Finding Private Rented Accommodation
The first and most important message is take the time to make an informed decision. This means reading through your contract and understanding exactly what your obligations are - or come along to Student Advice for a free contract check. We see many students who run into difficulties when their circumstances change and they are locked into a contract that they signed months before. If you sign a contract in November you will be legally bound to that contract from the date you sign it, until it ends, usually unless a replacement can be found which is not always easy. Put in perspective this means, for a contract signed in November, you are bound by it for the next 20 months.
A lot of student tenancies are also joint contracts, which means that you are legally liable for each other. There is more on this below but be aware that if you are on a joint contract and someone else doesn't pay their rent, you can be chased for the missing amount.
** New podcast out **
Rebecca, your VP Welfare is joined by Ella and Poppy from the SU's very own advice service to talk all things housing. Today, we are going to be chatting about finding accommodation and signing a contract..
How to find a place to rent
Looking for a place to rent can be very exciting but also daunting and signing an agreement is a big decision and a big commitment. Once you do sign, you are usually bound to pay the rent for the term specified, even if you find you do not like the house or fall out with your housemates. As home is so important, we strongly advise that you take the time to find the right house, with the right people, in the right place and at the right price.
Use our tips to help you find somewhere you'll be happy to call home.
The Right People
Before you do anything, you need to think about who you want to live with for at least a year. If you are signing a contract many months in advance, you need to think carefully about how much you know those people now and what may change between now and the moving in date. Could they leave university or fail and be withdrawn? Can you see yourself falling out with them or finding another group you would rather live with? These are really important questions because:
Most students are asked to sign a group contract when renting a house and are usually asked for guarantors. When you do finally sign a tenancy agreement, if you and your housemates all sign the same contract, your tenancy will be a joint contract and you will be joint tenants. This means that you will all be jointly and severally liable for any rent, arrears and damage to the whole property. Joint and several liability means that the landlord can pursue any one of you or all of you together.
If one or more tenants do not pay, damage the property or move out, the landlord can
- pursue all the tenants named on the contract for payment and can deduct from all deposits. Depending on the wording of the guarantor form, this liability usually extends to the guarantors too. Getting out of a contract can be tricky and you will not normally be released unless you have found a suitable replacement tenant; and
- where bills are not included, you will be sharing liability for paying them. If someone does not pay, or pays late, you could all incur late payment charges and be expected to make up the missing amount. You need to know you can rely on those you choose to live with to pay their share at the agreed time; and
- friendships and personal circumstances can change over the course of a year. It is really important to take some time to think about who you would like to live with, which can be very different to who you would like to study with or party with. Your relationship with people you meet in the first few months of university can quickly change as you get to know them better. If you like a quiet night in and lots of sleep, think twice about sharing with someone who parties a lot and stays up late and the same vice-versa. Sharing can be great fun but it can also sometimes bring out people’s worst habits. Small disputes over things like not washing up can cause big friction as time goes on. One way to avoid these types of problems is to agree some ground-rules on things like guests, partners, cleaning, sharing food and paying bills before you commit to a contract. If you can’t come to an agreement before you sign, that could be a strong indication of problems to come. Good communication between housemates and a willingness to compromise will help you deal with any potential disputes.
As above, there seems to be a lot of pressure put on students by letting agencies to choose a house as early as October/November, when the contract will not actually start for another 8 or 9 months. Committing to a 12-month contract that much in advance is unique to student renters and can be a risk.
The Right Price
When you have decided on who you are going to live with, the next thing you need to do is work out your budget and think about how much rent you are prepared to pay and if you can afford a deposit.
Some landlords will ask for payments that match your Student Finance instalment dates but most will expect a monthly payment, usually by one standing order for the whole house. Utility bills are also usually paid monthly and this makes budgeting far easier. Currently, private rented accommodation is generally offered at a rent of around £400 upwards, excluding bills.
In terms of bills, you will need to pay for water, gas, electricity, internet and a TV license, if you are watching television live or on demand. If you have been promised that bills are included, make sure this is clearly written in the contract before you sign it and check for anything that mentions reasonable usage. If it does, be sure to query exactly what that means and ideally get that included in writing too. All-inclusive deals don't always work out cheaper. We would suggest that you research the energy usage for the property to establish how much you need to budget for bills each month. The sum might be more or less depending on how much fuel you use.
