Settling Into University
Moving to University can be a hugely exciting yet unfamiliar for most first-time students. Cardiff Students’ Union is dedicated to ensuring this move is as fun and straightforward as it can be.
Get involved with your Students' Union
The Students' Union is working hard to make sure you have the opportunity to make new connections and get involved in the student community.
- Associations. The Campaign Officers also have Associations that they are part of. These are students from the same minority groups. Each Association is different, some are used to facilitate and arrange socials and events whereas others are seen to be more political and a sounding board for campaign ideas.
- Athletic Union. The Athletic Union are the home of student sport at Cardiff University. They facilitate over 65 student-led sports clubs and offer 5000+ students the opportunity to represent Cardiff regionally, nationally and beyond.
- Cardiff Volunteering. Cardiff Volunteering offers a wide variety of different and exciting projects to choose from which you can fit around your University schedule, as well as loads of one-off events and summer volunteering opportunities.
- Cardiff Student Media. Student media is always on the look-out for new recruits. There's no typical member - those involved are from a very diverse range of backgrounds, studying everything from physics to philosophy, and as long as you've got passion and enthusiasm, you'll be welcomed aboard.
- Give it a Go. Give it a Go’ is a Students' Union initiative which aims to showcase opportunities and taster sessions available from Clubs, Societies and Student Groups. It allows students to try a club or society for a one off cost, before they commit to membership. The vast majority of clubs and societies will run an introductory session and brand it as their 'Give it a Go'.
- Jobshop. The Jobshop is a free student employment service which aims to find paid work for registered Cardiff University students.
- Societies. Society memberships are available throughout the academic year so it's never too late to join any of our Societies. With over 200 Societies to choose from, there's something to suit everyone.
- Student-Led Services. Student-Led Services are student groups that run similarly to societies and sports clubs, but have a specific purpose that they campaign for. SLSs are at the heart of the Students' Union in providing support for students with wellbeing needs. You can apply to join or get information and/or support from the Buddy Scheme, Mind your Head, Cardiff Student Minds, Housing Action, STASH, SHAG, Eat Well, Cardiff Nightline.
- Student Voice. The Student Voice team work with Academic Reps and PGR Reps to ensure that the student voice is heard at every level of the university. You can be a Rep too, just get in touch with us at StudentReps@cardiff.ac.uk. You can also be involved in the decisions made by your Students' Union by becoming a student senator, a member of the scrutiny committee or part of the Officer's Executive Committee. Get in touch at Elections@cardiff.ac.uk to find out more.
Being Away from Home
If you have moved away from home for the first time, it is natural to experience teething difficulties or challenges in the way that you feel and the lack of familiarity in your routine.
Although there are a number of opportunities available to you as a student at Cardiff University, you may find this change in your lifestyle is causing you to feel lonely, homesick or isolated. If this is the case, there are things that you can do to help yourself.
Make yourself a home
Decorating your room and personalising your space may not stop you from feeling lonely but it can be a great help in easing homesickness. It can also help to make your room feel more like a homely haven, rather than somewhere you feel trapped and isolated.
If your landlord allows it, put up posters and pictures and add some soft furnishings. Bring some of your favourite things from home if you can, anything that can make your surroundings feel more familiar and cosy.
Open up
Talk to friends and family about how you are feeling. It can help to talk things through and work out ways of overcoming these feelings with somebody you know and trust. If you feel able to talk to a housemate or a friend at University, you’ll probably find that you’re not alone in how you are feeling; shared feelings and experiences can be a really effective way of connecting with others.
If you are struggling to bond effectively with your flatmates or housemates, you may be able to reach out to other student communities. In addition to the Students’ Union communities listed above, the University has a range of initiatives to help students network with peers. This could include activities arranged by the Wellbeing Champions, and the Residence Life Assistants.
If you are looking for an online platform that can offer 24/7 support, in addition to being a friendly, social environment, you can download the TalkCampus app at any time. You will be connected to someone who you can talk to and the app will also give you access to a social network in which you can anonymously express how you’re feeling and receive support from fellow students.
Be present
When we feel lonely, we may spend more time thinking about the past and worrying about the future. This can leave us feeling low and anxious. Focusing on the present by bringing our attention to the here-and-now is an effective way of moving away from negative and unhelpful thoughts.
