Meningitis

 

Meningitis is a vaccine preventable disease that can kill. Sadly, University students have died, or suffered life-changing injuries, after contracting meningitis.

You should be vaccinated before you arrive at University. If you haven’t been vaccinated, you can contact your GP today.

 

The following video is from Public Health England and shows an interview with a student who suffered life changing injuries. Please note, this video contains descriptions that may upset you.

 

 

 

The MenACWY Vaccine

 

The MenACWY vaccine is available for free from your GP if you are starting university for the first time and are under 25. If in doubt, you can check your eligibility on the Meningitis Research Foundation website.

 

This vaccine prevents against four strains of meningococcal bacteria, strains; A, C, W, Y.


You should ideally be vaccinated before you start University but, if you have not been, you can contact your GP and see if you are eligible to book an appointment now.
 

The following video is from Meninigitis Now and highlights exactly how serious meningitis can be. Please note, this video contains scenes which you may find upsetting;

 

 

Please be aware that some of the Covid-19 symptoms overlap with meningitis. If you have Covid, you may need to self isolate unless you are not able to manage your symptoms and need to seek medical help. Meninigitis, however, is a medical emergency that can be fatal without quick medical help. Trust your instincts and do not delay getting medical help if you think you need it.

 

The focus at the moment is Covid-19 but be aware that some of the symptoms overlap with meningitis

What is meningitis? 

 

Meningitis is an infection of the membranes that surround the brain and spinal cord (meninges) which can be caused by both bacteria and viruses.

 

The bacteria that causes meningitis can be found in the throats and noses of around a quarter of 15 to 19 year olds. Although in most cases they cause no harm, these bacteria can invade the body and can cause the infection.

 

Bacterial meningitis can lead to septicaemia (blood poisoning), which poses further complications.

 

When someone has suspected meningitis they should be taken to hospital immediately where the cause will be identified.

 

Bacterial meningitis is much more serious, and has a 10% fatality rate.

 

The outlook is better if it is identified and treated quicker, but people can lose limbs or have life changing injuries, such as deafness, blindness, epilepsy , or memory and coordination problems.

 

There have been outbreaks at multiple Universities in the UK, and students have sadly suffered life changing injuries and died from bacterial meningitis.

 

Why might you be at risk?

  • One in four 15 – 19-year old's carry these bacteria in the back of their throats, compared to one in ten of the UK population.

  • You can be a carrier without becoming ill and in most cases, it will help boost your natural immunity. In an age group where more people are carrying the bacteria, more disease will occur.

  • Meningococcal bacteria are passed from person to person by coughing, sneezing and intimate kissing, increased social interaction in this age group means that the bacteria can be passed on more easily.

  • University students can be more vulnerable due to living in more cramped housing or halls of residence. In many cases young people come together from all over the country - and indeed the world - to live in one place and can be exposed to bacteria and viruses their bodies have not met before. This is why so many new students get “freshers’ flu”.

  • As the early symptoms of meningitis can disguise themselves as other things, such as common illnesses like flu, or maybe a hangover, it’s easy to mistake meningitis for something else. 

  • When students go off to university, it is often the first time they are living away from their parents and, more often than not, their own health and wellbeing is not a priority for them. With no parents to keep an eye on their health, meningitis can get missed. It is vital that someone always knows if you are feeling unwell and can check up on you.
     

Common Signs and Symptoms of Meningitis

 

Bacterial meningitis symptoms may develop within hours or days. Viral meningitis symptoms may also develop quickly or over several days.

 

Here are more common signs and symptoms of both types. Not all symptoms may appear or appear in the same order. Fever, headache, and neck stiffness are the hallmark symptoms of meningitis.

  • Fever
  • Severe, persistent headache
  • Neck stiffness and pain that makes it difficult to touch your chin to your chest
  • Nausea and vomiting
  • Confusion and disorientation (acting "goofy")
  • Drowsiness or sluggishness
  • Sensitivity to bright light
  • Poor appetite
  • Seizures (fits)
  • Pale blotchy skin (spots/rash) see the glass test here.

 

Not all of these symptoms will occur, and you should not wait for a rash to develop. If in doubt get some help. 

 

If in Doubt

  • If you think someone has meningitis or septicemia get medical help immediately.
  • You know your child, a loved one, or your own body, best. Describe the symptoms and say you think it could be meningitis or septicemia.
  • Early diagnosis can be difficult. If you have had advice and are still worried, get medical help again.
  • If you are worried about the symptoms of meningitis and spotting them in time, let us help you with our free symptoms card. Meningitis Now also has a new iPhone application for you to download on the symptoms.
  • Make sure you are registered with GP while you are at university, and you know how to contact them.
  • Call 999 for an ambulance or go to your nearest A & E immediately if you think you have meningitis.
  • Call NHS Direct or your GP for advice if you are not sure if its anything serious or you think you may have been exposed to someone with meningitis.
     

