Meet The Candidates | Cwrdd â’r Ymgeiswyr

 

We want everyone to vote, but before you can make your choice, you need to get informed about what your options are. Candidates plain text manifestos can be found below. | Rydym am i bawb pleidleisio, ond cyn gallwch wneud eich dewis, dylech ddysgu mwy am yr opsiynau. Gellir darllen maniffestos yr ymgeiswyr isod.

 

 

Student Senate Senedd y Myfyrwyr

 

Ali Almarzouk

English

 

You will be better off in every aspect you could conceive if I ought to be elected;)

 

Cymraeg

 

Byddwch yn well eich byd ym mhob agwedd ar fywyd pe bawn i’n cael fy ethol;)

 

Andrew George

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Arnav Jain

English

 

Hello everyone, I’m Arnav Jain, and I’m running for the Student Senate to represent your voice and address the issues that matter most to us as students. With my experience in student governance and leadership, I am committed to driving positive change that reflects your concerns and aspirations. Why Me? I’ve served on the Undergraduate Executive Committee, where I helped shape policies impacting our student body, and as the Treasurer of NHSF Cardiff, I managed budgets with transparency and fiscal responsibility. As a Residence Life Assistant, I supported first-year students and promoted inclusion and equality. These experiences have given me strong governance, financial, and community-building skills that I’ll bring to the Senate. I’m passionate about ensuring that the Student Senate works for all of us. Together, we can create a more inclusive, supportive, and sustainable campus environment.

 

Cymraeg

 

Helo bawb, fi yw Arnav Jain, ac rwy'n sefyll i gael fy ethol i'r Senedd Myfyrwyr i gynrychioli eich llais ac i fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i ni fel myfyrwyr. Gyda fy mhrofiad mewn llywodraethu myfyrwyr ac arweinyddiaeth, rwy'n ymrwymedig i yrru newid cadarnhaol sy'n adlewyrchu eich pryderon a'ch dyheadau. Pam Fi? Rwyf wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Gweithredol Israddedigion, lle helpais i lunio polisïau sy’n effeithio ar ein corff myfyrwyr, ac fel Trysorydd NHSF Caerdydd, rwyf wedi rheoli cyllidebau gyda thryloywder ac atebolrwydd ariannol. Fel Cynorthwyydd Bywyd Preswyl, cefais y fraint o gefnogi myfyrwyr blwyddyn gyntaf ac hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb. Mae’r profiadau hyn wedi rhoi sgiliau cryf i mi mewn llywodraethu, cyllid, a chreu cymuned, y byddaf yn eu dwyn i'r Senedd. Rwy'n angerddol am sicrhau bod y Senedd Myfyrwyr yn gweithio er budd pawb. Gyda'n gilydd, gallwn greu amgylchedd campws mwy cynhwysol, cefnogol a chynaliadwy

 

Daniel Rankin

English

 

Student Housing Support - I’m campaigning for a dedicated support service in the Student Union to help students educate and protect themselves against the dishonest and exploitative practices used by Cardiff student letting agencies and landlords, who continue to provide substandard and potentially dangerous accommodation at outrageous prices. We deserve safe, affordable housing. Conflict Student Support - I’m campaigning to increase mental health support for students affected by conflict, particularly in Gaza and the Middle East. I’ll push for better training of student staff on this issue, greater advertising of available resources and ensure the issue is prominently addressed on the SU and University websites, providing greater visibility and a point of contact for students that need help. Student Engagement - I'm campaigning to reach out to students who feel disconnected from University life, and try to organise events to get people involved in clubs, societies and the SU.

 

Cymraeg

 

Cymorth Llety Myfyrwyr - Rwy'n ymgyrchu dros wasanaeth cymorth penodol yn Undeb y Myfyrwyr i helpu myfyrwyr i addysgu ac amddiffyn eu hunain rhag yr arferion anonest a chamfanteisiol a ddefnyddir gan asiantaethau gosod tai a landlordiaid Caerdydd, sy'n parhau i ddarparu llety annigonol, ac yn aml peryglus, am brisiau gwarthus. Rydym yn haeddu llety diogel a fforddiadwy. Cymorth Gwrthdaro i Fyfyrwyr - Rwy'n ymgyrchu i gynyddu cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr wedi’u heffeithio gan wrthdaro, yn enwedig yn Gaza a'r Dwyrain Canol. Byddaf yn ymdrechu i sicrhau hyfforddiant gwell i staff ar y materion hyn, hysbysebu pellach o’r adnoddau sydd ar gael, a sicrhau bod y mater yn cael sylw amlwg ar wefannau’r Undeb Myfyrwyr a’r Brifysgol, gan ddarparu mwy o welededd a phwynt cyswllt i fyfyrwyr sydd angen help. Ymgysylltiad Myfyrwyr - Rwy'n ymgyrchu i estyn allan at fyfyrwyr sy'n teimlo wedi'u datgysylltu o fywyd Prifysgol, a cheisio trefnu digwyddiadau i gael pobl i gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau, a'r UM.

 

Genevieve Gunn

English

 

Shwmae pawb, my name is Genevieve, I’m a master’s student in International Relations and I am running to be one of your Student Senators this academic year. Having been elected to the Alternative Music Society’s committee this summer, I have discovered that I thoroughly enjoy engaging with and representing the wider student body at this university – from undergraduate to postgraduate. My decision to stand for this role is motivated by my commitment to ensuring that everyone has the opportunity to have their voice heard. I am passionate about inclusivity (especially as a member of the LGBTQ+ community) and am keen to ensure that this is reflected in the SU’s policy, and that this policy remains consistently impactful.

 

Cymraeg

 

Shwmae bawb, fy enw i yw Genevieve, rwy'n fyfyriwr meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac rwy'n sefyll i fod yn un o'ch Seneddwyr Myfyrwyr y flwyddyn academaidd hon. Ar ôl cael fy ethol i bwyllgor y Gymdeithas Gerddoriaeth Amgen haf yma, rwyf wedi darganfod fy mod yn mwynhau cynrychioli ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach o fyfyrwyr yn y brifysgol - o israddedig i ôl-raddedig. Mae fy mhenderfyniad i sefyll am y rôl hon wedi’i ysgogi gan fy ymrwymiad i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i leisio eu barn. Rwy'n angerddol am gynwysoldeb (yn enwedig fel aelod o'r gymuned LHDTC+) ac rwy'n awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu ym mholisi'r UM, a bod y polisi hwn yn parhau i gael effaith.

 

Hanna Marie Pageau

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Jake Enea

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Jason SZE

English

 

Hello! My name is Jason, and I am from Hong Kong currently studying Urban Planning. I have taken up multiple roles throughout my years at Cardiff University, such as Wellbeing Officer for International Students’ Association 2023/24, GeoPlan Society President 2024/25, Student Reps, Student Ambassador and more… I would love to bring my own experience and represent for ethnic minorities and international students in the Senate, advocating and influencing the SU’s decisions and policies on different issues. Please vote for me if you would like to have a positive change in our students’ union.

 

Cymraeg

 

Shwmae! Fy enw i yw Jason, rwy'n dod o Hong Kong ac ar hyn o bryd rwy’n astudio Cynllunio Trefol. Rwyf wedi ymgymryd â nifer o rolau drwy gydol fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, megis Swyddog Lles ar gyfer y Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol 2023/24, Llywydd y Gymdeithas GeoPlan 2024/25, Cynrychiolwr Myfyrwyr, Llysgennad Myfyrwyr a mwy... Byddwn wrth fy modd yn gweithredu ar fy mhrofiad personol a chynrychioli lleiafrifoedd ethnig a myfyrwyr rhyngwladol yn y Senedd, gan eirioli a dylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau'r UM ar wahanol faterion. Pleidleisiwch drosof i os hoffech weld newid cadarnhaol yn ein Hundeb Myfyrwyr.

 

Jezzelle Tanduyan

English

 

Ambitious and wanting to make a difference.

 

Cymraeg

 

Yn uchelgeisiol ac eisiau gwneud gwahaniaeth.

 

Josephine Davis

English

 

Hi, my name is Josie and I am running for student senate as I am passionate about promoting student welfare, and making changes that support people not profit. I strive to represent everyone, regardless of background, in order to allow everyone to fulfil their potential at university whilst staying safe and well. I am a fresher here at Cardiff but have prior university and advocacy experience, allowing a unique perspective.

 

Cymraeg

 

Shwmae, fy enw i yw Josie ac rwy'n sefyll ar gyfer Senedd y Myfyrwyr gan fy mod yn angerddol am hyrwyddo lles myfyrwyr, a gwneud newidiadau sy'n cefnogi pobl nid er elw. Rwy'n ymdrechu i gynrychioli pawb, waeth beth fo'u cefndir, er mwyn caniatáu i bawb gyflawni eu potensial yn y brifysgol wrth gadw'n ddiogel ac yn iach. Rwy'n lasfyfyriwr yma yng Nghaerdydd ond mae gen i brofiad blaenorol o fywyd prifysgol ac eiriolaeth, sy’n rhoi persbectif unigryw i mi.

 

Karlina Murnieks

English

 

Hi, I’m Karlina, a 2nd-year International Relations student! I’m running for Student Senate to improve your experience on campus. I want to make sure everyone feels welcome with more fun events, better social spaces, and chances to connect across courses and years. Being an international student, I understand challenges faced by many, and I’ll work to ensure that everyone feels included and supported, no matter where they’re from. I’ll also work to make student life easier, from academics to extracurriculars, by ensuring that our voices are heard and acted on by the university. Together, we can create a better, more exciting student experience where everyone can thrive.

 

Cymraeg

 

Shwmae, Karlina ydw i, myfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol yn fy ail flwyddyn! Rwy'n sefyll ar gyfer Senedd y Myfyrwyr i wella'ch profiad ar y campws. Rwyf am sicrhau bod croeso i bawb gyda mwy o ddigwyddiadau hwyli, gwell mannau cymdeithasol, a chyfleoedd i gysylltu ar draws cyrsiau a blynyddoedd. Gan fy mod yn fyfyriwr rhyngwladol, rwy'n deall yr heriau sy'n wynebu llawer ohonoch, a byddaf yn gweithio i sicrhau fod pawb yn teimlo wedi’u cynnwys a'u cefnogi, ni waeth o ble maen nhw'n dod. Byddaf hefyd yn gweithio i hwyluso bywyd myfyrwyr, o’r academaidd i’r allgyrsiol, trwy sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed a'u gweithredu arnynt gan y brifysgol. Gyda'n gilydd, gallwn greu profiad myfyrwyr gwell, mwy cyffrous lle gall pawb ffynnu.

 

Liam Kane

English

 

I want to ban AI generated content from being used in student union and Cardiff uni advertising. It's ugly and I hate it.

 

Cymraeg

 

Rydw i am wahardd cynnwys AI rhag cael ei ddefnyddio yn hysbysebu’r Undeb Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n hyll ac rwy’n ei gasáu.

 

Muhammad Farooqui

English

 

Hello, my name is Muhammad Farooqui, and I’m a first-year Integrated Engineering student. I’m running for the Student Senate because I want to ensure that every student’s voice is heard and considered in decisions that affect us all. I believe that fostering a community where everyone, regardless of background or opinion, can contribute is vital for making positive changes. My aim is to create a space where students can engage in meaningful discussions, voice their concerns, and collaborate to shape the future of our university experience. Additionally, I am passionate about organizing events and activities that bring people together, whether through outdoor activities or social gatherings, to build lasting connections and enhance our sense of community. By electing me, you are choosing a candidate who values collaboration, inclusivity, and the power of student voices to create real change.

 

Cymraeg

 

Shwmae, fy enw i yw Muhammad Farooqui, ac rydw i’n fyfyriwr Peirianneg Integredig yn fy mlwyddyn gyntaf. Rydw i’n sefyll ar gyfer Senedd y Myfyrwyr oherwydd rydw i am sicrhau fod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed a’i ystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bob un ohonom. Rwy’n credu bod magu cymuned lle gall pawb, dim ots beth yw eu cefndir neu syniadau, cyfrannu yn hanfodol er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol. Fy nod yw creu lle i fyfyrwyr ymgysylltu mewn trafodaethau ystyrlon, lleisio eu pryderon, a chydweithio i lunio dyfodol ein profiad prifysgol. Yn ogystal, rydw i’n angerddol am drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â phobl ynghyd, boed trwy weithgareddau tu allan neu ddigwyddiadau cymdeithasol, er mwyn adeiladu cysylltiadau hirdymor a thyfu ein synnwyr o gymuned. Trwy fy ethol, rydych yn dewis ymgeisydd sy’n gwerthfawrogi cydweithio, cynwysoldeb, a phŵer lleisiau myfyrwyr i greu gwir newid.

 

Nathan Mintz

English

 

Hi everyone! My name is Nathan Mintz and I am a third year Politics student from the United States. I’m running for the position of student senator because I am dedicated to improving student support and ensuring that the Students Union holds itself and the University to account on its promises. I have previously been the International Students Officer in which I represented the international community of Cardiff University. I am proud of the work I did especially in community building, which events such as the Big International Barbecue in which we gave out 150+ free meals. I have also been elected a student senator from the Spring of 2023 to the Fall of 2024. I hope that you will reelect me to this position and trust me to represent student values further within the Union.

 

Cymraeg

 

Shwmae bawb! Fy enw i yw Nathan Mintz ac rwy'n fyfyriwr Gwleidyddiaeth yn fy nhrydedd flwyddyn o'r Unol Daleithiau. Rwy'n sefyll am y rôl o seneddwr myfyrwyr oherwydd fy mod wedi ymrwymo i wella cymorth i fyfyrwyr a sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn dwyn ei hun a'r Brifysgol i gyfrif am eu haddewidion. Roeddwn yn Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol yn flaenorol lle bûm yn cynrychioli cymuned ryngwladol Prifysgol Caerdydd. Rwy'n falch o'r gwaith a wnes i, yn arbennig ym maes adeiladu cymunedol, gan gynnal digwyddiadau fel y Barbeciw Rhyngwladol Mawr lle gwnaethom ddosbarthu 150+ o brydau am ddim. Rwyf hefyd wedi cael fy ethol yn seneddwr myfyrwyr o Wanwyn 2023 hyd at Hydref 2024. Rwy'n gobeithio y byddwch yn fy ailethol i'r swydd hon ac yn ymddiried ynof i gynrychioli gwerthoedd myfyrwyr ymhellach o fewn yr Undeb.

 

Neema Akala

English

 

My name is Neema Akala. As an international Law (LLB) student, I am running for Student Senate to ensure every student’s voice is heard and their ideas are implemented. The Senate plays a key role in shaping Union policies to reflect our diverse community. I am committed to being your advocate, ensuring the Union is responsive, inclusive, and transparent. Key Commitments: - Collaboration: I will work closely with Sabbatical Officers and other student representatives to ensure policies reflect the interests of all students and promote clear communication from the Union. - Student Engagement: I will make submitting ideas to the Ideas Platform easier and use social media to boost student involvement in policy-making. - Inclusive Representation: I will champion equal representation, especially for international students and minority groups. - Effective Implementation: I will ensure passed policies are implemented, with clear timelines and real outcomes.

 

Cymraeg

 

Fy enw i yw Neema Akala. Fel myfyriwr Cyfraith Ryngwladol (LLB), rydw i’n sefyll ar gyfer Senedd y Myfyrwyr er mwyn sicrhau bod lleisiau pob myfyriwr yn cael eu clywed, a’u syniadau’n cael eu gweithredu. Mae’r senedd yn chwarae rôl allweddol wrth lunio polisïau’r Undeb er mwyn cynrychioli ein cymuned amrywiol. Rydw i wedi ymroi i fod yn llefarydd ar eich rhan, gan sicrhau bod yr Undeb atebol, cynhwysol, a’n dryloyw. Ymrwymiadau Allweddol: - Cydweithio: Byddaf yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Sabothol a chynrychiolwyr myfyrwyr eraill i sicrhau bod polisïau’n adlewyrchu diddordebau myfyrwyr ac yn hyrwyddo cyfathrebu clir gan yr Undeb. – Ymgysylltiad Myfyrwyr: Byddaf yn gwneud cyflwyno syniadau i’r Platfform Syniadau yn haws ac yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cyfranogiad myfyrwyr wrth lunio polisi. – Cynrychiolaeth Gynhwysol: Byddaf yn hyrwyddo cynrychiolaeth gyfartal yn enwedig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a grwpiau lleiafrifol. – Gweithredu Effeithiol: Byddaf yn sicrhau bod polisïau sy’n cael eu pasio yn cael eu gweithredu, gyda llinellau amser clir a chanlyniadau gweledol.