Practicing mindfulness can be a good way to focus on the present, though it may need some practice to work properly. You can view the University's pre-recorded Introduction to Mindfulness workshop on their Events page. If you are interested in mindfulness, you can visit the Mindfulness for Students website and/or download the Headspace App.
The University have also produced two videos to help you get started:
Look after yourself
The brain is a complex organ that is responsible for how we think, how we feel and how we act. Just like other organs in our body, it can be affected by our environment and behaviour. Feeling lonely, isolated and/or homesick can affect your appetite, your sleep and your motivation to cook, clean and get outside. Not eating or sleeping properly and not getting fresh air, exercise and natural light can make feelings of low mood and anxiety worse. You can try and avoid getting into this cycle by:
- Eating well. There has been a lot of research done on diet and its effect on mental health. See Mind, the mental health charity's video 8 tips on how food affects your mood;
- Getting some exercise. This is one of the biggest lifestyle changes that we can all make to improve our mental and physical health. Exercise reduces depression and improves cognitive function. GPs can even prescribe exercise as a treatment for anxiety and depression.
- Getting the right amount of sleep at the right time. The impact of sleep on health and wellbeing is well documented. In their report, Sleep Matters, The Mental Health foundation describe sleep as being as important to our health as eating, drinking and breathing. It allows our body to repair itself and our brain to consolidate our memories and process information. Poor sleep is linked to physical problems such as a weakened immune system and mental health problems such as anxiety and depression.
- Getting outside. Getting outside and ideally into some form of a green space can benefit both your physical and mental wellbeing. Mind recommends spending time in nature to help with mental health problems including anxiety and depression.
Mental Health
If loneliness, isolation and/or homesickness are affecting your mental health, you may need to consider getting some help. Further information is available on our Mental Health page.
Traffic Light System
If you are suffering with anxiety, you may find that you are perhaps more prone to feeling lonely and isolated as a result, and so we have created a traffic light system with a few suggestions of different levels of activity depending on your level of anxiety. You can use this template to create your own traffic list system:
- Do some yoga in your room.
- Add people from your course on Facebook / Instagram and start a chat.
- Get in touch with support services at Cardiff University
- Engage in your favourite 'self-care' activity
- Join the Socially Isolating Facebook group
- Go on a walk of your surround area, (Accessibile Alternative - sit in your back garden or find a bench in a park)
- Have socially distance cuppa
- Listen to a podcast or music on a walk
- Call a friend or family member
- Cook dinner with a flat mate
- Call a firend or family member
- Go to socially distanced / virtual sessions with a new Club / Society
- Go for a socially distanced drink in a student bar / cafe (when restictions allow)
Student Advice
Student Advice is a free, confidential and independent service available for students of Cardiff University. We are independent of the University and our role is to give you impartial advice and guidance and help you understand the options available to you.
If loneliness and/or homesickness are impacting your wellbeing and/or ability to study and perform at your usual level, we can:
- advise you on how to report Extenuating Circumstances to the University;
- advise you on how to submit and Academic Appeal if you have missed the Extenuating Circumstances deadline, or you circumstances have been refused;
- advise you on how to take an Interruption of Study and what you need to think about when deciding what to do;
- signpost you to other support services.
-
Sources of Support
University Support Services: Intranet and SU Website Links
Student Led Services
Cardiff Based Support
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Ymgartrefu yn y Brifysgol
Gall symud i'r Brifysgol fod yn hynod gyffrous ond anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ymrwymo i sicrhau bod y newid hwn mor hwyl a syml â phosib.
Cymerwch rhan yn eich Undeb Myfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n galed i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau newydd a chymryd rhan yng nghymuned y myfyrwyr.
- Cymdeithasau. Mae gan y Swyddogion Ymgyrch gymdeithasau y maent hefyd yn rhan ohonynt. Mae’r rhain yn fyfyrwyr o'r un grwpiau lleiafrifol. Mae pob Cymdeithas yn wahanol, mae rhai yn cael eu defnyddio i greu a threfnu digwyddiadau cymdeithasol tra bod eraill yn cael eu hystyried yn fwy gwleidyddol ac yn ffordd o gasglu syniadau ymgyrchu.
