Cymraeg
Protecting & Supporting your Mental Health
If you or someone else requires urgent support you can:
- Dial 999 and then also inform Security Dial +44 (0)29 2087 4444, if the situation involves: imminent danger, suicidal intention, possessing a weapon, threats of harm, physical injury, death of a student or terrorism.
- Complete the Student Support Intervention Teams' referral form on the intranet if the situation involves: a risk to yourself or others, erratic behaviour, behaviour changes, disengagement, or missing persons. Your concerns will be picked up by the University's Student Support Intervention Team, who will respond to your query where possible within one day between 10:00 and 16:00 Monday to Friday (excluding bank holidays) term time only
- For 24/7 support from NHS Wales, dial 111 or visit NHS 111 Wales.
The brain is a complex organ that is responsible for how we think, how we feel and how we act. Just like other organs in our body, it can be affected by our environment and behaviour.
It is normal to feel sad or angry sometimes, even if those feelings last for a few days. If you think negative feelings are starting to last a bit too long, or come around a bit too often, you may want to consider making some lifestyle changes to improve your mood and support your mental health.
Making lifestyle changes is not always easy and may not deliver instant results, but setting yourself some achievable targets and planning them into your week, could give you something to look forward to and help you stay on track. It can help to bring others into your plan too if possible.
Alcohol and smoking
Controlling our vices can be easier said than done and many factors can make it challenging. Alcohol and smoking can be the instant 'go to' for many if they are feeling low, anxious or stressed but they can also have a negative affect on a person's ability to deal with these feelings.
Smoking
There is some very interesting information available on smoking and mental health. The Mental Health Foundation: Smoking and mental health points out that, in the UK, smoking rates among adults with depression are about twice as high as among adults without depression. People with depression have particular difficulty when they try to stop smoking and have more severe withdrawal symptoms during attempts to give up.
Nicotine stimulates the release of the chemical dopamine in the brain. Dopamine is involved in triggering positive feelings. It is often found to be low in people with depression, who may then use cigarettes as a way of temporarily increasing their dopamine supply. However, smoking encourages the brain to switch off its own mechanism for making dopamine so in the long term the supply decreases, which in turn prompts people to smoke more.
Research into smoking and stress has shown that instead of helping people to relax, smoking actually increases anxiety and tension. Nicotine creates an immediate sense of relaxation so people smoke in the belief that it reduces stress and anxiety. This feeling of relaxation is temporary and soon gives way to withdrawal symptoms and increased cravings.
- Smoking causes receptors in the brain to release dopamine which makes you feel good, however this wears off and returns the smoker to a state of tension.
- The NHS say that smoking increases anxiety and tension and smokers are more likely to develop depression over time.
- The NHS say that when people stop smoking, anxiety and depression levels are lower, quality of life and positive mood improve, and the dosage of some medications used to treat mental health conditions can be reduced.
- Stopping smoking improves taste, makes it easier to do exercise, and can make you feel like you have more control in your life.
- There are a lot of physical health benefits too.
- If you would like to stop smoking, then we recommend that you read our page.
- If you can cut out the cigarettes, and even the e-cigarettes, this could make a massive difference to your mental health.
Alcohol
Over lockdown, many people have reported drinking more than before. Drinking more can be common when there are environmental stressors but it can also quickly end up doing more harm than good to your stress levels and your health.
There is a lot of information available on the effects of alcohol on mental health:
All of these sources include a key message: regular consumption of alcohol changes the chemistry of the brain. It decreases the levels of the brain chemical serotonin - a key chemical in depression. As a result of this depletion, a cyclical process begins where you drink to relieve depression but this causes serotonin levels in the brain to be depleted, leading to you feel even more depressed.
If you are experiencing anxiety, a drink might help you feel more at ease, but this feeling is short-lived. The so-called ‘relaxed’ feeling somebody may say they experience after having a drink is due to the chemical changes alcohol causes in the brain. But these effects wear off fast and can make your anxiety even worse when they do.
Further information is available on our Alcohol page.
Diet
A lot of research has been done into diet and its effect on mental health.
Mind, the mental health charity, has produced a video which discusses 8 tips on how food affects your mood;
- Eating regularly to maintain a stable blood sugar level can help to reduce tiredness, irritability and depressive feelings. Eating “slow burning” foods and those that are high in protein, such as nuts, seeds, oats and wholegrains.
