Violence, abuse and unhealthy relationships
Recognising signs of violence and abuse
It is important to be aware of the many ways violence, abuse and unhealthy relationships can develop.
Get help
Types of violence and abuse
Violence and abuse can happen to people of all ages, sexualities, cultural, social and ethnic backgrounds. Violence and abuse are terms used to describe different types of behaviour, including:
1. Relationship abuse and unhealthy relationships
It can be difficult to identify the signs of an unhealthy relationship, especially when it’s your own. Everyone deserves to feel safe and loved in a relationship.
Relationship abuse does not always involve the use or threat of physical violence. If you notice a pattern of incidents of controlling, coercive, threatening, degrading and violent behaviour, it may mean you are in an unhealthy relationship. It is possible you may also be experiencing violence and abuse.
It can be difficult to identify the signs of an unhealthy relationship, especially when it’s your own.
Signs of an unhealthy relationship include:
- your partner is controlling or possessive
- you are being ridiculed or criticised
- you are being manipulated
- you are being intimidated
- you are being threatened
- your partner is isolating you from other friends or family or limiting who you see
- your partner is controlling what you spend
- you are experiencing physical or sexual violence.
2. Rape, sexual assault and sexual violence
Rape and sexual assault
Sexual violence can take place in or outside of a relationship. Sex without a person’s consent due to drugs, alcohol or unconsciousness is considered as rape and assault by penetration.
Consent can only be given if:
- someone has the capacity to give their consent
- someone is free to make the choice to consent.
Sexual assault is considered to be unwanted touching of a sexual nature.
Sexual violence within in a relationship
Being with someone does not determine your consent to a sexual act. With any sexual encounter there should be freedom and capacity to choose to participate, which might not be possible if someone is under the influence of alcohol or drugs.
Consent is to be given and can be taken back at any time.
Sexual harassment and stalking
Sexual harassment is unwanted conduct of a sexual nature, which can include unwanted touching, kissing, verbal and non-verbal behaviour. Harassment can be in person, online or via other means such as stalking. Examples of stalking include following a person, watching or spying on them or forcing contact through any means, including social media.
Other forms of sexual violence
Other forms of sexual violence include:
- sexual exploitation, trafficking and slavery
- non-consensual sharing of sexual images/videos
- sextortion
- revenge porn.
Violence related to gender
Women are disproportionately affected by violence and abuse compared to men. Therefore, gender-based violence is a specific term used to describe violence against women and girls. This includes any experience of:
- relationship abuse (domestic violence)
- rape, sexual assault and sexual violence
- harassment and stalking
- forced marriage
- honour-based violence
- female genital mutilation
- trafficking and forced prostitution
- sexual exploitation (including through the sex industry)
- coercive control
- sextortion (webcam blackmail).
Harassment
Harassment is unwanted conduct and related to many different types of physical, verbal and non-verbal conduct. It can occur through a single explicit incident or may be sporadic or ongoing. This behaviour tends to create an intimidating, hostile, degrading, humiliating or offensive environment.
Hate crime
A hate incident is any incident which the victim, or anyone else, thinks is motivated by hostility or prejudice towards someone because of their:
- race
- religion
- sexual orientation
- disability
- gender identity.
Hate incidents can include name calling, bullying, physical violence or any other type of violence and abuse.
Bullying
If you are experiencing someone's behaviour as offensive, intimidating, malicious or insulting this can be considered as bullying.
Bullying can also be an abuse or misuse of power through means intended to undermine, humiliate, denigrate or injure another person. Bullying behaviour can occur in many different types of relationships. The University's Dignity at Work and Study Policy outlines the ways in which both staff and students are expected to behave towards others.
Unacceptable behaviour
Other forms of inappropriate behaviour and conduct includes behaviour, acts or conduct that:
- cause another person distress or discomfort
- contribute to negative campus culture
- isolate others, making them feel excluded.
How violence and abuse is experienced
Violence and abuse often include many types of abusive and controlling behaviour which are used together intentionally to control another person, or to have power over them. It is rarely a one-off incident and usually gets worse over time. Where a person does experience a one-off incident the abuser is likely to do it again, and to others. The people responsible for violence and abuse are most likely to be known to the person experiencing it, including friends, acquaintances, partners and family members.
Get help
If you are experiencing violence or abuse, there are a range of support options for you to choose from. If you are worried about a student, learn how you can help.