- Undeb Athletau. Yr Undeb Athletau yw cartref chwaraeon myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maent yn hwyluso dros 65 o glybiau chwaraeon dan arweiniad myfyrwyr ac yn cynnig cyfle i 5000+ o fyfyrwyr gynrychioli Caerdydd yn rhanbarthol, yn genedlaethol a thu hwnt.
- Gwirfoddoli Caerdydd. Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o brosiectau gwahanol a chyffrous y gallwch gymryd rhan ynddynt, yn ogystal â llwyth o ddigwyddiadau un-tro a chyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf.
- Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd. Mae cyfryngau’r myfyrwyr bob amser yn chwilio am bobl newydd. Does dim aelod 'nodweddiadol' - daw aelodau o gefndiroedd amrywiol iawn, gan astudio popeth o ffiseg i athroniaeth. Chyhyd â'ch bod chi'n angerddol ac yn frwdfrydig, mae croeso mawr i chi.
- Rho Gynnig Arni. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau Rho Gynnig Arni, sy’n ceisio rhoi blas o’r cyfleoedd a sesiynau sydd ar gael gan Glybiau, Cymdeithasau a Grwpiau o Fyfyrwyr. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr roi cynnig ar glwb neu gymdeithas am gost un tro, cyn iddynt ymrwymo i ymaelodi. Bydd y mwyafrif helaeth o glybiau a chymdeithasau yn cynnal sesiwn ragarweiniol a’i galw yn sesiwn 'Rho Gynnig Arni'.
- Siop Swyddi. Mae Siop Swyddi yn wasanaeth cyflogaeth am ddim i fyfyrwyr sy'n ceisio dod o hyd i waith cyflogedig ar gyfer myfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd.
- Gwasanaeth Datblygu Sgiliau. Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau (SDS) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a sesiynau hyfforddiant a gynlluniwyd i fagu hyder, gwella sgiliau trosglwyddadwy a chynyddu cyflogadwyedd ar gyfer dysgwyr sy’n ymddiddori mewn datblygu eu dyfodol ar ôl graddio. Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif i nodi eich cyflawniad.
- Cymdeithasau. Gallwch brynu aelodaeth i Gymdeithas drwy gydol y flwyddyn academaidd felly nid yw byth yn rhy hwyr i ymuno ag unrhyw un o'n Cymdeithasau. Gyda dewis o dros 200 o gymdeithasau, mae rhywbeth at ddant pawb.
- Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr. Mae Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr yn debyg i gymdeithasau a chlybiau chwaraeon ond maent yn ymgyrchu dros bwrpas penodol. Mae'r gwasanaethau hyn wrth galon Undeb y Myfyrwyr wrth ddarparu cymorth i fyfyrwyr ag anghenion lles. Gallwch wneud cais i ymuno neu gael gwybodaeth a/neu gefnogaeth gan y Cynllun Cyfaill, Gofalu am eich Pen, Student Minds Caerdydd, Gweithredu ar Lety, STASH, SHAG, Bwyta’n Dda, Llinell Nos Gaerdydd.
- Llais Myfyrwyr. Mae'r tîm Llais Myfyrwyr yn gweithio gyda chynrychiolwyr academaidd a chynrychiolwyr ymchwil ôl-raddedig i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel o fewn y Brifysgol. Gallwch fod yn gynrychiolwr hefyd, cysylltwch â ni trwy StudentReps@cardiff.ac.uk. Gallwch hefyd fod yn rhan o'r penderfyniadau a wneir gan eich Undeb Myfyrwyr drwy ddod yn seneddwr myfyrwyr, yn aelod o'r pwyllgor craffu neu'n rhan o Bwyllgor Gweithredol y Swyddog.Cysylltwch â ni trwy Elections@cardiff.ac.uk i gael gwybod mwy.
Bod i ffwrdd o adref
Os ydych chi wedi symud oddi cartref am y tro cyntaf, mae'n naturiol profi anawsterau neu heriau cychwynnol yn y ffordd rydych chi'n teimlo a'r newid yn eich trefn arferol.
Er bod nifer o gyfleoedd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, efallai y bydd y newid hwn yn eich ffordd o fyw yn achosi i chi deimlo'n unig, yn hiraethus neu'n unig. Os yw hyn yn wir, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu'ch hun.
