Damp and Mould

 

Dampness is a major problem in rented student houses across the country. It is important that you know what you can do and what your rights are if you have damp and mould in your student house.

 

Damp is caused through excess moisture in the home and can lead to the growth of mould/mildew that appears as a cloud of little black dots on walls, furniture, clothes, window frames, floors and skirting boards.

 

Dampness can damage the interior of your property, rotting timber fixtures and wall plaster. More importantly, damp and mould can encourage the growth of house dust mites and can increase the risk of respiratory illnesses, such as asthma, due to the inhalation of the mould spores.

 

Find out more about how damp and mould affects your health here.

 

 

Who is responsible?

 

The standards of your rented home are determined by your tenancy agreement and statutory laws enforced by Shared Regulatory Services (SRS). A landlord has a number of legal obligations and these include ensuring that the house is fit for human habitation and safe to live in during your tenancy.

 

Fitness for human habitation in law looks at, amongst other things, freedom from damp, and the property must also be free from hazards, such as damp and mould growth. Responsibility for fixing damp and mould depends on what is causing it.

 

Condensation damp will arguably be your responsibility but, if reasonable steps to address the condensation do not work, you can argue the problem is due to poor design/construction or disrepair, for which the landlord is responsible. Landlords commonly argue condensation is the problem, so it is essential to evidence that you have done everything reasonable to prevent condensation and to report to your landlord/agent as quickly as possible.

 

Penetrating and rising damp will always be the responsibility of the landlord to address.

 

Causes

 

There are a few major causes of excessive moisture in the home. These include:

 

  • Condensation;
  • Penetrating dampness (repair problems);
  • Rising damp, and;
  • Construction damp.

 

If you have taken measures to reduce levels of condensation and/or levels of damp are extreme, the cause is more likely to be structural and you will need to approach your landlord, or letting agent.

 

Condensation

 

Condensation occurs when the air and/or surfaces are cold and when the moisture content of the air is high. As a result, condensation tends to get worse in cold weather. The main causes of condensation are:

 

  • Steam from cooking, showering and the drying of laundry inside the home;
  • Insufficient ventilation;
  • Insufficient heating, or;
  • A lack of insulation.

 

Penetrating dampness (repair problems)

 

Penetrating damp is caused by structural defects with the property, such as a leaky roof, gutter, rainwater pipes and even mains water supply. Water is essentially getting into the property from outside. This is more likely in properties that are not well maintained by the landlord. Penetrating damp will get worse in wet weather.

 

Rising damp

 

Rising dampness can affect ground floor rooms, particularly basement properties and is caused by water from the ground getting into the walls and floors, often because a 'damp proof course' (DPC) or 'damp proof membrane' (DPM) has failed, or where the property was built without damp proofing. Rising damp is more prevalent in older properties.

 

Construction damp

 

Construction damp is caused by the poor design of the property. Your landlord has a legal obligation to maintain the structure or exterior of the property and so it is common for disputes to arise as to who is responsible for damp caused as a result of poor interior design that inhibits ventilation, promotes excessive moisture in the air or reduces the temperature of the property.

 

 

Preventing Condensation

 

Condensation can be reduced by following the following steps:

 

  • Produce less moisture by drying laundry outside, or using a tumble dry with an outside vent;
  • Cover your pans when cooking;
  • Close internal doors when cooking or showering;
  • Leave window trickle-vents open;
  • Briefly open windows a few times a day - particularly in bedrooms;
  • Use extractor fans when showering/cooking in bathrooms/kitchens;
  • Avoid putting too much in storage and wardrobes to allow for airflow;
  • Leave a gap between furniture and walls to increase airflow;
  • Heat your home keeping temperatures above 15 degrees, and;
  • Check that there is sufficient insulation in your attic and requesting more were appropriate.

 

Condensation will be reduced where there is less moisture in the air, the property is warmer and ventilation is promoted.

 

 

How to get rid of light mould

 

Where the cause of the mould is condensation, taking the basic steps, outlined above should address the cause of the problem. Light mould can be wiped off walls and surfaces with hot soapy water and vinegar and soft furnishing washed. Once finished, use a dry rag to remove the moisture from the wall.

 

Please be aware that disturbing mould by brushing or vacuum cleaning may increase the risk of respiratory problems. If taking basic steps to address the problem, you may want to consider protecting yourself from mould spores by wearing goggles, rubber gloves and a mask that covers your nose and mouth. Open the windows but keep doors closed to prevent spores spreading to other areas of the house. Consider using a good quality fungicidal paint to help prevent mould recurring if redecorating.

 

Remember the throw sponges, clothes and rags away that have been used to clean mould.

 

Measures your landlord can take to address the problem

 

The measures available to your landlord or managing agent will be determined by the cause of the damp. Where damp is created as a result of structural, or construction-based problems, the only long term solution will be to conduct building maintenance. This can be costly and some landlords will be reluctant to pay for this.

 

Painting over mould will not generally resolve a mould problem unless that paint contains a fungicidal agent and even then, this will not be addressing the cause of the damp.

 

Your landlord can consider giving you a dehumidifier as a temporary measurer to dry out the interior of the property. This cannot be a permanent measurer as the equipment may become expensive to operate from mains electricity. Similarly, it will not itself address the source of the damp.

 

SRS Concerns

 

All rented homes must meet certain health and safety standards. SRS can inspect your home and use the Housing Health and Safety Rating System (HHSRS) to assess if there are risks. They can take action against landlords if risks are identified.

 

You can make a complaint online or call 0300 123 6696.

 

The HHSRS assesses faults in your home and how they might affect your health and safety. The HHSRS considers how likely it is that a hazard would occur and how serious the outcome would be. If the assessment shows your home isn’t safe, the council can take action against your landlord.

 

The HHSRS looks at lots of different things, including damp and mould growth.

 

SRS Enforcement

 

If SRS decides that your home includes a serious hazard, they have to take action.

 

They can do this by:

 

  • issuing a hazard awareness notice – this warns the landlord that the council is aware of the problem;
  • giving your landlord an improvement notice, ordering the landlord to carry out certain repairs or improvements by a certain time;
  • ordering the closure of all or part of a building or restricting the number of people who live in the property;
  • taking emergency action, to do the repairs themselves and reclaiming the costs from the landlord;
  • making an order to demolish the property, and;
  • buying the property from the landlord under the compulsory purchase rules.

 

If SRS identify minor repair issues in your house, they do not have to take action but they can decide to enforce the improvements, to avoid future problems.

 

Addressing the Problem

 

Take photos as evidence of the mould and any visible signs/causes of damp. You should then report any problems to your landlord in writing and allow a reasonable time for them to be fixed.The time needed will depend on the urgency of the problem. The more severe the damp and mould and the more it is affecting your safety, the more urgent the repair.

 

Your contract is with your landlord and it is your landlord who has the legal obligation to keep the property in good repair and fit for human habitation. In 2022, the Renting Homes Act came in to force on the 1st December which means that some rules have changed. Most student private rented accommodation is managed by a letting agent, which means that all repair issues should be reported to the letting agent. The agent must then inform the landlord and act on the landlord’s instructions. If you believe the agent is not acting as they should you can ask them to provide you with the landlord's contact details if you do not have them. Agents must provide landlord contact details to tenants within 14 days of it being requested by a tenant. This is a legal requirement under the Landlord and Tenant Act 1985. Once you have the address we recommend writing directly to the landlord as well as the agent.

 

Your first formal email/letter should state:

 

  • Exactly what the problem(s) are;
  • If the issues have been reported before, detail when and include evidence if you have it;
  • That the landlord is legally obliged to provide an effective repair within a reasonable time;
  • What timescale you are deeming as reasonable;
  • What you want the landlord to do (i.e. complete an effective repair and pay compensation to cover any loss caused to you by the damp and mould).
  • What action you will be taking to pursue the matter further (i.e. contacting Shared Regulatory Services and/or considering legal action)
  • Attach relevant evidence;
  • Keep a record of everything you send. If you are sending a letter, you should do so by ‘to sign for’ delivery through the Post Office, to make sure you have proof that the landlord has received it.