When considering your budget, you will need to think about covering
- Rent
- Food - as an approximate figure, allow around £30 a week
- Gas/electricity/water
- Broadband
- Contents insurance if you choose to take it out
- TV license - £159 for the year but this is for the whole house and you can claim a refund for the summer
- Other essentials – clothes, toiletries
- Study costs – books, photocopying, printing, stationery
- Mobile phone costs
- Travel – train/bus/car costs
- Socialising/leisure – drinking and eating out, cinema, hobbies, gym, haircuts
- Societies fees
The Right Place
When you have chosen who you want to live with and how much you can afford, you need to think about where you want to live.
There are many areas you can choose to live in Cardiff but most students choose to live in Cathays, Roath, Maindy or Heath. Prices tend to increase the closer you get to the city centre and rooms and gardens also tend to be smaller. Moving further out means a longer commute but often cheaper rent, bigger houses and gardens. Ideally you need to agree as a group what is more important to you; location, price or size.
Cathays
Cathays surrounds the Cathays park campus and is very close to the city centre. It has a very high density of student accommodation, predominantly in shared houses, though flats are available. Cathays includes plenty of shops, pubs, takeaways and restaurants, all within walking distance. It offers a vibrant student community but can be noisy, especially closer to the Students’ Union and the city centre.
Roath
Roath is next to Cathays, moving away from the city centre. Depending on where you live in Roath, it is about a 15-20 minute walk to the Cathays park campus and around a 25 minute walk to Heath Park. Although a bit further out, Roath is still considered an inner city suburb, which offers a mixed community of students, professional single people and families. It is ethnically diverse and has plenty of shops, pubs, takeaways and restaurants, as well as green spaces. It offers a large range of rented accommodation and is a better place to look for flats.
Heath and Maindy
Heath wraps around the Heath Park Campus but most of Heath is further from the city centre and Cathays Park Campus. Maindy links Cathays to Heath. There are still plenty of shops, takeaways, restaurants and bars but Heath is big and in parts there are far less than Cathays and Roath. Whitchurch Road, for example, is almost entirely lined with places to eat and drink but moving closer to the hospital these become very sparse. There is generally less rented accommodation available and a much higher density of families.
The Right House
Where to look for accommodation
You can look for private rented accommodation through a letting agency or directly with a landlord. All rental properties in Wales must be registered with Rent Smart Wales and any person dealing with the rental must be licensed. Failure to register or be licensed is a criminal offence. You can check here if your property is registered and if the landlord/agent are licensed.
Most student accommodation in Cardiff can be found through letting agents. Letting agents either act as a finding agent or a finding and managing agent.
- A finding agent will show you the property, carry out reference checks and oversee the signing of the agreement. After that you will need to deal directly with the landlord if you have any issues or concerns.
- A managing agent will manage the property on behalf of the landlord. Although the landlord remains legally responsible for the property, you would be expected to report problems with repairs and other matters to the agency.
It is important to find out if an agency will be managing the property or not because you need to know who you will be dealing with if there are any problems.
First and foremost, be sure to choose your letting agent or landlord carefully. We help students facing poor service from many letting agents and landlords in Cardiff. A bad landlord or letting agent may leave you waiting an unacceptable amount of time for repairs, may not clean the property before you move in, may inflate claims from your deposit at the end and may lie to you about will and won’t be done in a property. We cannot recommend or warn against any landlords or agencies but we do strongly advise you do your research before signing a house contract:
- Ask around for recommendations and reports of poor service.
- Check if the agent is a member of a redress scheme which can provide independent adjudication on any complaint you might have. Most commonly, a good agent will be a member of the Property Ombudsman Scheme
- Check if the agent is a member of a recognised industry agent organisation such as the National Approved Lettings Scheme (NALS), the Association of Registered Letting Agents (ARLA), the Royal Institute Chartered Surveyors (RICS) or the United Kingdom Association of Letting Agents (UKALA)
Where to start
When looking for houses/rooms, we recommend you start you search online but then visit letting agents in person. The following suggestions are 3 of many you will find online
Rightmove
SpareRoom
Student-cribs
In Cardiff, most student focused letting agents are found on Woodville Road, Albany Road, Mundy Place and Salisbury Road. Cardiff University Students’ Union runs its own letting agency called Cardiff Student Letting, which can be found on the ground floor of the Student Union building.