The Student Support Intervention Team
The University’s Student Support Intervention Team (SSIT) is an amalgamation of the previously named Disclosure Response Team and Student Intervention Team, creating one streamlined team of practitioners who specialise in violence and abuse support or mental health support and intervention.
If you believe you are in immediate danger or you are concerned about your safety, learn how to access further help and keep yourself safe.
How the Student Support Intervention Team can help
The Student Support Intervention Team offer you practical support, including:
- support to manage ongoing safety concerns
- contact face to face, via phone or online, to talk about your experience and all the options of support available
- practical advice on housing, financial and academic needs
- support if the person who has been violent/abusive lives or studies with you
- signposting to specialist support agencies.
To access this support, make an identified disclosure using the online form.
Tell them
To get in touch complete this referral form or email studentsupportinterventionteam@cardiff.ac.uk .
The Student Support Intervention Team aim to respond to all disclosures within two working days, within the hours of 10:00-16:00, Monday to Friday, excluding bank holidays.
They understand that it can be difficult to trust other people to tell them what has happened. Some common worries about sharing these experiences include:
- what if no one believes me?
- what if I’m judged?
- what has happened to me is not that bad
- the person who is responsible is someone I know.
It is your choice whether you tell someone about your experiences. However, it is important to know that the University can support you.
The Student Support Intervention Team take all disclosures seriously and will believe what you tell them.
If you would prefer not to complete the form, but would still like to access support, please send them an email: studentsupportinterventionteam@cardiff.ac.uk. This is a confidential inbox, only accessed by members of the Student Support Intervention Team.
What will happen next
A member of the Student Support Intervention will contact you to offer an appointment to provide advice and guidance. They will explain the different support and reporting options available, and can refer you to specialist services, if you choose.
Anonymous disclosure
If you decide to disclose your experience of violence or abuse you can remain anonymous or you can choose to identify yourself so the Student Support Intervention Team can contact you and offer support.
If you choose to submit an anonymised disclosure, the Team will be unable to take action in response to the information you share. However, they can use the information to look at trends of incidents taking place on and off campus, which helps inform how they educate students and helps them to take precautions to increase student safety.
Download the Bright Sky app
Bright Sky is a free to download mobile app providing support and information for anyone who may be in an abusive relationship or those concerned about someone they know.
The app is available to use in English, Polish, Punjabi and Urdu.
Download the app on the App Store.
Download the app on Google Play.
Download the Safezone app
Cardiff University provides all students with access to a SafeZone app, where you can contact University Security directly by sharing your location and communicating quickly via text message. If you feel unsafe anywhere on campus, you can use the SafeZone app to report this and seek immediate assistance. It will also show you where you are on campus in a variety of formats.
Other external sources of advice and support include
Live Fear Free: a government scheme offering help to all survivors, victims, professionals, and concerned others. Live Fear Free offer specialist advice on all forms of violence against women, domestic abuse and sexual violence, including rape, sexual harassment, and stalking. All gender identities, sexualities, ethnicities are welcome and they can refer on to additional services if an individual would like. Their language line option means that language is no barrier, and all helpline support workers are fluent in Welsh and English. Out of hours helpline 0808 80 10 800, info@livefearfreehelpline.wales
Refuge: Freephone 24 hour National Domestic Abuse Helpline for women and children
Cardiff Women’s Aid: 24/7 helpline 029 2046 0566
Men’s Advice Line: Advice and support for men experiencing domestic violence and abuse 0808 801 0327
Galop: National LGBT+ Domestic Abuse Helpline 0800 999 5428 help@galop.org.uk
Student Advice
Student Advice can also provide you with practical advice and support. We can advise on housing and any implications of the abuse on your study. If the perpetrator is a Cardiff University student, we can advise on how to make a complaint against them to the University. We can support you through your complaint and advise on submitting extenuating circumstances or taking an interruption of study if that becomes necessary.
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Trais, camdriniaeth a pherthnasoedd aniach
Sut i adnabod arwyddion o drais a chamdriniaeth
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r ffyrdd amrywiol mae trais, camdriniaeth a pherthnasoedd aniach yn gallu datblygu.
Cael Help
Mathau o drais a chamdriniaeth
Gall trais a cham-drin ddigwydd i unrhyw un, boed eu hoedran, rhywioldeb, cefndir diwylliannol, cymdeithasol ac ethnig. Mae’r termau trais a chamdriniaeth yn cael eu defnyddio i ddisgrifio mathau gwahanol o ymddygiad, gan gynnwys:
1. Camdriniaeth o fewn perthynas a pherthnasoedd aniach
Mae’n gallu bod yn anodd nodi arwyddion perthynas aniach, yn enwedig o bersbectif personol. Mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel ac wedi'u caru mewn perthynas.