 

Second formal email/letter:

 

  • If the landlord/agent does nothing, you will need to send a second letter. In this you should:
  • Refer to your previous letter and the lack of response and/or action;
  • State if you have or will be reporting the issue to SRS;
  • State what you want the landlord/agency to do. This may be exactly the same as the first letter but may have changed if repairs have been started or the problem has become worse.
  • Give a set and reasonable deadline for the landlord/agent to do what you have asked;
  • State what you will be doing next if the landlord/agent fails to meet your deadline, i.e. going back to SRS and/or taking legal action.

 

If there is no response to your request to fix the damp and mould, or if the problem is sufficiently serious, you can contact Shared Regulatory Services, who are responsible for enforcing certain housing standards as above.

 

Withholding Rent

 

You should not normally withhold rent because the landlord has failed to carry out a repair, as you will be breaking your contract. Although you may feel justified in refusing to pay the rent, your landlord could take court action against you.

 

Compensation

 

Some damp and mould will cause you inconvenience and distress or cause damage to your belongings. If this happens, you may be able to claim compensation from your landlord, even after you move out. If your landlord refuses to compensate you, your only option will be to issue a claim against them in County Court. You will need to make a claim in writing to the landlord or agent before taking legal action as the Court will expect you to try and avoid the need for a formal claim. We normally recommend an initial letter giving the first deadline, followed by a letter warning of legal action if the first letter gets no response (as detailed above).

 

Other steps you might wish to take:

 

  • Take the landlord to court yourself;
  • If your home is managed by a Letting Agent you may be able to make a complaint to The Property Ombudsman who can look at a complaint about the service you receive from your letting agent. It is your Landlords responsibility to carry out repairs so the Ombudsman will not consider a failure to carry out repairs in accordance with the law and tenancy agreement, but they will look at whether the agent communicated effectively with the landlord and acted promptly on instructions received;
  • Make a complaint to Rent Smart Wales

 

Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 

Lleithder a Llwydni

Mae lleithder yn broblem fawr mewn tai rhent myfyrwyr ledled y wlad. Mae'n bwysig i chi wybod beth allwch ei wneud a beth yw eich hawliau os oes gennych leithder a llwydni yn eich tŷ myfyriwr.

 

Mae lleithder yn cael ei achosi gan ormodedd o wlybaniaeth yn y cartref a gall arwain at dwf mowld/llwydni sy'n ymddangos fel clwstwr o ddotiau bach du ar waliau, dodrefn, dillad, fframiau ffenestri, lloriau a byrddau sgyrtin.

 

Gall lleithder niweidio strwythurau mewnol eich tŷ, gan bydru dodrefn pren a phlastr wal. Yn bwysicach fyth, gall lleithder a llwydni achosi gronynnau llwch tŷ i dyfu a gall gynyddu'r risg o salwch resbiradol, fel asthma, o ganlyniad i anadlu’r gronynnau llwch i mewn.

 

Darganfyddwch fwy am sut mae lleithder a llwydni yn effeithio ar eich iechyd yma.

 

 

Pwy Sy'n Gyfrifol?

 

Eich cytundeb tenantiaeth sy’n pennu safonau eich cartref rhent yn ogystal â deddfau statudol a orfodir gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS). Mae gan bob landlord nifer o rwymedigaethau cyfreithiol sy’n cynnwys sicrhau bod y tŷ yn addas a diogel i bobl fyw ynddo yn ystod eu tenantiaeth.

 

Yn ôl y gyfraith, mae addasrwydd i bobl fyw yn edrych ar, ymhlith pethau eraill, rhyddid rhag lleithder, a rhaid i'r eiddo hefyd fod yn rhydd o beryglon, fel lleithder a thwf llwydni. Mae'r cyfrifoldeb am drwsio lleithder a llwydni yn dibynnu ar yr hyn sy'n ei achosi.