Visiting agents in person is means you can start to get an idea about how the agent operates and if they might be trustworthy. Be mindful though that letting agents are essentially sales people when it comes to dealing with you as a prospective tenant. If they seem nice and are bending over backwards to help you, ask around to see if they are the same after you have signed a contract and there are issues with the property. See our advice on viewing a property to see the standards the agent must meet.
Shop around
- Visit a number of letting agents and view as many properties as you can. This will enable you get a good idea about the rental market and what is being offered at what price. We always hear reports of letting agents telling students that the nicer houses are going quickly and that they need to sign quickly or risk losing the house but remember that you are the consumer, they are the sales people. The quicker they get you to sign, the less viewings they have to do and the easier their money. There have also been reports of tactics such as showing you a couple of bad houses and then a slightly better one so you think you have to accept less quality than you wanted.
- Many agents are now advertising “no deposits” “bills included “or other incentives to rent through them. Sometimes an incentive is not as good as it looks. Bills included can mean you actually pay more than if they were not. Be prepared to negotiate, do your research and ask lots of questions.
- Landlords and agents will make many promises to try to sell accommodation. You might be promised a new bathroom or new carpets or furniture. If you are promised anything make sure this is written into the contract as a special condition, ideally with an amount of compensation if it is not provided by a specific date. Verbal promises can be broken and later denied, so it is important that there is a written record. Be aware though, that even if it is written into the contract, if they fail to deliver on their promise you cannot necessarily move out or claim very much back. It is best to ask yourself if you would sign the contract if that something was not promised. If the answer is no, you may be best not signing.
Viewing
It is very important that everyone views a property in person. Virtual viewings can be very misleading and do not allow you do things like check for smell of damp or look behind furniture to see mould or damage. When you view the property, use our viewing check list. Ask lots of questions and if possible speak to the current tenants about the property and the landlord.
Further information is available on our Viewing a Property page.
Watch out for scams
Don't pay any money or agree to anything until you are sure that the landlord or letting agent and the property offered is genuine. Make sure the Landlord is registered with Rent Smart Wales and that that there is a registered licence holder. We also strongly advise against paying any money or agreeing to anything until you have seen the property in person and met any other tenants. Ask that payments are made by bank transfer and if you do need to pay in cash always get a receipt. If in doubt always seek advice.
Don't be afraid to walk away
If you don't like the way the letting agent or landlord are behaving, walk away from the property before you've handed over any money. Don't also be afraid to walk away if the landlord or agent can't:
- show you a gas safety certificate; and
- tell you the deposit protection scheme they are using; and
- show you an House in Multiple Occupation license for the property; and
- confirm they are registered with Rent Smart Wales.
If you have reason to believe that you are being scammed by someone advertising a property in Cardiff or the surrounding area, you may wish to report the scam to TradingStandards-SRSWales@valeofglamorgan.gov.uk, by email this Scam Information Form.
You can also contact Citizens Advice and Action Fraud for more advice and guidance.
Please see our Viewing a Property, Checking Accreditation and Licensing, Deposits, Fees and Guarantors and Signing a Contract pages for more information on the next steps of finding somewhere to call a happy home.
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Dod O Hyd i Lety i Rentu'n Breifat
Y neges gyntaf a phwysicaf yw: cymerwch eich amser er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. Mae hyn yn golygu darllen trwy'ch cytundeb a deall yn union beth yw eich rhwymedigaethau - neu ddewch draw i Gyngor Myfyrwyr i ni wirio'ch cytundeb am ddim. Rydym yn gweld llawer o fyfyrwyr sy'n mynd i drafferthion pan fydd eu hamgylchiadau'n newid ac maent wedi'u ymrwymo i gontract y gwnaethant ei lofnodi fisoedd ynghynt. Os byddwch yn llofnodi contract ym mis Tachwedd byddwch wedi'ch rhwymo'n gyfreithiol i'r contract hwnnw o'r dyddiad y byddwch yn ei lofnodi, hyd nes iddo ddod i ben, fel arfer oni bai y gellir dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle ac nid yw hyn wastad yn hawdd. Mae hyn yn golygu, ar gyfer contract a lofnodwyd ym mis Tachwedd, rydych yn rhwym iddo am yr 20 mis nesaf.
Mae llawer o denantiaethau myfyrwyr yn gyd-contractau, sy'n golygu eich bod yn atebol am eich gilydd, yn ôl y gyfraith. Mae mwy o wybodaeth ar gael am hyn isod ond byddwch yn ymwybodol os ydych yn rhan o gyd-gontract ac nad yw rhywun yn talu eu rhent, gallwch gael eich erlid am y swm coll.
