Student Conduct Procedure
As a Cardiff University student, you are expected to behave as a representative of Cardiff University at all times. This is particularly important when you are engaging in activities directly linked to the University or Students’ Union, such as fieldwork or sports or society events.
It is important to be aware of what the University expects of you in terms of conduct because, if your behaviour is deemed to breach requirements, you could be investigated under the Student Conduct Procedure.
Rules of Behaviour
The Student Conduct Procedure states that you must:
- Be a representative of the University and act accordingly.
- Comply with all other University procedures relating to conduct including IT, Library, and Finance Regulations.
- Treat other people with dignity and respect:
- Recognise the diversity of the Cardiff community and not discriminate against others on the basis of their age, ethnic origin, race, nationality, membership of a national minority, culture, language, religious faith or affiliation or lack thereof, political affiliation or opinions or lack thereof, sex, gender, gender identity, sexuality, sexual orientation, marital status, caring or parental responsibilities, illness, ability or disability, mental health status, medical condition, physical appearance, genetic features, parentage, descent, full or part-time student status, socio-economic background, employment status, trade union affiliation, spent or irrelevant criminal convictions, or any other irrelevant distinction.
- Act responsibly, and be honest, considerate, respectful, and courteous towards others, respecting the safety and wellbeing of others on or off University premises.
- Behave in a respectful manner towards others so that they do not feel that they are being harassed or bullied.
- Behave in such a way as to ensure you do not disrupt University activities or obstruct any student, member of staff, or visitor of the University in the performance of their study or work.
- Ensure that you do not publish comments or images on websites or social media that might cause distress or offence to another person.
- Respect other people’s right to enjoyment of their property, including that of the University and the Students’ Union, or use of a public space.
- Act in accordance with the University’s regulations and policies, which you agree to at each registration as a student with the University, and which, where relevant, satisfy the requirements of the Professional, Statutory and Regulatory Body associated with your programme.
- Comply with any reasonable request to meet with a member of University or Students’ Union staff when the request is related to University or Students' Union business.
- Provide accurate information at enrolment and when making financial payments.
- Provide accurate information to the University or Students’ Union staff when requested.
- Carry your student card with you at all times and not allow another person to use it.
- Ensure you do not share or publish academic material related to your learning and teaching without permission of the University: you should not share or publish, via social networking sites, file-share programmes, or any other means, any material that is provided for the purposes of your learning without the written consent of the academic member of staff who produced or presented that material. Please note that this does not preclude sharing material with fellow students of the University within the normal parameters of an academic programme.
- Avoid conduct which could amount to a criminal offence.
- Report to the Student Cases team any serious offences which lead to police investigation, caution, conviction, or charge related to a relevant offence. The report should be made within 14 days.
- Observe the principles and practice of Freedom of speech, freedom of expression, and academic freedom.
- Use appropriate University procedures to raise issues formally.
Raising a concern about another student
If you are a Cardiff University student and would like to raise concerns about the conduct of another student, you will need to do so under the Student Complaint Procedure. Further advice on raising concern about another student is available here.
Concerns raised about your conduct
When an allegation is made, or a concern raised, about your behaviour that is deemed as requiring investigation, the Head of Student Cases will appoint an independent Investigating Office to consider the case. The Investigating Officer will look at any documentation submitted to the University and may choose to interview you, other students and any witnesses where appropriate.
If you are interviewed, you should receive a minimum of 7 days’ notice of the meeting and you are entitled to be accompanied. Student Advice can help to prepare you for the meeting and attend with you.
During the meeting, you should be fully informed of the allegations or concerns about you and be given an opportunity to respond and provide any evidence in support of your case. A written record of this meeting should be sent to you afterwards and you should be given 7 days to confirm that the record is accurate, or raise any issues with it. We also normally advise that you submit a written statement at this stage but an Adviser can discuss this further when you get the written record.
When the investigation is complete, the Investigating Officer will submit their report to the Head of Student Cases, who can
- Decide that no further action is required;
- Decide that it is a minor concern and invite you to a disciplinary meeting;
- Decide that it is a major concern and refer your case to a Student Conduct Panel.
The Head of Student Cases should write to you with their decision within 14 days of receiving the investigation report.
Minor concerns
Where the concern is deemed minor, you will be invited to a disciplinary meeting with the Head of Student Cases. You should be given a minimum of 7 days’ notice and be informed of your right to be accompanied. This meeting is not a formal hearing but is your opportunity to respond to the concern and provide details of any mitigation.
