Domestic Violence - Help and Support
In an emergency:
- Call 999 for fire and rescue services, police and the ambulance service.
If you have a hearing or speech impairment, use the textphone service 18000 or text us on 999 if you’ve pre-registered with the emergency SMS service
If you cannot speak, press 55 when prompted and your call will be transferred to the Police. Pressing 55 only works on mobile phones and doesn't allow the police to track your location.
- Ynys Saff or Safe Island is a sexual assault referral centre (SARC) support and advice to men, women, children and young people, following sexual assault in Cardiff and the Vale. 02920 335795 (out of hours leave a message. Staff will call back quickly.
Immediate advice after a sexual assault following a sexual assault can be found here.
Support for Black, Asian and Minority Ethnic Women - 24/7 BAWSO is an all Wales provider delivering specialist services to people from black and ethnic minority backgrounds who are affected by domestic abuse and other forms of abuse, including Female Genital Mutilation (FGM), forced marriage, human trafficking/slavery and prostitution. For more information, visit the BAWSO website or call their helpline: +44 (0)800 731 8147.
National LGBT+ Domestic Abuse Helpline Galop: 0800 999 5428 10am to 4;30 pm Monday to Thursday help@galop.org.uk
Men’s Advice Line: Advice and support for men experiencing domestic violence and abuse 0808 801 0327
Student Support Intervention Team – The University’s Student Support Intervention Team are a team of specialist university staff trained to respond to disclosures of violence and abuse. They support students affected by harassment, hate crime, sexual violence, relationship abuse, bullying and other forms of unacceptable behaviour. Their opening hours are 10:00-16:00, Monday to Friday excluding bank holidays and the Christmas closure period, and you can complete this referral form to get in touch with the team.
Relationship Abuse and Unhealthy Relationships
It can be difficult to identify the signs of an unhealthy relationship, especially when it’s your own. Everyone deserves to feel safe and loved in a relationship.
Relationship abuse does not always involve the use or threat of physical violence. If you notice a pattern of incidents of controlling, coercive, threatening, degrading and violent behaviour, it may mean you are in an unhealthy relationship. It is possible you may also be experiencing violence and abuse.
It can be difficult to identify the signs of an unhealthy relationship, especially when it’s your own.
Signs of an unhealthy relationship include:
- your partner is controlling or possessive
- you are being ridiculed or criticised
- you are being manipulated
- you are being intimidated
- you are being threatened
- your partner is isolating you from other friends or family or limiting who you see
- your partner is controlling what you spend
- you are experiencing physical or sexual violence.
Other help
Download the Bright Sky app
Bright Sky is a free to download mobile app providing support and information for anyone who may be in an abusive relationship or those concerned about someone they know.
The app is available to use in English, Polish, Punjabi and Urdu.
Download the app on the App Store.
Download the app on Google Play.
Download the Safezone app
Cardiff University provides all students with access to a SafeZone app, where you can contact University Security directly by sharing your location and communicating quickly via text message. If you feel unsafe anywhere on campus, you can use the SafeZone app to report this and seek immediate assistance. It will also show you where you are on campus in a variety of formats.
Counselling and Wellbeing Support if you need to talk to someone to manage your emotional health and wellbeing.
Student Advice
You can also contact the Student Advice service for free, confidential and independent advice available for all students of Cardiff University. We are independent of the University and our role is to give you impartial advice and guidance and help you understand the options available to you.
Student Advice can also provide you with practical advice and support. We can advise on housing and any implications of the bullying on your study. If the perpetrator is a Cardiff University student, we can advise on how to make a complaint against them to the University. We can support you through your complaint and advise on submitting extenuating circumstances or taking an interruption of study if that becomes necessary.
If your circumstances are impacting your wellbeing and/or ability to study and perform at your usual level, we can
Trais Domestig – Cymorth a Chefnogaeth
Mewn argyfwng:
- Ffoniwch 999 ar gyfer y gwasanaethau tân, heddlu ac ambiwlans.
Os oes gennych amhariad ar y clyw neu amhariad lleferydd, defnyddiwch y gwasanaeth neges destun 18000 neu anfonwch neges at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Os na allwch siarad, pwyswch 55 pan ofynnir a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i'r Heddlu. Mae pwyso 55 ond yn gweithio ar ffonau symudol ac nid yw'n galluogi'r heddlu i ddilyn eich lleoliad.
- Mae Ynys Saff yn ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) sy’n cynnig cefnogaeth i ddynion, menywod, plant a phobl ifanc yn dilyn trais rhywiol yng Nghaerdydd a’r Fro. 02920 335795 (Gadewch neges os du allan i oriau arferol. Bydd staff yn ffonio yn ôl yn gyflym.)