 

Ruby Llewelyn

English

 

Hi! My name is Ruby, I'm a first year Politics and Journalism student from South Wales. I have a keen interest in community outreach, sustainability and youth politics. I am a passionate creative, and love to sing! In my former role as Student Governor at Bridgend College, I advocated for student needs and contributed to plans for a new town centre campus. Currently, I’m part of the Welsh Government’s "Future Generations Act" leadership academy, where I’ve deepened my understanding of Wales’ sustainability efforts and forward thinking decision making. If elected to the Senate, I will bring my experience as a strong advocate and active listener to represent your needs. I'm approachable, thoughtful, and always ready to act on issues that matter to you. I do genuinely care and believe in finding balanced, practical solutions, but I won’t hesitate to speak up when change is needed. I hope to continue to build and contribute to a campus community of good vibes and positive experiences.

 

Cymraeg

 

Shwmae! Fy enw i yw Ruby, rwy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf Gwleidyddiaeth a Newyddiaduraeth o Dde Cymru. Mae gen i ddiddordeb brwd mewn allgymorth cymunedol, cynaliadwyedd, a gwleidyddiaeth ieuenctid. Dwi'n berson creadigol ac wrth fy modd â chanu! Yn fy rôl flaenorol fel Llywodraethwr Myfyrwyr yng Ngholeg Pen-y-bont, eiriolais dros anghenion myfyrwyr a chyfrannais at gynlluniau ar gyfer campws canol tref newydd. Ar hyn o bryd, rwy'n rhan o academi arweinyddiaeth "Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol" Llywodraeth Cymru, lle rwyf wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o ymdrechion cynaliadwyedd Cymru a gwneud penderfyniadau blaengar. Os caf fy ethol i'r Senedd, byddaf yn defnyddio fy mhrofiad fel eiriolwr cryf a gwrandäwr gweithredol i gynrychioli eich anghenion. Rwy'n gyfeillgar, yn feddylgar, a bob amser yn barod i weithredu ar faterion sy'n bwysig i chi. Rwy'n wirioneddol yn becso am, ac yn credu mewn, dod o hyd i ddatrysiadau cytbwys ac ymarferol, ond ni fyddaf yn oedi i godi llais pan fydd angen newid. Rwy'n gobeithio parhau i adeiladu a chyfrannu at y naws dda a’r profiadau cadarnhaol sy’n bodoli yng nghymuned y campws.

 

Ryan Daniel Tumusiime

English

 

Having spoken to members of the student union, and read up the various roles online, I came to the conclusion that my skillset is best fit towards the student senate. To begin with, I consider myself one to enjoy stewardship -- providing support to larger groups -- which is critical for a member of the student senate. I discovered this passion through the various community outreach and internal awareness programs I participated, planned, and eventually led in my final years of high school. (Most were required as a student doing the ib curriculum) It was through these numerous projects I learned the essence of collaboration and the impact a united group of students can have in an institution. Hence, I'm nominating myself to serve the students in Cardiff Uni. Policies can and should come from any and all students, and we, as the student senate, are here to push them through, all the way to completion. Vote Ryan Daniel Tumusiime. It's your voice, so make the right choice.

 

Cymraeg

 

Ar ôl siarad ag aelodau o Undeb y Myfyrwyr, a darllen y gwahanol rolau ar-lein, des i i'r casgliad bod fy set sgiliau yn gweddu orau i Senedd y Myfyrwyr. I ddechrau, rwy'n ystyried fy hun yn un sy’n mwynhau stiwardiaeth - gan ddarparu cefnogaeth i grwpiau mwy - sy'n hanfodol ar gyfer aelod o Senedd y Myfyrwyr. Darganfyddais yr angerdd hwn trwy'r amrywiol raglenni allgymorth cymunedol ac ymwybyddiaeth fewnol gwnes i gymryd rhan ynddynt, eu cynllunio, a’u harwain yn ystod fy mlynyddoedd olaf yn yr ysgol uwchradd. (Roedd y rhan fwyaf yn angenrheidiol fel myfyriwr yn gwneud y cwricwlwm ib). Trwy'r prosiectau niferus hyn dysgais hanfod cydweithredu a'r effaith y gall grŵp unedig o fyfyrwyr ei gael mewn sefydliad. Felly, rwy'n enwebu fy hun i wasanaethu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gall, a dylai, polisïau ddod gan unrhyw a phob myfyriwr, ac rydym ni, fel Senedd y Myfyrwyr, yma i'w clywed, eu gweithredu a’u cwblhau. Pleidleisiwch dros Ryan Daniel Tumusime. Eich llais chi yw hyn, felly gwnewch y dewis cywir.

 

Sahsshwathan Segaran

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Sam Curtis

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Samuel Edmead

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Shivang Gupta

English

 

I will bring fresh ideas and a willingness to think outside of the box to improve our campus experience. I’m dedicated to implementing creative solutions to our challenges. Being an architectural student I am learning to cater the problems faced by the students and I am also learning how to resolve them in a more pleasing manner. I believe in fostering an inclusive environment where everyone feels valued and respected. I will strive to promote diversity in all aspects of student life. During my undergraduate internship, I got many projects of institutional social spaces for the students of the university, for which I have gone through issues faced by the students due to lack of resources and flaws in the rules and regulations of the university. I would use my experience to solve them. Vote for me, and together we can make a positive impact on our campus!

 

Cymraeg

 

Byddaf yn dod â syniadau ffres a pharodrwydd i feddwl tu allan i’r bocs er mwyn gwella ein profiad campws. Rydw i wedi ymrwymo i weithredu datrysiadau creadigol ar gyfer ein heriau. Fel myfyriwr pensaernïol rydw i’n dysgu sut i fynd i’r afael â phroblemau wedi’u hwynebu gan fyfyrwyr, ac rydw i hefyd yn dysgu sut i’w datrys mewn modd effeithlon. Rwy’n credu mewn mabwysiadu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo wedi’u gwerthfawrogi a’u parchu. Byddaf yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth o fewn pob agwedd o fywyd myfyrwyr. Yn ystod fy interniaeth israddedig, gweithiais ar sawl prosiect yn ymwneud ag ardaloedd cymdeithasol sefydliadol ar gyfer myfyrwyr y brifysgol, gan fynd i’r afael â phroblemau sy’n wynebu myfyrwyr o ganlyniad i ddiffyg adnoddau a gwallau o fewn rheolau a rheoliadau’r brifysgol. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad i’w datrys. Pleidleisiwch drosof i, a gyda’n gilydd gallwn gael effaith cadarnhaol ar ein campws!

 

Tomos Stokes

English

 

Hi I’m Tomos, a postgraduate student in JOMEC studying Political Communication. As an elected student senator, I would seek to improve living standards in student accommodation, especially private accommodation, and improve public transport for the student demographic. My own experience as a commuting student has shown that our public transport is too unreliable, with buses often late and cancelled. To fix this, I would encourage the SU to tap into Cardiff Council’s unique lobbying mechanism, the APCG system. I believe the SU should use this to set up a dedicated group of councillors to act as our voice and push the council to make changes that will improve student quality of life in general. I’m detail-oriented and pledge to dedicate my efforts into scrutinising everything put before me for the benefit of ALL students.

 

Cymraeg

 

Helo Tomos ydw i, myfyriwr ôl-raddedig yn JOMEC sy'n astudio Cyfathrebu Gwleidyddol. Fel seneddwr myfyrwyr etholedig, byddwn yn ceisio gwella safonau byw mewn llety myfyrwyr, yn enwedig llety preifat, a gwella trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer myfyrwyr. Mae fy mhrofiad personol fel myfyriwr sy’n cymudo wedi dangos bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn rhy annibynadwy, gyda bysiau'n aml yn hwyr ac wedi'u canslo. I drwsio hyn, byddwn yn annog yr UM i fanteisio ar fecanwaith lobïo unigryw Cyngor Caerdydd, sef system APCG. Rwy'n credu y dylai'r UM ddefnyddio hyn i sefydlu grŵp ymroddedig o gynghorwyr i weithredu ar ein rhan a gwthio'r cyngor i wneud newidiadau a fydd yn gwella ansawdd bywyd myfyrwyr yn gyffredinol. Rwy'n fanwl ac yn drylwyr, ac rwy’n addo ymroi i graffu ar bopeth a roddwyd ger fy mron er budd POB myfyriwr.

 

Victoria Perolari

English

 

Hi! I'm Victoria, a first year business management and Spanish student! I'm nominating myself for student senate as I have a passion for politics, and a wish to positively, actively and concretely contribute towards developing our Student Union and University. I promise to always vote for policies that will make a concrete difference, let it be minor or major, and to oppose those which do not. I studied the International Baccalaureate at college with Global Politics at higher level, which has allowed me to develop an open mindedness and an ability to critically analyse most problems I encounter. Other than academics I enjoy reading and painting, with my favourite medium being watercolours! I hope to be one of your next senators, thank you for your time and for reading!

 

Cymraeg

 

Shwmae! Victoria ydw i, myfyriwr rheoli busnes a Sbaeneg yn fy mlwyddyn gyntaf! Rydw i’n enwebu fy hun ar gyfer senedd y myfyrwyr gan fod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a chyfrannu’n weithredol ac yn weledol tuag at ddatblygu ein Hundeb Myfyrwyr a Phrifysgol. Rydw i’n addo pleidleisio dros bolisïau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, boed yn fawr neu’n fach, ac i wrthwynebu’r rheiny na fydd yn arwain at newid cadarnhaol. Astudiais y Fagloriaeth Ryngwladol yng ngoleg gyda Gwleidyddiaeth Fyd-eang ar lefel uwch, sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu meddylfryd agored a gallu i ddadansoddi problemau’n feirniadol. Tu hwnt i academia rydw i’n mwynhau darllen a phaentio, yn enwedig gyda dyfrlliwiau! Gobeithiaf byddaf yn un o’ch seneddwyr nesaf, diolch am eich amser ac am ddarllen!

 

Yaseen Rehman

English

 

As a former Student Senator, I am eager to build upon the changes and ideas I’ve championed in the past and work towards meaningful improvements in Students' Union policies. If elected, I plan to be more actively involved in advocating for student needs and collaborating with my peers to bring about the changes we all wish to see. I am also committed to deepening my understanding of the policy-making process, ensuring that our collective voice is well-represented and impactful!

 

Cymraeg

 

Fel Seneddwr Myfyrwyr blaenorol, rydw i’n awyddus i adeiladu ar y newidiadau a syniadau rydw i wedi’u hyrwyddo yn y gorffennol a gweithio tuag at welliannau ystyrlon o fewn polisïau’r Undeb Myfyrwyr. Os caf fy ethol, rydw i’n golygu chwarae rhan weithredol wrth eirioli dros anghenion myfyrwyr a chydweithio gyda fy nghyfoedion i ddod â’r newidiadau hoffwn i gyd eu gweld. Rydw i wedi ymrwymo i ddyfnhau fy nealltwriaeth o’r broses gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod ein llais wedi’i gynrychioli’n dda a’i fod yn cael effaith!

 

Yushuo Bi

English

 

So basically the reason that I want to be student senate is that I want to help others. So if I have chance to be student senate I will try my best to help others solve problems and make solutions that could avoid those problems.Also if there are any rules that make us do not feel comfortable I will see if I can improve or change those rules which are not really suitable to improve our collage life

 

Cymraeg

 

Yn y bôn, y rheswm pam rydw i eisiau bod yn seneddwr myfyrwyr yw oherwydd fy mod i eisiau helpu eraill. Felly, os caf gyfle i fod yn seneddwr myfyrwyr byddaf yn gwneud fy ngorau i helpu eraill i ddatrys problemau a dod o hyd i ddatrysiadau er mwyn osgoi'r problemau hynny. Hefyd os oes unrhyw reolau sy'n gwneud i ni deimlo'n anghyfforddus, byddaf yn gweld a allaf wella neu newid y rheolau hynny nad sy’n addas i wella ein bywyd coleg.

 

Zena Al-Essawi

English

 

I’m Zena, a 3rd year medical student, and I’m running for Student Senate in hopes of creating a more diverse, empowering university experience. Given the recent difficulties locally and around the world, I feel it's a duty for each individual to undergo self-discovery, growth, and achievement, and I believe everyone should have the opportunity to thrive here. I want everyone to acknowledge that they are the change they'd like to see. My vision is to make Cardiff a more tight-knit community, where support is available for every student, regardless of their background or challenges. I've worked in many teams before, and appreciate the effort and time that goes into creating such changes. However, I'm determined to make Cardiff Uni a better environment for us all.

 

Cymraeg

 

Zena ydw i, myfyriwr meddygol 3ydd flwyddyn, ac rydw i’n sefyll ar gyfer Senedd y Myfyrwyr gyda’r gobaith o greu profiad prifysgol mwy amrywiol sy’n grymuso myfyrwyr. Gan ystyried problemau lleol a rhyngwladol presennol, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio tyfu fel pobl a llwyddo, a chredaf y dylai pawb cael y cyfle i ffynnu yma. Rydw i am i bawb gydnabod taw nhw yw’r newid hoffent weld. Fy ngweledigaeth ar gyfer Caerdydd yw cymuned agosach, lle mae cefnogaeth ar gael i bob myfyriwr, dim ots beth yw eu cefndir neu’r heriau maent yn eu hwynebu. Rydw i wedi gweithio mewn sawl tîm o’r blaen, ac rwy’n gwerthfawrogi’r ymdrech ac amser mae’n ei gymryd i gyflawni newid. Ond, rydw i’n benderfynol o wneud Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd gwell ar gyfer pob un ohonom.

 

Zohaib Tahir

English

 

Cardiff Uni SU Student Senate Re-election Manifesto: Zohaib Tahir As a dedicated candidate for re-election as your Student Senator, I bring two years of experience advocating for student voices and driving positive change at Cardiff Uni, both in the senate and out of it. My journey has been shaped by my active leadership in various uni societies, where I honed my collaborative skills. I am passionate about enhancing the student experience by prioritising mental health resources, increasing accessibility to academic support, and promoting diversity and inclusion across our campus. If re-elected, I will work tirelessly to ensure student's voices are heard, fostering an open and fair culture. I aim to strengthen communication between students elected officials, and administration, ensuring concerns are addressed promptly. Together, we’ll create a supportive environment where students thrive. Your vote isn’t just for me; it’s a vote for a more inclusive and empowered Cardiff Uni.

 

Cymraeg

 

Maniffesto Ailethol Senedd y Myfyrwyr UM Prifysgol Caerdydd: Zohaib Tahir Fel ymgeisydd ymroddedig ar gyfer ailethol fel eich Seneddwr Myfyrwyr, rydw i’n dod â dwy flynedd o eirioli ar ran myfyrwyr a gyrru newid positif ym Mhrifysgol Caerdydd, trwy’r senedd a thu allan iddi hefyd. Mae fy siwrnai wedi’i llunio gan fy rolau arweiniol amrywiol o fewn cymdeithasau’r brifysgol, lle rydw i wedi datblygu fy sgiliau cydweithio. Rydw i’n angerddol am wella profiadau myfyrwyr trwy flaenoriaethu adnoddau iechyd meddwl, cynyddu hygyrchedd cymorth academaidd, a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y campws. Os caf fy ailethol, byddaf yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed, a magu diwylliant agored a theg. Fy nod yw cryfhau’r cyfathrebu rhwng swyddogion etholedig, a gweinyddiaeth, gan sicrhau fod materion yn cael eu delio ag yn brydlon. Gyda’n gilydd, byddwn yn creu amgylchedd cefnogol lle mae myfyrwyr yn ffynnu. Nid ydych yn pleidleisio drosof i yn unig; byddwch yn pleidleisio dros Brifysgol Caerdydd mwy cynhwysol a chryf.

 

 

 

SU Presidents' Executive CommitteePwyllgor Gweithredol Llywydd yr UM

 

Ali Qureshi

English

 

Vote Ali Qureshi for SU President’s Executive Committee Experience Experience in the Islamic Society’s committee, elected as ‘Head of Education’ last year and now ‘President’ this year. Giving me a unique understanding of the experiences and perspectives of ethnic and religious minorities. This allowed me to work closely with the SU, including multiple motions in AGM last year. I work closely with the university to improve student welfare and mental health on campus. My experience on committee and in Model United Nations in college has honed my managerial, communication, and collaboration skills. Goals I will empower students by establishing a robust and autonomous executive. I will champion diversity by organizing regular meetings between the SU President and marginalized student groups. I will advocate for enhanced student welfare support, including quiet spaces and additional funding. My goal is to be approachable, ensuring your voice is heard and the SU President works for you.