It is important to prepare properly for this meeting and Student Advice can help you with that. Please contact Student Advice with as much notice of the meeting as possible and try to obtain independent evidence of any mitigating circumstances you intend to rely on.
The Head of Student Cases can consider your case in your absence if you do not attend.
Following the meeting, the Head of Student Cases can impose 1 or more of the following:
- No further action,
- An offer of mediation or a restorative remedy to those who raised the complaint and the student(s) investigated,
- An informal warning,
- A formal warning to remain on your record for a specified time,
- A written apology to a specified person or group,
- A written reflection on the offence and its impact on the University community,
- Required attendance at an educative workshop funded by you,
- Payment for any identified damage to property or belongings,
- A conduct agreement which if broken will result in referral to a Student Conduct Panel.
You will be informed of the outcome within 7 days of the meeting. If you feel the process was not followed or that the outcome was not reasonable, you can request a review under the University Review Procedure.
Major concerns
If it is deemed a major concern, you will be invited to attend a Student Conduct Panel. The Student Conduct Panel should usually meet within 28 days of the decision to refer. The panel will consist of:
- A Senior Manager as Chair (a Head of School, Pro Vice-Chancellor, Dean, or Professional Services Director/Head);
- A member of University staff;
- An elected officer of the Students' Union.
At least 14 days before the panel, a member of the Student Cases team will inform you of:
- The details of the concern or allegation,
- The evidence that will be presented to and considered by the panel,
- The date, time and venue of the panel meeting,
- Your right to be supported or represented at the panel,
- Your right to have the panel conducted in English or Welsh.
You must normally confirm your attendance and the name of anyone else who will accompany you to the hearing and submit any evidence or information you would like the panel to consider at least 7 days before the panel date. A Student Adviser can advise and support you through this process. If your case is referred to a Student Conduct Panel, please let Student Advice know as soon as possible so that we can help you to prepare fully.
At the Student Conduct Panel
- All parties will have access to all the papers for the panel meeting prior to the meeting taking place;
- The Investigating Officer will present the facts of the case against the student, calling witnesses as appropriate;
- You or your representative will then be invited to present a response, and call witnesses as you deem appropriate. You may present any mitigating factors which you wish to bring to the attention of the panel;
- Where witnesses are called by either party, they will be invited to give evidence on the facts to which they are witness;
- All parties will be given the opportunity to raise any questions on the facts or on statements made by witnesses at appropriate times throughout the meeting. All questions will be directed to the Chair of the panel.
- Once all evidence has been presented and all questions asked, the Investigating Officer will be invited to sum up their case;
- At the end of the meeting, you or your representative will be given an opportunity to sum up your case.
Both parties will then withdraw from the meeting for the panel to consider the case. The panel should consider all the evidence to determine whether or not, on the balance of probabilities, the concerns/allegations are proven. If they are, the panel will decide on a sanction. When deciding on a sanction the panel should consider the proportionality of the sanction imposed and any mitigating factors. The sanctions available are:
- Any of the minor concern outcomes listed above;
- Restricted access to University or Students’ Union premises or facilities, with the extent and duration of the restriction to be specified;
- Temporary exclusion from the University, for a specified period;
- Permanent exclusion from the University.
Suspension
In cases where there are concerns for the safety of you, another student of the University community, the Academic Registrar will carry out a risk assessment and may suspend you. This is not supposed to be a penalty but a precautionary measure taken to avoid the risk of harm.
Any restrictions imposed on you will be communicated to you within 7 days of the decision being made. You should be fully informed of the reasons for this decision and it should be reviewed every 60 days, or if any new relevant information becomes available.
Exclusion
The Vice-Chancellor has the power to exclude immediately and permanently where it necessary to do so based on all the information available at the time. This includes where the University has grounds to believe that you have obtained a place on the basis of false, incorrect or misleading information. You will be informed of the exclusion within 7 days of the decision.
Review
You can request a review of a decision made under the Student Conduct Procedure through the University Review Procedure.
Contact Student Advice
Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410
Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr
Fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd, mae disgwyl i chi ymddwyn fel cynrychiolydd ar bob adeg. Mae hyn yn enwedig o bwysig os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr, megis gwaith maes, chwaraeon, neu ddigwyddiad cymdeithas.