Sut i Ddod O Hyd i Rywle i Rentu
Gall chwilio am le i rentu fod yn gyffrous iawn ond yn frawychus hefyd, ac mae llofnodi cytundeb yn benderfyniad ac yn ymrwymiad mawr. Unwaith y byddwch wedi arwyddo, rydych fel arfer yn rhwym i dalu'r rhent am y cyfnod a nodir, hyd yn oed os nad ydych yn hoffi'r ty neu'n cael trafferth gyda'ch cyd-letywyr. Gan fod cartref mor bwysig, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd yr amser i ddod o hyd i'r ty iawn, gyda'r bobl iawn, yn y lle iawn ac am y pris iawn.
Defnyddiwch ein hawgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i rywle y byddwch yn hapus i'w alw'n gartref.
Y Bobl Gywir
Cyn i chi wneud unrhyw benderfyniad, mae angen i chi feddwl am bwy rydych chi eisiau byw gyda nhw am o leiaf blwyddyn. Os ydych chi'n llofnodi contract fisoedd ymlaen llaw, mae angen i chi feddwl yn ofalus pa mor dda rydych chi'n adnabod y bobl hynny a beth allai newid rhwng y dyddiad llofnodi a'r dyddiad symud i mewn. A allent adael y brifysgol neu fethu'r blwyddyn a chael eu tynnu'n ôl? Allwch chi weld eich hun yn cwympo allan gyda nhw neu'n dod o hyd i grwp arall y byddai'n well gennych chi fyw gyda nhw? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn oherwydd:
Gofynnir i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr lofnodi cyd-gontract ac fel arfer gofynnir am warantwyr. Pan fyddwch yn llofnodi cytundeb tenantiaeth, os byddwch chi a'ch cyd-letywyr i gyd yn llofnodi'r un contract, bydd eich tenantiaeth yn gyd-gontract a byddwch yn gyd-denantiaid. Mae hyn yn golygu y byddwch i gyd yn atebol, fel grwp ac yn unigol am unrhyw rent, ôl-ddyledion a difrod i'r llety ac eiddo. Mae atebolrwydd ar y cyd ac unigol yn golygu y gall y landlord erlid unrhyw un ohonoch neu bob un ohonoch.
Os na fydd un neu fwy o denantiaid yn talu, yn difrodi’r eiddo neu’n symud allan, gall y landlord:
- gofyn yr holl denantiaid a enwir ar y contract am daliad a gallant cymryd arian o blaendaliadau pawb. Yn dibynnu ar eiriad y ffurflen gwarantwr, mae'r atebolrwydd hwn fel arfer yn berthnasol i'r gwarantwyr hefyd. Gall tynnu allan o gontract fod yn anodd ac ni fyddwch fel arfer yn cael eich rhyddhau oni bai eich bod wedi dod o hyd i denant i gymryd eich lle;
- a lle nad yw biliau wedi'u cynnwys, byddwch yn rhannu'r baich am eu talu. Os na fydd rhywun yn talu, neu'n talu'n hwyr, fe allech chi i gyd dderbyn bil a disgwylir i chi dalu'r swm sy'n weddill. Mae angen i chi wybod y gallwch ddibynnu ar y pobl rydych yn dewis byw gyda nhw i dalu yn brydlon;
- a gall grwpiau o ffrindiau ac amgylchiadau personol newid dros gyfnod o flwyddyn. Mae'n bwysig iawn treulio amser yn ystyried gyda phwy yr hoffech chi fyw, gall hyn fod yn wahanol iawn i bwy yr hoffech chi astudio gyda nhw neu bartïo gyda nhw. Gall eich perthynas â phobl rydych chi'n cwrdd ag yn ystod misoedd cyntaf y brifysgol newid yn gyflym wrth i chi ddod i'w hadnabod. Os ydych chi'n hoffi noson dawel i mewn a llawer o gwsg, cymerwch eiliad i feddwl cyn cytuno i rannu gyda rhywun sy'n partïo lawer ac yn aros i fyny'n hwyr, mae'r un peth yn wir i'r gwrthwyneb. Gall rhannu fod yn llawer o hwyl ond weithiau gall hefyd ddangos arferion gwaethaf pobl eraill. Gall dadleuon bach dros bethau fel peidio â golchi llestri achosi problemau mawr wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Un ffordd o osgoi'r mathau hyn o broblemau yw cytuno ar rai rheolau syml ar bethau fel gwesteion, partneriaid, glanhau, rhannu bwyd a thalu biliau, cyn ymrwymo i gontract. Os na allwch ddod i gytundeb cyn i chi lofnodi, gallai hynny fod yn arwydd cryf o'r problemau sydd i ddod. Bydd cyfathrebu da rhwng cydletywyr a pharodrwydd i gyfaddawdu yn eich helpu i ddelio ag unrhyw ddadleuon posibl.