For more information please go to the Meningitis Now website here.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

Llid yr ymennydd

Mae llid yr ymennydd yn glefyd sy’n gallu lladd a gellir ei atal trwy frechlyn. Yn anffodus, mae myfyrwyr y Brifysgol wedi marw, neu wedi dioddef anafiadau difrifol, ar ôl dal llid yr ymennydd.

 

Dylech gael eich brechu cyn i chi gyrraedd y Brifysgol. Os nad ydych wedi cael eich brechu, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu heddiw.

 

Daw'r fideo canlynol gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac mae'n dangos cyfweliad gyda myfyriwr a ddioddefodd anafiadau difrifol. Sylwch fod y fideo yn cynnwys disgrifiadau a allai beri gofid.

 

 

Brechlyn MenACWY

 

Gallwch gael y brechlyn hwn am ddim gan eich meddyg teulu os ydych chi'n dechrau'r brifysgol am y tro cyntaf ac o dan 25 oed. Os ydych yn ansicr, gallwch wirio'ch cymhwysedd ar wefan Sefydliad Ymchwil Meningitis.

 

Mae'r brechlyn hwn yn atal yn erbyn pedwar math o facteria meningococaidd, straeniau; A, C, W, Y.


Yn ddelfrydol, dylech gael eich brechu cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol ond, os nad ydych wedi eisoes, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu i weld a ydych yn gymwys i drefnu apwyntiad nawr.
 

Daw'r fideo canlynol o Meningitis Now ac mae'n tynnu sylw at ba mor ddifrifol y gall llid yr ymennydd fod. Sylwch, mae'r fideo hwn yn cynnwys golygfeydd a allai beri gofid;

 

 

Byddwch yn ymwybodol bod rhai o symptomau Covid yn gorgyffwrdd â llid yr ymennydd. Os oes gennych Covid, mae angen i chi hunan-ynysu oni bai nad ydych yn gallu rheoli eich symptomau a bod angen i chi gael cymorth meddygol. Fodd bynnag, mae llid yr ymennydd yn argyfwng meddygol a all fod yn angheuol heb gymorth meddygol cyflym. Ymddiriedwch yn eich greddf a pheidiwch ag oedi cyn cael cymorth meddygol os yw’n angenrheidiol.

 

Y ffocws ar hyn o bryd yw Covid-19 ond byddwch yn ymwybodol bod rhai o'r symptomau'n gorgyffwrdd â llid yr ymennydd.

Beth yw llid yr ymennydd? 

 

Mae llid yr ymennydd yn haint ar y pilenni sy'n amgylchynu'r ymennydd a llinyn y cefn (meninges) a all gael ei achosi gan facteria a firysau.

 

Gellir dod o hyd i'r bacteria sy'n achosi llid yr ymennydd yng ngwddf a thrwynau tua chwarter o bobl ifanc rhwng 15 a 19 oed. Er nad ydynt yn achosi unrhyw niwed yn y rhan fwyaf o achosion, gall y bacteria gwyn ymosod ar y corff ac achosi haint.

 

Gall llid yr ymennydd bacteriol arwain at septisemia (gwenwyn gwaed), sy'n achosi cymhlethdodau pellach.

 

Pan fydd rhywun yn amau llid yr ymennydd, dylid mynd i'r ysbyty ar unwaith er mwyn adnabod yr achos.

 

Mae llid yr ymennydd bacteriol yn llawer mwy difrifol, ac mae ganddo gyfradd marwolaeth o 10%.

 

Mae'r rhagolygon yn well os caiff ei nodi a'i drin yn gyflymach, ond gall pobl golli aelodau neu gael anafiadau difrifol, fel byddardod, dallineb, epilepsi, neu broblemau gyda'r cof a chydsymud.

 

Bu achosion mewn nifer o Brifysgolion yn y DU, ac yn anffodus mae myfyrwyr wedi dioddef anafiadau a newidiodd eu bywydau ac wedi marw o lid yr ymennydd bacteriol.

 

Pam y gallech fod mewn perygl?

 

  • Mae un o bob pedwar plentyn 15 — 19 oed yn cario'r bacteria hyn yng nghefn eu gyddfau, o'i gymharu ag un o bob deg o boblogaeth y DU.

