Sexual Violence - Help and Support

In an emergency:

 

  • Call 999 for fire and rescue services, police and the ambulance service.

 

If you have a hearing or speech impairment, use the textphone service 18000 or text us on 999 if you’ve pre-registered with the emergency SMS service

If you cannot speak, press 55 when prompted and your call will be transferred to the Police. Pressing 55 only works on mobile phones and doesn't allow the police to track your location.

 

  • Ynys Saff or Safe Island is a sexual assault referral centre (SARC) support and advice to men, women, children and young people, following sexual assault in Cardiff and the Vale.  02920 335795 (out of hours leave a message. Staff will call back quickly.

 

Immediate advice after a sexual assault following a sexual assault can be found here.

 

Support for Black, Asian and Minority Ethnic Women -  24/7 BAWSO is an all Wales provider delivering specialist services to people from black and ethnic minority backgrounds who are affected by domestic abuse and other forms of abuse, including Female Genital Mutilation (FGM), forced marriage, human trafficking/slavery and prostitution. For more information, visit the BAWSO website or call their helpline: +44 (0)800 731 8147.

 

National LGBT+ Domestic Abuse Helpline Galop:  0800 999 5428 10am to 4;30 pm Monday to Thursday  help@galop.org.uk

 

Men’s Advice Line: Advice and support for men experiencing domestic violence and abuse 0808 801 0327

 

Disclosure Response Team The University’s Disclosure Response Team are a team of specialist university staff trained to respond to disclosures of violence and abuse. They support students affected by harassment, hate crime, sexual violence, relationship abuse, bullying and other forms of unacceptable behaviour. Their opening hours are 09:00-16:30, Monday to Friday excluding bank holidays and the Christmas closure period, and can be referred to via this referral form.

 

 

Rape and Sexual Assault

 

Sexual violence can take place in or outside of a relationship. Sex without a person’s consent due to drugs, alcohol or unconsciousness is considered as rape and assault by penetration.

Consent can only be given if:

  • someone has the capacity to give their consent
  • someone is free to make the choice to consent.

Sexual assault is considered to be unwanted touching of a sexual nature.

 

Sexual violence within in a relationship

Being with someone does not determine your consent to a sexual act.

With any sexual encounter there should be freedom and capacity to choose to participate, which might not be possible if someone is under the influence of alcohol or drugs.

Consent is to be given and can be taken back at any time.

 

Sexual harassment and stalking

Sexual harassment is unwanted conduct of a sexual nature, which can include unwanted touching, kissing, verbal and non-verbal behaviour. Harassment can be in person, online or via other means such as stalking. Examples of stalking include following a person, watching or spying on them or forcing contact through any means, including social media.

 

Other forms of sexual violence

Other forms of sexual violence include:

  • sexual exploitation, trafficking and slavery
  • non-consensual sharing of sexual images/videos
  • sextortion
  • revenge porn.

 

Violence related to gender

Women are disproportionately affected by violence and abuse compared to men. Therefore, gender-based violence is a specific term used to describe violence against women and girls. This includes any experience of:

 

  • relationship abuse (domestic violence)
  • rape, sexual assault and sexual violence
  • harassment and stalking
  • forced marriage
  • honour-based violence
  • female genital mutilation
  • trafficking and forced prostitution
  • sexual exploitation (including through the sex industry)
  • coercive control
  • sextortion (webcam blackmail).

 

Download the Safezone app

 

Cardiff University provides all students with access to a SafeZone app, where you can contact University Security directly by sharing your location and communicating quickly via text message. If you feel unsafe anywhere on campus, you can use the SafeZone app to report this and seek immediate assistance. It will also show you where you are on campus in a variety of formats.

 

 

Live Fear Free: a government scheme offering help to all survivors, victims, professionals, and concerned others. Live Fear Free offer specialist advice on all forms of violence against women, domestic abuse and sexual violence, including rape, sexual harassment, and stalking. All gender identities, sexualities, ethnicities are welcome and they can refer on to additional services if an individual would like. Their language line option means that language is no barrier, and all helpline support workers are fluent in Welsh and English. Out of hours helpline 0808 80 10 800, info@livefearfreehelpline.wales

 

Counselling and Wellbeing Support if you need to talk to someone to manage your emotional health and wellbeing.