Mae cyngor cyflym yn dilyn trais rhywiol ar gael yma.
Mae BAWSO yn ddarparwr Cymru gyfan sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), priodas dan orfod, masnachu pobl/caethwasiaeth a phuteindra. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan BAWSO neu ffoniwch eu llinell gymorth: +44 (0)8007 318147.
Llinell Gymorth Genedlaethol Trais Domestig LHDTC+ Galop: 08009 995428 10yb i 4:30yh dydd Llun i ddydd Iau, help@galop.org.uk
Llinell Gymorth i Ddynion: Cyngor a chefnogaeth i ddynion sy’n dioddef trais domestig a chamdriniaeth 08088 010327
Tîm Ymateb i Ddatgeliadau – Tîm o staff arbenigol yn y brifysgol sydd wedi'u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth. Maent yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio gan aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin o fewn perthynas, bwlio a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol. Maent ar agor 09:00-16:30, dydd Llun i ddydd Gwener gan eithrio gwyliau banc a’r cyfnod cau dros y Nadolig, a gellir cael mynediad atynt drwy'r ffurflen atgyfeirio hon.
Camdriniaeth Perthynas a Pherthnasoedd nad sy’n Iach
Gall fod yn anodd adnabod nodweddion perthynas nad sy’n iach, yn enwedig yn eich perthynas chi eich hunain. Mae pawb yn haeddu cael eu caru a theimlo’n ddiogel o fewn perthynas.
Gall camdriniaeth o fewn perthynas fod yn fwy na bygwth neu drais corfforol. Os ydych yn sylwi ar batrwm o ymddygiad sy’n cynnwys rheolaeth, gorfodaeth, bygythiad, diraddio a thrais, gall hyn olygu eich bod mewn perthynas nad sy’n iach. Mae'n bosibl eich bod hefyd yn profi trais a chamdriniaeth.
Gall fod yn anodd adnabod nodweddion nad sy’n iach o fewn perthynas, yn enwedig yn eich perthynas chi eich hunain.
Dyma enghreifftiau o rhai o’r nodweddion hyn:
- mae eich partner yn eich rheoli neu’n feddiannol
- rydych chi'n cael eich sarhau neu'ch beirniadu
- rydych chi’n cael eich manipiwleiddio
- rydych chi'n cael eich brawychu
- rydych yn cael eich bygwth
- mae eich partner yn eich ynysu oddi wrth ffrindiau neu deulu neu'n cyfyngu ar bwy rydych chi'n eu gweld
- mae'ch partner yn rheoli'ch gwariant
- rydych chi'n dioddef trais corfforol neu rywiol
Cymorth arall
Lawrlwythwch yr ap Bright Sky
Mae Bright Sky yn ap rhad ac am ddim sy'n darparu cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod mewn perthynas dreisiol neu unigolion sy'n poeni am rywun maen nhw'n eu hadnabod.
Mae’r ap ar gael yn Saesneg, Pwyleg, Punjabi ac Wrdw.
Lawrlwythwch yr ap ar yr App Store.
Lawrlwythwch yr ap ar Google Play.
Lawrlwythwch yr ap SafeZone
Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu mynediad i bob myfyriwr at ap SafeZone, lle gallwch gysylltu â thîm Diogelwch y Brifysgol yn uniongyrchol trwy rannu eich lleoliad a chyfathrebu'n gyflym trwy neges destun. Os ydych chi'n teimlo'n anniogel yn unrhyw le ar y campws, gallwch ddefnyddio'r ap SafeZone i roi gwybod am hyn a gofyn am gymorth ar unwaith. Bydd hefyd yn dangos i chi eich lleoliad ar y campws.
Cymorth Cwnsela a Lles os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd emosiynol a'ch lles.
Cyngor i Fyfyrwyr
Gallwch hefyd gysylltu â'r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr am gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim sydd ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol a'n rôl yw rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i chi a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Gall Cyngor i Fyfyrwyr hefyd roi cyngor a chefnogaeth ymarferol i chi. Gallwn roi cyngor ar sut i wneud cwyn yn erbyn unigolyn i'r Brifysgol. Gallwn eich cefnogi drwy gydol eich cwyn a’ch cynghori ar gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol os oes angen.
Os yw eich amgylchiadau yn effeithio ar eich lles a/neu'ch gallu i astudio a pherfformio ar eich lefel arferol, gallwn: