Introducing your Estranged Students’ Officer | Cyflwyno eich Swyddog Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Hello everyone! 

I'm Elle, a final year law student at Cardiff University, and I'm thrilled to be serving my second term as the campaign officer for Estranged Students. This role, which I created in my first year through the Student Senate, has been an incredible journey of learning and growth. 

Many people aren't familiar with the term ‘Estranged Student’ or the unique challenges they face. Estranged students often struggle with financial instability, lack of family support, and difficulties finding suitable accommodation, especially during holidays. Mental health issues and feelings of isolation are also common among this group. 

My term last year taught us some valuable lessons. We learned the importance of early intervention and consistent support. Creating a strong network of peers and mentors significantly improved the well-being of estranged students. We also recognised the need for flexible financial aid options and year-round housing solutions. 

Building on these insights, we have exciting initiatives planned for this year: 

  • Conducting a survey for estranged students at Cardiff University to ensure they're receiving all possible support and are aware of available resources. 

  • Promoting support services through social media engagement and outreach stalls at both Cathays and Heath Park campuses. 

  • Providing greater support to those being screened for estrangement and publicising the process of determining estrangement status. 

  • Exploring the possibility of extending our support to care-experienced students. 

Our ultimate goal is to ensure that every Estranged Student feels supported, valued, and empowered throughout their university experience. Together, we can make a real difference in their lives and academic success. 

Thank you for your continued support as we work towards creating a more inclusive and supportive environment for all students at Cardiff University. 

 

Shwmae bawb! 

Elle ydw i, myfyriwr y gyfraith yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy’n falch iawn o fod yn cyflawni fy ail dymor fel y swyddog ymgyrchu ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio. Mae’r rôl hon, a greais yn ystod fy mlwyddyn gyntaf trwy Senedd y Myfyrwyr, wedi bod yn daith anhygoel o ddysgu a thyfu.    

Mae llawer o bobl yn anghyfarwydd gyda’r term ‘myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio’ neu’r heriau unigryw maent yn eu hwynebu. Yn aml mae myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn profi problemau ariannol, diffyg cefnogaeth gan deulu, a phroblemau wrth ddod o hyd i lety addas, yn enwedig yn ystod y gwyliau. Mae problemau iechyd meddwl ac unigrwydd yn gyffredin ymysg y grŵp yma.  

Gwnaeth fy nhymor y llynedd ddysgu rhai gwersi gwerthfawr i ni. Gwnaethom ddysgu pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar a chefnogaeth gyson. Gwnaeth creu rhwydwaith cryf o gyfoedion a mentoriaid gwella lles myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn sylweddol. Gwnaethom hefyd gydnabod yr angen am opsiynau cymorth ariannol hyblyg a datrysiadau llety blwyddyn gyfan. 

Wrth adeiladu ar y mewnwelediadau yma, mae gennym fentrau cyffrous wedi’u cynllunio ar gyfer eleni:  

  • Cynnal arolwg ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ym Mhrifysgol Caerdydd i sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gefnogaeth bosib a’u bod yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael.  

  • Hyrwyddo gwasanaethau cefnogaeth trwy gyfryngau cymdeithasol a stondinau allgymorth ar gampysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan.  

  • Darparu cefnogaeth bellach i rheiny sy’n cael eu sgrinio am ymddieithrio a rhoi cyhoeddusrwydd i'r broses o bennu statws wedi ymddieithrio.  

  • Edrych ar y posibilrwydd o ehangu ein cefnogaeth i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal.  

Ein nod yn y pen draw yw sicrhau fod pob myfyriwr sydd wedi ymddieithrio yn teimlo wedi’u cefnogi, gwerthfawrogi, a grymuso trwy gydol eu profiad prifysgol. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau a llwyddiant academaidd. 

Diolch am eich cefnogaeth barhaol wrth i ni weithio tuag at greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol ar gyfer holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.  

 

Comments