What should I do if I can’t vote?
Beth ddylwn ei wneud os na allaf bleidleisio?
There are a few things to try before flagging this with the Students' Union. If you are having problems logging into all university systems, you may need to reset your password. You should also try logging in using your student number both with and without the ‘C’.
Mae cwpwl o bethau gallwch roi cynnig arno cyn cysylltu â’r Undeb Myfyrwyr. Os ydych yn cael trafferth mewngofnodi, efallai bod angen i chi ailosod eich cyfrinair. Dylech hefyd rhoi cynnig ar fewngofnodi gyda’ch rhif myfyrwyr gydag a heb y ‘C’.
If you are still struggling, you can go to the ‘Still Having Problems?’ link at the bottom of the help page on the website, and it will direct you to our web team, who will be able to help. To make this process quicker, make sure to get in touch using your Cardiff university email, including your student ID number and a screenshot of what you are seeing on the voting page within your email.
Os ydych yn cael trafferth o hyd, gallwch fynd i’r ddolen ‘Cael Trafferth O Hyd?’ ar waelod y dudalen cymorth ar y wefan, a fydd yn eich cyfeirio at ein tîm gwe. Er mwyn cyflymu’r broses, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Caerdydd, a dylech gynnwys eich rhif myfyriwr a sgrinlun o’r hyn sy’n ymddangos ar eich tudalen pleidleisio.
If you require any further support, please contact Elections@Cardiff.ac.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch ag Elections@Cardiff.ac.uk
I can’t decide who to vote for?
Ni allaf benderfynu pwy i bleidleisio dros?
To help you decide who to vote for candidates have been asked four questions outlining their experience and what they would do if elected. You can read the candidates’ responses on the ‘Meet the Candidates’ tab.
I’ch helpu i benderfynu pwy i bleidleisio dros rydym wedi gofyn pedwar cwestiwn i ymgeiswyr er mwyn iddynt rannu eu profiad a blaenoriaethau gyda chi. Gallwch ddarllen atebion yr ymgeiswyr ar y dudalen Cwrdd Â’r Ymgeiswyr.
What if I think a candidate has broken the rules?
Beth os ydw i’n meddwl bod ymgeisydd wedi torri’r rheolau?
If you need to make a complaint about a candidate, visit our complaints page and fill in the online form. You will also find the election regulations on our complaints page.
Os oes angen i chi wneud cwyn am ymgeisydd, ewch i’n dudalen cwynion a llenwch y ffurflen. Gallwch hefyd ddod o hyd i reoliadau’r etholiad ar y dudalen hon.
Why have I got a £5 SU Voucher for voting?
Pam fy mod yn derbyn taleb £5 UM am bleidleisio?
Electing students into leadership roles to represent the student population in the running of Cardiff Students’ Union is one of the most important things we do each year. For those student leaders to be as representative of the student population as possible, we need lots of students to vote. And when we say lots, we mean the more the better!
Ethol myfyrwyr i rolau arweinyddiaeth er mwyn cynrychioli eraill o fewn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yw un o’r pethau pwysicaf a wnawn bob blwyddyn. Er mwyn i’r myfyrwyr sy’n cael eu hethol bod mor gynrychioliadol â phosib, mae angen i lawer o fyfyrwyr bleidleisio. Ac wrth ddweud llawer, rydym yn golygu po fwyaf y gorau!
So to say a big thank you for taking the time to cast your vote, we're giving all voters a £5 Students’ Union voucher on us!
Felly i ddweud diolch enfawr, rydym yn rhoi taleb Undeb Myfyrwyr gwerth £5 i bawb sy’n pleidleisio.
I have voted but not received a voucher?
Rydw i wedi pleidleisio ond heb dderbyn taleb?
Anyone who votes in the Students’ Union Election will receive an email on Friday 28th March detailing how to redeem their voucher. Collection of vouchers will begin from Thursday 3rd Apri 2025 and voters will have until Friday 9th May to collect.
Bydd unrhyw un sy’n pleidleisio yn Etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn derbyn e-bost dydd Gwener 28ain Mawrth yn esbonio sut i hawlio eu taleb. Bydd modd casglu talebau o ddydd Iau 3ydd Ebrill 2025 tan ddydd Gwener 9fed Mai.
Students’ Union Voucher – Terms & Conditions
Taleb Undeb y Myfyrwyr -Telerau ac Amodau
-
£5 Students’ Union vouchers are limited to one per student who submits an online ballot paper during the 2025 Spring Elections voting period (24th-27th March 2025).
Mae talebau £5 Undeb y Myfyrwyr wedi’u cyfyngu i un fesul myfyriwr sy’n cyflwyno pleidlais ar-lein yn ystod cyfnod pleidleisio Etholiadau’r Gwanwyn 2025 (24ain-27ain Mawrth 2025).
