Asylum Seekers
An asylum seeker is someone who has applied for asylum and is awaiting a decision from the UK Government.
There is support available to students seeking asylum both from the University and external agencies.
Cardiff University dedicated support service for Asylum Seekers
Lena Smith is the dedicated contact for students with an asylum-seeking status who study at the University. She acts as a first point of contact for any student in this situation.
Lena can help with the following:
- Assisting you with issues with the Home Office, including 'no study' conditions
- Referral to trauma specialised counsellor.
- Support with academic-related issues including liaising with your academic school and course tutors.
- Sign-posting towards other University services, including support with applying for Student Finance if become eligible during your studies.
- Signposting and referral to charities and other potential sources of funding.
- You can also contact Lena if you simply just need someone to talk to.
You can contact Lena through Student Connect.
Seeking asylum whist studying at Cardiff University.
If during your time studying at Cardiff University you decide to claim asylum in the UK it is very important to get specialist advice from an Adviser regulated by the Office of the Immigration Services Commissioner (OISC). Regulated Advisers can be found here.
Citizens Advice is a free advice service that provides initial advice for people wishing to seek asylum and those who have been granted refugee status.
FAQs
Am I eligible for a Tuition fee waiver?
If you are eligible your tuition fees will be reduced from the international fee to the home fee charged for your course but your status will remain as an international student.
To be eligible you must be:-
- An asylum seeker or the child of an asylum seeker
- Able to meet the academic programme requirements
- Studying a full time Undergraduate course (excluding Medicine, Dentistry and NHS funded courses).
- Able to provide proof that an application for asylum has been made before you applied to UCAS.
For more information, contact Lena Smith through Student Connect
Are there other avenues of support for Asylum seekers in Cardiff?
Refuge Cardiff provides up to date and easily accessible information on organisations, services and activities aimed at, or of benefit to, refugees and asylum seekers in Cardiff. The British Red Cross may also be able to provide further support. More information can be found here. You may also wish to contact the Welsh Refugee Council who can offer support on a wide range of issues.
If I am struggling financially will the University be able to help?
The University has a Money Support Fund which is available to students experiencing financial hardship. On application you may be required to provide evidence of your financial situation and applications are means tested. Further information can be found here.
Where can I get support with Academic and Housing issues?
You can contact Student Advice who will be able to offer advice and guidance on a range of topics. Your Personal Tutor may be able to offer further support and Lena Smith from Together at Cardiff can offer a wide range of support.
I have a disability, am I able to get support for my studies?
The University has a designated team, the Student Disability Service who are able to support students with a range of disabilities.
Is there any support available for my wellbeing and mental health?
The University have a Counselling and Wellbeing team who are able to offer face to face and online appointments, group therapy and wellbeing resources.
Where can I meet with other students who are in a similar situation?
Cardiff STAR is a Students Union society committed to welcoming refugees and standing up for human rights. You can join the Cardiff STAR Facebook group or join the Cardiff STAR Student Volunteering group on Facebook.
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Ceiswyr Lloches
Mae ceisiwr lloches yn rhywun sydd wedi gwneud cais am loches ac sy'n aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU.
Mae cefnogaeth ar gael i fyfyrwyr sy'n ceisio lloches gan y Brifysgol a sefydliadau allanol.
Gwasanaeth cymorth pwrpasol Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ceiswyr Lloches
Lena Smith yw'r cyswllt pwrpasol ar gyfer myfyrwyr sy'n ceisio lloches sy'n astudio yn y Brifysgol. Mae hi'n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw fyfyriwr yn y sefyllfa hon.
Gall Lena gynorthwyo gyda'r canlynol:
- Cynorthwyo gyda materion Swyddfa Gartref, gan gynnwys amodau 'dim astudio'.
- Cyfeirio at gwnselydd trawma arbenigol.
- Cefnogaeth gyda materion academaidd gan gynnwys cysylltu â'ch ysgol academaidd a thiwtoriaid cwrs.