 

Student Advice

 You can also contact the Student Advice service for free, confidential and independent advice available for all students of Cardiff University. We are independent of the University and our role is to give you impartial advice and guidance and help you understand the options available to you.

 

Student Advice can also provide you with practical advice and support. We can advise on housing and any implications of the bullying on your study. If the perpetrator is a Cardiff University student, we can advise on how to make a complaint against them to the University. We can support you through your complaint and advise on submitting extenuating circumstances or taking an interruption of study if that becomes necessary.

 

If your circumstances are impacting your wellbeing and/or ability to study and perform at your usual level, we can

 

 

Trais Rhywiol - Cymorth a Chefnogaeth

Mewn argyfwng:

 

  • Ffoniwch 999 ar gyfer y gwasanaethau tân, heddlu ac ambiwlans.

 

Os oes gennych amhariad ar y clyw neu amhariad lleferydd, defnyddiwch y gwasanaeth neges destun 18000 neu anfonwch neges at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.

Os na allwch siarad, pwyswch 55 pan ofynnir a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i'r Heddlu. Mae pwyso 55 ond yn gweithio ar ffonau symudol ac nid yw'n galluogi’r heddlu i olrhain eich lleoliad.

 

  • Mae Ynys Saff yn ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) sy’n cynnig cefnogaeth i ddynion, menywod, plant a phobl ifanc yn dilyn trais rhywiol yng Nghaerdydd a’r Fro. 02920 335795 (Gadewch neges os du allan i oriau arferol. Bydd staff yn ffonio yn ôl yn gyflym.)

 

Mae cyngor cyflym yn dilyn trais rhywiol ar gael yma.

 

Cymorth ar gyfer menywod Du, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol 24/7 -  Mae BAWSO yn ddarparwr Cymru gyfan sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), priodas dan orfod, masnachu pobl/caethwasiaeth a phuteindra. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan BAWSO neu ffoniwch eu llinell gymorth: +44 (0)8007 318147.

 

Llinell Gymorth Genedlaethol Trais Domestig LHDTC+ Galop: 08009 995428 10yb i 4:30yh dydd Llun i ddydd Iau, help@galop.org.uk

 

Llinell Gymorth i Ddynion: Cyngor a chefnogaeth i ddynion sy’n dioddef trais domestig a chamdriniaeth 08088 010327

 

Tîm Ymateb i Ddatgeliadau Tîm o staff arbenigol yn y brifysgol sydd wedi'u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth. Maent yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio gan aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin o fewn perthynas, bwlio a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol. Maent ar agor 09:00-16:30, dydd Llun i ddydd Gwener gan eithrio gwyliau banc a’r cyfnod cau dros y Nadolig, a gellir cael mynediad atynt drwy'r ffurflen atgyfeirio hon.

 

 

Treisio ac Ymosodiad Rhywiol

 

Gall trais rhywiol ddigwydd o fewn neu du allan i berthynas. Mae rhyw heb gydsyniad unigolyn oherwydd cyffuriau, alcohol neu anymwybyddiaeth wedi'i ystyried yn drais.

Gellir rhoi cydsyniad dim ond os:

  • oes gan rywun y gallu i roi cydsyniad
  • oes gan rywun ryddid wrth wneud y dewis i gydsynio

Mae ymosodiad rhywiol yn gyffwrdd dieisiau o natur rywiol.

 

Trais rhywiol o fewn perthynas

Nid yw bod mewn perthynas gyda rhywun yn golygu cydsyniad awtomatig i weithredoedd rhywiol.

Gydag unrhyw gyfarfyddiad rhywiol, dylai fod gan bawb ryddid a'r gallu i ddewis cymryd rhan, ac efallai na fydd yn bosibl os yw rhywun o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Dylid rhoi cydsyniad a gellir ei gymryd yn ôl ar unrhyw adeg.