 

Gellir dadlau mai eich cyfrifoldeb chi fydd lleithder anwedd ond, os nad yw’r camau arferol yn gweithio, mae’n bosib bod y broblem o ganlyniad i ddylunio/adeiladu gwael neu’r ffaith bod pethau mewn cyflwr gwael, sy’n gyfrifoldeb ar y landlord. Yn aml, mae landlordiaid yn dadlau mai anwedd yw'r broblem, felly mae'n hanfodol dangos eich bod wedi gwneud popeth rhesymol i atal anwedd ac i roi gwybod i'ch landlord/asiant cyn gynted â phosibl.

 

Cyfrifoldeb y landlord fydd mynd i'r afael â lleithder treiddiol a chynyddol bob amser.

 

Achosion

 

Mae ychydig o brif bethau sy’n achosi lleithder gormodol yn y cartref. Gan gynnwys:

 

  • Anwedd
  • Lleithder treiddgar (problemau atgyweirio)
  • Lleithder cynyddol
  • Lleithder adeiladwaith

 

Os ydych wedi cymryd camau i leihau lefelau anwedd a/neu mae’r lefelau'r lleithder yn eithafol, mae'r achos yn fwy tebygol o fod yn strwythurol a bydd angen i chi gysylltu â'ch landlord, neu asiant.

 

Anwedd

 

Mae anwedd yn digwydd pan fydd yr aer a/neu'r arwynebau'n oer a phan fydd cynnwys lleithder yr aer yn uchel. O ganlyniad, mae anwedd yn tueddu i waethygu mewn tywydd oer. Prif achosion anwedd yw:

 

  • Stêm o goginio, defnyddio’r gawod, a sychu a golchi dillad y tu mewn i'r cartref;
  • Awyru annigonol;
  • Gwresogi annigonol, neu;
  • Diffyg inswleiddio.

 

Lleithder Treiddgar (Problemau Atgyweirio)

 

Mae lleithder treiddgar yn cael ei achosi gan ddiffygion strwythurol yn y tŷ, gan gynnwys to sy'n gollwng, gwter, pibellau dŵr glaw a hyd yn oed y prif gyflenwad dŵr. Yn y bôn, mae dŵr yn mynd i mewn i'r tŷ o'r tu allan. Mae hyn yn fwy tebygol mewn eiddo nad yw'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda gan y landlord. Bydd lleithder treiddiol yn gwaethygu mewn tywydd gwlyb.

 

Lleithder Sy'n Codi

 

Gall lleithder sy'n codi effeithio ar ystafelloedd ar y llawr gwaelod, yn enwedig ystafelloedd tanddaearol. Fe’i achosir gan ddŵr o'r ddaear yn mynd i mewn i'r waliau a'r lloriau, yn aml oherwydd bod 'cwrs atal lleithder' (DPC) neu 'groen atal lleithder' (DPM) wedi methu, neu lle cafodd yr eiddo ei adeiladu heb strwythurau atal lleithder. Mae lleithder cynyddol yn fwy cyffredin mewn tai hŷn.

 

Lleithder Adeiladwaith

 

Mae lleithder adeiladwaith yn cael ei achosi gan ddyluniad gwael y tŷ. Mae gan eich landlord rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal strwythur allanol yr eiddo ac felly mae anghydfodau yn gallu codi o ran pwy sy'n gyfrifol am leithder a achosir o ganlyniad i ddyluniad mewnol gwael sy'n atal awyru, arwain at leithder gormodol yn yr aer ac yn lleihau tymheredd yr eiddo.