 

Cymraeg

 

Pleidleisiwch Ali Qureshi ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Llywydd yr UM Profiad Profiad ar bwyllgor y Gymdeithas Islamaidd, wedi fy ethol fel ‘Pennaeth Addysg’ y llynedd, a nawr ‘Llywydd’ eleni. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth unigryw i mi o brofiadau a safbwyntiau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i weithio’n agos gyda’r UM, gan gynnwys sawl cynnig yn yr CCB y llynedd. Rydw i’n gweithio’n agos gyda’r brifysgol i wella lles ac iechyd meddyliol myfyrwyr ar y campws. Mae fy mhrofiad ar y pwyllgor ac fel rhan o’r Model Cenhedloedd Unedig tra yn y coleg wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau rheoli, cyfathrebu a chydweithio. Amcanion Byddaf yn grymuso myfyrwyr i sefydlu pwyllgor gweithredol cadarn ac ymreolaethol. Byddaf yn hyrwyddo amrywiaeth trwy drefnu cyfarfodydd cyson rhwng Llywydd yr UM a grwpiau myfyrwyr a ymyleiddiwyd. Byddaf yn eirioli dros well cefnogaeth lles ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys ardaloedd tawel a chyllid ychwanegol. Fy nod yw bod yn gyfeillgar ac yn hygyrch, gan sicrhau fod eich llais yn cael ei glywed a bod Llywydd yr UM yn gweithio i chi.

 

Ibrahim Ahmad

English

 

Vote Ibrahim Ahmad for SU President's Executive Committee. Experience: • School Council & Prefect Team: My background in school administration has given me the ability to function well in sizable, well-structured settings. • Member of Society Committee - Serving on the committee of a sizable society such as ISOC has given me invaluable experience in collaboration and administration. Goals: • Accountability -I intend to ensure that the SU President is held responsible for any unmet expectations or lack of progress. • Approachability - I also pledge to be approachable and receptive , making sure that the President is informed of the demands and recommendations made by students. • Tackling Racism- My goal is to combat racism by encouraging and facilitating communication and making sure that marginalised communities have a powerful voice that can successfully reach the SU president .

 

Cymraeg

 

Pleidleisiwch Ibrahim Ahmad ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Llywydd yr UM. Profiad: • Cyngor Ysgol a Thîm Swyddogion: Mae fy nghefndir mewn gweinyddiaeth ysgol wedi rhoi’r gallu i mi i weithredu’n dda mewn sefydliadau sylweddol, strwythuredig. • Aelod o Bwyllgor Cymdeithas – Mae gwasanaethu ar bwyllgor cymdeithas sylweddol megis yr ISOC wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi o gydweithio a gweinyddiaeth. Amcanion: • Atebolrwydd – Rydw i’n bwriadu sicrhau fod Llywydd yr UM yn atebol i unrhyw ddisgwyliadau nad sy’n cael eu cwrdd neu ddiffyg cynnydd. • Hawdd siarad â – Byddaf hefyd yn ymrwymo i fod yn hygyrch a’n barod i wrando, gan wneud yn siŵr fod y Llywydd yn ymwybodol o ofynion ac argymhellion myfyrwyr. • Mynd i’r afael â hiliaeth – Fy nod yw mynd i’r afael â hiliaeth trwy annog a hwyluso cyfathrebu, a gwneud yn siŵr fod gan gymunedau wedi’u hymyleiddio llais pwerus gall gyrraedd llywydd yr UM.

 

Joseph Tallamy

English

 

Hi Everyone! I’m Joe, and I would love to be part of the President’s Executive Committee this year! I’m a very active member of the SU, holding many committee and sub-committee positions, alongside being a Student Rep, a member of the Societies Exec last year, and the SU’s LGBTQ+ Officer. I would be a helpful voice on the committee, as I have a lot of experience within the SU, and I am a part of many societies, meaning I can act as a good bridge between a large cohort of students and the SU President. Within this role, I would love to be able to effectively communicate my ideas to the committee, such as using my publicity and outreach experience to help reach a greater proportion of the student body for advertising events and facilities! Thank You for your consideration.

 

Cymraeg

 

Shwmae bawb! Joe ydw i, a charem fod yn rhan o Bwyllgor Gweithredol y Llywydd eleni! Rydw i’n aelod gweithredol iawn o’r UM, gan gyflawni sawl rôl ar bwyllgorau ac is-bwyllgorau, ynghyd â gweithredu fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, aelod o’r Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau y llynedd, a Swyddog LHDTC+ yr UM. Mi fydden i’n llais defnyddiol ar y pwyllgor, gan fod gen i lawer o brofiad o fewn yr UM, ac rydw i’n rhan o sawl cymdeithas, sy’n golygu gallaf weithredu fel pont rhwng grŵp mawr o fyfyrwyr a Llywydd yr UM. O fewn y rôl hon, hoffem gyfathrebu fy syniadau’n effeithiol i’r pwyllgor, megis defnyddio fy mhrofiad cyhoeddusrwydd ac allgymorth i helpu cyrraedd mwy o fyfyrwyr wrth hysbysebu digwyddiadau a chyfleusterau! Diolch am eich ystyriaeth.

 

King Ming Chan

English

 

I would like to help other students that need my help inside the things in university and make my Cardiff journey more interesting and fulfilling

 

Cymraeg

 

Hoffem helpu myfyrwyr eraill sydd angen fy nghymorth o fewn i brifysgol a gwneud fy siwrnai Caerdydd yn fwy diddorol a gwerth chweil.

 

Michelle Williams

English

 

I am super passionate about the Students Union, I love talking to other students about it and giving impromptu tours to whatever family member decides to visit (sorry mum and dad!) I think our students union is such a beautiful and safe space for students and I really want to give back and ensure it remains a continued success!

 

Cymraeg

 

Rydw i’n hynod angerddol dros yr Undeb Myfyrwyr, yn caru siarad gyda myfyrwyr eraill amdano, a rhoi teithiau i unrhyw deulu sy’n dewis ymweld (sori mam a dad!) Rwy’n credu bod ein undeb myfyrwyr yn le mor prydferth a diogel ar gyfer myfyrwyr, ac rydw i am rhoi’n ôl a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn lwyddiant!

 

Navneet Vallampati

English

 

I'm experienced in being a part of a student union, and have helped set up one before. My aim is to keep things running the way they have been, and my motto is - "If it ain't broke, don't fix it"

 

Cymraeg

 

Mae gen i brofiad o fod yn rhan o undeb myfyrwyr, ac rydw i wedi helpu sefydlu un o’r blaen. Fy nod yw cadw pethau i redeg fel maent wedi bod yn ei wneud, a fy moto yw – “Os nad yw wedi’i dorri, peidiwch â’i drwsio”

 

Ridah Rahman

English

 

Experience: - Being on the executive committee for Cardiff University Islamic Society for the second year, has given me a deep understanding into the needs of Muslim students on campus. - I have developed working relationships with numerous external organisations so will be able to communicate effectively with external stakeholders. - I regularly volunteer with several local charities- including young people, so I will be able to communicate effectively with students. Clear Goals: 1. I have a friendly and approachable manner so you will be able to contact me easily if you have any concerns. 2. I will represent female Muslim students on campus ensuring your views are heard. 3. I will continue campaigning for more prayer rooms in accessible places across both Heath and Cathays campus, as well as more halal food options.

 

Cymraeg

 

Profiad: - Mae bod ar bwyllgor gweithredol Cymdeithas Islamaidd Prifysgol Caerdydd am yr ail flwyddyn, wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o anghenion myfyrwyr Mwslimaidd ar y campws. - Rydw i wedi datblygu perthynas waith gyda sawl sefydliad allanol felly byddaf yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol. - Rydw i’n gwirfoddoli’n rheolaidd gyda sawl elusen leol – gan gynnwys pobl ifanc, felly byddaf yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda myfyrwyr. Amcanion Clir: 1. Mae gen i bersonoliaeth gyfeillgar a hygyrch felly byddwch yn gallu cysylltu â mi’n rhwydd os oes gennych unrhyw bryderon. 2. Byddaf yn cynrychioli myfyrwyr Mwslimaidd benywaidd ar y campws gan sicrhau bod eich safbwyntiau’n cael eu clywed. 3. Byddaf yn parhau i ymgyrchu ar gyfer mwy o ystafelloedd gweddïo mewn llefydd hygyrch ar draws campws Parc y Mynydd Bychan a Cathays, ynghyd â mwy o opsiynau bwyd halal.

 

Samhita Murarka

English

 

Let’s Build an SU That Works for YOU! I’m running for the SU President’s Executive Committee to turn your ideas into action and ensure every student’s voice is heard. Having served as a student committee leader in school and secretary of the art society at university, I’ve gained the ability to listen carefully and transform ideas into action. My goal? To make our SU more inclusive, dynamic, and fun. I’m here to support exciting events, push for policies that matter, and make sure our union reflects your interests. Whether it’s creating unforgettable experiences or championing real change, I’ll work to make the SU a place where everyone feels connected and inspired. Vote for Samhita —let’s create a stronger, more vibrant SU, together!

 

Cymraeg

 

Gadewch i Ni Adeiladu UM sy’n Gweithio i CHI! Rydw i’n sefyll ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Llywydd yr UM er mwyn gweithredu eich syniadau a sicrhau fod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Rydw i wedi bod yn arweinydd pwyllgor myfyrwyr yn yr ysgol ac yn ysgrifennydd y gymdeithas gelf yn y brifysgol, gan ddatblygu’r gallu i wrando’n astud a thrawsnewid eich syniadau i mewn i weithredoedd. Fy nod? Gwneud yr UM yn fwy cynhwysol, dynamig, a hwyl. Rydw i yma i gefnogi digwyddiadau cyffrous, gwthio am bolisïau pwysig, a gwneud yn siŵr fod ein hundeb yn adlewyrchu eich diddordebau. Boed trwy greu profiadau bythgofiadwy i hyrwyddo newid gwirioneddol, byddaf yn gweithio i wneud yr UM yn le lle mae pawb yn teimlo wedi’u clywed a’u hysbrydoli. Pleidleisiwch dros Samhita — gadewch i ni greu UM cryfach, mwy bywiog, gyda’n gilydd!

 

Zena Al-Essawi

English

 

I’m applying for a position on the President’s Executive Committee as I’m driven to make meaningful impacts in the Cardiff Uni community. 1. Having previously worked closely with the President, I understand the commitment and vision required to lead with purpose 2. ⁠I have a clear understanding of what it takes to achieve our goals As a medical student, who’s involved in various outreach programmes and part of many volunteering groups, I aim to: 1. Take small steps in hopes of creating a big, positive change in society 2. ⁠Use my resilience, empathy and problem solving in challenging environments 3. ⁠Approach complex situations with compassion and innovative thinking 4. ⁠Work closely in a team that facilitates welfare and self-development for students of Cardiff Uni

 

Cymraeg

 

Rwy’n ymgeisio ar gyfer Pwyllgor Gweithredol y Llywydd gan fy mod yn frwdfrydig dros gael effaith ystyrlon ar gymuned Prifysgol Caerdydd. 1. Wedi gweithio’n agos gyda’r Llywydd o’r blaen, rydw i’n deall yr ymrwymiad a gweledigaeth sydd eu hangen i arwain gyda phwrpas. 2. Mae gen i ddealltwriaeth glir o beth mae’n ei gymryd i gyflawni ein hamcanion Fel myfyriwr meddygol, sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth amrywiol, ac sy’n rhan o sawl grŵp gwirfoddoli, fy nod yw: 1. Cymryd camau bach gyda’r nod o greu effaith fawr, gadarnhaol ar gymdeithas 2. Defnyddio fy ngwydnwch, empathi, a sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau heriol 3. Mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth gyda thosturi ac arloesedd 4. Gweithio’n agos mewn tîm sy’n hwyluso lles a hunan-ddatblygiad ar gyfer myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

 

Zohiab Tahir

English

 

Vote Zohaib Tahir for SU President’s Executive Committee: Experience: As last year’s SU President’s Accountability Council Chair, gaining insight into the SU President's role and ensured smooth executive operations. I've served two years on Student Senate, giving me a unique understanding of both Executives and Senate, which work hand in hand. I’ve been on various society committees, gaining administrative management experience. I work closely with university to improve student mental health and welfare. My work with Cardiff Youth Council involved advocating for young people and further honed my administrative skills. Clear Goals: I will ensure power remains with students by fostering a strong, independent executive. I aim to be approachable, ensuring you have a voice and the SU Pres works for you. I will campaign for increased student welfare support, including quiet spaces and funding. I will promote diversity by facilitating regular sessions between the SU Pres and marginalised student groups.

 

Cymraeg

 

Pleidleisiwch Zohaib Tahir ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Llywydd yr UM: Profiad: Fel Cadeirydd Pwyllgor Atebolrwydd Llywydd yr UM y llynedd, gwnes i ennill mewnwelediad i rôl Llywydd yr UM a sicrhau fod y pwyllgor yn gweithredu’n effeithlon. Rydw i wedi bod ar Senedd y Myfyrwyr am ddwy flynedd, gan roi dealltwriaeth unigryw i mi o’r Pwyllgor Gweithredol a’r Senedd sy’n gweithio llaw yn llaw. Rydw i wedi bod ar bwyllgor sawl cymdeithas, gan ennill profiad o reolaeth weinyddol. Rydw i’n gweithio’n agos gyda’r brifysgol i wella iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Mae fy ngwaith gyda Chyngor Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys eirioli dros bobl ifanc ac mae wedi helpu pellach datblygu fy sgiliau gweinyddol. Amcanion Clir: Byddaf yn sicrhau fod pŵer yn aros gyda myfyrwyr trwy fabwysiadu pwyllgor cryf ac annibynnol. Rydw i’n bwriadu fod yn hawdd siarad â, gan sicrhau fod gennych lais a bod Llywydd yr UM yn gweithio i chi. Byddaf yn ymgyrchu ar gyfer mwy o gefnogaeth les ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys ardaloedd tawel a chyllid. Byddaf yn hyrwyddo amrywiaeth trwy hwyluso sesiynau rheolaidd rhwng Llywydd yr UM a grwpiau myfyrwyr sydd wedi’u hymyleiddio.

 

Ayda Bashardoost Esmaeili

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Ayushmaan Singh

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Jake Enea

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Yousaf Bostan

English

 

My Experience: For the second consecutive year, I am serving as General Secretary on the ISOC committee. In this role, I have collaborated with various committee members to ensure the smooth operation of administrative tasks and have gained valuable insights into addressing student concerns. I work closely with the Student Union to promote student well-being, book venues, and coordinate events. My Vision for the President's Executive Committee: I aim to be approachable, ensuring that every student has a voice and that the SU President actively represents your interests. I am committed to empowering students by fostering a strong, autonomous executive team that keeps power in the hands of the student body.

 

Cymraeg

 

Fy Mhrofiad: Am yr ail flwyddyn yn olynol, rydw i’n Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer y pwyllgor ISOC. Yn y rôl hon, rydw i wedi gweithio gydag aelodau pwyllgor amrywiol i sicrhau fod tasgau gweinyddol yn cael eu cwblhau’n effeithlon, ac rydw i wedi ennill mewnwelediad gwerthfawr i bryderon myfyrwyr. Rydw i’n gweithio’n agos gyda’r Undeb Myfyrwyr i hyrwyddo lles myfyrwyr, archebu lleoliadau, a chydlynu digwyddiadau. Fy Ngweledigaeth ar gyfer Pwyllgor Gweithredol y Llywydd: Fy nod yw bod yn gyfeillgar a’n hygyrch ar gyfer myfyrwyr, gan sicrhau bod gan bob myfyriwr llais, a bod Llywydd yr UM yn cynrychioli eich diddordebau. Rydw i wedi ymrwymo i rymuso myfyrwyr trwy fagu tîm gweithredol cryf ac ymreolaethol sy’n cadw pŵer o fewn y gymuned myfyrwyr.

 

 

 

Athletic Union Executive Committee Pwyllgor Gweithredol yr Undeb Athletau

 

Imy Whitehead

English

 

Hi, I'm Imy and I have been a part of the Athletic Union for 4 years, and the Equestrian Club's committee for 2 years, acting as social secretary last year and President this year. Although I have only worked with Georgia for the lead-up to this year, she has been invaluable and a massive help to the changes of Equestrian, supporting us throughout the process alongside our club contact Ffion. Therefore, I would love the opportunity to work closer with her on supporting AU decisions throughout the year. As a member of a smaller AU club, I know how important representation is, and I would love to help bring the voices of all AU clubs, big or small, to promote positive changes to benefit all. I am very passionate about my role as president and would love to contribute as much as possible this year.

 

Cymraeg

 

Shwmae, Imy ydw i ac rydw i wedi bod yn rhan o'r Undeb Athletau ers 4 blynedd, ac ar bwyllgor y Clwb Marchogaeth ers 2 flynedd, gan weithredu fel ysgrifennydd cymdeithasol y llynedd ac fel y Llywydd eleni. Er mai dim ond eleni yr wyf wedi gweithio gyda Georgia, mae hi wedi bod yn gymorth amhrisiadwy ac yn help enfawr i newidiadau yn y Clwb Marchogaeth, gan ein cefnogi drwy gydol y broses ochr yn ochr â'n cyswllt clwb, Ffion. Felly, byddwn wrth fy modd â'r cyfle i weithio'n agosach gyda hi ar gefnogi penderfyniadau’r UA drwy gydol y flwyddyn. Fel aelod o glwb UA llai, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cynrychiolaeth, a byddwn wrth fy modd yn helpu i ddod â lleisiau pob clwb UA, mawr neu fach, er mwyn hyrwyddo newidiadau cadarnhaol er budd pawb. Rwy'n angerddol iawn am fy rôl fel llywydd a byddwn wrth fy modd yn cyfrannu cymaint â phosibl eleni.

