Cardiff Students’ Union Harm Reduction Initiative
Cardiff Students' Union is now piloting a harm-reduction initiative for students at Cardiff University. We appreciate that drugs are illegal, however if you are a student at Cardiff University, and you are considering taking drugs, we advise you to do so safely.
CSU Drug Survey
Cardiff Students' Union has also produced a survey, which is a confidential and anonymous way of providing useful feedback to the Students' Union to use purely for the benefit of our Harm Reduction Program in the aim of making Cardiff a safer place for students.
Cymraeg:
Mae'r arolwg hwn yn ffordd gyfrinachol a dienw o roi adborth defnyddiol i Undeb y Myfyrwyr i'w ddefnyddio er budd ein rhaglen lleihau niwed yn unig, gyda'r nod o wneud Caerdydd yn lle mwy diogel i fyfyrwyr.
You can access the survey here.
Cardiff Students’ Union has invested in drug-testing kits to help students test their substance prior to consumption, to understand the drug’s purity. This is so that you can make an informed decision whether to take the substance, or not, and how much of the substance to take at any one time.
Remember, the best way to remove the risk of harm from drugs is to abstain from taking them altogether.
Student Advice, based on the third floor of the Students Union, welcomes students that want to collect a drug-testing kit.
Student Advice is a confidential service that is independent from the University. We will not share information of your enquiry with the University without your consent unless we had reason to be concerned for your immediate safety. *
If you would like to collect a drug-testing kit, please approach our enquiry desk for a “Testing Kit” and we will take it from there. If we understand that you are seeking a drug-testing kit, at no point will your contact details be taken or recorded. We are not interested in policing your behaviour, but we are interested in keeping you safe.
If you are seeking advice on your wellbeing as a result of drug usage, we would be happy to signpost you to services to support your wellbeing and/or to help you find services that might be more appropriate to answer any specific questions.
Please do not bring illegal substances into the building. You will be required to take the testing kit away with you for use in your own home.
While you wait for Cardiff Students' Union to resume this initiative, drug testing kits can be available to purchase online. If you are going to buy a drug testing kit, make sure you:
- Invest in a reliable brand.
- Read the instructions first.
- Understand your results prior to taking drugs.
- Seek advice from a specialist service if you have any questions about the test, your results, or illegal substances.
What is Harm Reduction?
Harm reduction means that although we acknowledge that harm may occur, we put measures in place to reduce this likelihood.
Many narcotics used as ‘party drugs’ are illegal, including all of those for which we are providing testing kits. However, student safety is our utmost concern. We understand that the legality of certain narcotics does not prevent students from accessing or using them.
While we have a zero-tolerance policy for narcotics use on Students’ Union premises and highly advise against substances elsewhere, we appreciate that the illegality of substances can lead students to acquiring them from dubious sources with little-to-no certainty as to what the substance contains.
We also understand that damage caused by narcotics can sometimes be preventable by testing substances before use and steadying your consumption.
While the safest option is always to avoid taking drugs, it is our duty to provide the safest options to our students.
University Services
For wellbeing support from the University, Cardiff University’s Counselling and Wellbeing Team offer one-to-one sessions with professional counselling and wellbeing therapists both via drop-in or in an appointment. Details of this service can be found on the Student Intranet.
External Support and Advice
Please use the links below to access help and information from how to reduce risks to researching substances and legal advice.
- The Drop – Club and Party drugs - The Drop is BDP’s Bristol Drug Project) one-stop-shop for information and support for people who use recreational and party drugs.
- Release is the national center of expertise on drugs and drug law. They offer harm reduction advice as well as free advice on UK drug laws.
- Crew is a harm reduction and outreach charity based in Scotland - neither condemns nor condones drug use: they exist to reduce harm.
- The Loop provides harm reduction advice and information, welfare support, drug safety testing, and training.
- SSDP UK also known as 'Students for Sensible Drug Policy' is the largest global youth-led network dedicated to ending the War on Drugs
- Drugwise Promoting evidence - based information on drugs alcohol and tobacco.
- Talk to Frank Honest Information about drug use. Click the link or contact the National Drugs Helpline – - 0300 1236600
- Mixing alcohol and drugs can be very dangerous - Information from Drink Aware
Drug Testing Kits
These drug testing kits operate by identifying the purity of a harmful substance. When mixed with the chemicals present in the test, the colour of the product should identify how pure the substance is, or how many other components are present within the sample.
The tests include a colour chart to help you understand your results.
Remember, purity does not necessarily mean safety. A purer sample can mean that you feel the effects a lot quicker, and a with more strength, than those with a high quantity of mixed components.