Gwnewch eich hun yn gartrefol
Efallai na fydd addurno'ch ystafell yn eich atal rhag teimlo'n unig ond gall fod o gymorth mawr wrth leddfu hiraeth. Gall hefyd helpu i wneud i'ch ystafell deimlo'n debycach i hafan gartrefol, yn hytrach na rhywle ble rydych chi'n teimlo'n gaeth ac yn ynysig.
Os yw'ch landlord yn caniatáu hynny, codwch bosteri a lluniau ac ychwanegwch ychydig o ddodrefn cyfforddus. Dewch â rhai o'ch hoff bethau o'ch cartref os gallwch chi, unrhyw beth a all wneud i'ch amgylchedd deimlo'n fwy cyfarwydd a chlyd.
Siaradwch am eich teimladau
Siaradwch â ffrindiau a theulu am sut rydych chi'n teimlo. Gall fod yn fuddiol ichi drafod pethau gyda rhywun rydych yn ei nabod ac yn ymddiried ynddynt er mwyn ffeindio ffordd o ymdopi gyda’r teimladau hyn. Os ydych chi'n teimlo y gallwch siarad â chyd-letywr neu ffrind yn y Brifysgol, mae'n debyg y gwelwch nad chi yw'r unig un sy'n teimlo felly; gall rannu teimladau a phrofiadau fod yn ffordd wirioneddol effeithiol o gysylltu ag eraill.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd cyd-dynnu’n effeithiol â'ch cyd-letywyr, efallai y gallwch gysylltu â chymunedau myfyrwyr eraill. Yn ogystal â chymunedau Undeb y Myfyrwyr a restrir uchod, mae gan y Brifysgol amrywiaeth o fentrau i helpu myfyrwyr i rwydweithio gyda chyfoedion. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau a drefnir gan yr Hyrwyddwyr Lles, a'r Cynorthwywyr Bywyd Preswyl.
Os ydych chi'n chwilio am blatfform ar-lein sy’n gallu cynnig cefnogaeth 24/7, yn ogystal â bod yn amgylchedd cyfeillgar, cymdeithasol, gallwch lawrlwytho ap TalkCampus unrhyw bryd. Byddwch yn cael eich rhoi mewn cyswllt â rhywun y gallwch siarad ag ef a bydd yr ap hefyd yn rhoi mynediad i chi at rwydwaith gymdeithasol lle gallwch fynegi'n ddienw sut rydych chi'n teimlo a chael cymorth gan gyd-fyfyrwyr.
Byddwch yn bresennol
Pan fyddwn yn teimlo'n unig, efallai y byddwn yn treulio mwy o amser yn meddwl am y gorffennol ac yn poeni am y dyfodol. Gall hyn achosi i ni deimlo'n isel ac yn bryderus. Mae canolbwyntio a thynnu ein sylw at y presennol yn ffordd effeithiol o symud oddi wrth feddyliau negyddol ac annefnyddiol.
Gall ymarfer meddylgarwch fod yn ffordd dda o ganolbwyntio ar y presennol, er efallai bydd angen ychydig o ymarfer er mwyn iddo weithio. Gallwch weld gweithdy Cyflwyniad i Feddylgarwch y Brifysgol ar y dudalen Digwyddiadau.Os oes gennych ddiddordeb mewn meddylgarwch, gallwch ymweld â gwefan Meddylgarwch i Fyfyrwyr a/neu lawrlwytho'r ap Headspace.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi cynhyrchu dau fideo i roi help llaw i chi:
Edrychwch ar ôl eich hun
Mae'r ymennydd yn organ gymhleth sy'n gyfrifol am y ffordd rydym yn meddwl, teimlo ac yn gweithredu. Yn union fel organau eraill yn ein corff, gall ein hamgylchedd a'n hymddygiad effeithio ar ein hymennydd. Gall teimlo'n unig a/neu hiraethus effeithio ar eich chwant bwyd, eich cwsg a'ch cymhelliant i goginio, glanhau a mynd allan. Gall diffyg bwyd a chwsg, ynghyd â diffyg awyr iach, ymarfer corff a golau naturiol wneud teimladau isel a phryder yn waeth. Gallwch geisio osgoi hyn trwy:
- Bwyta'n dda. Mae llawer o ymchwil wedi'i wneud ar ddeiet a'i effaith ar iechyd meddwl. Gweler fideo Mind, yr elusen iechyd meddwl, 8 awgrym ar sut mae bwyd yn effeithio ar eich hwyliau;
- Gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Dyma un o'r prif newidiadau y gallwn ni i gyd ei wneud i’n ffordd o fyw er mwyn gwella ein hiechyd meddwl a chorfforol. Mae ymarfer corff yn lleihau iselder ac yn gwella swyddogaeth wybyddol. Gall meddygon teulu hyd yn oed ragnodi ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer gorbryder ac iselder.