- Make sure your getting the right fats. Your brain needs some fat to help it function properly, like omega-3 and omega-6. Good fats are found in, oily fish, chicken, walnuts and almonds, olive and sunflower oil, sunflower or pumpkin seeds, avocado, milk yoghurt, cheese and eggs.
- Increase your protein. Your brain needs protein to regulate your thoughts and feelings, and helps to control your blood sugar levels. Try eating protein rich foods; lean meat, fish, eggs, cheese, legumes (peas, beans, lentils), nuts and seeds.
- Drink more. Being hydrated allows you to think clearly and concentrate, and help you not be constipated. You can drink water, herbal or green tea, or diluted fruit juice. Stay away from high sugar drinks, or even “zero” sugar carbonated drinks.
- Eat a rainbow of fruit and vegetables. Eating a variety means that you will have a good mix of essential vitamins and minerals to help you.
- Reduce the caffeine. Caffeine is in chocolate, coffee, tea, cola and energy drinks. Caffeine can make you feel anxious, and depressed, disturb your sleep or cause withdrawal symptoms. You can cut down or shut it out completely.
- There is a link between the brain and the gut. Eating healthy gut foods like fruits, vegetables, wholegrains and live yoghurts, can help keep your gut healthy, and your head too. Your gut can take time to adjust – So you may want to make
- Beware of intolerances. If you think that you are intolerant, you can contact your GP or a dietician.
Exercise
This is one of the biggest lifestyle changes that we can all make to improve our mental and physical health. The Government report on exercise and health says that there is no minimum amount of exercise to achieve some benefit, but more is better.
Exercise has been shown to reduce depression and anixety and improve cognitive function. GPs can even prescribe exercise as a treatment for anxiety and depression.
The NHS website points out that people who regularly exercise have;
- up to a 35% lower risk of coronary heart disease and stroke
- up to a 50% lower risk of type 2 diabetes
- up to a 50% lower risk of colon cancer
- up to a 20% lower risk of breast cancer
- a 30% lower risk of early death
- up to an 83% lower risk of osteoarthritis
- up to a 68% lower risk of hip fracture
- a 30% lower risk of falls (among older adults)
- up to a 30% lower risk of depression
- up to a 30% lower risk of dementia
The NHS website has lots of advice on how to get fit for free. If you are able to invest some money in your physical and mental health, then you could consider a gym membership, or even a few sessions with a personal trainer. Most gyms should provide a free induction to help you get started.
Whilst you are at University you can also take advantage of all the sports clubs and societies that are on offer and subsidised by the Students’ Union.
Remember that it doesn’t have to be a “sport club” to be exercise, many societies will also involve some exercise too.
Try doing 30 minutes a day of exercise and see how you feel. The idea being that the more you do, the better you feel.
Sleep hygiene
Sleep hygiene is the practise of paying attention to things that disrupt a regular and refreshing sleeping pattern, and trying to eliminate or minimise these.
Having poor sleep can exacerbate mental health problems and make you feel depressed and lacking in energy and creativity.
You could try a sleep diary app to help you to monitor your sleep, or keep a record of days when you have had good sleep and when you have had bad sleep.
Keep an eye on the following, and see if these are disrupting your sleep;
- Blue lights, bright lights or screens before bedtime.
- Alcohol, drugs or nicotine.
- Not exercising that day
- Caffeine
- Poor mental health, or conditions such as ADHD.
- Irregular work patterns or working nights.
- Stress – Like work, University, Money, relationships
- Loud housemates or neighbours.
Creativity
Being creative challenges us, makes us feel more confident, feel more engaged and resilient. It gives us something constructive to focus on, work towards and can help us feel proud of our achievements.
There are lots of ways to be creative;
- In the Kitchen - You could become an expert baker, making bread or cake. You could experiment with new foods or recipes. You could even get your own sourdough culture, yoghurt culture or brew your own ginger or alcoholic beer.
- Music - You could learn an instrument, start DJing or producing music, join a band, or join a choir.
- On paper - You could learn how to draw, or paint. You could start a collage of photos, or a scrapbook of newspapers. You could start writing a diary, write short stories, or poems.
- On your feet - You could learn how to dance, join a ballet group, or start cheerleading. You could join an acting group or apply to be an extra on TV.