 

 

Atal Anwedd

 

Gellir lleihau anwedd trwy ddilyn y camau canlynol:

 

  • Cynhyrchu llai o leithder trwy sychu dillad y tu allan, neu ddefnyddio sychwr dillad gyda fent allanol;
  • Gorchuddiwch eich sosbenni wrth goginio;
  • Caewch ddrysau mewnol wrth goginio neu ddefnyddio’r gawod;
  • Gadewch awyrellau ffenestri ar agor;
  • Agorwch y ffenestri am gyfnodau byr yn ystod y dydd - yn enwedig mewn ystafelloedd gwely;
  • Defnyddiwch wyntyllau echdynnu wrth gael cawod/coginio mewn ystafelloedd ymolchi/ceginau;
  • Ceisiwch osgoi rhoi gormod o bethau mewn storfeydd a chypyrddau dillad i ganiatáu llif aer;
  • Gadewch fwlch rhwng dodrefn a waliau i gynyddu llif aer;
  • Cynheswch eich cartref gan gadw tymheredd yn uwch na 15 gradd, a;
  • Gwnewch yn siŵr bod digon o ddeunydd inswleiddio yn eich atig ac gofynnwch am fwy os yn briodol.

 

Bydd llai o anwedd os oes llai o leithder yn yr aer, ac os yw’r tŷ yn gynhesach gyda digon o awyriad.

 

 

Sut i Gael Gwared ar Lwydni Ysgafn

 

Pan fo’r llwydni yn cael ei achosi gan anwedd, dylai’r camau sylfaenol a amlinellir uchod ddatrys y broblem. Gellir sychu llwydni ysgafn oddi ar waliau ac arwynebau gyda dŵr sebonllyd poeth a finegr. Ar ôl gorffen, defnyddiwch glwtyn sych i gael gwared ar y dŵr o'r wal.

 

Byddwch yn ymwybodol bod brwsio neu lanhau llwydni yn gallu cynyddu'r risg o broblemau anadlu. Os ydych chi'n cymryd camau sylfaenol i fynd i'r afael â'r broblem, efallai yr hoffech chi ystyried amddiffyn eich hun rhag sborau llwydni trwy wisgo gogls, menig rwber a mwgwd sy'n gorchuddio'ch trwyn a'ch ceg. Agorwch y ffenestri ond cadwch y drysau ar gau i atal y llwydni rhag lledaenu i rannau eraill o'r tŷ. Ystyriwch ddefnyddio paent ffwngladdol o ansawdd da i helpu i atal llwydni rhag dychwelyd.

 

Cofiwch daflu’r holl bethau rydych wedi eu defnyddio i lanhau’r llwydni.

 

Mesurau y Gall Eich Landlord eu Cymryd i Fynd I'r Afael Â'r Broblem

 

Bydd y mesurau sydd ar gael i'ch landlord neu asiant yn cael eu pennu gan achos y lleithder. Pan fydd lleithder yn digwydd o ganlyniad i broblemau strwythurol, neu broblemau sy'n seiliedig ar adeiladu, yr unig ateb tymor hir yw gwneud cynnal a chadw ar yr adeilad. Gall hyn fod yn gostus a bydd rhai landlordiaid yn amharod i dalu am hyn.

 

Yn gyffredinol, ni fydd paentio dros lwydni yn datrys y broblem oni bai bod y paent hwnnw'n cynnwys elfen ffwngladdol a hyd yn oed wedyn, ni fydd hyn yn mynd i'r afael ag achos y lleithder.

 

Gall eich landlord ystyried rhoi dadleithydd i chi fel ffordd dros dro o sychu tu mewn yr ystafell. Ni all hyn fod yn ateb parhaol oherwydd gall fod yn ddrud gweithredu’r offer o brif gyflenwad trydan. Yn yr un modd, ni fydd yn mynd i'r afael â gwir achos y lleithder.

 

Pryderon SRS

 

Rhaid i bob cartref sy'n cael ei rentu fodloni safonau iechyd a diogelwch penodol. Gall SRS archwilio'ch cartref a defnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) ) i asesu risgiau posib. Gallant gymryd camau yn erbyn landlordiaid os canfyddir risgiau.

 

Gallwch wneud cwyn ar-lein neu ffonio 0300 123 6696.