Nid yw camdriniaeth mewn perthynas bob amser yn cynnwys trais corfforol o unrhyw fath. Os byddwch yn sylwi ar batrwm o ddigwyddiadau o reolaeth, gorfodaeth, bygythiad a thrais, gall fod yn arwyddion o berthynas aniach. Mae'n bosibl hefyd eich bod yn profi trais a chamdriniaeth.
Mae’n gallu bod yn anodd nodi arwyddion perthynas aniach, yn enwedig o bersbectif personol.
Mae arwyddion perthynas aniach yn cynnwys:
- mae eich partner yn mynnu rheolaeth neu’n feddiannol
- mae eich partner yn gwneud hwyl ar eich pen neu’ch barnu
- mae rhywun yn eich manipwleiddio
- mae rhywun yn codi ofn arnoch
- mae rhywun yn eich bygwth
- mae eich partner yn eich rhwystro rhag gweld ffrindiau neu deulu, neu’n rheoli pwy y gallwch eu gweld
- mae eich partner yn rheoli'r hyn rydych chi'n ei wario
- rydych yn dioddef trais corfforol neu rywiol.
2. Trais, ymosodiadau a thrais rhywiol
Trais ac ymosodiadau rhywiol
Gall trais rhywiol ddigwydd o fewn neu du allan i berthynas. Mae rhyw heb gydsyniad o ganlyniad i gyffuriau, alcohol neu anymwybyddiaeth yn drais rhywiol ac yn ymosodiad drwy dreiddio.
Gellir ond rhoi cydsyniad ar sail y canlynol:
- mae gan rywun y gallu i gydsynio.
- mae rhywun yn rhydd i wneud y dewis o gydsynio.
Ystyrir ymosodiad rhywiol yn gyffwrdd annymunol sy’n rhywiol ei natur.
Ymosodiad rhywiol mewn perthynas
Nid yw’r ffaith eich bod mewn perthynas yn pennu eich cydsyniad i weithred rywiol. Gydag unrhyw gyfathrach rywiol, dylai fod gan bawb y rhyddid a’r gallu i ddewis cymryd rhan, sy’n gallu bod yn amhosibl os yw rhywun o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Mae cydsyniad yn rhywbeth sydd angen ei roi, a gellir ei gymryd yn ôl ar unrhyw adeg.
Aflonyddu rhywiol a stelcio
Mae aflonyddu rhywiol yn golygu unrhyw weithred annymunol sy’n rhywiol ei natur. Fe all gynnwys cyffwrdd a chusanu ac ymddygiad geiriol a di-eiriau. Gall aflonyddu ddigwydd wyneb yn wyneb, ar-lein, neu drwy ddulliau eraill megis stelcio. Mae enghreifftiau o stelcio yn cynnwys dilyn, gwylio neu ysbïo ar rywun, neu orfodi cyswllt mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
Mathau eraill o drais rhywiol
Mae mathau eraill o drais rhywiol yn cynnwys:
- cam-fanteisio’n rhywiol, masnachu a chaethwasiaeth
- rhannu delweddau/fideos rhywiol heb cydsyniad
- cribddeiliaeth rywiol
- pornograffi dial.
Trais sy’n gysylltiedig â rhywedd
Mae menywod yn cael eu heffeithio'n fwy gan drais a chamdriniaeth o'u cymharu â dynion. Felly, mae trais ar sail rhywedd yn derm penodol a ddefnyddir i ddisgrifio trais yn erbyn menywod a merched. Mae hyn yn cynnwys unrhyw rai o’r canlynol:
- camdriniaeth o fewn perthynas (trais yn y cartref)
- trais ac ymosodiadau rhywiol
- aflonyddu rhywiol a stelcio
- priodas orfodol
- priodas orfodol
- anffurfio organau cenhedlu menywod
- masnachu pobl a phuteindra gorfodol
- cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw)
- rheolaeth orfodol
- cribddeiliaeth rywiol (defnyddio gwe-gamera i flacmelio rhywun).
Aflonyddu
Mae aflonyddu yn ymddygiad annymunol sy’n gysylltiedig â llawer o wahanol fathau o ymddygiad corfforol, geiriol a di-eiriau. Gall ddigwydd fod yn un digwyddiad penodol, neu fod yn ysbeidiol neu’n barhaus. Mae’r ymddygiad hwn yn tueddu i greu amgylchedd bygythiol, gwrthwynebus, diraddiol, bychanol neu sarhaus.