 

Neema Akala

English

 

My name is Neema Akala, I am studying Law (LLB). As a dedicated member of our Students’ Union, I am committed to creating an inclusive space where every student has a voice and the opportunity to impact our work. I aim to ensure that all members feel empowered to participate and actively shape the initiatives and policies we develop. My specific aims are: - Encouraging greater student involvement in shaping policy and activities by working closely with the AU Executive Committee and Sabbatical Officers. - Fostering inclusive outreach ensures that all students feel represented and supported in the union’s activities regardless of background or interests. - Organizing engaging events and activities that reflect the diverse interests of our student body, from sports to creative outlets. - Promoting collaborative decision-making so that every student’s ideas are heard and valued, creating a union built by and for its members.

 

Cymraeg

 

Fy enw i yw Neema Akala, rydw i’n astudio’r Gyfraith (LLB). Fel aelod ymroddedig o’r Undeb Myfyrwyr, rydw i wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae gan bob myfyriwr llais a’r cyfle i effeithio ar ein gwaith. Fy nod yw sicrhau bod pob aelod yn teimlo wedi’u grymuso i gymryd rhan a llunio’r ymgyrchoedd a pholisïau rydym yn eu datblygu. Fy amcanion penodol yw: - Annog mwy o ymgysylltiad gan fyfyrwyr wrth lunio polisïau a gweithgareddau trwy weithio’n agos gyda Phwyllgor Gweithredol yr UA a’r Swyddogion Sabothol. – Mabwysiadu allgymorth cynhwysol sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo wedi’u cynrychioli a’u cefnogi o fewn gweithgareddau’r undeb dim ots beth yw eu cefndir neu ddiddordebau. – Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau diddorol sy’n adlewyrchu diddordebau amrywiol ein myfyrwyr, o chwaraeon i bethau mwy creadigol. – Hyrwyddo gwneud penderfyniadau ar y cyd fel bod syniadau pob myfyrwyr yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, gan greu undeb wedi’i adeiladu ar gyfer ei aelodau.

 

Rhys Hill

English

 

My name is Rhys Hill and I am president of the Rugby League club at Cardiff University. We are one of the newest clubs entering our second season. The reason I am running to be part of the AU executive committee is so I can be a voice for and enhance the experience for small clubs like ours. Whether this is by finding new ways to increase visibility or helping to create new opportunities which allow all athletes at Cardiff to achieve their maximum potential regardless of what sport they do. Being president of a club has provided me with the skills and creativity necessary to find these ideas and work with Georgia and the AU executive committee to deliver them to all clubs here at Cardiff.

 

Cymraeg

 

Fy enw i yw Rhys Hill ac rwy'n llywydd Clwb Rygbi'r Gynghrair Prifysgol Caerdydd. Rydym yn un o'r clybiau mwyaf newydd, gan ddechrau ar ein hail dymor. Y rheswm fy mod i'n rhedeg i fod yn rhan o bwyllgor gweithredol yr UA yw er mwyn i mi allu bod yn llais dros a gwella'r profiad i glybiau bach fel ein un ni. P'un ai drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynyddu gwelededd neu helpu i greu cyfleoedd newydd sy'n caniatáu i bob athletwr yng Nghaerdydd gyflawni eu potensial ym mha bynnag chwaraeon y maent yn ei wneud. Mae bod yn llywydd clwb wedi rhoi'r sgiliau a'r creadigrwydd sydd eu hangen arnaf i ddod o hyd i'r syniadau hyn a gweithio gyda Georgia a phwyllgor gweithredol yr UA i'w cyflwyno i bob clwb yma yng Nghaerdydd.

 

 

 

Heath Park Executive Committee Pwyllgor Gweithredol Parc y Mynydd Bychan

 

Annabel Watkin

English

 

Hi, I'm Annabel, a second-year medical student, and I am deeply passionate about enhancing the student experience and promoting wellbeing across our campus. As we all navigate the demands of academic life, I believe that support, community, and wellness should be at the heart of our time at Heath Park. Why I’m Running Studying medicine is an incredibly rewarding but also challenging journey. Throughout my experience, I’ve seen how important it is to have a supportive environment that fosters both academic success and personal wellbeing. I am running for the Heath Park Executive Committee because I want to create positive change, listen to your needs, and be a voice that drives initiatives that make our campus a healthier, happier place.

 

Cymraeg

 

Helo, Annabel ydw i, myfyriwr meddygaeth ail flwyddyn, ac rwy'n teimlo'n angerddol iawn am wella profiad myfyrwyr a hyrwyddo lles ar draws ein campws. Wrth i ni i gyd lywio gofynion bywyd academaidd, credaf y dylai cefnogaeth, cymuned, a lles fod wrth wraidd ein hamser ym Mharc y Mynydd Bychan. Pam ydw i'n sefyll Mae astudio meddygaeth yn daith hynod werth chweil ond hefyd yn heriol. Trwy gydol fy mhrofiad i, rwyf wedi gweld pa mor bwysig yw cael amgylchedd cefnogol sy'n meithrin llwyddiant academaidd a lles personol. Rwy'n sefyll ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Parc y Mynydd Bychan oherwydd fy mod am greu newid cadarnhaol, gwrando ar eich anghenion, a bod yn llais sy'n sbarduno mentrau sy'n gwneud ein campws yn lle iachach a hapusach.

 

Hanifa Ali

English

 

I am excited to apply for Heath Park Executive, determined to make positive changes. As a final-year medical student with four years of experience at Heath, I bring valuable insight and dedication to this role. I'm a strong listener and communicator, ensuring student concerns are effectively conveyed to the board for a smooth query system. My role as a Cardiff Muslim Medic representative for three years has equipped me to support diverse students. Working closely with the Equality, Diversity, and Inclusion team, I’ve helped ensure that all voices are heard. I have a clear vision of improvements needed at Heath Park and am confident in my ability to work collaboratively. As a university ambassador, I’ve supported open days, enriching the experience of prospective students. As Heath Park Executive Officer, my goal is to ensure every student's voice is heard and to foster positive, lasting change for the community.

 

Cymraeg

 

Rydw i’n gyffrous i ymgeisio ar gyfer Pwyllgor Gweithredol y Mynydd Bychan, gan fy mod yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Fel myfyriwr meddygol yn fy mlwyddyn olaf gyda phedwar blynedd o brofiad yn y Mynydd Bychan, gallaf ddod â mewnwelediad ac ymroddiad gwerthfawr i’r rôl hon. Rydw i’n wrandäwr a chyfathrebwr cryf, gan sicrhau bod pryderon myfyrwyr yn cael eu cyfleu’n effeithiol i’r bwrdd. Mae fy rôl fel cynrychiolydd Meddygon Mwslimaidd Caerdydd am dair flwyddyn wedi rhoi’r sgiliau i mi i allu cefnogi myfyrwyr amrywiol. Wrth weithio’n agos gyda’r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant, rydw i wedi helpu sicrhau bod pob llais yn cael eu clywed. Mae gen i weledigaeth glir ar gyfer y gwelliannau sydd eu hangen ym Mharc y Mynydd Bychan, ac rydw i’n hyderus yn fy ngallu i gydweithio. Fel llysgennad prifysgol, rydw i wedi cefnogi ar ddiwrnodau agored, gan gyfoethogi profiad darpar fyfyrwyr. Fel Swyddog Gweithredol Parc y Mynydd Bychan, fy nod yw sicrhau bod lleisiau pob myfyriwr yn cael eu clywed a mabwysiadau newid cadarnhaol, hirdymor ar gyfer y gymuned.

 

Lily Dermott

English

 

As a previous member of the Heath Park Executive committee, I stand to improve Heath students experience of University. As their courses are one of the most intense and work load heavy. I want for there time on campus to be enjoyable. This year I want for Heath to really focus on our students mental health throughout their placements. I know how daunting it can be as a first year to step into the hospital for the first time and feel really out of your depth. Wether your a first or fifth year I want for everyone to feel supported, listened to and their thoughts actioned on. This year I hope for everyone to have a pre-placement and post mental health check in. Whilst also having the opportunity to give their placement feedback instead of just students receiving feedback from the placement. This will ensure that students are being sent to constructive, nurturing placements. This is something I hope to action reflecting on previous years whereby students felt neglected and helpless in some placement locations. I want for Heath this year to be integrated, energetic and full of positive student life as I believe that is the key to a brighter NHS future.

 

Cymraeg

 

Fel cyn-aelod o bwyllgor Gweithredol Parc y Mynydd Bychan, rwy'n sefyll i wella profiad prifysgol myfyrwyr y Mynydd Bychan. Gan fod eu cyrsiau yn rhai dwysaf ac mae’r llwyth gwaith yn drwm, rwyf am i’w hamser ar y campws fod yn hwyl. Eleni, rwyf am i’r Mynydd Bychan ganolbwyntio'n wirioneddol ar iechyd meddwl ein myfyrwyr trwy gydol eu lleoliadau. Rwy'n gwybod pa mor frawychus y gall fod fel myfyriwr blwyddyn gyntaf i gamu i'r ysbyty am y tro cyntaf a theimlo'n wirioneddol allan o'ch dyfnder. P'un a ydych yn eich blwyddyn gyntaf neu'r bumed, hoffwn i bawb deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a’u clywed, a bod eu pryderon yn cael eu gweithredu arnynt. Eleni, rwy’n gobeithio y gall bawb dderbyn check in iechyd meddwl cyn ac ar ôl eu cyfnod ar leoliad, tra hefyd yn cael cyfle i roi adborth ar eu lleoliad yn hytrach na dim ond derbyn adborth personol. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hanfon i leoliadau adeiladol, meithringar. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gobeithio gweithredu arno gan fyfyrio ar flynyddoedd blaenorol lle’r oedd myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso ac yn ddiymadferth mewn rhai lleoliadau. Rwyf am i’r Mynydd Bychan fod yn integredig, yn egnïol, ac yn llawn bywyd cadarnhaol i fyfyrwyr eleni, gan fy mod yn credu mai dyna'r ateb i ddyfodol mwy disglair i’r GIG.

 

Ludan Tajeldin

English

 

Hi everyone! I’m Ludan, a 2nd year medical student and I’m running to be a member of the Heath Park Executive Committee! Here are some immediate changes I aim to advocate for: - Having more designated social spaces/lounges where students can take a break from academic demands and catch up with friends in a relaxed environment - Introducing more quiet rooms for students, in particular to Cochrane building, to allow students to relax after a long day at uni - Adding more accessible food options around campus, including more halal food - Having better directions to room locations around the Heath campus, in particular to Main Hospital teaching rooms to make the (maze of a) hospital easier to navigate I am excited for the opportunity to represent your interests and bring about swift and meaningful change to make the Heath campus a more positive and accommodating environment! Thank you for considering my candidacy

 

Cymraeg

 

Shwmae bawb! Ludan ydw i, myfyriwr meddygol 2il flwyddyn ac rydw i’n sefyll i fod yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Parc y Mynydd Bychan! Dyma rhai newidiadau rydw i am eirioli drostynt ar unwaith: - Cael mwy o ardaloedd cymdeithasol/lolfeydd pwrpasol i fyfyrwyr cymryd seibiau o’u gwaith academaidd a chymdeithasu gyda ffrindiau mewn amgylchedd hamddenol - Cyflwyno mwy o ystafelloedd tawel ar gyfer myfyrwyr, yn enwedig yn yr adeilad Cochrane, er mwyn galluogi myfyrwyr i ymlacio wedi diwrnod hir yn y brifysgol - Ychwanegu mwy o opsiynau bwyd hygyrch o amgylch y campws, gan gynnwys mwy o fwyd halal - Cael cyfeiriadau gwell i leoliadau o amgylch campws y Mynydd Bychan, yn enwedig i ystafelloedd dysgu’r Prif Ysbyty, a gwneud yr ysbyty (dryslyd) yn haws i’w ddeall Rydw i’n gyffrous iawn am y cyfle i gynrychioli eich diddordebau a dod â newid cyflym ac ystyrlon er mwyn gwneud campws y Mynydd Bychan yn amgylchedd mwy positif a chroesawgar. Diolch am ystyried fy nghais.

 

Roman Medcroft

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Ruchitha Rao

English

 

I believe that I’m prefect fit for this role as it profusely highlights on leadership and management in which im confident about

 

Cymraeg

 

Credaf fy mod yn addas ar gyfer y rôl hon gan ei bod yn tynnu sylw’n helaeth at arweinyddiaeth a rheolaeth, ac rwy'n hyderus yn y meysydd hyn.

 

Zena Al-Essawi

English

 

I’m Zena, a 3rd year and motivated medical student, and I’m running for Heath Park Executive because I believe our campus can be even better! I believe in helping people reach their full potential, so I’ll be pushing for more support to help you smash your studies — whether that’s stronger support from staff, improved academic resources or better networking between students of all years. But, we all know how tough are degrees do get and so a good break in the IV is something desirable. I’ll be pushing for more food variety in IV, with healthier and budget-friendly options. And halal food! I don't think we get enough opportunities to mix with other healthcare students - even though these will be our future colleagues in a few years. And it's easy to feel like you're missing out when comparing to the liveliness of other campuses. So I hope to create more academic and social opportunities for healthcare students from different courses to meet and learn from each other.

 

Cymraeg

 

Zena ydw i, myfyriwr meddygol ymroddedig yn fy 3ydd flwyddyn, ac rydw i’n sefyll ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Parc y Mynydd Bychan gan fy mod yn credu bod modd gwella ein campws! Rydw i’n credu mewn helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial, felly byddaf yn gwthio am fwy o gefnogaeth i’ch helpu i ragori yn eich astudiaethau – boed trwy gefnogaeth gryfach gan staff, gwell adnoddau academaidd, neu rwydweithio gwell rhwng myfyrwyr o bob blwyddyn. Ond, rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd yw cwblhau gradd felly mae seibiau yn yr IV hefyd yn syniad da. Byddaf yn gwthio am amrywiaeth ehangach o fwyd yn IV, gydag opsiynau iachach a rhatach. A bwyd halal! Nid wyf yn teimlo ein bod yn cael digon o gyfleoedd i gymysgu gyda myfyrwyr gofal iechyd eraill – hyd yn oed pan mai’r rhain bydd ein cydweithwyr mewn cwpwl o flynyddoedd. Ac mae’n hawdd teimlo eich bod yn colli mas o gymharu â’r bywyd sydd i’w weld ar gampysau eraill. Felly, rydw i’n gobeithio creu mwy o gyfleoedd academaidd a chymdeithasol er mwyn i fyfyrwyr gofal iechyd o wahanol gyrsiau cwrdd a dysgu wrth ei gilydd.

 

 

 

International Executive CommitteePwyllgor Gweithredol Rhyngwladol

 

Adnan Alkasih

English

 

Hello everyone, my name is Adnan Alkasih and I am a 2nd year Accounting and Finance student. As an international student myself, I understand the unique challenges and opportunities we face. I am committed to fostering a more inclusive, supportive, and vibrant community for all international students. If elected to the International Students Executive Committee, I will see to it that I improve access to resources, enhance cultural integration, and ensure every voice is heard. My focus will be on improving communication between students and administration, advocating for better student services, and organizing events that celebrate our diversity. Together, we can build a stronger, more united international student body. Let's create lasting positive change!

 

Cymraeg

 

Helo bawb, fy enw i yw Adnan Alkasih ac rwy'n fyfyriwr Cyfrifeg a Chyllid yn fy 2il flwyddyn. Fel myfyriwr rhyngwladol fy hun, rwy'n deall yr heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n ein hwynebu. Rwyf wedi ymrwymo i feithrin cymuned fwy cynhwysol, cefnogol, a bywiog ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol. Os caf fy ethol i'r Pwyllgor Gweithredol Myfyrwyr Rhyngwladol, byddaf yn sicrhau fy mod yn gwella mynediad at adnoddau, yn gwella integreiddio diwylliannol, ac yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Byddaf yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu rhwng myfyrwyr a’r tîm gweinyddol, eirioli dros wasanaethau gwell i fyfyrwyr, a threfnu digwyddiadau sy'n dathlu ein hamrywiaeth. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymuned gryfach a mwy unedig o fyfyrwyr rhyngwladol. Gadewch i ni greu newid cadarnhaol parhaol!