 

Mae'r HHSRS yn asesu diffygion yn eich cartref a sut y gallent effeithio ar eich iechyd a'ch diogelwch. Mae'r HHSRS yn ystyried y tebygolrwydd o berygl yn codi a pha mor ddifrifol fyddai'r canlyniad. Os yw'r asesiad yn dangos nad yw'ch cartref yn ddiogel, gall y cyngor gymryd camau yn erbyn eich landlord.

 

Mae'r HHSRS yn edrych ar lawer o wahanol bethau, gan gynnwys lleithder a thwf llwydni.

 

Gweithrediad yr SRS

 

Os yw'r SRS yn penderfynu bod eich cartref yn cynnwys perygl difrifol, mae'n rhaid iddynt weithredu.

 

Gallant wneud hyn drwy:

 

  • gyhoeddi hysbysiad ymwybyddiaeth o beryglon — mae hyn yn rhybuddio'r landlord bod y cyngor yn ymwybodol o'r broblem;
  • roi hysbysiad gwella i'ch landlord, gan orchymyn i'r landlord wneud atgyweiriadau neu welliannau penodol erbyn amser penodol;
  • mynnu cau'r adeilad cyfan neu ran ohono neu gyfyngu ar nifer y bobl sy'n byw yn yr adeilad;
  • gymryd camau brys i wneud yr atgyweiriadau eu hunain ac adennill y costau gan y landlord;
  • wneud gorchymyn i ddymchwel yr eiddo;
  • brynu'r eiddo gan y landlord yn ôl y rheolau prynu gorfodol.

 

Os yw'r SRS yn nodi mân broblemau atgyweirio yn eich tŷ, nid oes rhaid iddynt weithredu ond gallant benderfynu gorfodi'r gwelliannau, er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol.

 

Mynd I'r Afael Â'r Broblem

 

Tynnwch luniau fel tystiolaeth o'r mowld ac unrhyw arwyddion/achosion gweladwy o leithder. Yna dylech roi gwybod yn ysgrifenedig i'ch landlord am unrhyw broblemau a chaniatáu amser rhesymol iddynt gael eu datrys. Bydd yr amser sydd ei angen yn dibynnu ar ddifrifoldeb y broblem. Y mwyaf difrifol yw'r llaith a'r llwydni a’r mwyaf y mae'n effeithio ar eich diogelwch, y mwyaf brys yw'r atgyweiriad.

 

Mae'ch contract gyda'ch landlord a'ch landlord chi sydd â'r rhwymedigaeth gyfreithiol i gadw'r eiddo mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddo. Mae'r rhan fwyaf o lety rhent preifat i fyfyrwyr yn cael ei reoli gan asiantaeth gosod eiddo, sy'n golygu y dylid rhoi gwybod i'r asiant am yr holl broblemau atgyweirio. Yna, rhaid i'r asiant hysbysu'r landlord a gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r landlord. Os ydych yn credu nad yw'r asiant yn gweithredu fel y dylai, gallwch ofyn iddo roi manylion cyswllt y landlord i chi os nad ydynt gennych eisoes. Rhaid i asiantaethau ddarparu manylion cyswllt landlordiaid i denantiaid o fewn 21 diwrnod ar ôl i denant ofyn amdano. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1985. Unwaith y bydd y cyfeiriad gennych, rydym yn argymell eich bod yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y landlord yn ogystal â'r asiant.

 

Dylai eich e-bost/llythyr cyntaf nodi:

 

  • Yn union beth yw'r broblem/problemau;
  • Os adroddwyd am y materion o'r blaen, manylu pryd a chynnwys tystiolaeth os y gallwch;
  • Bod rheidrwydd cyfreithiol ar y landlord i ddarparu atgyweiriad effeithiol o fewn amser rhesymol;
  • Faint o amser rydych chi'n ei hystyried yn rhesymol;
  • Beth rydych chi am i'r landlord ei wneud (h.y. cwblhau atgyweiriad effeithiol a thalu iawndal i dalu am unrhyw golled a achosir i chi gan y lleithder a'r llwydni).
  • Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd â’r mater ymhellach (h.y. cysylltu â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a/neu ystyried camau cyfreithiol)
  • Atodi tystiolaeth berthnasol;
  • Cadwch gofnod o bopeth rydych chi'n ei anfon. Os ydych yn anfon llythyr, dylech wneud hynny drwy ddosbarthiad 'to sign for' y Swyddfa Bost, i sicrhau bod gennych brawf bod y landlord wedi'i dderbyn.