Troseddau casineb
Mae digwyddiad casineb yn unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn credu ei fod yn cael ei gymell gan elyniaeth neu ragfarn at rywun oherwydd ei:
- hil
- crefydd
- cyfeiriadedd rhywiol
- anabledd
- hunaniaeth o ran rhywedd.
Gall ddigwyddiadau casineb gynnwys galw enwau, bwlio, trais corfforol, neu unrhyw fath arall o drais a chamdriniaeth.
Bwlio
Os yw rhywun yn eich trin mewn ffordd rydych yn credu i fod yn dramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus, gall hyn gael ei ystyried fel bwlio.
Gall bwlio hefyd fod yn gamdriniaeth neu gamddefnydd o rym drwy ddefnyddio dulliau i geisio tanseilio, bychanu, difrïo neu anafu rhywun arall. Gall bwlio ddigwydd mewn nifer o wahanol berthnasau. Mae Bolisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y Brifysgol yn amlinellu’r ffyrdd y disgwylir i’r staff a’r myfyrwyr ymddwyn tuag at eraill.
Ymddygiad annerbyniol
Mae mathau eraill o ymddygiad amhriodol yn cynnwys ymddygiad neu weithredoedd sy'n:
- achosi i rywun arall ofidio neu deimlo’n anghyfforddus
- cyfrannu at ddiwylliant negyddol ar gampws
- ynysu eraill, gan wneud iddyn nhw deimlo fel eu bod wedi'u heithrio.
Sut mae trais a chamdriniaeth yn cael eu profi
Mae trais a chamdriniaeth yn aml yn cynnwys nifer o ffyrdd o ymddwyn yn ymosodol neu mewn modd sy’n ceisio rheoli eraill a gallant gael eu defnyddio ar yr un pryd, yn fwriadol, er mwyn rheoli unigolyn arall neu gadw grym drosto. Anaml y bydd yn ond yn digwydd unwaith, ac fel arfer bydd yn gwaethygu dros amser. Os yw'r unigolyn yn profi digwyddiad unwaith, mae’n debygol y bydd y camdriniwr yn ei wneud eto, ac yn ei wneud i bobl eraill. Mae’n debygol y bydd y rhieny sy'n gyfrifol am drais a chamdriniaeth yn nabod yr unigolyn, yn ogystal â ffrindiau, cydberthnasau, partneriaid ac aelodau teulu.
Sut i gael help
Os ydych yn profi trais neu gamdriniaeth, mae gennym amrywiaeth o opsiynau cymorth ar gael i chi. Os ydych yn poeni am fyfyriwr, dyma sut y gallwch eu helpu.
Tîm Ymateb i Ddatgeliadau
Staff arbenigol yn y Brifysgol sydd wedi cael eu hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth yw'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau. Maen nhw’n cefnogi myfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan aflonyddu, troseddau casineb, cam-drin o fewn perthynas a ffurfiau eraill o ymddygiad annerbyniol.
Os ydych chi'n credu eich bod mewn perygl uniongyrchol neu'n poeni am eich diogelwch, dysgwch sut i gael rhagor o gymorth a chadwch eich hun yn ddiogel.
Sut y gall y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau helpu
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cynnig cymorth ymarferol i chi, gan gynnwys:
- cefnogaeth i reoli pryderon parhaus ynghylch diogelwch
- cyswllt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, i sôn am eich profiad a'r holl opsiynau cymorth sydd ar gael
- cyngor ymarferol ar anghenion tai, ariannol ac academaidd
- cymorth os yw'r person sydd wedi bod yn dreisgar/camdriniol yn byw neu’n astudio gyda chi
- cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol.
I gael y cymorth hwn, gwnewch ddatgeliad gyda’ch enw drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Rhoi gwybod
Cwblhewch y ffurflen ddatgeliad ar-lein i wneud datgeliad gyda neu heb enw.
Nod y Tîm Ymateb i Ddatgeliad yw ymateb i bob datgeliad o fewn dau ddiwrnod gwaith, o fewn yr oriau 09:00-16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd ymddiried mewn pobl eraill a dweud wrthynt beth sydd wedi digwydd. Mae rhai pryderon cyffredin o ran rhannu’r profiadau hyn yn cynnwys:
- beth os nad oes unrhyw un yn fy nghredu?