Fel uchod, mae'n ymddangos bod llawer o bwysau yn cael ei roi ar fyfyrwyr gan asiantaethau gosod tai i ddewis ty mor gynnar â mis Hydref/Tachwedd, pan na fydd y contract yn dechrau am 8 neu 9 mis arall. Mae ymrwymo i gontract am flwyddyn, cymaint o amser â hynny o flawn llaw, yn sefyllfa unigryw i fyfyrwyr a gall fod yn risg.
Yn olaf, peidiwch â chynhyrfu os nad ydych wedi dod o hyd i rywun i fyw gyda. Mae ystafelloedd sengl ar gael mewn blociau llety myfyrwyr pwrpasol ac fel rheol rydym yn dod o hyd i ddigon o ystafelloedd yn cael eu hysbysebu mewn tai myfyrwyr presennol. Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn rheoli dwy restr;un sy'n galluogi myfyrwyr i hysbysebu'r ystafelloedd sydd ar gael ac un i hysbysebu eich bod yn chwilio am lety. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.
Y Pris Cywir
Pan fyddwch wedi penderfynu gyda phwy rydych am fyw, y peth nesaf sydd angen i chi ei wneud yw cyfrifo eich cyllideb a meddwl faint o rent rydych yn barod i'w dalu ac a allwch fforddio blaendal.
Bydd rhai landlordiaid yn gofyn am daliadau sy’n cyfateb i ddyddiadau eich rhandaliadau Cyllid Myfyrwyr ond bydd y rhan fwyaf yn disgwyl taliad misol, fel arfer drwy un archeb sefydlog ar gyfer y ty cyfan. Mae biliau hefyd fel arfer yn cael eu talu'n fisol ac mae hyn yn gwneud cyllidebu'n haws o lawer. Ar hyn o bryd, mae llety rhent preifat ar gael yn gyffredinol rhwng £300 a £400 y mis, heb gynnwys biliau.
O ran biliau, bydd angen i chi dalu am ddwr, nwy, trydan, y wê a thrwydded deledu, os ydych yn gwylio teledu'n fyw neu ar alw. Os ydych wedi derbyn addewid bod biliau'n cael eu cynnwys, gwnewch yn siwr bod hyn wedi'i ysgrifennu'n glir yn y contract cyn i chi ei lofnodi a gwiriwch am unrhyw beth sy'n sôn am ddefnydd rhesymol. Os ydyw, gwnewch yn siwr eich bod yn cwestiynu'n union beth mae hynny'n ei olygu ac yn ddelfrydol dylech gynnwys hynny'n ysgrifenedig hefyd. Nid yw dêls hollgynhwysol bob amser yn rhatach. Rydym yn argymell neilltuo tua £50 y mis ar gyfer trydan nwy, dwr a Wi-Fi. Gall y swm fod yn fwy neu'n llai yn dibynnu ar faint o danwydd a ddefnyddiwch.
Wrth ystyried eich cyllideb, bydd angen i chi feddwl am
- Rent
- Bwyd - fel ffigwr bras, neilltuwch tua £30 yr wythnos
- Nwy / trydan / dwr
- Band eang
- Yswiriant eiddo os yn berthnasol
- Trwydded deledu - £154.50 am y flwyddyn ond mae hyn ar gyfer y ty cyfan a gallwch hawlio ad-daliad am yr haf
- Nwyddau eraill - dillad, nwyddau ymolchi
- Costau astudio – llyfrau, llungopïo, argraffu, offer ysgrifennu
- Costau ffôn symudol
- Teithio – costau trên/bws/car
- Cymdeithasu/hamdden – yfed a bwyta allan, sinema, hobïau, campfa, torri gwallt
- Ffioedd cymdeithasau
Y Lle Cywir
Pan fyddwch chi wedi dewis pwy rydych chi eisiau byw gyda nhw a faint allwch chi ei fforddio, mae angen i chi feddwl ble rydych chi eisiau byw.