Lots of these are options are already offered by our societies, volunteering and sports clubs. If you are learning from scratch, then you are much more likely to stick at it with a bit of help and a supportive community around you.
Light and Nature
Close your eyes and think about the smell of a forest in the rain, the sound of a river crashing over a weir, or the feeling of long grass between your fingers. Imagine the sound of birds in the trees, hot sand between your feet, or the feel of cold water on your skin.
Thinking about these things can trigger an emotional response – we can all do with more nature in our lives and being outdoors has been shown to lead to higher self-esteem, greater happiness and more confidence.
You can google best walks in south wales to see some truly incredible places, or stay local and see what the parks around Cardiff have to offer.
If you fancy a challenge there are a number of sports clubs that will take you into the wilderness and show you some breath-taking places, most likely with a dose of adrenaline.
If this sounds like something you would like to try, you can look at;
Community and Connectivity
Being part of a community can make us feel more engaged, supported and give us a sense of belonging. As well as being part of a community, it is important to feel connected to those around you.
At university there are so many opportunities to get involved, and it is a really good way of meeting new people and having fun, whilst learning new skills.
Things are certainly very different at the moment but the Students' Union is working hard to make sure you can still make new connections and get involved in the student community.
- Associations. The Campaign Officers also have Associations that they are part of. These are students from the same minority groups. Each Association is different, some are used to facilitate and arrange socials and events whereas others are seen to be more political and a sounding board for campaign ideas.
- Athletic Union. The Athletic Union are the home of student sport at Cardiff University. They facilitate over 65 student-led sports clubs and offer 5000+ students the opportunity to represent Cardiff regionally, nationally and beyond.
- Cardiff Volunteering. Cardiff Volunteering offers a wide variety of different and exciting projects to choose from which you can fit around your University schedule, as well as loads of one-off events and summer volunteering opportunities.
- Cardiff Student Media. Student media is always on the look-out for new recruits. There's no typical member - those involved are from a very diverse range of backgrounds, studying everything from physics to philosophy, and as long as you've got passion and enthusiasm, you'll be welcomed aboard.
- Give it a Go. Give it a Go’ is a Students' Union initiative which aims to showcase opportunities and taster sessions available from Clubs, Societies and Student Groups. It allows students to try a club or society for a one off cost, before they commit to membership. The vast majority of clubs and societies will run an introductory session and brand it as their 'Give it a Go'.
- Jobshop. The Jobshop is a free student employment service which aims to find paid work for registered Cardiff University students
- Societies. Society memberships are available throughout the academic year so it's never too late to join any of our Societies. With over 200 Societies to choose from, there's something to suit everyone.
- Student-Led Services. Student-Led Services are student groups that run similarly to societies and sports clubs, but have a specific purpose that they campaign for. SLSs are at the heart of the Students' Union in providing support for students with wellbeing needs.
- Student Voice. The Student Voice team work with Academic Reps and PGR Reps to ensure that the student voice is heard at every level of the university. You can be a Rep too, just get in touch with us at StudentReps@cardiff.ac.uk. You can also be involved in the decisions made by your Students' Union by becoming a student senator, a member of the scrutiny committee or part of the Officer's Executive Committee.Get in touch at Elections@cardiff.ac.uk to find out more.
You can also find communities outside of the University bubble through Facebook or other community pages.
Although it is good to stay in touch with the people from home, it is very important to have face to face interactions with other people. Schedule some time into your week plan to meet a friend for a cup of tea, a walk or a game of football. Ask them how they are feeling, and tell them how you are feeling.
Don’t be afraid to call friends or family who live away from you, but don’t sacrifice time outdoors, or exercising for time on digital devices. Schedule calls at a convenient time, and don’t rely on people living away over people in Cardiff.
Reach out, when you need help
Knowing when to reach out is very important because there is help if you need it; you don't need to suffer in silence. As a starting point, if you are not feeling your best, it may help to talk to your friends and/or family.
There is a lot more information available on our Mental Health page, including where to get help both inside and outside the University.
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Diogelu a Chefnogi eich Iechyd Meddwl
Mae'r ymennydd yn organ gymhleth sy'n gyfrifol am y ffordd rydym yn meddwl, teimlo a gweithredu. Yn union fel organau eraill yn ein corff, gall ein hamgylchedd a'n hymddygiad effeithio ar ein hymennydd.