 

Alisha Jamil

English

 

As an international student who was brought up in an environment consisting of people from different cultures, I understand firsthand how necessary it is to feel a sense of community. I would like to contribute to providing that comfort for all international students through multiple themed cultural events that aim to celebrate each student’s individual background, including Carnival, Holi, Midsummer, and more. With my previous work experience in event management, I will ensure that the events are as authentic as possible, enabling those from the community to feel at home while also allowing others to discover new cultures. I will collaborate closely with cultural societies and make adjustments based on your input to make these events accessible, inclusive, and representative. By providing these opportunities, I strive to bridge the gap between international and local students, allowing all of us to feel like we belong — beyond just academics.

 

Cymraeg

 

Fel myfyriwr rhyngwladol a fagwyd mewn amgylchedd amlddiwylliannol, rwy'n deall yn uniongyrchol pa mor angenrheidiol yw ymdeimlad o gymuned. Hoffwn gyfrannu at ddarparu'r cysur hwnnw i bob myfyriwr rhyngwladol trwy ddigwyddiadau diwylliannol ar themâu amrywiol sy'n dathlu cefndir pob myfyriwr, gan gynnwys Carnifal, Holi, Midsummer, a mwy. Gyda'm profiad gwaith blaenorol ym maes rheoli digwyddiadau, byddaf yn sicrhau bod y digwyddiadau mor ddilys â phosibl, gan alluogi aelodau o'r gymuned i deimlo'n gartrefol tra hefyd yn caniatáu i eraill ddarganfod diwylliannau newydd. Byddaf yn cydweithio'n agos â chymdeithasau diwylliannol ac yn gwneud addasiadau yn seiliedig ar eich mewnbwn i wneud y digwyddiadau hyn yn hygyrch, cynhwysol, a’n gynrychioliadol. Trwy ddarparu'r cyfleoedd hyn, byddaf yn ymdrechu i bontio'r bwlch rhwng myfyrwyr rhyngwladol a lleol, gan ganiatáu i bob un ohonom deimlo ein bod yn perthyn — ar lefel tu hwnt i’r academaidd.

 

Aparna Jacob

English

 

Democracy and Diversity.. I would like to represent student's voices..

 

Cymraeg

 

Democratiaeth ac Amrywiaeth.. Hoffwn gynrychioli llais y myfyrwyr..

 

Bhavishya Shakya

English

 

Dear fellow students, In India, we believe in the proverb “वसुधैव कुटुम्बकम्” (Vasudhaiva Kutumbakam), meaning “the world is one family.” This deeply resonates with me as an international student. I’m Bhavishya Shakya, pursuing an LLM in International Commercial Law at Cardiff School of Law and Politics. With leadership experience as Media President at Delhi University Student Union, I am running for International Student Executive Committee member. My vision is based on four pillars: 1.Inclusivity and Integration 2.Support and Advocacy 3.Cultural Exchange, and 4.Global Citizenship. I aim to improve orientation programs, promote mental health support, and foster cultural exchange through festivals and events. By advocating for visa assistance and creating spaces for global dialogue, I hope to enhance the international student experience. I humbly ask for your support. Sincerey,

 

Cymraeg

 

Annwyl gyd-fyfyrwyr, Yn India, credwn yn y ddihareb “वसुधैव कुटुम्बकम्” (Vasudhaiva Kutumbakam), sy'n golygu "mae'r byd yn un teulu." Mae hyn yn taro tant gyda mi fel myfyriwr rhyngwladol. Bhavishya Shakya ydw i, a dwi’n astudio LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd. Gyda phrofiad o arweinyddiaeth fel Llywydd y Cyfryngau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Delhi, rwy'n sefyll i fod yn aelod o'r Pwyllgor Gweithredol Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae fy ngweledigaeth yn seiliedig ar bedwar piler: 1. Cynwysoldeb ac Integreiddio 2. Cefnogaeth ac Eiriolaeth 3. Cyfnewid Diwylliannol, a 4. Dinasyddiaeth Fyd-eang. Fy nod yw gwella rhaglenni cyfeiriadedd, hyrwyddo cefnogaeth iechyd meddwl, a meithrin cyfnewid diwylliannol trwy wyliau a digwyddiadau. Trwy eirioli dros gymorth fisa a chreu lleoedd ar gyfer deialog fyd-eang, rwy'n gobeithio gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol. Gofynnaf yn garedig am eich cefnogae

p>

 

Calvin Thomas

English

 

As a candidate for the international executive committee, I pledge to bring a fresh perspective and proactive approach to the role. My manifesto focuses on three key pillars: 1. **Empowerment**: I aim to empower students by amplifying their voices and ensuring their concerns are heard at the highest levels. Through open communication channels and regular feedback sessions, I will strive to create a more inclusive and supportive environment for all. 2. **Innovation**: I believe in fostering innovation and creativity among students. I plan to introduce new initiatives that promote collaboration, skill development, and personal growth. By organizing workshops, events, and mentorship programs, I aim to inspire students to think outside the box and pursue their passions. 3. **Community Building**: Building a strong sense of community is essential for a thriving student body, I will work towards creating opportunities for networking, social engagement and cultural exchange.

 

Cymraeg

 

Fel ymgeisydd ar gyfer y pwyllgor gweithredol rhyngwladol, rwy'n addo dod â phersbectif newydd ac ymagwedd ragweithiol at y rôl. Mae fy maniffesto yn canolbwyntio ar dri philer allweddol: 1. ***Grymuso***: Fy nod yw grymuso myfyrwyr drwy godi eu lleisiau a sicrhau bod eu pryderon yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf. Trwy sianeli cyfathrebu agored a sesiynau adborth rheolaidd, byddaf yn ymdrechu i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i bawb. 2. ** Arloesi***: Rwy'n credu mewn meithrin arloesedd a chreadigrwydd ymhlith myfyrwyr. Rwy'n bwriadu cyflwyno mentrau newydd sy'n hyrwyddo cydweithredu, datblygu sgiliau, a thwf personol. Trwy drefnu gweithdai, digwyddiadau a rhaglenni mentoriaeth, fy nod yw ysbrydoli myfyrwyr i feddwl y tu allan i'r bocs a dilyn eu diddordebau. 3. ** Adeiladu Cymuned**: Mae meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn hanfodol i gymdeithas myfyrwyr ffyniannus, byddaf yn gweithio tuag at greu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, ymgysylltu cymdeithasol a chyfnewid diwylliannol.

 

Hrishika Girijan

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Jason SZE

English

 

Hello! My name is Jason, and I am from Hong Kong currently studying Urban Planning. I have taken up multiple roles throughout my years at Cardiff University, such as Wellbeing Officer for International Students’ Association 2023/24, GeoPlan Society President 2024/25, Student Reps, Student Ambassador and more… Your voice, your experience and your concerns matter! I would love to bring my experience and represent all International Students’ voices within the university, improving International Students’ experience whilst studying in Cardiff. I have advocated for an event in my school’s welcome week for international students specifically and it happened this year! I would like to continue to advocate for international students within the SU and the university. This is my third year living in Cardiff so if you have any questions and you see me in person, you are more than welcome to stop me and say hi! Please vote for me! :)

 

Cymraeg

 

Shwmae! Fy enw i yw Jason, rwy'n dod o Hong Kong ac ar hyn o bryd rwy’n astudio Cynllunio Trefol. Rwyf wedi ymgymryd â nifer o rolau drwy gydol fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, megis Swyddog Lles ar gyfer y Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol 2023/24, Llywydd y Gymdeithas GeoPlan 2024/25, Cynrychiolwr Myfyrwyr, Llysgennad Myfyrwyr a mwy... Mae eich llais, eich profiad a'ch pryderon yn bwysig! Byddwn wrth fy modd yn gweithredu ar fy mhrofiad personol a chynrychioli holl leisiau Myfyrwyr Rhyngwladol yn y brifysgol, gan wella profiad Myfyrwyr Rhyngwladol wrth astudio yng Nghaerdydd. Rwyf wedi eirioli am ddigwyddiad penodol i fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod wythnos groesawu fy ysgol a digwyddodd eleni! Hoffwn barhau i eirioli dros fyfyrwyr rhyngwladol o fewn yr UM a'r Brifysgol. Dyma fy nhrydedd flwyddyn yn byw yng Nghaerdydd felly os oes gennych unrhyw gwestiynau a'ch bod yn fy ngweld wyneb yn wyneb, mae croeso i chi fy stopio a dweud helo! Pleidleisiwch drosof os gwelwch yn dda! :)

 

Kai Ying Yoong

English

 

I am an international student that can speak three languages fluently, which is Mandarins, Malay and English.

 

Cymraeg

 

Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n gallu siarad tair iaith yn rhugl, sef Mandarin, Malay a Saesneg.

 

Mohamed Abdelsamad

English

 

Hey, I’m Mohamed, and I’m running for the International Committee! As a student mentor, ambassador, and representative for my engineering department over the past two years, I’ve had the chance to support my peers through academic challenges and help them adjust to university life. As an international student, I truly understand the unique opportunities and also challenges that come with studying abroad. I’m approachable, a good listener, and always here to be your go-to friend for support. I want to represent your voices and needs so that Cardiff feels like your second home. If elected, I’d love to organize exciting events that connect international and local students, build stronger support networks, and foster a sense of community where everyone feels included and welcomed. If you're looking for someone reliable, open-minded, and dedicated to representing you, I’d be grateful for your vote!

 

Cymraeg

 

Shwmae, Mohamed ydw i, ac rwy'n sefyll ar gyfer y Pwyllgor Rhyngwladol! Fel mentor, llysgennad, a chynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer fy adran beirianneg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cael y cyfle i gefnogi fy nghyfoedion trwy heriau academaidd a'u helpu i addasu i fywyd prifysgol. Fel myfyriwr rhyngwladol, rwyf wir yn deall y cyfleoedd unigryw a hefyd yr heriau sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Rwy'n gyfeillgar, yn wrandäwr da, a bob amser yma i fod yn ffrind i chi ac i estyn cefnogaeth. Rwyf am gynrychioli eich lleisiau a'ch anghenion fel bod Caerdydd yn teimlo fel eich ail gartref. Os caf fy ethol, hoffwn drefnu digwyddiadau cyffrous sy'n cysylltu myfyrwyr rhyngwladol a lleol, adeiladu rhwydweithiau cymorth cryfach, a meithrin ymdeimlad o gymuned lle mae pawb yn teimlo wedi’u cynnwys a'u croesawu. Os ydych chi'n chwilio am rywun dibynadwy, ymroddedig, gyda meddwl agored i'ch cynrychioli chi, byddwn yn ddiolchgar am eich pleidlais!

 

Muskaan Sahni

English

 

A legendary leader always leads people from within. I’m Muskaan Sahni, recent dental graduate from India. Apart from academics, leading , guiding and organising have been my strengths. Being appointed as editorial prefect in school and cultural head in undergrad have been my tools to gain dexterity. Being a diligent individual I will work tirelessly ensuring every international student feels welcomed, valued, and supported. Recognising unique challenges far from home, my mission is to create a nurturing environment where students can voice out, seek guidance, share experiences, receive timely, relevant information. To ease transition and foster a sense of belonging, would love to organize events celebrating diverse cultures. Understanding adjustment period, I intend to implement initiatives helping students adapt. From orientation sessions to peer mentorship programs, students can navigate their new environment with confidence and ease. Together we can build a supportive community

 

Cymraeg

 

Mae arweinydd chwedlonol bob amser yn arwain pobl o'r tu mewn. Muskaan Sahni ydw i, myfyriwr newydd graddedig mewn deintyddiaeth o India. Yn ychwanegol i waith academaidd, arwain, tywys a threfnu yw fy nghryfderau. Mae cael fy mhenodi'n flaenor golygyddol yn yr ysgol ac yn bennaeth diwylliannol yn ystod fy ngradd israddedig wedi fy helpu i fagu deheurwydd. Gan fy mod yn unigolyn diwyd, byddaf yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob myfyriwr rhyngwladol yn teimlo wedi’u croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Gan gydnabod heriau unigryw ymhell o gartref, fy nghenhadaeth yw creu amgylchedd meithringar lle gall myfyrwyr lleisio’u barn, gofyn am arweiniad, rhannu profiadau, a derbyn gwybodaeth amserol a pherthnasol. Er mwyn hwyluso'r cyfnod pontio a meithrin ymdeimlad o berthyn, byddwn wrth fy modd yn trefnu digwyddiadau sy'n dathlu diwylliannau amrywiol. Gan ddeall y cyfnod addasu, rwy'n bwriadu gweithredu mentrau sy'n helpu myfyrwyr i addasu. O sesiynau cyfeiriadedd i raglenni mentora cymheiriaid, gall myfyrwyr lywio eu hamgylchedd newydd yn hyderus ac yn rhwydd. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu cymuned gefnogol.

 

Naina Negi

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Navneet Vallampati

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Noor Khan

English

 

As a candidate for the International Executive Committee, I am committed to fostering inclusivity, cultural exchange, and representing the diverse voices of international students at Cardiff University. My experience as an international student has equipped me with a deep understanding of the challenges faced by students from diverse backgrounds. I aim to ensure that these challenges are addressed through meaningful initiatives and support systems. With a passion for leadership, I have developed strong communication and organizational skills through the presidenal position in law society at my A levels . I plan to create platforms where international students can voice their concerns, access necessary resources, and feel fully integrated into the university community.

 

Cymraeg

 

Fel ymgeisydd ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol Rhyngwladol, rwyf wedi ymrwymo i feithrin cynwysoldeb, cyfnewid diwylliannol, a chynrychioli lleisiau amrywiol myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy mhrofiad fel myfyriwr rhyngwladol wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Fy nod yw sicrhau bod yr heriau hyn yn cael sylw drwy fentrau ystyrlon a systemau cymorth. Gydag angerdd am arweinyddiaeth, rwyf wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf trwy fy rôl lywyddol yng nghymdeithas y gyfraith yn ystod fy Lefelau A. Rwy'n bwriadu creu llwyfannau lle gall myfyrwyr rhyngwladol leisio eu pryderon, cyrchu adnoddau angenrheidiol, a theimlo eu bod wedi'u hintegreiddio'n llawn i gymuned y brifysgol.

 

Saee Joshi

English

 

I am a Year 2 BSc Biomedical Science student and strongly advocate for inclusivity and equality at Cardiff University. As the Volunteer Coordinator for the Cardiff Marrow Society and Secretary for the Cocktail Society, I actively contribute to student life. As an international student, I understand the challenges we face while adapting to life away from home. I believe that diverse cultures are essential for the growth of the student community, and as a committee member, I want to emphasize this. What I value most about Cardiff University and the Students’ Union is the rich cultural diversity. I aim to enhance international student engagement by organizing intercultural events that promote cultural understanding and unity. I also want to help make Cardiff feel more like ‘home’ for international students by creating activities that foster a strong sense of community.

 

Cymraeg

 

Rwy'n fyfyriwr BSc Gwyddorau Biofeddygol yn fy 2il flwyddyn ac yn eirioli’n gryf dros gynwysoldeb a chydraddoldeb ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mêr Caerdydd ac Ysgrifennydd y Gymdeithas Coctel, rwy'n cyfrannu'n weithredol at fywyd myfyrwyr. Fel myfyriwr rhyngwladol, rwy'n deall yr heriau sy'n ein hwynebu wrth addasu i fywyd oddi cartref. Credaf fod diwylliannau amrywiol yn hanfodol ar gyfer twf cymuned y myfyrwyr, ac fel aelod o'r pwyllgor, rwyf am bwysleisio hyn. Yr hyn rwy'n ei werthfawrogi fwyaf am Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr yw'r amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog. Fy nod yw gwella ymgysylltiad myfyrwyr rhyngwladol trwy drefnu digwyddiadau rhyngddiwylliannol sy'n hyrwyddo dealltwriaeth ac undod diwylliannol. Rwyf hefyd am helpu i wneud i Gaerdydd deimlo'n fwy fel 'cartref' i fyfyrwyr rhyngwladol drwy greu gweithgareddau sy'n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned.

 

Shaurya Saxena

English

 

Shwmae! As an international postgraduate student from India, I have tried to embrace every possible opportunity to engage with the vibrant community here in Cardiff. As the Freshers events and fairs personally felt both welcoming and informative right away, I want to help ensure that every international student feels that same sense of belonging from the day they land, making their eventual transition to 9 AM lectures as smooth as possible! If elected to the International Executive Committee, I will actively listen to the needs and ideas of all international students, ensuring our voices are heard and valued. My goals are to support the initiatives of the office of the VP International, foster outreach, and help organize events that truly reflect our diverse experiences and interests. Together, we can enhance our engagement and enrich our student experience. Your vote for me is a vote for a more inclusive and dynamic Students’ Union, diolch!