However, those with a high quantity of adulterants may be harmful in other ways as these tests do not identify the foreign substances.
Read the instructions of your drug testing kit carefully. This information is intended to help you decide how much of the sample you are going to take, and how frequently. In all events, if you are going to take the substance, our advice is to start low and go slow.
You will find a QR code to a survey within your testing-kit package. Again, we are not seeking contact details from you, but trying to understand whether this service is helpful to our students, and worth maintaining.
Limitations of Reagent Testing
- If multiple substances are mixed together, the dominant colour will be most visible. This may prevent the user from reading the reagent test accurately. To prevent this, you would need to separate the substances which can be extremely difficult. You may want to speak to one of the external support services above for advice on additional testing if you are concerned about the reading of your results.
- The test cannot advise you of how much of a substance is safe to take. The effect of drugs will vary between each drug, each person, and the environment that you are in. You need to think about your circumstances prior to consumption:
- How are you feeling?
- Where are you?
- Who are you with?
- Are you on prescribed medication?
- Do you have any medical issues or conditions that could be impacted?
- Have you taken something else already?
As above, the best way to remove the risk of harm from drugs is to abstain from taking them altogether. Drug-taking carries risk and you need to make an informed decision before buying, taking and mixing.
Start slow, stay safe, stay informed and look after each other.
Harm Reduction Booklet
Disclaimer
We at Cardiff Students’ Union do not encourage drug-use. We understand that buying, and being in possession of, recreational drugs is against the law. We uphold a zero-tolerance policy to possession of drugs in the building and those caught in possession of drugs within the Students’ Union face a life-time ban from the building.
We also understand however, that the decision to take drugs is that of each individual. The circulation of drugs and illegal substances is often outside of our control. By adopting a zero-tolerance approach in all of our activity, we share concerns that students may avoid engaging with harm reduction initiatives, and therefore put themselves at risk that could otherwise be avoided.
This is an initiative piloted by Cardiff Students’ Union using eztestkits.
Students should continue seek medical advice from a GP where appropriate.
The University’s Academic Regulations still remain that students should avoid conduct which could amount to a criminal offence.
*By the term immediate safety, we refer specifically to intention to inflict harm on yourself or someone else, and/or intention to take your own life.
More information about drugs can be found on this page of our website.
Contact
advice@cardiff.ac.uk
029 2078 1410
Menter Lleihau Niwed Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd bellach yn treialu menter lleihau niwed i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn gwerthfawrogi bod cyffuriau'n anghyfreithlon, fodd bynnag, os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, a'ch bod yn ystyried cymryd cyffuriau, byddem yn eich annog yn gryf i wneud hynny'n ddiogel.
Pecynnau Profi Cyffuriau
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi buddsoddi mewn pecynnau profi cyffuriau i helpu myfyrwyr i brofi eu sylweddau cyn eu cymryd, er mwyn deall purdeb y cyffur. Mae hyn er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus p'un ai i gymryd y sylwedd, ai peidio, a faint o'r sylwedd i'w gymryd ar unrhyw un adeg.
Cofiwch, y ffordd orau o gael gwared ar y risg o niwed gan gyffuriau yw ymatal rhag eu cymryd yn gyfan gwbl.
Mae Cyngor i Fyfyrwyr, sydd wedi’i leoli ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr, yn croesawu myfyrwyr sydd eisiau casglu pecyn profi cyffuriau.
Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn wasanaeth cyfrinachol sy'n annibynnol ar y Brifysgol. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth am eich ymholiad gyda'r Brifysgol heb eich caniatâd oni bai fod gennym bryderon diogelwch brys.*
Os hoffech gasglu pecyn profi cyffuriau, ewch at ein desg ymholiadau i gael “Pecyn Profi” a byddwn yn gwneud y trefniadau. Os ydym yn deall eich bod yn chwilio am becyn profi cyffuriau, ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cymryd na'u cofnodi ar unrhyw adeg. Nid oes gennym ddiddordeb mewn plismona eich ymddygiad, ond mae gennym ddiddordeb mewn eich cadw'n ddiogel.
Os ydych yn ceisio cyngor ar eich lles o ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau, byddem yn hapus i'ch cyfeirio at wasanaethau i gefnogi eich lles a/neu i'ch helpu i ddod o hyd i wasanaethau a allai fod yn fwy priodol i ateb unrhyw gwestiynau penodol.
Peidiwch â dod â sylweddau anghyfreithlon i mewn i'r adeilad os gwelwch yn dda. Bydd gofyn i chi fynd â'r pecyn profi i ffwrdd gyda chi i'w ddefnyddio yn eich cartref eich hun.