-
£5 Vouchers can be redeemed in The Taf, Starbucks (Level 2, Students’ Union building) and Love Cardiff (excluding Post Office transactions) only.
Gellir defnyddio talebau £5 yn Y Taf, Starbucks (2il Lawr, Adeilad Undeb y Myfyrwyr), a Caru Caerdydd (heb gynnwys y Swyddfa Bost) yn unig.
-
£5 must be redeemed in a single transaction, no change will be given. Cannot be used or exchanged for a deposit for any other or future purchases.
Rhaid defnyddio’r £5 ar gyfer un pryniant, ac ni fydd newid yn cael ei roi. Nid oes modd ei ddefnyddio neu ei drosglwyddo fel blaendal ar gyfer unrhyw bryniant yn y dyfodol.
-
Only one voucher to be redeemed per transaction.
Dim ond un daleb i’w defnyddio fesul pryniant.
-
An email confirmation will automatically be sent to voters once they have voted for all positions. This email confirmation will need to be shown at a collection point (outlined in point 6) and a physical voucher will be given.
Bydd pleidleiswyr yn derbyn e-bost awtomatig ar ôl pleidleisio ar gyfer pob rôl. Bydd angen dangos yr e-bost hwn wrth gasglu taleb o un o’r lleoliadau perthnasol (wedi’i nodi ym mhwynt 6).
-
Vouchers can be collected from:
Gellir casglu talebau o:
-
Students’ Union Welcome Centre in Cathays, Monday > Friday 09:00 to 17:00
Canolfan Groeso Undeb y Myfyrwyr yn Cathays, dydd Llun > Gwener 09:00 i 17:00
-
The Students’ Union Hub in the IV Lounge at Heath Park, Monday > Friday 10:00 to 14:00
Hwb Undeb y Myfyrwyr yn Lolfa IV Parc y Mynydd Bychan, dydd Llun > Gwener 10:30 i 14:30
-
Voucher collection will begin on Thursday 3rd April 2025 and will end on Friday 9th May 2025. Vouchers must be redeemed by Friday 13th June 2025.
Bydd y cyfnod casglu yn cychwyn dydd Iau 3ydd Ebrill 2025 a’n gorffen dydd Gwener 9fed Mai 2025. Rhaid defnyddio talebau erbyn dydd Gwener 13eg Mehefin 2025.
-
Vouchers not valid on Graduation items in Love Cardiff.
Nid yw talebau’n ddilys ar gyfer nwyddau graddio Caru Caerdydd.
-
Vouchers valid on Food and Drink only when used in the Taf or Starbucks (Level 2, Students' Union Building).
Talebau’n ddilys ar gyfer bwyd a diod yn Y Taf a Starbucks (2il Lawr, Adeilad Undeb y Myfyrwyr) yn unig.
-
Vouchers cannot be exchanged for any cash value.
Nid oes modd trosglwyddo talebau am arian.
-
We reserve the right to remove this promotion at any time without notice.
Rydym yn cadw’r hawl i gau’r cynnig hwn ar unrhyw adeg heb rybudd.
-
Students collecting their voucher from the Heath Park Campus prior to Friday 11th April 2025 may exchange their £5 SU Voucher for a £5 IV Lounge Voucher:
Gall myfyrwyr sy’n casglu eu taleb o Gampws Parc y Mynydd Bychan cyn yr 11eg o Ebrill gyfnewid eu taleb UM £5 am daleb Lolfa IV £5:
-
The ability to exchange is restricted on a first-come first-serve basis until stocks last.
Mae’r gallu i gyfnewid wedi’i gynnig ar sail gyntaf i’r felin tra bod stoc yn para.
-
All IV Lounge vouchers expire on Friday 11th April 2025.
Nid yw talebau’r Lolfa IV yn ddilys ar ôl yr 11eg o Ebrill.
-
Students who are unable to attend campus regularly may request to exchange their £5 SU Voucher for an online £5 Love Cardiff Voucher:
Gall myfyrwyr sy’n methu dod i’r campws i gasglu eu taleb gwneud cais i gyfnewid eu taleb UM £5 am daleb Caru Caerdydd ar-lein.
-
The ability to exchange is restricted on a first-come first-serve basis until stocks last.
Mae’r gallu i gyfnewid wedi’i gynnig ar sail gyntaf i’r felin tra bod stoc yn para.
-
Requests must be made by emailing elections@cardiff.ac.uk during the collection period.
Rhaid gwneud ceisiadau trwy e-bostio elections@cardiff.ac.uk yn ystod y cyfnod casglu.