Mae'n normal teimlo'n drist neu'n grac weithiau, hyd yn oed os yw'r teimladau hyn yn para am ychydig ddyddiau. Os ydych chi'n meddwl bod teimladau negyddol yn dechrau para ychydig yn rhy hir, neu'n digwydd yn rhy aml, efallai ystyriwch gwneud rhai newidiadau i'ch ffordd o fyw i wella'ch hwyliau a chefnogi eich iechyd meddwl.
Nid yw gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw bob amser yn hawdd ac efallai na fydd yn arwain at ganlyniadau yn syth, ond gallai gosod targedau cyraeddadwy i chi'ch hun a chynllunio eich wythnos roi rhywbeth i chi edrych ymlaen ato a'ch helpu i gadw ar y trywydd iawn. Mae gwneud cynlluniau gydag eraill yn gallu helpu hefyd.
Alcohol ac ysmygu
Gall reoli ein drygioni fod yn haws dweud na gwneud a gall llawer o ffactorau wneud hyn yn heriol. Yn aml, mae pobl yn troi at alcohol ac ysmygu pan maent o dan straen neu’n teimlo’n isel neu bryderus, ond gallai hyn gael effaith negyddol ar allu rhywun i ddelio â’u teimladau.
Ysmygu
Mae gwybodaeth ddiddorol iawn ar gael am ysmygu ac iechyd meddwl. Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl: Ysmygu ac iechyd meddwl yn nodi bod cyfraddau ysmygu ymhlith oedolion ag iselder yn y DU tua dwywaith yn uwch nag ymhlith oedolion heb iselder. Mae pobl ag iselder yn cael anhawster arbennig pan fyddant yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu ac mae ganddynt symptomau diddyfnu mwy difrifol yn ystod y broses o roi’r gorau.
Mae nicotin yn ysgogi rhyddhau'r cemegyn dopamin yn yr ymennydd. Mae dopamin yn ymwneud ag achosi teimladau cadarnhaol. Yn aml canfyddir bod lefelau dopamin yn isel ymysg pobl ag iselder, sydd o bosib yn defnyddio sigaréts fel ffordd dros dro o gynyddu eu cyflenwad dopamin. Fodd bynnag, mae ysmygu yn annog yr ymennydd i ddiffodd ei fecanwaith ei hun ar gyfer cynhyrchu dopamin felly mae'r cyflenwad yn lleihau dros amser, sydd yn ei dro yn annog pobl i ysmygu mwy.
Mae ymchwil i ysmygu a straen wedi dangos bod ysmygu mewn gwirionedd yn cynyddu pryder a thensiwn, yn hytrach na helpu pobl i ymlacio. Mae nicotin yn creu ymdeimlad uniongyrchol o ymlacio felly mae pobl yn ysmygu gan gredu ei fod yn lleihau straen a gorbryder. Mae'r teimlad hwn o ymlacio yn rhywbeth dros dro ac yn fuan yn ildio i symptomau diddyfnu a chwantau cynyddol.
- Mae ysmygu yn achosi derbynyddion yn yr ymennydd i ryddhau dopamin sy'n gwneud i chi deimlo'n dda, fodd bynnag mae hyn yn pylu ac yn achosi’r ysmygwr i deimlo tensiwn.
- Dywed y GIG fod ysmygu yn cynyddu pryder a thensiwn ac mae ysmygwyr yn fwy tebygol o ddatblygu iselder dros amser.
- Dywed y GIG pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i ysmygu, bod lefelau pryder ac iselder yn is, mae ansawdd bywyd a hwyliau cadarnhaol yn gwella, a gellir lleihau’r dos o rai meddyginiaethau a ddefnyddir i drin cyflyrau iechyd meddwl.
- Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn gwella blas, yn ei gwneud yn haws i wneud ymarfer corff, a gall wneud i chi deimlo bod gennych fwy o reolaeth yn eich bywyd.
- Mae yna lawer o fanteision corfforol hefyd.
- Os hoffech roi'r gorau i ysmygu, yna rydym yn argymell eich bod chi'n darllen ein tudalen.
- Os gallwch chi dorri allan y sigaréts, a hyd yn oed yr e-sigaréts, gallai hyn wneud gwahaniaeth enfawr i'ch iechyd meddwl.