Mae'n bwysig i fod yn ymwybodol o ddisgwyliadau'r Brifysgol ynglŷn ag ymddygiad, oherwydd os yw'ch ymddygiad yn torri disgwyliadau, gallech gael eich ymchwilio o dan y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr.
Rheolau Ymddygiad
Mae'r Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr yn datgan bod rhaid i chi:
- Bod yn gynrychiolydd o'r Brifysgol ac ymddwyn yn unol â hynny.
- Cydymffurfio â holl weithdrefnau'r Brifysgol sy'n ymwneud ag ymddygiad gan gynnwys Rheoliadau TG, Llyfrgell a Chyllid.
- Trin pobl eraill ag urddas a pharch.
- Cydnabod amrywiaeth cymuned Caerdydd a pheidio gwahaniaethu yn erbyn eraill ar sail oedran, ethnigrwydd, hil, cenedligrwydd, diwylliant, iaith, ffydd, gwleidyddiaeth, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldebau gofalu, salwch, anabledd, statws iechyd meddwl, ymddangosiad corfforol, statws fel myfyriwr, cefndir economaidd-gymdeithasol, statws cyflogaeth, euogfarnau troseddol, neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall.
- Ymddwyn yn gyfrifol, a bod yn onest, ystyriol, a pharchus tuag at eraill, gan barchu diogelwch a lles eraill ar safle'r Brifysgol.
- Ymddwyn mewn modd parchus tuag at eraill fel nad ydynt yn teimlo wedi'u haflonyddu na'u bwlio.
- Ymddwyn mewn modd nad sy'n effeithio ar weithgarwch y Brifysgol neu'n rhwystro unrhyw fyfyriwr, aelod o staff, neu ymwelydd i'r Brifysgol rhag cwblhau eu hastudiaethau neu waith.
- Sicrhau nad ydych yn cyhoeddi sylwadau na delweddau ar wefannau neu gyfryngau cymdeithasol gall achosi gofid neu dramgwydd i berson arall.
- Parchu hawl pobl eraill i fwynhau eu heiddo, gan gynnwys y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, neu ddefnydd unrhyw ardal gyhoeddus.
- Gweithredu yn unol â rheoliadau a pholisïau'r Brifysgol, yr ydych yn cytuno iddynt wrth gofrestru fel myfyriwr yn y Brifysgol, a chwrdd â gofynion unrhyw gyrff proffesiynol, statudol, a rheoleiddiol sy'n berthnasol i'ch rhaglen.
- Cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol i gwrdd ag aelod o staff y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr pan fo'r cais yn gysylltiedig â busnes y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr.
- Darparu gwybodaeth gywir wrth gofrestru a gwneud taliadau.
- Darparu gwybodaeth gywir i staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr pan fod gofyn.
- Cadw eich cerdyn myfyriwr gyda chi ar bob adeg, a pheidio caniatáu unrhyw berson arall i'w ddefnyddio.
- Sicrhau nad ydych yn rhannu neu'n cyhoeddi cynnwys academaidd yn ymwneud â'ch dysgu ac addysgu heb ganiatâd gan y Brifysgol; ni ddylech rannu neu gyhoeddi, dros gyfryngau cymdeithasol, rhaglenni rhannu ffeiliau, neu unrhyw ddull arall, unrhyw ddeunydd wedi'i ddarparu ar gyfer eich dysgu heb ganiatâd ysgrifenedig gan yr aelod o staff academaidd a wnaeth greu neu gyflwyno'r cynnwys. Sylwch nad yw hyn yn atal rhannu deunydd gyda chyd-fyfyrwyr yn y Brifysgol o fewn paramedrau arferol eich rhaglen academaidd.
- Osgoi ymddygiad a allai fod yn drosedd.
- Adrodd unrhyw droseddau difrifol gall arwain at ymchwiliad heddlu, rhybudd, cyhuddiad, neu euogfarn i'r tîm Achosion Myfyrwyr. Dylai'r adroddiad cael ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod.
- Parchu'r egwyddorion ac arfer o ryddid i lefaru, rhyddid mynegiant, a rhyddid academaidd.
- Defnyddio gweithdrefnau Prifysgol addas i godi materion yn ffurfiol.
Codi Pryder am Fyfyriwr Arall
Os ydych yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd a hoffech godi pryder am ymddygiad myfyriwr arall, gallwch wneud felly o dan y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr. Mae cyngor pellach ar godi pryder am fyfyriwr arall ar gael yma.