  • Gallwch chi fod yn gludwr heb fynd yn sâl ac yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn helpu i roi hwb i'ch imiwnedd naturiol. Mewn grŵp oedran lle mae mwy o bobl yn cario'r bacteria, bydd haint yn fwy tebygol o ddigwydd.

  • Mae bacteria meningococaidd yn cael ei drosglwyddo o berson i berson trwy beswch, tisian a chusanu agos. Mae mwy o ryngweithio cymdeithasol yn y grŵp oedran hwn yn golygu y gellir trosglwyddo'r bacteria yn haws.

  • Gall myfyrwyr prifysgol fod yn fwy agored i niwed oherwydd eu bod yn byw mewn tai neu neuaddau preswyl gyda nifer o bobl. Mewn llawer o achosion mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd o bob cwr o'r wlad - ac yn wir y byd - i fyw mewn un lle a gallant ddod ar draws bacteria a firysau sy’n estron i’w cyrff. Dyma pam mae cymaint o fyfyrwyr newydd yn cael “ffliw’r glas” (freshers’ flu).

  • Gan fod symptomau cynnar llid yr ymennydd yn gallu ymddangos fel pethau eraill, gan gynnwys salwch cyffredin fel y ffliw, neu efallai hangover, mae'n hawdd camgymryd llid yr ymennydd am rywbeth arall. 

  • Pan fydd myfyrwyr yn mynd i brifysgol, yn aml dyma'r tro cyntaf iddynt fyw i ffwrdd oddi wrth eu rhieni ac, yn amlach na pheidio, nid yw eu hiechyd a'u lles eu hunain yn flaenoriaeth iddynt. Heb unrhyw rieni i gadw llygad ar eu hiechyd, gall meningitis effeithio heb yn wybod i unigolion. Mae'n hanfodol bod rhywun yn gwybod os ydych chi'n teimlo'n sâl er mwyn iddynt gadw llygad arnoch.
     

Arwyddion a symptomau cyffredin llid yr ymennydd

 

Gall symptomau llid yr ymennydd bacteriol ddatblygu o fewn oriau neu ddyddiau. Gall symptomau meningitis firaol ddatblygu'n gyflym neu dros sawl diwrnod hefyd.

 

Dyma arwyddion a symptomau mwy cyffredin o'r ddau fath. Ni all pob symptom ymddangos o gwbl neu ymddangos yn yr un drefn. Twymyn, cur pen, ac stiffrwydd gwddf yw symptomau cyffredin llid yr ymennydd.

  • Twymyn
  • Cur pen difrifol, parhaus
  • Stiffrwydd gwddf a phoen sy'n ei gwneud hi'n anodd cyffwrdd eich brest gyda’ch gên.
  • Cyfogi a chwydu
  • Dryswch a phenbleth (ymddwyn yn wirion)
  • Syrthni neu ddiffyg egni
  • Sensitifrwydd i olau llachar
  • Dim chwant bwyd
  • Atafaeliadau (ffitiau)
  • Croen blotiog, gwelw (smotiau/brech) gweler y prawf gwydr yma.

 

Ni fydd yr holl symptomau hyn yn digwydd, ac ni ddylech aros i frech ddatblygu. Os nad ydych chi'n siŵr, ewch i gael cymorth. 

 

  • Os ydych chi'n meddwl bod gan rywun lid yr ymennydd neu septisemia, gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith.
  • Rydych chi'n nabod eich plentyn, ffrind, neu'ch corff eich hun yn ddigon da i wybod os oes rhywbeth yn bod. Disgrifiwch y symptomau a dywedwch eich bod yn credu y gallai fod yn llid yr ymennydd neu septisemia.
  • Gall fod yn anodd cael diagnosis cynnar. Os ydych chi wedi cael cyngor ac yn dal i boeni, mynnwch gymorth meddygol eto.
  • Os ydych chi'n poeni am symptomau llid yr ymennydd ac yn eu gweld mewn pryd, gadewch i ni eich helpu chi gyda'n cerdyn symptomau am ddim. Mae gan Meningitis Now hefyd ap iPhone newydd i chi ei lawrlwytho ar y symptomau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu tra byddwch yn y brifysgol, a'ch bod yn gwybod sut i gysylltu â nhw.
  • Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf ar unwaith os ydych chi'n meddwl bod lid yr ymennydd arnoch chi.
  • Ffoniwch Galw Iechyd Cymru neu'ch meddyg teulu i gael cyngor os ydych yn ansicr am ddifrifoldeb eich sefyllfa neu os ydych yn credu eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun â llid yr ymennydd.
     

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Meningitis Now yma.

 

Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410