Alcohol
Mae llawer o bobl yn dweud eu bod wedi yfed mwy nag o’r blaen dros gyfyngiadau Covid. Gall yfed mwy fod yn gyffredin pan fo ffactorau straen amgylcheddol ond gall hefyd wneud mwy o ddrwg na da i'ch lefelau straen a'ch iechyd.
Mae llawer o wybodaeth ar gael am effeithiau alcohol ar iechyd meddwl:
Mae pob un o'r ffynonellau hyn yn cynnwys neges allweddol: mae yfed alcohol yn rheolaidd yn newid cemeg yr ymennydd. Mae'n lleihau lefelau serotonin cemegol yr ymennydd - cemegyn allweddol mewn iselder. O ganlyniad i'r disbyddiad hwn, mae proses gylchol yn dechrau lle rydych chi'n yfed i leddfu iselder ond mae hyn yn achosi i lefelau serotonin yn yr ymennydd gael eu disbyddu, gan arwain at deimlo'n fwy isel fyth.
Os ydych chi'n profi gorbryder, gallai diod eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus, ond mae'r teimlad hwn yn fyrhoedlog. Mae'r hyn a elwir yn deimlad 'ymlaciedig' y gall rhywun brofi ar ôl cael diod yn digwydd oherwydd y newidiadau cemegol y mae alcohol yn eu hachosi yn yr ymennydd. Ond mae'r effeithiau hyn yn diflannu'n gyflym a gall eich pryder fynd hyd yn oed yn waeth pan fydd hyn yn digwydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Alcohol.
Diet
Mae llawer o ymchwil wedi'i wneud i ddiet a'i effaith ar iechyd meddwl.
Mae Mind, yr elusen iechyd meddwl, wedi cynhyrchu fideo sy'n trafod 8 awgrym ar sut mae bwyd yn effeithio ar eich hwyliau;
- Gall bwyta'n rheolaidd i gynnal lefel sefydlog o siwgr yn y gwaed helpu i leihau blinder, anniddigrwydd a theimladau o iselder. Bwyta bwydydd “slow burning” a rhai sy'n uchel mewn protein, fel cnau, hadau, ceirch a grawn cyflawn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y brasterau cywir. Mae angen rhywfaint o fraster ar eich ymennydd i'w helpu i weithredu'n iawn, fel omega-3 ac omega-6.Ceir brasterau da mewn pysgod olewog, cyw iâr, cnau Ffrengig ac almonau, olew olewydd ac olew blodyn yr haul, hadau blodyn yr haul neu bwmpen, afocado, iogwrt llaeth, caws ac wyau.
- Cynyddwch eich protein. Mae angen protein ar eich ymennydd i reoli eich meddyliau a'ch teimladau, ac mae'n helpu i reoli lefelau siwgr yn y gwaed. Ceisiwch fwyta bwydydd llawn protein; cig heb lawer o fraster, pysgod, wyau, caws, codlysiau (pys, ffa, corbys), cnau a hadau.
- Yfwch fwy. Mae bod yn hydradol yn caniatáu ichi feddwl yn glir a chanolbwyntio, a'ch helpu i beidio â bod yn rhwym. Gallwch yfed dŵr, te llysieuol neu wyrdd, neu sudd ffrwythau. Cadwch draw oddi wrth ddiodydd siwgr uchel, neu hyd yn oed ddiodydd carbonedig “sero” siwgr.
- Bwytewch enfys o ffrwythau a llysiau. Mae bwyta amrywiaeth yn golygu y bydd gennych gymysgedd dda o fitaminau a mwynau hanfodol i'ch helpu.
- Lleihau'r caffein. Mae caffein mewn siocled, coffi, te, cola a diodydd egni. Gall caffein wneud i chi deimlo'n bryderus ac isel, tarfu ar eich cwsg neu achosi symptomau diddyfnu. Gallwch ei dorri i lawr neu ei stopio’n yn gyfan gwbl.
- Mae cysylltiad rhwng yr ymennydd a'r perfedd. Gall bwyta bwydydd iach fel ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn ac iogwrt byw helpu i gadw'ch perfedd yn iach, a'ch pen hefyd. Gall gymryd amser i’ch perfedd addasu - Felly efallai y byddwch am wneud newidiadau bach ac aml.
- Gwyliwch rhag anoddefiadau. Os credwch eich bod yn anoddefgar, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu neu ddietegydd.