 

Aflonyddu rhywiol a stelcio

Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad dieisiau o natur rywiol, a gall gynnwys cyffwrdd dieisiau, cusanu, ymddygiad eiriol a di-eiriau. Gall aflonyddu fod yn bersonol, ar-lein neu drwy ddulliau eraill fel stelcio. Mae enghreifftiau o stelcio yn cynnwys dilyn person, gwylio neu ysbïo arnynt neu orfodi cyswllt trwy unrhyw fodd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

 

Mathau eraill o drais rhywiol

Mae mathau eraill o drais rhywiol yn cynnwys:

  • cam-fanteisio rhywiol, masnachu pobl a chaethwasiaeth
  • rhannu delweddau neu fideos rhywiol heb gydsyniad
  • blacmel rhywiol
  • dial trwy bornograffi

 

Trais ar sail rhywedd

Mae menywod yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais a cham-drin o gymharu â dynion. Felly, mae trais ar sail rhywedd yn derm penodol a ddefnyddir i ddisgrifio trais yn erbyn menywod a merched. Mae hyn yn cynnwys:

 

  • camdriniaeth o fewn perthynas (trais domestig)
  • treisio, ymosodiad rhywiol, a thrais rhywiol
  • aflonyddu a stelcio
  • priodas dan orfod
  • trais ar sail anrhydedd
  • anffurfio organau cenhedlu benywod
  • masnachu a phuteindra gorfodol
  • cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys trwy'r diwydiant rhyw)
  • rheolaeth drwy orfodaeth
  • blacmel rhywiol (blacmel gwe-gamera)

 

Lawrlwythwch yr ap SafeZone

 

Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu mynediad i bob myfyriwr at ap SafeZone, lle gallwch gysylltu â thîm Diogelwch y Brifysgol yn uniongyrchol trwy rannu eich lleoliad a chyfathrebu'n gyflym trwy neges destun. Os ydych chi'n teimlo'n anniogel yn unrhyw le ar y campws, gallwch ddefnyddio'r ap SafeZone i roi gwybod am hyn a gofyn am gymorth ar unwaith. Bydd hefyd yn dangos i chi eich lleoliad ar y campws.

 

 

Byw Heb Ofn: cynllun gan y Llywodraeth sy'n cynnig cymorth i bob goroeswr, dioddefwr, gweithiwr proffesiynol, ac eraill. Mae Byw Heb Ofn yn cynnig cymorth arbenigol ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys treisio, aflonyddu rhywiol a stelcio. Mae croeso i bob hunaniaeth rhywedd, rhywioldeb ac ethnigrwydd ac mae modd cyfeirio at wasanaethau ychwanegol os yw unigolyn yn dymuno. Mae eu llinell dewis iaith yn golygu nad yw iaith yn rhwystr, ac mae pob gweithiwr llinell gymorth yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llinell gymorth y tu allan i oriau 08088 010800, info@livefearfreehelpline.wales

 

Cwnsela a Chymorth Lles - os oes angen i chi siarad â rhywun i reoli eich iechyd emosiynol a'ch lles.

 

Cyngor i Fyfyrwyr

Gallwch hefyd gysylltu â'r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr am gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim sydd ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol a'n rôl yw rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i chi a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi.

 

Gall Cyngor i Fyfyrwyr hefyd roi cyngor a chefnogaeth ymarferol i chi. Gallwn roi cyngor ar dai ac oblygiadau unrhyw ddigwyddiadau ar eich astudiaeth. Os yw cyflawnwr ymddygiad annerbyniol ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwn roi cyngor ar sut i wneud cwyn yn eu herbyn i'r Brifysgol. Gallwn eich cefnogi drwy gydol eich cwyn a’ch cynghori ar gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol os oes angen.

 

Os yw eich amgylchiadau yn effeithio ar eich lles a/neu'ch gallu i astudio a pherfformio ar eich lefel arferol, gallwn: