Advice from a Second Year Cardiff Student | Cyngor gan Fyfyriwr Ail Flwyddyn Prifysgol Caerdydd

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Hiya, Everyone! Shwmae!

I’m Manala, a BA English Literature and Creative Writing student entering my Second Year of study. Congratulations on getting into Cardiff University! You are all shining stars and should be so proud of your achievements. 

The lead up to University post A-Levels can cause a lot of different emotions to bubble up to the surface, from excitement, to fear. The anticipation can be tough, but having just finished First Year myself, I think I’m qualified to give you newbies some advice - and hopefully help make the transition smoother!  

Don’t underestimate Induction Week

Let’s be honest—we’ve all skipped something in school we assumed wasn’t worth our time. Whether it was ditching a COVID revision session to Zoom with friends, or calling in sick on a PSHE day, teens naturally choose enjoyment over practicality. Freshers will be packed with fun social events, and while I encourage you to go, ensure you balance these with making time for your induction lectures. The information given is genuinely so beneficial for starting your journey and keeping the academic side of your university life on track.  

The early bird really does catch the worm

As an ENCAPstudent, I find this especially useful for essay-based subjects, where summative assessment questions are usually given in the first week's module guide. It is, however, also good advice for anyone feeling overwhelmed by a heavy workload. While procrastination might be tempting, it leads to bad habits and many sleepless nights at the ASSL- I can tell you first hand. Instead, read those chapters in advance, plan that essay question early, attend those revision sessions! Work hard, so you can play hard later.  

Embrace change

I’m sure many other students in their second year can relate to this. While I love the life I’ve built in Cardiff, there was a time when I questioned if University was the right choice for me. During Freshers, you're at your most socially active - meeting lots of exciting new people at once and exploring everything the city offers. But eventually, the ‘Freshers Era’ must come to an end, and you begin to adapt to normalities of student life. It can start to feel a little repetitive, maybe even lonely, so some homesickness is bound to kick in. Remember, this is a common challenge and should be treated as a sign of personal growth. You can always find support from your peers by joining a society or sports club, or take advantage of your Students’ Union Advice service, and student-led services like Nightline, Student Minds, and more.  

Recharge your social battery

University life can quickly revolve around bustling social events, but it's equally important to carve out time for yourself. Luckily, Cardiff is perfect for some 'me-time.' I recharge with a solo visit to Bute Park each week, restoring my energy for the days ahead. Don’t feel pressured to always be in large groups—while I'm naturally extroverted, I often prefer smaller gatherings over big social events, and that’s perfectly fine. University encourages you to step out of your comfort zone, but that doesn’t mean you have to neglect your boundaries for the sake of others.  

Go for it!

Whether working at the Student Union or editing the front pages of Gair Rhydd- Cardiff University's student-led newspaper- I’ve embraced every opportunity at Cardiff Uni this year. Despite my busy schedule, I have no regrets! Joining societies is the best way to meet like-minded people, add some routine leisure to your week, and develop skills crucial for a successful career. Who knows? You might even become a society president, like me!  

I hope this blog has given you all a bit more insight into how to navigate your first year. Good Luck, you will all be amazing! Don’t be shy to say ‘Hi’ if you see me around the Student Union! 

Shwmae bawb!

Manala ydw i, myfyriwr BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn fy ail flwyddyn. Llongyfarchiadau ar ymuno gyda ni yma ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydych chi oll yn sêr a dylech fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau.

Gall symud o wneud eich Lefelau-A yn yr ysgol i’r Brifysgol dod â llawer o wahanol emosiynau, o gyffro, i bryder. Gall fod yn anodd i ddechrau, ond fel rhywun sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf mae gennyf ychydig i gyngor i chi – gan obeithio y bydd yn eich helpu i ymgartrefu yma!

Peidiwch â thanbrisio’r Wythnos Gynefino

Gadewch i ni fod yn onest – gwnaeth bawb wedi mitsho o rywbeth yn yr ysgol gan feddwl nad oedd werth ein hamser. Boed os wnaethoch golli sesiwn adolygu yn ystod Covid er mwyn galw eich ffrindiau ar Zoom, neu dywedoch eich bod yn sâl er mwyn osgoi gwneud ymarfer corff, mae pawb wedi dewis mwynhau yn hytrach nag astudio o bryd i’w gilydd. Bu cyfnod y glas llawn digwyddiadau cymdeithasol hwyl, a thra fy mod yn eich annog i barhau gyda gweithgareddau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cydbwyso hyn gyda’ch darlithoedd cynefino. Mae’r wybodaeth byddant yn ei rhannu gwirioneddol o fudd wrth i chi ddechrau ar eich siwrnai academaidd yn y brifysgol.

Dechreuwch asesiadau’n gynnar

Fel myfyriwr ENCAP rydw i wedi dysgu bod dechrau’n gynnar, yn enwedig ar gyfer pynciau traethawd sy’n rhannu’r cwestiynau asesu ar ddechrau’r modiwl, o hyd yn syniad da. Bydd yn eich helpu i ddelio gyda’ch llwyth gwaith yn well. Tra gall fod temtasiwn i osgoi gwaith, bydd hyn yn arwain at arferion gwael a mwy o straen yn hwyrach – coeliwch fi. Yn lle hynny, ceisiwch wneud eich darllen o flaen llaw, cynlluniwch yn gynnar, a mynychwch sesiynau adolygu! Gweithiwch yn galed er mwyn mwynhau yn hwyrach.

Croesawch newid

Rwy’n siwr bod llawer o fyfyrwyr eraill yn eu hail flwyddyn yn cytuno â hyn. Tra fy mod yn caru’r bywyd rydw i wedi’i greu yng Nghaerdydd, roedd adeg pan oeddwn yn cwestiynu os taw prifysgol oedd y dewis cywir i mi. Yn ystod y Glas, cawsoch lawer o gyfleoedd i gymdeithasu, cwrdd â phobl newydd, a gweld y ddinas. Ond wedi i’r Glas ddod i ben, byddwch yn dechrau dod i arfer â normalrwydd bywyd fel myfyriwr a gall dechrau deimlo’n ailadroddus neu hyd yn oed ychydig yn unig. Cofiwch, mae hyn yn rhywbeth y mae pawb yn ei wynebu a dylid ei drin fel cyfle am dwf personol. Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth trwy ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon, neu cysylltwch â gwasanaeth gyngor yr Undeb Myfyrwyr, neu wasanaethau dan arweiniad myfyrwyr  megis y Llinell Nos a Meddyliau Myfyrwyr.

Cymerwch saib

Gall bywyd prifysgol fod yn brysur, a’n llawn digwyddiadau cymdeithasol, ond mae’n bwysig cymryd ychydig o amser ar gyfer eich hun. Yn lwcus mae Caerdydd yn berffaith ar gyfer hyn. Rwy’n ymlacio trwy fynd i gerdded ym Mharc Bute bob wythnos. Peidiwch deimlo pwysau i fod mewn grwpiau mawr o hyd – tra fy mod yn mwynhau cymdeithasu gyda llawer o bobl, yn aml mae’n well gennyf fod gyda grŵp bach o ffrindiau agos, sy’n iawn. Mae dod i’r brifysgol yn eich annog i roi cynnig ar bethau newydd a herio eich hun, ond nid yw hynny’n golygu y dylech newid eich hun er budd pobl eraill.

Ewch amdani!

Boed trwy weithio yn yr Undeb Myfyrwyr neu olygu Gair Rhydd – papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – rydw i wedi croesawu bob cyfle rydw i wedi’i gael ym Mhrifysgol Caerdydd eleni. Tra fy mod wedi bod yn brysur iawn, nid wyf yn difaru unrhyw beth. Ymuno â chymdeithasau yw’r ffordd orau o gwrdd â phobl sy’n debyg i chi, ychwanegu amser hamdden i’ch wythnos, a datblygu sgiliau defnyddiol ar gyfer y dyfodol. A phwy a ŵyr? Gallech hyd yn oed fod yn llywydd cymdeithas fel fi! 

Gobeithio bod y blog yma wedi bod o ychydig o gymorth wrth i chi ddechrau ar eich siwrnai. Pob lwc, byddwch chi’n anhygoel! A pheidiwch oedi i ddweud ‘helo’ os welwch chi fi o amgylch yr Undeb Myfyrwyr!

Comments