pethau’n anodd, ailgysylltwch gyda’ch pwrpas ac angerdd am ymchwil. Bydd hyn yn rhoi hwb meddyliol ac emosiynol i chi er mwyn parhau.
Casgliad: Rydych chi’n fwy na’ch PhD
Mae eich siwrnai PhD yn bwysig, ond mae eich lles yr un mor bwysig. Mae cydbwysedd yn hanfodol – gwnewch amser ar gyfer ymlacio, ymgysylltu, hunanofal, a thwf proffesiynol. Cofiwch fod gofalu am eich meddwl, corff, ac emosiynau nid yn unig yn bwysig ar gyfer eich PhD; bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu arferion bydd yn hanfodol yn eich gyrfa a bywyd tu hwnt i’r byd academaidd.
Yn y pen draw, rydych chi’n fwy na’ch ymchwil neu’ch teitl – rydych yn berson sy’n haeddu gofal a boddhad. Blaenoriaethwch eich lles, a byddwch yn cael mwy o hwyl a llwyddiant yn eich siwrnai PhD.
Adnoddau
The Wellbeing Thesis – Adnodd ar-lein am ddim ar gyfer myfyrwyr PhD sy’n trafod amrywiaeth eang o themâu, o ddelio â straen a rheoli llwyth gwaith, i fynd i’r afael ag anwireddau a chynllunio ar gyfer bywyd ar ôl eich PhD.
The Balanced Researcher – Canllaw gan Vitae llawn strategaethau ar gyfer ymchwilwyr prysur.
Managing your Mental Health during your PhD: A Survival Guide gan Zoë J. Ayres – Llyfr sy’n darparu cyngor ar reoli eich iechyd meddwl fel myfyriwr PhD, ac yn edrych ar ddiwylliant ymchwilio.
Podcast The PhD Life Raft Podcast – Podcast sy’n trafod amrywiaeth o bynciau a themâu bywyd PhD. Hefyd ar gael ar Spotify ac Apple Music.
Canllaw’r Gig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Cyngor i Fyfyrwyr – Gwasanaeth gyngor annibynnol, cyfrinachol, a diduedd yr Undeb Myfyrwyr. Rydym yn darparu cyngor am ddim ar faterion megis problemau academaidd, llety, a chwynion prifysgol.
Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – Hwb y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr, sy’n cynnwys cefnogaeth anabledd, cyngor ac arian, iechyd a lles, a chymorth fisa.