 

Cymraeg

 

Shwmae! Fel myfyriwr ôl-raddedig rhyngwladol o India, rwyf wedi ceisio croesawu pob cyfle posibl i ymgysylltu â'r gymuned fywiog yma yng Nghaerdydd. Gan roedd digwyddiadau a ffeiriau'r Glas yn teimlo'n groesawgar ac yn addysgiadol i mi, hoffwn helpu i sicrhau bod pob myfyriwr rhyngwladol yn teimlo'r un ymdeimlad o berthyn o'r diwrnod cyntaf, gan wneud eu trosglwyddiad i ddarlithoedd 9yb yn y pen draw mor llyfn â phosibl! Os caf fy ethol i'r Pwyllgor Gweithredol Rhyngwladol, byddaf yn mynd ati i wrando ar anghenion a syniadau'r holl fyfyrwyr rhyngwladol, gan sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Fy nodau yw cefnogi mentrau'r IL Rhyngwladol, meithrin allgymorth, a helpu i drefnu digwyddiadau sy'n adlewyrchu ein profiadau a'n diddordebau amrywiol. Gyda'n gilydd, gallwn wella ein hymgysylltiad a chyfoethogi profiad ein myfyrwyr. Mae pleidlais i mi yn bleidlais dros Undeb Myfyrwyr mwy cynhwysol a deinamig, diolch!

 

Umar Shahid

English

 

About Me: I’ve previously served on the Student Senate, Undergraduate Executive Committee, and Societies Executive Committee, giving me a strong understanding of university administration. As a student from Pakistan, I personally understand the barriers international students face—like language, confidence, and navigating a new culture. My Priorities: A Strong Voice: I will advocate for better support in areas like visas, mental health, and academic assistance. Cultural & Religious Inclusion: I will push for better integration of international students’ cultural and religious values in campus life. Meaningful Projects: I will establish initiatives like improved orientation and intercultural exchange programs. Accountability: I will hold the VP International Students accountable for transparency and action. Together, we can create a more inclusive university. Vote for me!

 

Cymraeg

 

Amdanaf fi: Rwyf wedi gwasanaethu yn flaenorol ar Senedd y Myfyrwyr, y Pwyllgor Gweithredol Israddedig, a'r Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau, sydd wedi rhoi dealltwriaeth gref i mi o weinyddiaeth prifysgol. Fel myfyriwr o Bacistan, rwy'n deall yn bersonol y rhwystrau y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu - fel iaith, hyder, ac ymgyfarwyddo â diwylliant newydd. Fy Mlaenoriaethau: Llais Cryf: Byddaf yn eirioli dros well cefnogaeth mewn meysydd fel fisâu, iechyd meddwl, a chymorth academaidd. Cynhwysiant Diwylliannol a Chrefyddol: Byddaf yn pwyso am integreiddio gwerthoedd diwylliannol a chrefyddol myfyrwyr rhyngwladol yn well ym mywyd y campws. Prosiectau Ystyrlon: Byddaf yn sefydlu mentrau fel gwell cyfeiriadedd a rhaglenni cyfnewid rhyngddiwylliannol. Atebolrwydd: Byddaf yn dal yr IL Myfyrwyr Rhyngwladol yn atebol am dryloywder a gweithredu. Gyda'n gilydd, gallwn greu prifysgol fwy cynhwysol. Pleidleisiwch drosof i!

 

Yushuo Bi

English

 

I want to try to help others as much as possible through my abilities, to understand more problems that we may encounter in our studies, also help some introverted person or someone that do not really good at express to share their ideas and speak out their problems and difficulties, and to solve these problems reasonably and appropriately. At the same time, it is also a chance that can improve my ability to solve problems and negotiate language etc, so that I can help more people to solve questions. So, if I have the opportunity to be student rep, I hope that everyone's opinions can be responded to and the problem found can be improved, getting solutions. Doing things well, solving things efficiency.

 

Cymraeg

 

Rwyf am geisio helpu eraill gymaint â phosibl gyda’m galluoedd, i ddeall mwy o broblemau y gall codi yn ein hastudiaethau, hefyd helpu pobl swil neu rywun nad sy’n dda am fynegi neu rannu eu syniadau a siarad am eu problemau a'u hanawsterau, ac i ddatrys y problemau hyn yn rhesymol ac yn briodol. Ar yr un pryd, mae hefyd yn gyfle a all wella fy ngallu i ddatrys problemau a thrafod iaith ac ati, fel y gallaf helpu mwy o bobl i ateb cwestiynau. Felly, os caf gyfle i fod yn gynrychiolydd myfyrwyr, rwy'n gobeithio y gellir ymateb i farn pawb a gellir datrys unrhyw broblemau a godir, gan gael atebion. Gwneud pethau'n dda, datrys pethau'n effeithiol.

 

 

 

Postgraduate Executive CommitteePwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig

 

Aparna Jacob

English

 

Recently I realised standing up for yourself is not a bad thing. Advocating for your peers can lead you into self discovery. My past experience as a journalist has taught me to rediscover myself and unlearn the worst so that I could learn the best in every aspects

 

Cymraeg

 

Yn ddiweddar gwnes i sylweddoli nad yw sefyll i fyny dros eich hun yn beth gwael. Gall eirioli dros eich cyd-fyfyrwyr eich arwain i ddysgu mwy am eich hun. Mae fy mhrofiad blaenorol fel newyddiadurwyr wedi fy nysgu i ailddarganfod fy hun, a dad-ddysgu’r gwaethaf er mwyn i mi allu dysgu’r gorau ymhob agwedd.

 

Ayda Bashardoost Esmaeili

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Christopher Williams

English

 

I served on the SU Societies executive comittee so have a good understanding of the role. I have also been at Cardiff University for 4 years so understand issues facing the students here

 

Cymraeg

 

Rydw i wedi bod yn rhan o bwyllgor gweithredol cymdeithasau’r UM yn flaenorol, felly mae gen i ddealltwriaeth dda o’r rôl. Rydw i hefyd wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd am 4 mlynedd, felly’n deall yr heriau sy’n wynebu myfyrwyr yma.

 

Gabriel Hessayon

English

 

If elected to the executive committee my intention is to focus on the social life of postgraduate students. I would therefore like, ideally every Saturday, to organise evenings and night outs with fellow postgraduates as a way to getting to know each other better, and also so as to improve social opportunities within the postgrad community. I aim to organise these events by letting people know on our Postgrad community group chat 2-3 days in advance, as well as, for example, casting votes as to which nightclub or pub we should go to. In addition to night outs, I also aim to organise, once again on Saturdays, other social events, such as day trips to places of interest (castles, museums, beautiful countryside etc.). If you vote for me - for which I would be very grateful - then as a postgraduate community at Cardiff University we would have the opportunity socialise together every Saturday, with a variety of different & exciting events!

 

Cymraeg

 

Os caf fy ethol i'r pwyllgor gweithredol, fy mwriad yw canolbwyntio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr ôl-raddedig. Felly hoffwn drefnu, ar nosweithiau Sadwrn yn ddelfrydol, digwyddiadau a nosweithiau allan gyda chyd-ôl-raddedigion fel ffordd o ddod i adnabod ein gilydd yn well, a hefyd er mwyn gwella cyfleoedd cymdeithasol o fewn y gymuned ôl-raddedig. Fy nod yw trefnu'r digwyddiadau hyn drwy roi gwybod i bobl ar ein grŵp cymuned Ôl-raddedig 2-3 diwrnod ymlaen llaw, yn ogystal â bwrw pleidleisiau er enghraifft ynghylch pa glwb nos neu dafarn y dylem fynd iddo. Yn ogystal â nosweithiau allan, rwyf hefyd yn anelu at drefnu, unwaith eto ar ddydd Sadwrn, digwyddiadau cymdeithasol eraill, megis teithiau dydd i fannau o ddiddordeb (cestyll, amgueddfeydd, cefn gwlad hardd ac ati). Os ydych chi'n pleidleisio drosof i - a byddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny - yna fel cymuned ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd byddem yn cael cyfle i gymdeithasu gyda'n gilydd bob dydd Sadwrn, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol a chyffrous!

 

Izaak Wilfrid Morris

English

 

As a candidate for Cardiff University’s Postgraduate Executive Committee, I am committed to enhancing the experience of postgraduate students by addressing the unique challenges we face. Having served as Education Officer in a diffrent Student Union, I have gained invaluable experience in advocating for student needs and implementing change. My goal is to bring this expertise to the Postgraduate Executive Committee, ensuring that every postgraduate student at Cardiff feels supported and heard.

 

Cymraeg

 

Fel ymgeisydd ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd, rydw i wedi ymrwymo i wella profiadau myfyrwyr ôl-raddedig trwy fynd i’r afael â’r heriau unigryw rydym yn eu hwynebu. Trwy wasanaethu fel Swyddog Addysg mewn Undeb Myfyrwyr gwahanol, rydw i wedi ennill profiad amhrisiadwy wrth eirioli dros anghenion myfyrwyr a gweithredu newid. Fy nod yw dod â fy arbenigedd i’r Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig, gan sicrhau fod pob myfyriwr ôl-raddedig yng Nghaerdydd yn teimlo wedi eu cefnogi a’u clywed.

 

Izzi Croft-Smith

English

 

Hi, I'm Izzi, a master's student in psychology that just graduated from Biochemistry! I would like to think I have been an active member of the student community (?!), whether this be in the A Cappella society committee, as a student rep for the school of biosciences, or as being a member of the Societies Executive Committee last year! I always try to make well-being a priority of mine and aim to increase awareness about the mental health support available to us. I hope that by being a member of this committee I can emphasise the importance of the postgraduate student voice and aim to foster inclusivity in everything this committee does. I hope to advocate for those who may not feel their voices are heard, especially postgraduate students who have not completed an undergraduate at cardiff! Overall, I hope to assist the sabbatical officer and committee in building a supportive, inclusive, and enjoyable student experience for all :)

 

Cymraeg

 

Shwmae, Izzi ydw i, myfyriwr meistr mewn Seicoleg sydd newydd raddio mewn Biocemeg! Hoffwn feddwl fy mod wedi bod yn aelod gweithgar o gymuned y myfyrwyr (?!), boed hynny ym mhwyllgor y gymdeithas A Cappella, fel cynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer ysgol y biowyddorau, neu fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau y llynedd! Rwyf bob amser yn ceisio gwneud lles yn flaenoriaeth ac yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i ni. Rwy'n gobeithio, drwy fod yn aelod o'r pwyllgor hwn, y gallaf bwysleisio pwysigrwydd llais myfyrwyr ôl-raddedig a'm nod yw meithrin cynwysoldeb ym mhopeth y mae'r pwyllgor hwn yn ei wneud. Rwy'n gobeithio eirioli dros rheiny nad sy’n teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed, yn enwedig myfyrwyr ôl-raddedig na wnaeth cwblhau gradd israddedig yng Nghaerdydd! Yn gyffredinol, rwy'n gobeithio cynorthwyo'r swyddog sabothol a'r pwyllgor i adeiladu profiad cefnogol, cynhwysol a phleserus i fyfyrwyr :)

 

Joseph Liu

English

 

I will promise to promote and integrate accessibility and mental health to all the postgraduate students. There will be free events to allow postgraduates to network with their future careers or getting funding for their own business so they can progress easier than before. I will help organise events and support for postgraduate, to help alienate financial, social, mental and coursework/examination stress, such as but not just buy now, pay later schemes, DSA promotion, food parcels, counselling, discounts, external companies' promotions, study groups, and society/sport club events and study/rest/play templates, and soft and technical skills building. As a postgrad with disabilities, I find social and accessible support difficult, especially if you commute to campus or have social or learning difficulties. I will bring accessibility, synergise with the Students Union to make the best experience for postgraduate students, such as different methods to convey the same information.

 

Cymraeg

 

Byddaf yn addo hyrwyddo ac integreiddio hygyrchedd ac iechyd meddwl ymysg myfyrwyr ôl-raddedig. Bydd digwyddiadau am ddim i alluogi myfyrwyr ôl-radd i rwydweithio ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol neu ennill cyllid i’w helpu i wneud cynnydd wrth sefydlu busnesau ac ati. Byddaf yn helpu trefnu digwyddiadau a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, er mwyn lleihau straen ariannol, cymdeithasol, meddyliol ac addysgiadol, trwy fentrau megis cynlluniau prynu nawr talu’n hwyrach, hyrwyddo DSA, parseli bwyd, cwnsela, disgowntiau, hysbysebion cwmnïau allanol, grwpiau astudio, digwyddiadau cymdeithasau/clybiau chwaraeon, templedi astudio/amser hamddenol, a sesiynau adeiladu sgiliau. Fel myfyriwr ôl-radd gydag anableddau, gall cymdeithasu a hygyrchedd fod yn heriol, yn enwedig os ydych yn teithio i’r campws neu gydag anghenion cymdeithasol neu ddysgu ychwanegol. Byddaf yn cynyddu hygyrchedd er mwyn gwneud profiadau myfyrwyr ôl-raddedig yr Undeb Myfyrwyr y gorau gallant fod, megis trwy wahanol ffyrdd o gyfleu gwybodaeth.

 

Kai Ying Yoong

English

 

I am thrilled to be part of this voting event and to express my candidacy for the executive committee position! With my experience as president of a club during my undergraduate studies, I have developed strong leadership and organizational skills. Speaking three languages—Chinese, English, and Malay—along with some Cantonese, allows me to connect with our diverse community on a deeper level. I am passionate about fostering inclusivity and collaboration within our club, and I believe my background will help us bridge cultural gaps. I would be honored to have your support in this role. Thank you!

 

Cymraeg

 

Rydw i’n blês iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad pleidleisio hwn ac i gael mynegi fy ymgais ar gyfer lle ar bwyllgor gweithredol. Gyda fy mhrofiad fel llywydd clwb yn ystod fy astudiaethau israddedig, rydw i wedi datblygu sgiliau arweinyddiaeth a threfnu cryf. Mae siarad tair iaith – Tsieineaidd, Saesneg, a Malayaidd – ynghyd ag ychydig o Cantonese, yn fy ngalluogi i gysylltu gydag ein cymuned amrywiol ar lefel ddyfnach. Rydw i’n angerddol dros hyrwyddo cynwysoldeb a chydweithio o fewn ein clwb, ac rydw i’n credu y bydd fy ngefndir yn ein helpu i bontio bylchau diwyllianol. Byddai’n fraint cael eich cefnogaeth yn y rôl hon. Diolch!

 

Nicolas Kerr

English

 

I am running to be a voice for postgraduate students in helping make sure we have a transparent and accessible Students' Union. In my time as an undergraduate at Cardiff University I have worked as a student representative in the School of Social Sciences in helping bring ideas and issues to light to members of staff. This has built up my relationships with students and staff which provide me insight into the functioning of the school and the university. I have further worked as the Treasurer for the Debating Society. Through this I have managed society finances and been a liaison between the society, students, and the students' union. I have further helped in organising events including organising Cardiff Open 2024 which brought in numerous people from various universities to compete in our annual debating competition. With both my experience as a Student Rep as well as being a Treasurer, if elected I will be able to excel as a member of the PG Exec Committee. #GoWithNico

 

Cymraeg

 

Rydw i’n sefyll i fod yn llais ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig wrth sicrhau fod gennym Undeb Myfyrwyr tryloyw a hygyrch. Yn fy amser fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd rydw i wedi gweithio fel cynrychiolydd myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol gan helpu dod a syniadau a materion at aelodau o staff. Trwy hyn rydw i wedi adeiladu perthnasau gyda myfyrwyr a staff sydd wedi rhoi mewnwelediad i mi o’r ffordd y mae’r ysgol a’r brifysgol yn gweithio. Rydw i hefyd wedi gweithio fel Trysorydd y Gymdeithas Dadlau. Trwy hyn rydw i wedi rheoli cyllid y gymdeithas ac wedi gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng y gymdeithas, myfyrwyr, a’r undeb myfyrwyr. Rydw i hefyd wedi helpu trefnu digwyddiadau gan gynnwys Cardiff Open 2024 a ddaeth â nifer o bobl o wahanol brifysgolion ynghyd i gystadlu yn ein cystadleuaeth dadlau flynyddol. Gyda fy mhrofiad fel Cynrychiolydd Myfyrwyr a Thrysorydd, os caf fy ethol byddaf yn rhagori fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredol ÔR. #EwchGydaNico

 

Palak Patel

English

 

I am passionate about enhancing Cardiff University's postgraduate program for all students. I'll put in a lot of effort to make sure that every student's opinion is heard and that improvements are made to the quality of life for students. Regarding academic and personal difficulties, I commit to speaking out for the welfare of all postgraduate students. My main goal is to foster an inclusive atmosphere where everyone is respected and feels supported. I'll bring new perspectives and collaborate with the Cardiff Student Union Team to achieve significant changes that will benefit the community. It would be an honor for me to represent the Students Union on the Postgraduate Executive Committee.