- Cael digon o gwsg ar yr adeg iawn. Mae cryn dystiolaeth o effaith cwsg ar iechyd a lles. Yn eu hadroddiad, mae Sleep Matters, y sefydliad Iechyd Meddwl, yn disgrifio cwsg i fod yr un mor bwysig i'n hiechyd â bwyta, yfed ac anadlu. Mae'n caniatáu i'n corff atgyweirio ei hun a'n hymennydd i atgyfnerthu ein hatgofion a phrosesu gwybodaeth. Mae cwsg gwael yn gysylltiedig â phroblemau corfforol fel system imiwnedd wan a phroblemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder.
- Yr awyr agored. Gall mynd tu allan a threulio amser mewn man gwyrdd fod o fudd i'ch lles corfforol a meddyliol. Mae Mind yn argymell treulio amser ym myd natur i helpu gyda phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder ac iselder.
Iechyd meddwl
Os yw unigrwydd, a/neu hiraeth yn effeithio ar eich iechyd meddwl, efallai y bydd angen i chi ystyried cael rhywfaint o help. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Iechyd Meddwl.
System goleuadau traffig
Os ydych chi'n dioddef o bryder, mae’n bosib y byddwch yn fwy tueddol o deimlo'n unig o ganlyniad, ac felly rydym wedi creu system goleuadau traffig gydag ychydig o awgrymiadau o wahanol weithgareddau yn dibynnu ar lefel eich pryder. Gallwch ddefnyddio'r templed hwn i greu system rhestr draffig eich hun:
- Gwnewch ychydig o ioga yn eich ystafell
- Dewch yn ffrindiau gyda phobl o'ch cwrs ar Facebook/Instagram a dechreuwch sgwrs
- Cysylltwch â gwasanaethau cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd
- Gwnewch eich hoff weithgaredd 'hunanofal'
- Ymunwch â'r grwp Facebook Ynysu’n Gymdeithasol
- Ewch am dro yn eich ardal leol (Opsiwn Hygyrch - eisteddwch yn eich gardd gefn neu dewch o hyd i fainc mewn parc)
- Mwynhewch baned gyda ffrind
- Gwrandewch ar bodlediad neu gerddoriaeth wrth fynd am dro
- Ffoniwch ffrind neu aelod o'r teulu
- Coginiwch fwyd gyda ffrind o'ch fflat
- Ffoniwch ffrind neu aelod o'r teulu
- Ewch i sesiynau gyda Chlwb / Cymdeithas newydd
- Ewch am ddiod mewn bar/caffi myfyrwyr (pan fydd y canllawiau yn caniatáu)
Cyngor i Fyfyrwyr
Mae ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn annibynnol o'r Brifysgol a'n rôl yw rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i chi a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Os yw unigedd a/neu hiraeth yn effeithio ar eich lles a/neu eich gallu i astudio a pherfformio fel yr arfer, gallwn:
- eich cynghori ar sut i roi gwybod i'r Brifysgol am Amgylchiadau Esgusodol;
- eich cynghori ar sut i gyflwyno Apêl Academaidd os ydych wedi methu'r dyddiad cau ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol, neu os gwrthodwyd eich cais;
- eich cynghori ar sut i gymryd Gohiriad o Astudio a beth sydd angen i chi ei ystyried wrth benderfynu beth i'w wneud;
- eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.
-
Ffynonellau cymorth
Gwasanaethau cefnogi'r Brifysgol: Intranet a dolenni Gwefan UM
Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr
Cefnogaeth yng Nghaerdydd
Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr
Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410