Ymarfer corff
Dyma un o'r prif newidiadau y gallwn ni i gyd ei wneud i’n ffordd o fyw er mwyn gwella ein hiechyd meddwl a chorfforol. Mae adroddiad y Llywodraeth ar ymarfer corff ac iechyd yn dweud nad oes isafswm o ymarfer corff i sicrhau rhywfaint o fudd, ond mae mwy yn well.
Dangoswyd bod ymarfer corff yn lleihau iselder a gorbryder ac yn gwella gweithrediad gwybyddol. Gall meddygon teulu hyd yn oed ragnodi ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer gorbryder ac iselder.
Mae gwefan y GIG yn nodi bod gan bobl sy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd;
- hyd at 35% yn llai o risg o glefyd coronaidd y galon a strôc
- hyd at 50% yn llai o risg o ddiabetes math 2
- hyd at 50% yn llai o risg ganser y colon
- hyd at 20% yn llai o risg o ganser y fron
- risg 30% yn llai o farwolaeth gynnar
- hyd at 83% yn llai o risg o osteoarthritis
- hyd at 68% yn llai o risg o dorri asgwrn clun
- 30% yn llai o risg o gwympo (ymysg oedolion hŷn)
- hyd at 30% yn llai o risg o iselder
- hyd at 30% yn llai o risg o ddementia
Mae gan wefan y GIG lawer o gyngor ar sut i ddod yn ffit am ddim. Os gallwch fuddsoddi rhywfaint o arian yn eich iechyd corfforol a meddyliol, yna gallech ystyried aelodaeth o gampfa, neu hyd yn oed ychydig o sesiynau gyda hyfforddwr personol. Dylai'r rhan fwyaf o gampfeydd ddarparu sesiwn anwytho am ddim i'ch helpu i ddechrau arni.
Tra byddwch yn y Brifysgol gallwch hefyd fanteisio ar yr holl glybiau a chymdeithasau chwaraeon sydd ar gael ac sy'n derbyn cymhorthdal gan Undeb y Myfyrwyr.
Cofiwch nad oes rhaid iddo fod yn “glwb chwaraeon” i fod yn ymarfer corff, bydd llawer o gymdeithasau hefyd yn cynnwys rhywfaint o ymarfer corff hefyd.
Ceisiwch wneud 30 munud o ymarfer corff y dydd a gweld sut rydych chi'n teimlo. Y syniad yw po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud, y gorau rydych chi'n teimlo.
Hylendid cwsg
Hylendid cwsg yw’r arfer o roi sylw i bethau sy’n tarfu ar batrwm cysgu rheolaidd ac adfywiol, a cheisio dileu neu leihau’r rhain.
Gall cysgu gwael waethygu problemau iechyd meddwl a gwneud i chi deimlo'n isel ac yn brin o egni a chreadigedd.
Gallech roi cynnig ar ap dyddiadur cwsg i’ch helpu i fonitro eich cwsg, neu gadw cofnod o ddyddiau pan fyddwch wedi cael cwsg da a phan fyddwch wedi cael cwsg gwael.
Cadwch lygad ar y canlynol, a gweld a yw'r rhain yn amharu ar eich cwsg;
- Goleuadau glas, goleuadau llachar neu sgriniau cyn amser gwely.
- Alcohol, cyffuriau neu nicotin.
- Dim ymarfer corff y diwrnod hwnnw
- Caffein
- Iechyd meddwl gwael, neu gyflyrau fel ADHD.
- Patrymau gwaith afreolaidd neu weithio yn y nos.
- Straen – Fel gwaith, Prifysgol, Arian, perthnasoedd
- Cyd-letywyr neu gymdogion uchel.
Creadigrwydd
Mae bod yn greadigol yn ein herio, yn gwneud i ni deimlo'n fwy hyderus, mwy ymgysylltiol a gwydn. Mae'n rhoi rhywbeth adeiladol i ni ganolbwyntio arno, gweithio tuag ato a gall ein helpu i deimlo'n falch o'n cyflawniadau.
Mae llawer o ffyrdd i fod yn greadigol;
- Yn y Gegin - Gallech ddod yn bobydd arbennig, yn gwneud bara neu gacenni. Gallech arbrofi gyda bwydydd neu ryseitiau newydd. Gallech hyd yn oed wneud diwylliant surdoes eich hun, diwylliant iogwrt neu fragu cwrw sinsir neu gwrw alcoholig eich hun.