Mae llawer o ardaloedd y gallwch ddewis byw ynddynt yng Nghaerdydd ond mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis byw yn Cathays, y Rhath, Maendy neu’r Mynydd Bychan. Mae prisiau fel rheol yn codi po agosaf y byddwch at ganol y ddinas ac mae maint ystafelloedd a gerddi hefyd yn tueddol o leihau. Mae symud ymhellach allan yn golygu cymudo am fwy o amser ond yn aml mae'r rhent yn rhatach ac mae'r tai a gerddi'n fwy. Yn ddelfrydol mae angen i chi gytuno fel grwp ar yr hyn sy'n bwysicach i chi; lleoliad, pris neu faint.
Cathays
Mae Cathays yn amgylchynu campws parc Cathays ac yn agos iawn at ganol y ddinas. Mae ganddi nifer fawr iawn o opsiynau llety myfyrwyr, yn bennaf mewn tai a rennir, er bod fflatiau ar gael. Mae gan Cathays digonedd o siopau, tafarndai, siopau cludfwyd a bwytai, i gyd o fewn pellter cerdded. Mae cymuned fywiog o fyfyrwyr ond gall fod yn swnllyd, yn enwedig wrth agosáu at Undeb y Myfyrwyr a chanol y ddinas.
Y Rhath
Mae'r Rhath mae drws nesaf i Cathays, gan symud i ffwrdd o ganol y ddinas. Yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y Rhath, mae's cymryd tua 15-20 munud ar droed i gampws parc Cathays a thua 25 munud ar droed i Gampws y Mynydd Bychan. Er ei bod ychydig ymhellach allan, mae’r Rhath yn dal i gael ei hystyried yn faestref canol dinas, gyda chymuned gymysg o fyfyrwyr, pobl sengl broffesiynol a theuluoedd. Mae'n amrywiol o ran ethnigrwydd ac mae ganddi ddigonedd o siopau, tafarndai, siopau cludfwyd a bwytai, yn ogystal â mannau gwyrdd. Mae ystod eang o lety ar rent ar gael ac mae’n lle gwell i chwilio am fflatiau.
Y Mynydd Bychan a Maendy
Mae'r Mynydd Bychan yn gartref i Gampws Parc y Mynydd Bychan ond mae’r rhan fwyaf o’r Mynydd Bychan wedi lleoli ymhellach o ganol y ddinas a Champws Parc Cathays. Mae Maendy yn cysylltu Cathays â'r Mynydd Bychan. Mae yna ddigonedd o siopau, siopau cludfwyd, bwytai a bariau ond mae'r Mynydd Bychan yn fawr ac mewn mannau mae llawer llai o gyfleusterau na Cathays a’r Rhath. Er enghraifft, ar hyd Whitchurch Road, mae digonedd o leoedd i fwyta ac yfed ond wrth symud yn nes at yr ysbyty mae’r rhain yn mynd yn brin iawn. Yn gyffredinol mae llai o lety ar rent ar gael ac mae nifer fawr o deuluoedd yn byw yno.
Ble i Chwilio am Lety
Gallwch chwilio am lety rhent preifat trwy asiantaeth gosod tai neu'n uniongyrchol gyda landlord. Mae’n rhaid i bob llety ar rent yng Nghymru gael ei gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a rhaid i unrhyw berson sy’n delio â’r rhentu gael trwydded. Mae methu â chofrestru neu beidio cael trwydded yn drosedd. Gallwch wirio yma os yw'ch llety wedi'i gofrestru ac os yw'r landlord/asiant wedi'i drwyddedu.
Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o lety myfyrwyr yng Nghaerdydd trwy asiantaethau gosod tai. Mae asiantau gosod naill ai'n gweithredu fel asiant canfod neu asiant canfod a rheoli.
- Bydd asiant canfod yn dangos y llety i chi, yn gwirio cyfeirnodau ac yn goruchwylio llofnodi'r cytundeb. Ar ôl hynny bydd angen i chi ddelio'n uniongyrchol â'r landlord os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon.
- Bydd asiant rheoli yn rheoli'r llety ar ran y landlord. Er mai'r landlord sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am y llety, byddai disgwyl i chi roi gwybod i'r asiantaeth am broblemau gydag atgyweiriadau a materion eraill.