 

Cymraeg

 

Rydw i’n angerddol dros wella rhaglen ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr. Byddaf yn rhoi llawer o ymdrech tuag at wneud yn siŵr fod pob barn yn cael ei chlywed a bod gwellianau’n cael eu gwneud i safon bywyd myfyrwyr. Ynglŷn â heriau academaidd a phersonol, rydw i’n ymrwymo i siarad allan dros les pob myfyriwr ôl-raddedig. Fy mhrif nod yw magu awyrgylch cynhwysol, lle mae pawb wedi’u parchu a’u cefnogi. Byddaf yn dod â safbwyntiau newydd ac yn cydweithio gyda Thîm Undeb Myfyrwyr Caerdydd er mwyn cyflawni newid sylweddol a fydd yn buddio’r gymuned. Byddai’n fraint cael cynrychioli’r Undeb Myfyrwyr ar y Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig.

 

Tomos Stokes

English

 

Hi, my name is Tomos, and I’m a Political Communications student in JOMEC. I’m standing for the executive committee so that I can support Micaela in her work to make the postgrad experience in Cardiff the best it can possibly be. I have thoroughly enjoyed the events that the Postgraduate Network have put on so far, and have ideas for more SU-sanctioned events, for example a Postgraduate Karaoke night. If elected I will also focus on policy development and evaluation, because I want postgrads to get the best deal we can out of the university. I will push for events in afternoons so that commuting students don’t need to worry about getting home safely using public transport. Health and safety, and especially safeguarding are hugely important fields for me, and I will prioritise these when helping to develop policy and events. I hope I can earn your vote, have a wonderful day!

 

Cymraeg

 

Helo, fy enw i yw Tomos, ac rydw i’n fyfyriwr Cyfathrebu Gwleidyddol yn JOMEC. Rydw i’n sefyll ar gyfer y pwyllgor gweithredol fel fy mod yn gallu cefnogi Micaela yn ei gwaith i wneud y profiad ôl-radd yng Nghaerdydd y gorau gall fod. Rydw i wedi mwynhau digwyddiadau’r Rhwydwaith Ôl-raddedig hyd yma, ac mae gen i syniadau am ragor megis noson Karaoke Ôl-raddedig. Os caf fy ethol byddaf yn ffocysu ar ddatblygu a gwerthuso polisi, oherwydd rydw i am i fyfyrwyr ôl-radd cael y mwyaf o’r brifysgol. Byddaf yn gwthio am ddigwyddiadau yn y prynhawn fel nad oes rhaid i fyfyrwyr sy’n teithio i’r brifysgol poeni am gyrraedd adref yn ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae iechyd a diogelwch yn bwysig iawn i mi, a byddaf yn eu blaenoriaethu wrth helpu datblygu polisi a digwyddiadau. Gobeithiaf gallaf ennill eich pleidlais, mwynhewch eich diwrnod!

 

Zannia Romero

English

 

I am eager to join the Postgraduate Executive Committee to leverage my expertise in media and communications from Peru. My goal is to create dynamic digital and in-person campaigns that inspire more students to pursue postgraduate studies, whether through student blogs, postgraduate fairs, or interactive events. As a Peruvian student of the MA in International Public Relations and Global Communications Management, I am well-equipped to lead initiatives that raise awareness and drive engagement. Additionally, I am passionate about showcasing the diverse cultural perspectives within our master’s programmes, highlighting each student’s unique journey and goals from around the world. By promoting intercultural understanding and collaboration, I believe we can build a more inclusive and vibrant postgraduate community.

 

Cymraeg

 

Rwy'n awyddus i ymuno â'r Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedig i drosoli fy arbenigedd yn y cyfryngau a chyfathrebu o Beriw. Fy nod yw creu ymgyrchoedd digidol a chorfforol deinamig sy'n ysbrydoli mwy o fyfyrwyr i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig, p'un ai trwy flogiau myfyrwyr, ffeiriau ôl-raddedig, neu ddigwyddiadau rhyngweithiol. Fel myfyriwr MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang o Beriw, mae gen i’r sgiliau i arwain mentrau sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn sbarduno ymgysylltu. Yn ogystal, rwy'n angerddol am arddangos y safbwyntiau diwylliannol amrywiol o fewn ein rhaglenni meistr, gan dynnu sylw at daith unigryw a nodau pob myfyriwr o bob cwr o'r byd. Trwy hyrwyddo dealltwriaeth ryngddiwylliannol a chydweithio, credaf y gallwn adeiladu cymuned ôl-raddedig fwy cynhwysol a bywiog.

 

 

 

Societies, Volunteering & Student Media Executive CommitteePwyllgor Gweithredol Cymdeithasau, Gwirfoddoli & Chyfryngau

 

Alicia Rajewicz

English

 

I would like to join the executive committee for societies, volunteering and student media to help and increase representation within societies and help to create new policies that will help to enhance student experiences and participation, I am currently the president of the Social Sciences society and one of the things I would like to get involved in and see is how the SU can help to support course-based societies with more engagement from members as it can be harder to do in comparison to more skill based and hobby societies. I would also like to learn and contribute to the policy making as well as event planning to ensure more inclusivity within societies.

 

Cymraeg

 

Hoffwn ymuno â’r pwyllgor gweithredol ar gyfer cymdeithasau, gwirfoddoli, a chyfryngau myfyrwyr er mwyn helpu a chynyddu cynrychiolaeth o fewn cymdeithasau a helpu creu polisïau newydd a fydd yn helpu gwella profiadau ac ymgysylltiad myfyrwyr. Ar hyn o bryd rydw i’n llywydd y gymdeithas Gwyddorau Cymdeithasol ac un o’r pethau hoffwn gyfrannu at a gweld yw sut gall yr UM helpu cefnogi cymdeithasau sy’n seiliedig ar gyrsiau gyda mwy o ymgysylltiad gan aelodau, oherwydd gall fod yn anoddach o gymharu â chymdeithasau sy’n seiliedig ar sgiliau neu ddiddordebau. Hoffwn hefyd dysgu a chyfrannu at lunio polisi ynghyd â chynllunio digwyddiadau er mwyn sicrhau mwy o gynwysoldeb o fewn cymdeithasau.

 

Dharanesh Chandrashekar

English

 

Elect me for the Societies, Media, and Voluntary Committee because I am passionate about enhancing student life and fostering a sense of community at Cardiff. As an active participant in extracurriculars, I understand the importance of societies and volunteering in building connections. With my media and digital skills as a data science student, I’ll bring fresh ideas to promote and engage more students. I’m dedicated to collaboration and making voluntary opportunities accessible, ensuring our community thrives. Let’s work together to make student life vibrant and inclusive for everyone!

 

Cymraeg

 

Etholwch fi ar gyfer y Pwyllgor Cymdeithasau, Cyfryngau, a Gwirfoddoli, oherwydd rydw i’n angerddol am wella bywyd myfyrwyr a magu teimlad o gymuned yng Nghaerdydd. Fel cyfranogwr gweithredol mewn gweithgareddau allgyrsiol, rydw i’n deall pwysigrwydd cymdeithasau a gwirfoddoli wrth adeiladu cysylltiadau. Gyda fy sgiliau cyfryngau a digidol fel myfyriwr gwyddor data, byddaf yn dod â syniadau ffres i hyrwyddo ac ymgysylltu gyda mwy o fyfyrwyr. Rydw i wedi ymrwymo i gydweithio a gwneud cyfleoedd gwirfoddoli yn hygyrch, gan sicrhau bod ein cymuned yn ffynnu. Gadewch i ni gydweithio i wneud bywyd myfyrwyr bywiog a chynhwysol ar gyfer pawb!

 

Izzi Croft-Smith

English

 

Hi, I'm Izzi, a master's student in psychology that just graduated from Biochemistry! I would like to think I have been an active member of the student community (?!), whether this be in the A Cappella society committee, as a student rep for the school of biosciences, or as being a member of the Societies Executive Committee last year! I always try to make well-being a priority of mine and aim to increase awareness about the mental health support accessible to us. I hope that by being a member of this committee I can emphasise the importance of the student voice and aim to foster inclusivity in everything the committee does. I hope to advocate for those who may not feel their voices are heard, especially in societies that are struggling, which being president of the A Cappella society last year gave me an invaluable insight into! Overall, I hope to assist the sabbatical officers and committee in building supportive, inclusive, and enjoyable student experience :)

 

Cymraeg

 

Shwmae, Izzi ydw i, myfyriwr ôl-raddedig seicoleg sydd newydd raddio mewn Biocemeg! Hoffwn feddwl fy mod yn aelod gweithredol o’r gymuned myfyrwyr (?!), boed hyn fel rhan o bwyllgor y gymdeithas A Cappella, fel cynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer ysgol y biowyddorau, neu fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau y llynedd! Rydw i o hyd yn ceisio gwneud lles yn flaenoriaeth a chodi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael i ni. Gobeithiaf gallaf bwysleisio pwysigrwydd llais y myfyrwyr trwy fod ar y pwyllgor ac eirioli dros rheiny sy’n teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, yn enwedig cymdeithasau sy’n ei chael hi’n anodd, a gwnaeth bod yn Llywydd y Gymdeithas A Capella rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i mi ynglŷn â hyn! I grynhoi, gobeithiaf gynorthwyo’r swyddogion sabothol a phwyllgor wrth adeiladu profiad myfyrwyr cefnogol, cynhwysol a hwyl :)

 

Jai Cooper

English

 

I would like to run for a Media position at Cardiff to primarily gain experience and also help people. I am currently the media manager for the Esports society and would like to explore further opportunities with media and get more involved this year.

 

Cymraeg

 

Hoffwn sefyll ar gyfer rôl Cyfryngau yng Nghaerdydd yn bennaf er mwyn ennill profiad a hefyd i helpu pobl. Ar hyn o bryd rydw i’n rheolwr cyfryngau gyda’r gymdeithas E-chwaraeon a hoffwn ymgysylltu â chyfleoedd pellach gyda chyfryngau a chymryd mwy o ran eleni.

 

Jake Enea

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Jason SZE

English

 

Hello! My name is Jason, and I am from Hong Kong currently studying Urban Planning. I have taken up multiple roles throughout my years at Cardiff University, such as Wellbeing Officer for International Students’ Association 2023/24, Student Reps and Student Ambassador. This year I am also the GeoPlan Society President. These roles have help me develop my skills in organizing events and encouraging participation in different ways. I believe all students should feel welcome to join different societies and events within the SU, creating a vibrant student community in our SU. My own experience and knowledge can contribute positively to the work of the VP Societies and Volunteering within the SU this academic year. Please vote for me! :)

 

Cymraeg

 

Helo! Fy enw i yw Jason, ac rydw i o Hong Kong gan astudio Datblygu Trefol ar hyn o bryd. Rydw i wedi ymgymryd â sawl rôl yn ystod fy mlynyddoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, megis Swyddog Lles Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol 2023/24, Cynrychiolydd Myfyrwyr, a Llysgennad Myfyrwyr. Eleni rydw i hefyd yn Llywydd y Gymdeithas GeoPlan. Mae’r rolau yma wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau wrth drefnu digwyddiadau ac annog ymgysylltiad mewn gwahanol ffyrdd. Rwy’n credu y dylai pob myfyriwr teimlo wedi’u croesawu i ymuno â gwahanol gymdeithasau a digwyddiadau o fewn yr UM, gan greu cymuned fyfyrwyr fywiog yn ein UM. Gyda fy mhrofiadau a gwybodaeth gallaf gyfrannu’n gadarnhaol at waith yr IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli o fewn yr UM eleni. Pleidleisiwch drosof i os gwelwch yn dda! :)

 

Joseph Tallamy

English

 

Hi Everyone, I’m Joe, and I would love to be on the Societies Executive Committee again this year! As an active member of the SU, I have been on eleven committees and sub-committees and have been a long-standing Student Rep, alongside recently being elected as LGBTQ+ Officer, a role in which I have already made a lot of progress! I am a member of many different types of society, meaning I have a good understanding of their roles within the larger SU structure. Communication is key within this role, and my experience means that I’m a good point of contact between the student body and the Vice President. Having been on the Societies Exec last year, I really enjoyed working the committee to make sure societies and events run smoothly. I believe my experience, commitment and presence within the SU would be very useful to the committee. I would love to bring my ideas and perspectives to the group, such as working to support a wider range of collaborations between societies! Thank You.

 

Cymraeg

 

Shwmae bawb, Joe ydw i, a bydden yn caru bod ar y Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau eto eleni! Fel aelod gweithredol o’r UM, rydw i wedi bod ar 11 pwyllgor ac is-bwyllgor, ac wedi bod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr, ynghyd â chael fy ethol fel Swyddog LHDTC+ yn ddiweddar, rôl rydw i eisoes wedi gwneud llawer o gynnydd ynddi! Rydw i’n aelod o sawl math gwahanol o gymdeithas, sy’n golygu bod gen i ddealltwriaeth dda o’r rolau o fewn strwythur ehangach yr UM. Mae cyfathrebu yn allweddol o fewn y rôl hon, ac mae fy mhrofiad yn golygu fy mod yn bwynt cyswllt da rhwng myfyrwyr a’r Is-lywydd. Wedi bod ar y Pwyllgor Gweithredol y llynedd, gwnes i fwynhau gweithio gyda’r pwyllgor i sicrhau bod cymdeithasau a digwyddiadau’n cael eu rhedeg yn effeithlon. Credaf y byddai fy mhrofiad, ymrwymiad, a phresenoldeb o fewn yr UM yn ddefnyddiol iawn i’r pwyllgor. Bydden yn caru dod â fy syniadau a safbwyntiau i’r grŵp, megis gweithio i gefnogi mwy o gydweithio rhwng cymdeithasau! Diolch.

 

Joshua Tandy

English

 

Hello, I am Joshua Tandy! I care: I care deeply about the role societies play in your university experience. They have made a hugely positive impact in my Uni experience and I hope they can have the same effect on yours. I’m experienced: I believe I am qualified for this role because of my experience as Vice-president and president of Show Choir society. These roles have taught me a true understanding of society structure and what societies could benefit from. I’m here to listen: I wish to listen to as many of my fellow societies and peers as possible and I hope I am able to obtain this position and put forward the ideas and dreams that you have to the VP societies position this coming year and ensure that all promises are followed through. Thank you for considering me.

 

Cymraeg

 

Shwmae, Joshua Tandy ydw i! Rydw i’n becso: Rydw i’n becso am rôl cymdeithasau yn eich profiad prifysgol. Maent wedi cael effaith gadarnhaol fawr ar fy mhrofiad Prifysgol a gobeithiaf y gallant gael yr un effaith arnoch chi. Rwy’n brofiadol: Credaf fy mod yn hynod gymwys ar gyfer y rôl hon oherwydd fy mhrofiad fel Is-lywydd a llywydd y gymdeithas Côr Sioe. Mae’r rolau yma wedi rhoi gwir ddealltwriaeth i mi o’r strwythur cymdeithasau a’r hyn fyddai’n buddio cymdeithasau. Rydw i yma i wrando: Rydw i am wrando ar gymaint o fy ngyd-gymdeithasau a chyd-fyfyrwyr â phosibl, a gobeithiaf ennill y rôl yma a rhannu eich syniadau a breuddwydion gyda’r IL cymdeithasau eleni a sicrhau bod pob addewid yn cael ei gwblhau. Diolch am fy ystyried.

 

Lauren Tutchell

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Margaret Wiltshire

English

 

I am a second year Law and Criminology student and I want to be part of your next Societies, Volunteering and Mediq committee. I believe everyone should have some form of joining a society or volunteering work whilst studying at uni. It is not only a way to have fun and meet people but it also develops your own personal skills for the future to be added to your CV. I will make sure that people have the opportunity to find a society or a volunteering project that suits them, I will also make sure everyone feels motivated with events and challenges that bring societies together and also get people to volunteer in groups. I am the person to vote for as I to struggled finding opportunities and I will make them more accessible. Thank you for your vote!

 

Cymraeg

 

Rydw i’n fyfyriwr y Gyfraith a Throseddeg yn fy ail flwyddyn ac rydw i am fod yn rhan o’ch pwyllgor Cymdeithasau, Gwirfoddoli a Chyfryngau nesaf. Rydw i’n credu y dylai pawb ymuno â chymdeithas neu wirfoddoli tra’n astudio yn y brifysgol. Mae nid yn unig yn ffordd o gael hwyl a chwrdd â phobl ond gall hefyd eich helpu i ddatblygu sgiliau personol i’w hychwanegu i’ch CV yn y dyfodol. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod gan bobl cyfle i ddod o hyd i gymdeithas neu brosiect gwirfoddoli sy’n addas iddyn nhw, byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr fod pawb yn frwdfrydig trwy ddigwyddiadau a heriau sy’n dod â chymdeithasau ynghyd a hefyd cael pobl i wirfoddoli mewn grwpiau. Fi yw’r person i bleidleisio dros oherwydd gwnes i wynebu heriau wrth ddod o hyd i gyfleoedd a byddaf yn eu gwneud yn fwy hygyrch. Diolch am eich pleidlais!