Pryderon am Eich Ymddygiad
Pan wneir honiad neu codir pryder ynglŷn â'ch ymddygiad, a bernir bod angen ymchwilio iddo, bydd y Pennaeth o Achosion Myfyrwyr yn penodi Swyddog Ymchwilio annibynnol i ystyried yr achos. Bydd y Swyddog Ymchwilio yn edrych ar ddogfennau wedi'u cyflwyno gan y Brifysgol a gallant ddewis eich cyfweld chi, myfyrwyr eraill, neu unrhyw dystion lle bo'n addas.
Os gewch eich cyfweld, dylech dderbyn o leiaf 7 diwrnod o rybudd cyn y cyfarfod, ac mae gennych hawl i gael person arall yn bresennol. Gall Cyngor i Fyfyrwyr eich helpu i baratoi ar gyfer y cyfarfod a mynychu gyda chi.
Yn ystod y cyfarfod, dylech dderbyn gwybodaeth glir am yr honiadau neu bryderon, a chyfle i ymateb a darparu gwybodaeth i gefnogi eich achos. Dylech dderbyn cofnod ysgrifenedig o'r cyfarfod ar ôl, a chadarnhau bod y cofnod yn gywir o fewn 7 diwrnod, neu godi'r mater os nad ydyw. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar yr adeg hon, ond gall cynghorydd trafod hyn ymhellach gyda chi.
Ar ôl cwblhau'r ymchwiliad, bydd y Swyddog Ymchwilio yn cyflwyno eu hadroddiad i'r Pennaeth o Achosion Myfyrwyr, a all:
- Penderfynu nad oes angen gweithredu;
- Penderfynu ei fod yn fân bryder a'ch gwahodd am gyfarfod disgyblu;
- Penderfynu ei bod yn bryder mawr a chyfeirio eich achos at Banel Ymddygiad Myfyrwyr.
Dylai'r Pennaeth o Achosion Myfyrwyr ysgrifennu atoch gyda'u penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn yr adroddiad ymchwilio.
Mân Bryderon
Lle dyfernir bod y pryder yn un fân, cewch eich gwahodd i gyfarfod disgyblu gyda'r Pennaeth o Achosion Myfyrwyr. Dylech dderbyn o leiaf 7 diwrnod o rybudd ac mae hawl i berson arall fynychu gyda chi. Nid yw'r cyfarfod hwn yn wrandawiad swyddogol ond mae'n gyfle i chi ymateb i'r pryderon a darparu manylion am unrhyw ffactorau liniaru.
Mae'n bwysig paratoi'n addas ar gyfer y cyfarfod hwn a gall Cyngor i Fyfyrwyr eich helpu. Rhowch gymaint o rybudd a phosib i'r gwasanaeth a cheisiwch gasglu tystiolaeth o unrhyw amgylchiadau lliniaru.
Bydd y Pennaeth o Achosion Myfyrwyr yn ystyried eich achos heboch chi os na fyddwch yn mynychu.
Wedi'r cyfarfod, gall y Pennaeth o Achosion Myfyrwyr, gymryd 1 neu fwy o'r camau canlynol:
- Dim camau pellach
- Cynnig o gyfryngu neu ddatrysiad adferol rhwng y rhai a gododd y gŵyn a'r myfyriwr/myfyrwyr
- Rhybudd anffurfiol
- Rhybudd ffurfiol i aros ar eich cofnod am gyfnod penodol
- Ymddiheuriad ysgrifenedig i berson neu grŵp penodol
- Adlewyrchiad ysgrifenedig ar yr ymddygiad a'i effaith ar gymuned Caerdydd
- Mynychu gweithdy addysgiadol wedi'i ariannu gennych chi
- Talu ar gyfer difrod i eiddo
- Cytundeb bydd yn arwain at Banel Ymddygiad Myfyrwyr os caiff ei dorri
Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 7 diwrnod wedi'r cyfarfod. Os deimlwch nad yw'r broses wedi cael ei ddilyn neu nad yw'r canlyniad yn rhesymol, gallwch wneud cais am adolygiad o dan Weithdrefn Adolygu'r Brifysgol.