Beth yw Lleihau Niwed?
Mae lleihau niwed yn golygu, er ein bod yn cydnabod y gallai niwed ddigwydd, ein bod yn rhoi mesurau ar waith i leihau'r tebygolrwydd hwn.
Mae llawer o narcotics a ddefnyddir fel 'cyffuriau parti' yn anghyfreithlon, gan gynnwys pob un o'r rhai yr ydym yn darparu pecynnau profi ar eu cyfer. Fodd bynnag, diogelwch myfyrwyr yw ein pryder mwyaf. Rydym yn deall nad yw cyfreithlondeb narcotics penodol yn atal myfyrwyr rhag cael mynediad atynt na'u defnyddio.
Er bod gennym bolisi dim goddefgarwch ar gyfer defnyddio narcotics ar safle Undeb y Myfyrwyr ac yn cynghori'n fawr yn erbyn sylweddau mewn mannau eraill, rydym yn gwerthfawrogi y gall anghyfreithlondeb sylweddau arwain myfyrwyr at eu caffael o ffynonellau amheus heb fawr neu unrhyw o sicrwydd ynghylch yr hyn y mae'r sylwedd yn ei gynnwys.
Rydym hefyd yn deall y gellir atal difrod a achosir gan narcotics weithiau trwy brofi sylweddau cyn eu defnyddio a sefydlogi eich defnydd.
Er mai'r opsiwn mwyaf diogel bob amser yw osgoi cymryd cyffuriau, mae'n ddyletswydd arnom i ddarparu'r opsiynau mwyaf diogel i'n myfyrwyr.
Gwasanaethau'r Brifysgol
Ar gyfer cymorth lles gan y Brifysgol, mae Tîm Cwnsela a Lles Prifysgol Caerdydd yn cynnig sesiynau un-i-un gyda therapyddion cwnsela a lles proffesiynol drwy ddull alw heibio neu mewn apwyntiad. Gellir dod o hyd i fanylion y gwasanaeth hwn ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.
Cymorth a Chyngor Allanol
Defnyddiwch y dolenni isod i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth ar sut i leihau risgiau i ymchwilio i sylweddau a chyngor cyfreithiol.
- The Drop – Cyffuriau Clwb a Pharti - The Drop yw Prosiect Cyffuriau Bryste (BDP), siop un stop ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n defnyddio cyffuriau hamdden a pharti.
- Release yw'r ganolfan arbenigedd genedlaethol ar gyffuriau a chyfraith cyffuriau. Maent yn cynnig cyngor ar leihau niwed yn ogystal â chyngor am ddim ar gyfreithiau cyffuriau'r DU.
- Mae Crew yn elusen lleihau niwed ac allgymorth wedi'i lleoli yn yr Alban - nid yw'n condemnio nac yn cymeradwyo defnyddio cyffuriau: maent yn bodoli i leihau niwed.
- Mae The Loop yn darparu cyngor a gwybodaeth am leihau niwed, cymorth lles, profion diogelwch cyffuriau, a hyfforddiant.
- SSDP UK a elwir hefyd yn 'Students for Sensible Drug Policy' yw'r rhwydwaith byd-eang mwyaf dan arweiniad ieuenctid sy'n ymroddedig i ddod â'r Rhyfel ar Gyffuriau i ben.
- Drugwise - Hyrwyddo gwybodaeth am gyffuriau, alcohol a thybaco yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Talk to Frank - Gwybodaeth gonest am ddefnyddio cyffuriau. Cliciwch y ddolen neu cysylltwch â'r Llinell Gymorth Cyffuriau Genedlaethol — 0300 1236600
- Gall cymysgu alcohol a chyffuriau fod yn beryglus iawn - Gwybodaeth gan Drink Aware
Pecynnau Profi Cyffuriau
Mae'r pecynnau profi cyffuriau hyn yn gweithredu trwy nodi purdeb sylwedd niweidiol. Pan gaiff ei gymysgu â'r cemegau sy'n bresennol yn y prawf, dylai lliw'r cynnyrch nodi pa mor bur yw'r sylwedd, neu faint o gydrannau eraill sy'n bresennol yn y sampl.
Mae'r profion yn cynnwys siart lliw i'ch helpu i ddeall eich canlyniadau.
Cofiwch, nid yw purdeb o reidrwydd yn golygu diogelwch. Gall sampl burach olygu eich bod chi'n teimlo'r effeithiau yn llawer cyflymach, a gyda mwy o gryfder, na'r rhai sydd â llawer iawn o gydrannau cymysg.