- Cerddoriaeth - Gallech ddysgu offeryn, dechrau DJio neu gynhyrchu cerddoriaeth, ymuno â band, neu ymuno â chôr.
- Ar bapur - Gallech ddysgu sut i dynnu llun, neu beintio. Gallech chi ddechrau collage o ffotograffau, neu lyfr lloffion o bapurau newydd. Gallech ddechrau ysgrifennu dyddiadur, ysgrifennu straeon byrion, neu gerddi.
- Ar eich traed - Gallech ddysgu sut i ddawnsio, ymuno â grŵp ballet, neu ddechrau 'cheerleading'. Gallech ymuno â grŵp actio neu wneud cais i fod yn ecstra ar y teledu.
Mae llawer o'r rhain yn opsiynau sydd eisoes yn cael eu cynnig gan ein cymdeithasau, clybiau gwirfoddoli a chwaraeon. Os ydych chi'n dysgu o'r dechrau, yna rydych chi'n llawer mwy tebygol o ddyfalbarhau gydag ychydig o help a chymuned gefnogol o'ch cwmpas.
Goleuni a Natur
Caewch eich llygaid a meddyliwch am arogl coedwig yn y glaw, sŵn afon yn chwalu dros gored, neu’r teimlad o laswellt hir rhwng eich bysedd. Dychmygwch sŵn adar yn y coed, tywod poeth rhwng eich traed, neu deimlad dŵr oer ar eich croen.
Gall meddwl am y pethau hyn ysgogi ymateb emosiynol – gallwn ni i gyd wneud gyda mwy o natur yn ein bywydau a dangoswyd bod bod yn yr awyr agored yn arwain at fwy o hunan-barch, mwy o hapusrwydd a mwy o hyder.
Gallwch fynd ar y teithiau cerdded gorau yn Ne Cymru i weld rhai lleoedd gwirioneddol anhygoel, neu aros yn lleol a gweld beth sydd gan y parciau o amgylch Caerdydd i'w gynnig.
Os ydych chi awydd her mae yna nifer o glybiau chwaraeon a fydd yn mynd â chi i'r diffeithwch ac yn dangos rhai lleoedd syfrdanol i chi, sy’n debygol o gynyddu adrenalin.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech drio, gallwch edrych ar;
Cymuned a Chysylltedd
Gall bod yn rhan o gymuned wneud i ni deimlo mwy o ymgysylltiad a chefnogaeth a rhoi’r ymdeimlad o berthyn i ni. Yn ogystal â bod yn rhan o gymuned, mae'n bwysig teimlo cysylltiad gyda'r bobl o'ch cwmpas.
Yn y brifysgol mae cymaint o gyfleoedd i gymryd rhan, ac mae'n ffordd dda iawn o gwrdd â phobl newydd a chael hwyl, wrth ddysgu sgiliau newydd.
Mae pethau’n sicr yn wahanol iawn ar hyn o bryd ond mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr eich bod yn dal i allu gwneud cysylltiadau newydd a chymryd rhan yn y gymuned myfyrwyr.
- Cymdeithasau. Mae gan y Swyddogion Ymgyrch gymdeithasau y maent hefyd yn rhan ohonynt. Mae’r rhain yn fyfyrwyr o'r un grwpiau lleiafrifol. Mae pob Cymdeithas yn wahanol, mae rhai yn cael eu defnyddio i greu a threfnu digwyddiadau cymdeithasol tra bod eraill yn cael eu hystyried yn fwy gwleidyddol ac yn ffordd o gasglu syniadau ymgyrchu.
- Undeb Athletau. Yr Undeb Athletau yw cartref chwaraeon myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maent yn cynnwys dros 65 o glybiau chwaraeon dan arweiniad myfyrwyr ac yn cynnig cyfle i 5000+ o fyfyrwyr gynrychioli Caerdydd yn rhanbarthol, yn genedlaethol a thu hwnt.
- Gwirfoddoli Caerdydd. Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o brosiectau gwahanol a chyffrous y gallwch gymryd rhan ynddynt, yn ogystal â llwyth o ddigwyddiadau un-tro a chyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf.
- Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd. Mae cyfryngau’r myfyrwyr bob amser yn chwilio am bobl newydd. Does dim aelod 'nodweddiadol' - daw aelodau o gefndiroedd amrywiol iawn, gan astudio popeth o ffiseg i athroniaeth. Chyhyd â'ch bod chi'n angerddol ac yn frwdfrydig, mae croeso mawr i chi.
- Rho Gynnig Arni. Give it a Go’Mae Rho Gynnig Arni yn fenter gan Undeb y Myfyrwyr sy'n anelu at arddangos cyfleoedd a sesiynau blasu sydd ar gael gan Glybiau, Cymdeithasau a Grwpiau Myfyrwyr. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr roi cynnig ar glwb neu gymdeithas am gost un tro, cyn iddynt ymrwymo i ymaelodi. Bydd y mwyafrif helaeth o glybiau a chymdeithasau yn cynnal sesiwn ragarweiniol a’i galw yn sesiwn 'Rho Gynnig Arni'.
- SiopSwyddi. Mae’r SiopSwyddi yn wasanaeth cyflogaeth am ddim i fyfyrwyr sy'n ceisio dod o hyd i waith cyflogedig ar gyfer myfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd.
- Gwasanaeth Datblygu Sgiliau. Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau (SDS) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a sesiynau hyfforddiant a gynlluniwyd i fagu hyder, gwella sgiliau trosglwyddadwy a chynyddu cyflogadwyedd ar gyfer dysgwyr sy’n ymddiddori mewn datblygu eu dyfodol ar ôl graddio. Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif i nodi eich cyflawniad.
- Cymdeithasau. Gallwch brynu aelodaeth i Gymdeithas drwy gydol y flwyddyn academaidd felly nid yw byth yn rhy hwyr i ymuno ag unrhyw un o'n Cymdeithasau. Gyda dewis o dros 200 o gymdeithasau, mae rhywbeth at ddant pawb.
- Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr. Mae Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr yn debyg i gymdeithasau a chlybiau chwaraeon ond maent yn ymgyrchu dros bwrpas penodol. Mae'r gwasanaethau hyn wrth galon Undeb y Myfyrwyr wrth ddarparu cymorth i fyfyrwyr ag anghenion lles.
- Llais Myfyrwyr. Mae'r tîm Llais Myfyrwyr yn gweithio gyda chynrychiolwyr academaidd a chynrychiolwyr ymchwil ôl-raddedig i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel o fewn y Brifysgol. Gallwch fod yn gynrychiolwr hefyd, cysylltwch â ni trwy StudentReps@caerdydd.ac.uk.Gallwch hefyd fod yn rhan o'r penderfyniadau a wneir gan eich Undeb Myfyrwyr trwy ddod yn seneddwr myfyrwyr, yn aelod o'r pwyllgor craffu neu'n rhan o Bwyllgor Gwaith y Swyddogion. Cysylltwch ag Elections@caerdydd.ac.uk i ddarganfod mwy.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gymunedau y tu allan i swigen y Brifysgol trwy Facebook neu dudalennau cymunedol eraill.
Er ei bod cadw mewn cysylltiad â phobl o’ch cartref, mae'n bwysig iawn cael rhyngweithio wyneb yn wyneb â phobl eraill. Trefnwch beth amser yn eich cynllun wythnos i gwrdd â ffrind am baned, mynd ar daith gerdded neu chwarae gêm o bêl-droed. Gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw'n teimlo, a dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi'n teimlo.
Peidiwch â bod ofn galw ffrindiau neu deulu sy'n byw i ffwrdd oddi wrthych, ond peidiwch ag aberthu amser yn yr awyr agored, neu wneud ymarfer corff ar gyfer amser ar ddyfeisiau digidol. Trefnwch alwadau ar amser cyfleus, a pheidiwch â dibynnu ar bobl sy'n byw i ffwrdd dros bobl sydd yng Nghaerdydd.
Estynnwch allan, pan fyddwch angen help
Mae gwybod pryd i estyn allan yn bwysig iawn oherwydd mae cymorth ar gael os oes ei angen arnoch; nid oes angen i chi ddioddef yn dawel. Fel man cychwyn, os nad ydych chi'n teimlo'ch gorau, efallai y byddai'n ddefnyddiol siarad â'ch ffrindiau a/neu deulu.
Mae llawer mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Iechyd Meddwl, gan gynnwys ble i gael cymorth y tu mewn a’r tu allan i’r Brifysgol.
Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr
Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410