Pryderon Mawr
Os dyfernir yn bryder sylweddol, cewch eich gwahodd i Banel Ymddygiad Myfyrwyr. Dylai'r Panel Ymddygiad Myfyrwyr cwrdd o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad. Bydd y panel yn cynnwys:
- Uwch Reolwr fel Cadeirydd (Pennaeth Ysgol, Rhag Is-Ganghellor, Deon, neu Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaethau Proffesiynol)
- Aelod o staff Prifysgol
- Swyddog etholedig o Undeb y Myfyrwyr
O leiaf 14 diwrnod cyn y panel bydd aelod o'r tîm Achosion Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi am:
- Manylion y pryder neu honiad
- Y dystiolaeth bydd yn cael ei chyflwyno a'i hystyried gan y panel
- Dyddiad, amser, a lleoliad y cyfarfod
- Eich hawl i gael eich cefnogi neu eich cynrychioli yn y panel
- Eich hawl i gael y panel wedi'i gynnal yn Saesneg neu Gymraeg.
Dylech gadarnhau y byddwch yn bresennol, rhannu enw unrhyw un bydd yn mynychu gyda chi, a chyflwyno unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth hoffech i'r panel ei hystyried o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod. Gall cynghorydd eich cefnogi drwy'r proses - cofiwch roi digon o rybudd iddynt.
Yn y Panel Ymddygiad Myfyrwyr
- Bydd gan bob parti mynediad at yr holl bapurau ar gyfer y cyfarfod o flaen llaw.
- Bydd y Swyddog Ymchwilio yn cyflwyno ffeithiau'r achos yn erbyn y myfyriwr ac yn galw ar dystion fel sy'n addas.
- Byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael eich gwahodd i gyflwyno ymateb a galw unrhyw dystion addas. Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ffactorau lliniaru.
- Lle bod tystion yn cael eu galw, byddant yn cael eu gwahodd i roi tystiolaeth.
- Bydd yr holl bartïon yn derbyn cyfle i gwestiynu tystion. Bydd unrhyw gwestiynau yn cael eu cyfeirio at Gadeirydd y panel.
- Unwaith i'r holl dystiolaeth gael ei chyflwyno, bydd y Swyddog Ymchwilio yn crynhoi eu hachos.
- Ar ddiwedd y cyfarfod, cewch chi neu eich cynrychiolydd gyfle i grynhoi eich achos.
Bydd y panel wedyn yn ystyried yr achos. Dylai'r panel ystyried y dystiolaeth a phenderfynu, yn ôl tebygrwydd, a yw'r pryderon/honiadau wedi'u cadarnhau. Os ydynt, bydd y panel yn penderfynu ar sancsiwn. Wrth benderfynu ar sancsiwn dylai'r panel ystyried cymesuredd ac unrhyw ffactorau lliniaru. Y sancsiynau sydd ar gael yw:
- Unrhyw un o'r canlyniadau ar gyfer pryderon mân wedi'u rhestru uchod
- Mynediad cyfyngedig at safleoedd a chyfleusterau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, gyda'r maint a hyd i'w penodi
- Gwaharddiad dros dro o'r Brifysgol, ar gyfer cyfnod penodol
- Gwaharddiad parhaol o'r Brifysgol
Atal Dros Dro
Mewn rhai achosion lle bod pryder am eich diogelwch chi neu fyfyrwyr eraill yng nghymuned Caerdydd, bydd y Cofrestrydd Academaidd yn cyflawni asesiad risg a gallant eich atal. Nid yw hyn i fod yn gosb ond yn fesur rhagofalus i osgoi'r risg o niwed.
Bydd unrhyw gyfyngiadau sy'n cael eu gosod arnoch chi yn cael eu cyfathrebu o fewn 7 diwrnod ar ôl i'r penderfyniad cael ei wneud. Dylech dderbyn gwybodaeth am y rhesymau tu ôl i'r penderfyniad a bydd yn cael ei adolygu pob 60 diwrnod, neu os daw unrhyw wybodaeth berthnasol newydd i'r golau.
Gwahardd
Mae gan yr Is-Ganghellor y pŵer i wahardd ar unwaith ac yn barhaol lle bod angen yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys sefyllfa lle bod y Brifysgol yn credu eich bod wedi ennill eich lle trwy wybodaeth ffug, anghywir, neu gamarweiniol. Byddwch yn clywed am benderfyniad i wahardd o fewn 7 diwrnod ar ôl i'r penderfyniad cael ei wneud.
Adolygiad
Gallwch wneud cais i benderfyniad cael ei adolygu trwy Weithdrefn Adolygu'r Brifysgol.
Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr
Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410