Fodd bynnag, gall y rhai sydd â llawer iawn o ddifwynwyr fod yn niweidiol mewn ffyrdd eraill gan nad yw'r profion hyn yn nodi'r sylweddau estron.
Darllenwch gyfarwyddiadau eich pecyn profi cyffuriau yn ofalus. Bwriad y wybodaeth hon yw eich helpu i benderfynu faint o'r sampl rydych chi'n mynd i'w chymryd, a pha mor aml. Ym mhob digwyddiad, os ydych chi'n mynd i gymryd y sylwedd, ein cyngor yw dechrau'n isel a mynd yn araf.
Byddwch yn dod o hyd i gôd QR sy’n arwain at arolwg o fewn eich pecyn profi. Unwaith eto, nid ydym yn ceisio manylion cyswllt gennych chi, ond yn ceisio deall a yw'r gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol i'n myfyrwyr, ac yn werth ei gynnal.
Cyfyngiadau Profi Adweithyddion
- Os bydd sylweddau lluosog yn cael eu cymysgu gyda'i gilydd, bydd y lliw amlycaf y fwyaf gweladwy. Gall hyn atal y defnyddiwr rhag darllen y prawf adweithyddion yn gywir. Er mwyn atal hyn, byddai angen i chi wahanu'r sylweddau a all fod yn anodd iawn. Efallai yr hoffech siarad ag un o'r gwasanaethau cymorth allanol uchod i gael cyngor ar brofion ychwanegol os ydych chi'n poeni am eich canlyniadau.
- Ni all y prawf eich cynghori ynghylch faint o sylwedd sy'n ddiogel i'w gymryd. Bydd effaith cyffuriau yn amrywio rhwng pob cyffur, pob person, a'r amgylchedd rydych chi ynddo. Mae angen i chi feddwl am eich amgylchiadau cyn cymryd cyffur:
- Sut rydych chi'n teimlo?
- Ble ydych chi?
- Gyda phwy ydych chi?
- Ydych chi ar feddyginiaeth ragnodedig?
- A oes gennych unrhyw broblemau neu gyflyrau meddygol y gellid effeithio arnynt?
- Ydych chi wedi cymryd rhywbeth arall yn barod?
Fel yr uchod, y ffordd orau o gael gwared ar y risg o niwed gan gyffuriau yw ymatal rhag eu cymryd yn gyfan gwbl. Mae risg i gymryd cyffuriau ac mae angen i chi wneud penderfyniad gwybodus cyn prynu, cymryd a chymysgu.
Dechreuwch yn araf, arhoswch yn ddiogel, byddwch yn wybodus a gofalwch am eich gilydd.
Llyfryn Lleihau Niwed
Ymwadiad
Nid ydym ni yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn annog defnydd o gyffuriau. Rydym yn deall bod prynu cyffuriau hamdden, a bod yn eu meddiant, yn erbyn y gyfraith. Rydym yn cynnal polisi dim goddefgarwch ynghylch meddu ar gyffuriau yn yr adeilad ac mae'r rhai sy'n cael eu dal yn meddu ar gyffuriau o fewn Undeb y Myfyrwyr yn wynebu gwaharddiad oes o'r adeilad.
Rydym hefyd yn deall fodd bynnag, mai'r penderfyniad i gymryd cyffuriau yw penderfyniad pob unigolyn. Mae cylchrediad cyffuriau a sylweddau anghyfreithlon yn aml y tu allan i'n rheolaeth. Drwy fabwysiadu dull dim goddefgarwch yn ein holl weithgarwch, rydym yn rhannu pryderon y gallai myfyrwyr osgoi ymgysylltu â mentrau lleihau niwed, ac felly eu rhoi eu hunain mewn perygl y gellid eu hosgoi fel arall.
Mae hon yn fenter a dreialwyd gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd gan ddefnyddio eztestkits.
Dylai myfyrwyr barhau i ofyn am gyngor meddygol gan feddyg teulu lle bo hynny'n briodol.
Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn dal i fod y dylai myfyrwyr osgoi ymddygiad a allai fod yn drosedd.
*Yn ôl y term diogelwch brys, rydym yn cyfeirio'n benodol at fwriad i achosi niwed i chi'ch hun neu rywun arall, a/neu fwriad i gymryd eich bywyd eich hun.
Mae rhagor o wybodaeth am gyffuriau ar gael ar y dudalen hon ar ein gwefan.
Cysylltwch â ni
advice@caerdydd.ac.uk
029 2078 1410