Mae'n bwysig darganfod a fydd asiantaeth yn rheoli'r llety ai peidio oherwydd mae angen i chi wybod gyda phwy y byddwch yn delio os oes unrhyw broblemau.
Yn gyntaf, gofalwch eich bod yn dewis eich asiant gosod neu landlord yn ofalus. Rydym yn helpu myfyrwyr sy'n derbyn gwasanaeth gwael gan lawer o asiantaethau gosod a landlordiaid yng Nghaerdydd. Gall landlord neu asiant gosod sy'n cynnig gwasanaeth gwael eich gadael yn aros am gyfnod annerbyniol o amser am atgyweiriadau, efallai na fydd yn glanhau'r eiddo cyn i chi symud i mewn, efallai y bydd yn ceisio cymryd mwy o arian o'ch blaendal ar ddiwedd y tenantiaeth ac efallai y bydd yn dweud celwydd wrthych am rywbeth ac na chaiff ei wneud. Ni allwn argymell na'ch rhybuddio am unrhyw landlordiaid nac asiantaethau ond rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud eich ymchwil cyn arwyddo cytundeb:
- Gofynnwch am argymhellion ac adroddiadau o wasanaeth gwael.
- Gwiriwch a yw'r asiant yn aelod o gynllun gwneud iawn a all roi dyfarniad annibynnol ar unrhyw gwyn a allai fod gennych. Yn gyffredin iawn, bydd asiant da yn aelod o Gynllun yr Ombwdsmon Eiddo.
- Gwiriwch a yw’r asiant yn aelod o sefydliad asiant cydnabyddedig o fewn y diwydiant fel y Cynllun Gosod Cenedlaethol wedi’i Gymeradwyo (NALS), Cymdeithas yr Asiantau Gosod Cofrestredig (ARLA), Syrfewyr Siartredig y Sefydliad Brenhinol (RICS) neu Gymdeithas Asiantau Gosod y Deyrnas Unedig (UKALA)
Ble i Ddechrau
Wrth chwilio am dai/ystafelloedd, rydym yn argymell eich bod yn dechrau trwy chwilio ar-lein ond wedyn yn ymweld ag asiantaethau gosod yn bersonol. Mae'r awgrymiadau canlynol yn 3 o lawer y byddwch yn dod o hyd iddynt ar-lein:
Rightmove
SpareRoom
Student-cribs
Yng Nghaerdydd, mae'r rhan fwyaf o asiantau gosod sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr i'w ffeindio ar hyd Heol Woodville, Heol Albany, Mundy Place ac Heol Salisbury. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhedeg asiantaeth gosod tai o'r enw Gosod Myfyrwyr Caerdydd, sydd wedi'i lleoli ar lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Mae ymweld ag asiantau yn golygu y gallwch ddechrau cael syniad am sut mae'r asiant yn gweithredu ac a ydynt yn ddibynadwy neu beidio. Fodd bynnag, cofiwch mai gwerthwyr yw asiantau gosod tai felly cadwch hyn mewn cof wrth iddynt ddelio â chi fel darpar denant. Os ydynt yn ymddangos yn garedig ac yn gwneud unrhyw beth i'ch helpu, holwch eich cyfoedion ag eraill i weld a ydynt yn cynnig yr un gwasanaeth ar ôl i chi lofnodi contract ac os oes problemau gyda'r llety'n dod i'r amlwg. Gweler ein cyngor ar edrych am lety i weld y safonau y mae'n rhaid i'r asiant eu bodloni.
Cymharu Cyn Dewis
- Ewch i ymweld â nifer o asiantau gosod a cheisiwch weld cymaint o dai ag y gallwch. Bydd hyn yn eich galluogi i gael syniad da am y farchnad a beth sydd ar gael am ba bris. Rydym bob amser yn clywed adroddiadau am asiantau gosod yn dweud wrth fyfyrwyr bod y tai brafiach yn mynd yn gyflym a bod angen iddynt arwyddo'n gyflym neu fe fyddent yn colli'r ty, ond, cofiwch mai chi sy'n dal y pwer, nhw yw'r gwerthwyr. Po gyflymaf y byddan nhw'n eich cael chi i lofnodi, y lleiaf o ymweliadau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud a'r cyflymaf a'r hawsaf fyddent yn derbyn eich arian. Bu adroddiadau hefyd am dactegau fel dangos cwpwl o dai gwael i chi ac yna un ychydig yn well fel eich bod yn meddwl bod angen i chi dderbyn ty gydag ansawdd gwaeth nag yr oeddech ei eisiau.