 

Maya Cowieson

English

 

I have been on committee for expression dance last year and this year so have a good idea of how the societies run as well as being involves in voulenteer work and a member of other societies. I study physiotherapy which has allowed me to gain great communication and team work skills allowing me to work together with other members of this committee to achieve the best outcome for the rest ofnthe societies. I love working as part of a team and think this would be a great opportunity to improve the societies and voulenteering aspect of our SU.

 

Cymraeg

 

Rydw i wedi bod ar bwyllgor cymdeithas ddawns xpression y llynedd ac eleni felly mae gen i syniad da o sut mae cymdeithasau’n cael eu rhedeg, ynghyd â chymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol a bod yn rhan o gymdeithasau eraill. Rydw i’n astudio ffisiotherapi sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm gwych, a fydd yn fy ngalluogi i weithio gydag aelodau eraill y pwyllgor hwn i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer cymdeithasau. Rydw i’n caru gweithio fel rhan o dîm a chredaf y byddai hyn yn gyfle gwych i wella cymdeithasau a gwirfoddoli o fewn ein UM.

 

Morgan Tiernan

English

 

Being president of a society here at Cardiff University, I feel I can provide great insight and assistance!

 

Cymraeg

 

Fel llywydd cymdeithas yma ym Mhrifysgol Caerdydd, teimlaf gallaf ddarparu mewnwelediad a chymorth!

 

Poppy Barlow

English

 

I have been an active societies committee member and attendee for my undergraduate degree and plan on doing the same through my masters. I would like to work with the VP to understand their role better and help bring representation of smaller societies forward.

 

Cymraeg

 

Rydw i wedi bod yn aelod gweithredol o bwyllgorau ac yn fynychwr cymdeithasau trwy gydol fy ngradd israddedig, ac rwy’n golygu parhau felly wrth gwblhau fy ngradd meistr. Hoffwn weithio gyda’r IL i ddeall ei rôl yn well a helpu cynrychioli cymdeithasau llai.

 

Rebecca Rumsey

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Rowan Bulpitt

English

 

I aim to uphold the manifesto presented by VP societies, volunteering and student media when they were elected. With focus on magnifying volunteering groups and charitable events to increase engagement, I will provide vital feedback from students as to how to further student/student union relations. Similarly, I hope to deliver vital advise to the roll out of consent and active bystander training to the members of the Guild of Societies. As committee member for two societies, one being a volunteer based charitable society, I believe that my contributions will prove valuable and practical for the advancement of VP societies, volunteering and student media.

 

Cymraeg

 

Fy nod yw cadw’r IL cymdeithasau, gwirfoddoli, a chyfryngau myfyrwyr at y maniffesto gwnaethon ei gyflwyno pan gawsant eu hethol. Gyda ffocws ar grwpiau gwirfoddoli a digwyddiadau elusennol er mwyn cynyddu ymgysylltiad, byddaf yn darparu adborth allweddol gan fyfyrwyr ynglŷn â sut i dyfu’r perthynas rhwng myfyrwyr ac undeb y myfyrwyr ymhellach. Yn yr un modd, gobeithiaf ddarparu cyngor hanfodol ar gyfer yr hyfforddiant cydsyniad ac ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol sy’n cael ei ddarparu i aelodau Urdd y Cymdeithasau. Fel aelod pwyllgor ar gyfer dwy gymdeithas, un sy’n gymdeithas gwirfoddoli elusennol, rwy’n credu y bydd fy nghyfraniadau’n werthfawr a’n ymarferol wrth wella gwaith yr IL cymdeithasau, gwirfoddoli a chyfryngau myfyrwyr.

 

Saee Joshi

English

 

As a second-year BSc Biomedical Science student, I am passionate about promoting inclusivity and equality at Cardiff University. Currently, I serve as the Volunteer Coordinator for Cardiff Marrow Society and Secretary for the Cocktail Society, giving me a deep understanding of the value societies, volunteering, and media bring to student life. I believe student voices are crucial in shaping a successful university experience, balancing academics with extracurricular activities. By nominating myself for this role, I aim to actively engage in committee meetings, listen to feedback, and work to enhance student engagement and experiences across the board.

 

Cymraeg

 

Fel myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol BSc yn fy ail flwyddyn, rydw i’n angerddol iawn am hyrwyddo cynwysoldeb a chydraddoldeb ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, rydw i’n Gydlynydd Gwirfoddol gyda Chymdeithas Mêr Esgyrn Caerdydd, ac yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Coctels, sy’n rhoi mewnwelediad dyfnach i mi o werth cymdeithasau, gwirfoddoli, a chyfryngau o fewn bywyd myfyrwyr, Rydw i’n credu bod lleisiau myfyrwyr yn hanfodol wrth lunio profiad myfyrwyr llwyddiannus, gan gydbwyso’r ochr academaidd gyda gweithgareddau allgyrsiol. Trwy enwebu fy hun ar gyfer y rôl hon, fy nod yw ymgysylltu mewn cyfarfodydd pwyllgor, gwrando ar adborth, a gweithio i wella ymgysylltiad a phrofiadau myfyrwyr yn gyffredinol.

 

Samuel Edmead

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Taylor Allsop

English

 

Hi! My name is Taylor and I’m running to be part of the Societies, Volunteering & Media Executive Committee this year! Last year, I was on the executive committee and I had such a fabulous time. From planning the SVMAs, to approving new societies, to listening to other society’s views so we could implement them into the student experience, being part of the executive committee was so fulfilling. I believe I’d be a great choice for the executive committee, as I have been a part of society committees for 4 years now. I was a part of Photography Society’s Save a Soc program, and you’ve probably seen me singing my heart out as part of Show Choir! I’ve been in almost every committee role out there, so I’m pretty knowledgeable on the ins and outs of the SU world! I would really appreciate your vote, and thank you for reading!

 

Cymraeg

 

Shwmae! Fy enw i yw Taylor ac rydw i’n sefyll i fod yn rhan o’r Pwyllgor Gweithredol Cymdeithasau, Gwirfoddoli a Chyfryngau eleni. Y llynedd, roeddwn ar y pwyllgor gweithredol a chefais amser gwych. O gynllunio’r SVMAs, a chymeradwyo cymdeithasau newydd, i wrando ar safbwyntiau cymdeithasau fel ein bod yn gallu eu cynnwys ym mhrofiad myfyrwyr, roedd bod yn rhan o’r pwyllgor gweithredol hynod gwerth chweil. Rydw i’n credu bydden yn ddewis gwych ar gyfer y pwyllgor gweithredol, oherwydd rydw i wedi bod yn rhan o bwyllgorau cymdeithasau am 4 mlynedd bellach. Roeddwn yn rhan o gynllun Achub Cymdeithas y Gymdeithas Ffotograffiaeth, ac mae’n debygol eich bod wedi fy ngweld yn perfformio gyda’r Côr Sioe! Rydw i wedi cyflawni bron pob rôl pwyllgor, felly rydw i’n deall sut mae’r UM yn gweithio. Bydden yn gwerthfawrogi eich pleidlais, a diolch yn fawr am ddarllen!

 

William Connor

English

 

As current President of Act One Drama Society and a member of 4 other societies throughout my time at uni I feel I can offer an experienced and well-rounded viewpoint on the state of the societies community within Cardiff. Societies are the beating heart of the student experience and I would love to offer my services to supporting Eve and the rest of the Societies and Volunteering team to ensure everything moves as smoothly as possible, giving all students a streamlined and accessible experience within the SU.

 

Cymraeg

 

Fel Llywydd presennol Cymdeithas Ddrama Act One ac aelod o 4 cymdeithas arall yn ystod fy amser yn y brifysgol teimlaf gallaf gynnig safbwynt profiadol ar sefyllfa’r gymuned cymdeithasau o fewn Caerdydd. Cymdeithasau yw calon profiad myfyrwyr a bydden yn caru cynnig fy ngwasanaethau i gefnogi Eve a gweddill y tîm Cymdeithasau a Gwirfoddoli er mwyn sicrhau fod popeth yn symud mor effeithlon â phosib, gan roi profiad hygyrch o safon uchel i fyfyrwyr o fewn yr UM.

 

 

 

 

Welsh Executive CommitteePwyllgor Gweithredol y Gymraeg

 

Courtney Abbey

English

 

Having grown up on Anglesey, moving to Cardiff was a massive change for me! Moving to a community where most people don’t speak Welsh was strange having spoken Welsh as my first language my whole life, and very isolating. I was lucky enough to meet Welsh friends, who made me feel at home during a time full of big changes. After two years of studying in English my written Welsh is rusty (oops!), but I hope to contribute to the Welsh Executive Committee by supporting the VP Cymraeg in creating a welcoming community for Cardiff’s Welsh students and creating places to celebrate our community and language with others!!!

 

Cymraeg

 

Ar ôl tyfu fyny ar Ynys Môn, roedd symud i Gaerdydd yn newid hiwj i mi! Roedd symud i cymuned lle mae’r mwyafrif o bobl ddim yn siarad Cymraeg yn rhyfedd ar ôl i mi siarad Cymraeg iaith gyntaf fy holl fywyd, ac yn unig iawn. Mi o’n i’n ddigon ffodus i cwrdd a ffrindiau Cymreig, a oedd yn gwneud i mi deimlo mor gatrefol yn ystod amser llawn newidiadau fawr! Ar ôl dau flwyddyn o astudio yn Saesneg, mae fy Cymraeg ysgrifenedig yn ‘rusty’ (oops!), ond rwyf yn gobeithio cyfrannu i’r phyllgor Gweithredol y Gymraeg trwy cynorthwyo’r VP Cymraeg creu cymuned croesawgar i myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, ac creu llefydd i dathlu ein cymuned ac iaith hefo eraill!!!

 

Efa Maher

English

 

Hia, my name is Efa, and I would like to be part of this year’s committee to ensure that the opinion of every Welsh student is heard. As a second-year mathematics student, I understand how hard it can be to receive Welsh provision in your school, and the social barriers of not studying entirely through the medium of Welsh – but I would like to improve this. As a member of the gymgym and UMCC, I have ideas for how to improve our experiences, and the skills to achieve these too. I want to be a voice for every student and hope you would trust me to support you. Diolch!

 

Cymraeg

 

Heia, fy enw i yw Efa, a hoffwn i fod yn rhan o’r pwyllgor eleni i sicrhau fod barn pob myfyriwr Cymreig yn cael ei glywed. Fel myfyriwr ail flwyddyn mathemateg, dwi’n deall pa mor anodd mae gallu bod i dderbyn darpariaeth Cymraeg yn eich ysgol, a’r rhwystrau cymdeithasol wrth beidio astudio yn llwyr drwy’r Gymraeg- ond licen i wella hwna. Fel aelod o’r gymgym ac UMCC, mae syniadau gen i ar sut i wella ein profiadau ni, a’r sgiliau i’w cyflawni nhw hefyd. Dwi ishe fod yn lais i bob fyfyriwr, ac yn gobeithio y byddech chi’n ymddiried ynof fi i’ch cefnogi. Diolch!

 

Ellis Jones

English

 

Hello everyone! I hope you’re all well! I’m Ellis and here are a few reasons why I should be on the Committee: •I have been an Undergraduate and Master’s student, and am currently completing my PhD through the Coleg Cymraeg, so I understand how important the Welsh community is to the university’s students at every stage of their education. •I’m ready to work hard to help Welsh students get the best University experience. Here are a few things I would try to achieve on the committee: •Try to increase general awareness, and membership, of our Welsh societies •Give Welsh students a fair hearing within the university •Help plan new events for the Welsh community And here’s the experience I have that would help me be a good committee member: •I’ve been on the Union’s executive committees before: The Societies Exec and Give It A Go! • I am also on university society committees including Plaid Cymru Thanks you for your consideration!p

 

Cymraeg

 

Helo pawb! Gobeithio bo’ chi’n cadw’n iawn! Ellis dwi a dyma ambell reswm pam ddylwn i fod ar y Pwyllgor: •Yr wyf wedi bod yn fyfyriwr Israddedig, Meistri ac ar hyn o bryd yn gwneud PhD trwy’r Coleg Cymraeg, felly dwi’n deall pa mor bwysig yw’r gymuned Gymraeg i fyfyrwyr y brifysgol ym mhob cam o’u hastudiaethau •Rwy’n barod i weithio’n galed er mwyn helpu myfyrwyr Cymraeg gael y profiad Prifysgol gorau Dyma ambell beth y buaswn yn ceisio ei gyflawni ar y pwyllgor: •Ceisio cynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol o, ac aelodaeth, ein cymdeithasau Cymraeg •Rhoi gwrandawiad teg i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol •Helpu cynllunio digwyddiadau newydd i’r gymuned Gymraeg A dyma’r profiad sydd gennyf a fuasai’n help imi fod yn aelod pwyllgor da: •Rwyf wedi bod ar bwyllgorau gweithredol yr Undeb yn flaenorol: Pwyllgorau y Cymdeithasau, a Rhowch Gynnig Arni! • Dwi hefyd ar bwyllgorau cymdeithasau prifysgol gan gynnwys Plaid Cymru Diolch am eich ystyriaeth! Ellis

 

Gwilym Morgan

English

 

Gwilym ydw i, I am Gwil, and I am standing for Welsh Executive. I am a proud second language Welsh learner, currently in my first year studying Welsh and French at Cardiff University. My passion for the Welsh language has led me to earn the Welsh Learner’s Medal at the Urdd Eisteddfod 2023, an achievement that reflects my dedication and love for the language and culture of Wales. As someone who is deeply committed to promoting language learning, I’ve taken on the role of a Modern Foreign Languages (MFL) Mentor, where I actively encourage Year 8 and 9 students to study languages. This experience has reinforced my desire to become a teacher in the future, and it drives my commitment to put the needs and wants of others above my own. I am also a strong supporter of Welsh culture and politics and believe that we should always strive to improve and bring about positive change. If elected, I will work hard to represent your voice, ensuring that our shared interests are acted upon.

 

Cymraeg

 

Gwilym ydw i, ac rydw i’n sefyll ar gyfer Pwyllgor Gweithredol y Gymraeg. Rydw i’n ddysgwr Cymraeg ail iaith balch, ar hyn o bryd yn fy mlwyddyn gyntaf o astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy angerdd am yr iaith Gymraeg wedi fy arwain i ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2023, cyflawniad sy’n adlewyrchu fy ymroddiad a chariad tuag at iaith a diwylliant Cymru. Fel rhywun sy’n ymroddedig iawn i hyrwyddo dysgu ieithoedd, rydw i wedi ymgymryd â’r rôl o Fentor Ieithoedd Modern, lle rwy’n annog myfyrwyr blwyddyn 8 a 9 i astudio ieithoedd. Mae’r profiad hwn wedi atgyfnerthu fy awydd i fod yn athro yn y dyfodol, ac mae’n gyrru fy ymroddiad i roi anghenion eraill o flaen fy rhai i. Rydw i hefyd yn gefnogwr cryf o ddiwylliant a gwleidyddiaeth Gymreig a chredaf dylem bob amser ymdrechu i wella a sicrhau newid cadarnhaol. Os caf fy ethol, byddaf yn gweithio’n galed i gynrychioli eich llais, gan sicrhau bod ein diddordebau’n cael eu gweithredu arnynt.

 

Owain Siôn

English

 

No Manifesto Submitted

 

Cymraeg

 

Ni Chyflwynwyd Maniffesto

 

Thomas Pugh

English

 

I’m very passionate about the Welsh language and am a keen and active member of Cymdeithas yr Iaith. I would like to be a Welsh teacher after graduating so that I can give others the opportunity to learn the language. Likewise, I think every student should have the chance to use the Welsh language in the University. Welsh shouldn’t be a footnote, but rather it should be a prominent part of student life. If I am elected, I will campaign relentlessly to make that a reality

 

Cymraeg

 

Rwy'n angerddol iawn dros y Gymraeg ac yn aelod brwd a gweithgar o Gymdeithas yr Iaith. Hoffwn fod yn athro Cymraeg ar ôl graddio er mwyn rhoi cyfle i eraill ddysgu'r iaith. Yn yr un modd, credaf y dylai fod gan bob myfyriwr y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol. Ni ddylai'r Gymraeg fod yn droednodyn ond, yn hytrach, rhaid iddi fod yn rhan flaenllaw o fywyd myfyrwyr. Os caf fy ethol byddwn yn ymgyrchu'n ddi-baid i wireddu hynny.

 

 

AUTUMN ELECTIONS
Find out more

Key Dates

Nominations open Monday 16 September 2024 (10:00)

Nominations close Thursday 3 October 2024 (16:00)

Voting opens Monday 21 October 2024 (10:00)

Voting closes Thursday 24 October 2024 (16:00)

Results announced Friday 25 October 2024