- Cyfeirio at wasanaethau eraill y Brifysgol, gan gynnwys cymorth wrth ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr os byddwch yn gymwys yn ystod eich astudiaethau.
- Cyfeirio ac atgyfeirio at elusennau a ffynonellau cyllid posibl eraill.
- Gallwch hefyd gysylltu â Lena os ydych angen rhywun i siarad â.
Gallwch gysylltu â Lena trwy Cyswllt Myfyrwyr.
Ceisio lloches tra'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os fyddwch yn penderfynu ceisio lloches yn y DU tra'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd mae'n bwysig gael cyngor arbenigol gan gynghorydd a reoleiddir gan yr Awdurdod Cyngor Mewnfudo (Immigration Advice Authority). Gellir dod o hyd i Gynghorwyr Rheoledig yma.
Mae Cyngor ar Bopeth yn wasanaeth cyngor am ddim sy'n darparu cyngor cychwynnol i bobl sy'n dymuno ceisio lloches a'r rheiny sydd wedi derbyn statws ffoadur.
Cwestiynau Cyffredin
Ydw i'n gymwys am ostyngiad ffioedd dysgu?
Os ydych yn gymwys bydd eich ffioedd dysgu yn cael eu lleihau o'r ffi ryngwladol i'r ffi gartref ar gyfer eich cwrs ond bydd eich statws yn parhau fel myfyriwr rhyngwladol.
I fod yn gymwys rhaid eich bod yn:-
- Ceisiwr lloches neu'n blentyn i geisiwr lloches
- Gallu cwrdd â gofynion y rhaglen academaidd
- Astudio cwrs israddedig amser llawn (heb gynnwys Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau a ariennir gan y GIG).
- Gallu profi eich bod wedi cyflwyno cais am loches cyn gwneud cais UCAS.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lena Smith trwy Cyswllt Myfyrwyr
Oes cefnogaeth bellach ar gael i Geiswyr Lloches yng Nghaerdydd?
Mae Refugee Cardiff yn darparu gwybodaeth gyfredol a hygyrch am sefydliadau, gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer, neu er budd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Gall y Groes Goch Brydeinig hefyd ddarparu cefnogaeth. Gellir canfod rhagor o wybodaeth yma. Efallai hoffech hefyd gysylltu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru sy'n gallu cynnig cefnogaeth ar ystod eang o faterion.
Os ydw i'n cael trafferth ariannol a fydd y Brifysgol yn medru helpu?
Mae gan y Brifysgol Cronfa Gymorth Ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol. Wrth wneud cais efallai bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch sefyllfa ariannol ac mae cymeradwyaeth yn ddibynnol ar brawf modd. Gellir canfod rhagor o wybodaeth yma.
Ble allaf gael cymorth gyda materion academaidd a llety?
Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr a fydd yn medru cynnig cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion. Efallai gall eich Tiwtor Personol hefyd gynorthwyo, a gall Lena Smith a Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd gynnig ystod eang o gymorth.
Mae gen i anabledd, a allaf dderbyn cefnogaeth yn fy astudiaethau?
Mae gan y Brifysgol dîm pwrpasol, y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr sy'n medru cefnogi myfyrwyr gydag ystod o anableddau.
Oes unrhyw gymorth ar gael ar gyfer fy lles ac iechyd meddwl?
Mae gan y Brifysgol dîm Cwnsela a Lles sy'n cynnig apwyntiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, therapi grŵp ac adnoddau lles.
Ble allaf gwrdd â myfyrwyr eraill mewn sefyllfa debyg?
Mae STAR Caerdydd yn gymdeithas Undeb Myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i groesawu ffoaduriaid a sefyll dros hawliau dynol. Gallwch ymuno â grŵp Facebook cyffredinol STAR Caerdydd neu eu grŵp Facebook gwirfoddoli.
Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr
Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410