- beth os yw eraill yn fy meirniadu?
- nid yw’r hyn sydd wedi digwydd imi mor wael â hynny
- rwy’n nabod yr unigolyn sy’n gyfrifol.
Eich dewis chi yw p'un a ydych yn dweud wrth rywun am eich profiadau ai peidio. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwybod bod y brifysgol yn gallu eich cefnogi.
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cymryd pob datgeliad o ddifrif ac yn credu'r hyn a ddywedwch wrthynt.
Os byddai’n well gennych chi beidio â llenwi’r ffurflen, ond hoffech chi gael cymorth, anfonwch ebost atom: disclosureresponseteam@cardiff.ac.uk. Mae hwn yn fewnflwch cyfrinachol, dim ond aelodau o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau sydd â mynediad iddo.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad i roi cyngor ac arweiniad. Byddant yn egluro'r gwahanol opsiynau cymorth sydd ar gael, a gallant eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol, os byddwch yn dewis.
Datgeliadau dienw
Os byddwch yn penderfynu datgelu eich profiad o drais neu gam-drin, gallwch barhau i fod yn ddienw neu ddewis i gyflwyno eich hun er mwyn i ni allu cysylltu â chi a chynnig cymorth.
Os ydych yn dewis i gyflwyno datgeliad dienw, ni allwn gymryd camau i ymateb i’r wybodaeth rydych yn ei rhannu. Fodd bynnag, gallwn ddefnyddio'r wybodaeth i edrych ar dueddiadau mewn perthynas â digwyddiadau ar ac oddi ar y campws, sy'n helpu i lywio sut rydym yn addysgu myfyrwyr ac yn ein helpu i gymryd rhagofalon i wella diogelwch myfyrwyr.
Lawrlwythwch ap Bright Sky
Mae Bright Sky yn ap rhad ac am ddim i’w lawrlwytho sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod yn profi camdriniaeth neu i’r rhai sy’n poeni am rywun maent yn ei nabod.
Mae’r ap ar gael yn Saesneg, Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw.
Lawrlwytho’r ap o’r App Store.
Lawrlwytho'r ap ar Google Play.
Lawrlwythwch ap SafeZone
Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu mynediad i ap a SafeZone i bob myfyriwr, lle gallwch gysylltu â Diogelwch y Brifysgol yn uniongyrchol drwy rannu eich lleoliad a chyfathrebu'n gyflym drwy neges destun. Os ydych chi'n teimlo'n anniogel yn unrhyw le ar y campws, gallwch ddefnyddio'r ap SafeZone i roi gwybod am hyn a cheisio cymorth ar unwaith. Bydd hefyd yn dangos i chi eich lleoliad i ar y campws mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae ffynonellau allanol eraill o gyngor a chymorth yn cynnwys
Byw Heb Ofn: cynllun gan y Llywodraeth sy'n cynnig help i bob goroeswr, dioddefwr, gweithiwr proffesiynol, ac unrhyw un pryderus arall. Mae Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor arbenigol ar bob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, gan gynnwys treisio, aflonyddu rhywiol, a stelcio. Croesewir pob hunaniaeth rhyw, rhywioldeb, ethnigrwydd a gallant gyfeirio at wasanaethau ychwanegol os hoffwch. Mae eu dewis llinell iaith yn golygu nad yw iaith yn rhwystr, ac mae holl weithwyr cymorth y llinell gymorth yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llinell gymorth y tu allan i oriau 0808 80 10 800, info@livefearfreehelpline.wales
Refuge: Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth Ddomestig 24 awr am ddim i fenywod a phlant
Cymorth i Fenywod Caerdydd: Llinell gymorth 24/7 029 2046 0566
Llinell Gyngor i Ddynion: Cyngor a chymorth i ddynion sy'n dioddef trais a chamdriniaeth ddomestig 0808 801 0327
Galop: Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth Ddomestig LHDT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk
Cyngor i Fyfyrwyr
Gall Cyngor i Fyfyrwyr hefyd roi cyngor a chymorth ymarferol i chi. Gallwn roi cyngor ar dai ac unrhyw oblygiadau o’r gamdriniaeth ar eich astudiaethau. Os yw’r troseddwr yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, gallwn roi cyngor ar sut i wneud cwyn yn ei erbyn i’r Brifysgol. Gallwn eich cefnogi gyda’ch cwyn a’ch cynghori ar gyflwyno amgylchiadau esgusodol neu ohirio astudiaethau os bydd angen.
Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr
Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410