- Mae llawer o asiantau nawr yn hysbysebu contractau “heb flaendaliadau” gyda “biliau wedi’u cynnwys” neu gymhellion eraill i'ch hybu i rentu drwyddynt. Weithiau nid yw'r cymhelliant mor dda ag y mae'n ymddangos. Gall biliau sydd wedi’u cynnwys olygu eich bod yn talu mwy na threfnu a thalu biliau eich hunain. Byddwch yn barod i drafod, gwnewch eich ymchwil a gofynnwch lawer o gwestiynau.
- Bydd landlordiaid ac asiantau gosod yn gwneud llawer o addewidion er mwyn i chi lofnodi contract. Efallai y cewch addewid am ystafell ymolchi newydd neu garpedi neu ddodrefn newydd. Os bydd unrhyw beth yn cael ei addo i chi gwnewch yn siwr bod hwn wedi'i gynnwys yn y contract fel amod arbennig, yn ddelfrydol gyda swm o iawndal os na chaiff ei ddarparu erbyn dyddiad penodol. Gellir torri addewidion ar lafar felly mae'n bwysig bod cofnod ysgrifenedig. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os yw wedi'i gynnwys yn y contract, os na fyddant yn cyflawni eu haddewid, ni allwch o reidrwydd symud allan na hawlio llawer o arian iawndal. Mae'n well gofyn i'ch hun a fyddech chi'n llofnodi'r contract pe na bai rhywbeth yn cael ei addo. Os na yw'r ateb, efallai y byddai'n well i chi beidio ag arwyddo.
Ymweld â Thai
Mae'n bwysig iawn bod pawb yn gweld llety posibl yn bersonol. Gall ymweliadau rhithwir fod yn gamarweiniol iawn ac nid ydynt yn caniatáu i chi wneud pethau fel gwirio am arogl lleithder neu edrych y tu ôl i ddodrefn i weld llwydni neu ddifrod. Pan fyddwch chi'n gweld unrhyw lety, defnyddiwch ein rhestr wirio. Gofynnwch lawer o gwestiynau ac os yn bosibl, siaradwch â'r tenantiaid presennol am y llety a'r landlord.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Ymweld â Llety.
Gwyliwch am Sgamiau
Peidiwch â thalu unrhyw arian na chytuno i unrhyw beth nes eich bod yn siwr bod y landlord neu'r asiant gosod a'r llety a gynigir yn ddilys. Sicrhewch fod y Landlord wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a bod ganddo/ganddi drwydded cofrestredig. Rydym hefyd yn cynghori’n gryf yn erbyn talu unrhyw arian neu gytuno i unrhyw beth nes y byddwch wedi gweld y llety ac wedi cyfarfod ag unrhyw denantiaid eraill. Gofynnwch i daliadau gael eu gwneud trwy drosglwyddiad banc ac os oes angen i chi dalu mewn arian parod gofynnwch am dderbynneb. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, chwiliwch am gyngor.
Peidiwch ag ofni dweud na
Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y mae'r asiant gosod neu'r landlord yn ymddwyn, dwedwch na cyn i chi drosglwyddo arian. Yn fwy, peidiwch ag ofni cerdded i ffwrdd os na all y landlord neu'r asiant:
- dangos tystysgrif diogelwch nwy; a
- dweud wrthych am y cynllun diogelu blaendal y maent yn ei ddefnyddio; a
- dangos trwydded Ty Amlfeddiannaeth ar gyfer y llety; a
- chadarnhau eu bod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
Os oes gennych chi reswm i gredu eich bod chi’n cael eich twyllo gan rywun sy’n hysbysebu llety yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau, efallai yr hoffech chi adrodd y sgam i TradingStandards-SRSWales@valeofglamorgan.gov.uk , drwy e-bostio Ffurflen Gwybodaeth Sgam.
Gallwch hefyd gysylltu gyda Citizens Advice ac Action Fraud am ragor o gyngor ac arweiniad.
Gweler ein tudalennau Edrych ar Lety, Gwirio Achrediad a Thrwyddedau, Blaendaliadau, Ffioedd a Gwarantwyr ac Arwyddo Cytundeb am ragor o wybodaeth am y camau nesaf sydd ynghlwm â ffeindio rywle i alw'n adre.
Cysylltwch â Cyngor i Fyfyrwyr
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410