 

Os yw'r landlord/asiant yn gwneud dim, bydd angen i chi anfon ail lythyr. Dylech wneud y canlynol:

 

  • Cyfeirio at eich llythyr blaenorol a'r diffyg ymateb a/neu weithredu;
  • Nodi a ydych wedi neu’n bwriadu hysbysu’r SRS am y mater;
  • Nodwch beth rydych chi am i'r landlord/asiantaeth ei wneud. Gall hyn fod yn union yr un fath â'r llythyr cyntaf ond gydag ychydig o newidiadau os yw'r gwaith atgyweirio wedi'i ddechrau neu os yw'r broblem wedi gwaethygu.
  • Rhoi terfyn amser penodol a rhesymol i'r landlord/asiant wneud yr hyn rydych wedi'i ofyn;
  • Nodwch beth fyddwch chi'n ei wneud nesaf os yw'r landlord/asiant yn methu cadw at y dyddiad cau, h.y. mynd yn ôl at y SRS a/neu gymryd camau cyfreithiol.

 

Os na chewch ymateb i'ch cais i drwsio'r lleithder a'r llwydni, neu os yw'r broblem yn ddigon difrifol, gallwch gysylltu â'r  Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n gyfrifol am orfodi safonau tai penodol.

 

Atal Rhent

 

Fel arfer, ni ddylech atal rhent oherwydd bod y landlord wedi methu â gwneud atgyweiriad, gan y byddwch yn torri eich contract. Er y gallech deimlo cyfiawnhad dros wrthod talu'r rhent, gall eich landlord ddwyn achos llys yn eich erbyn.

 

Iawndal

 

Bydd rhywfaint o leithder a llwydni yn achosi anghyfleustra a thrafferth i chi neu'n achosi difrod i'ch eiddo. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gallwch hawlio iawndal gan eich landlord, hyd yn oed ar ôl i chi symud allan. Os yw'ch landlord yn gwrthod talu iawndal, eich unig ddewis fydd gwneud hawliad yn ei erbyn yn y Llys Sirol. Bydd angen i chi gyflwyno hawliad ysgrifenedig i'r landlord neu'r asiant cyn cymryd camau cyfreithiol gan y bydd y Llys yn disgwyl i chi geisio osgoi'r angen am hawliad ffurfiol. Fel arfer, rydym yn argymell llythyr cychwynnol yn rhoi'r dyddiad cau cyntaf, ac yna lythyr yn rhybuddio am gamau cyfreithiol os na fydd y llythyr cyntaf yn cael ymateb (fel y nodir uchod).

 

Camau eraill efallai yr hoffech eu cymryd:

 

  • Ewch â'r landlord i'r llys eich hun;
  • Os yw eich cartref yn cael ei reoli gan Asiantaeth Osod, efallai y gallwch wneud cwyn i'r Ombwdsmon Eiddo a all edrych ar gŵyn am y gwasanaeth a gewch gan eich asiant gosod. Eich Landlordiaid sy'n gyfrifol am wneud atgyweiriadau felly ni fydd yr Ombwdsmon yn ystyried bod methiant i wneud atgyweiriadau yn mynd yn erbyn y gyfraith a'r cytundeb tenantiaeth, ond byddant yn edrych a wnaeth yr asiantaeth gyfathrebu'n effeithiol â'r landlord ac wedi gweithredu'n brydlon ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd;
  • Gwneud cwyn i  Rhentu Doeth Cymru

 

Cyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410