Appeal Complaints 

Some circumstances raise issues that give grounds for submitting both an appeal and a complaint. In some of these cases, it will be up to you whether or not you submit a complaint as well as an appeal. In other cases, the University will require you to do both. Importantly, if you want to submit either, you MUST have at least one of the permitted grounds to do so. The University will not accept appeals or complaints that look to challenge academic judgment so you need to look and see if what you describe fits within the grounds allowed. 

 

When submitting and appeal and a complaint you must state you are doing so in your complaint and your appeal.

When a student submits a complaint and an appeal the appeal maybe held in abeyance pending the outcome of the complaint investigation.  The outcome will then inform the appeal decision.

 

The University’s Academic Appeals Procedure allows you to appeal an Examining Board decision, including the confirmation of your grades, the decision on whether or not to allow you to progress, and the classification of your award. The rules covering appeals are strict and are set out in the University’s Academic Appeals Policy and Procedure.

The grounds under which you can raise an appeal are limited to:

  1. An arithmetical or other error of fact in the results issued following the decision of the Examining Board. An example of an arithmetical error would be where you are awarded 55% for a module when your assessment marks add up to 58%. The error of fact MUST be an error of fact, not opinion. The University does not allow you to challenge academic judgment. An example of this would be where your written feedback states you lost marks because you did not include a results table when in fact you did.
  2. An irregularity in the conduct of the assessment, the written instructions, or written advice relating to the assessment, where this can be shown to have had an adverse effect on the outcome and which was not known by the Examining Board at the time it considered your results, or which known to the Examining Board and where the Examining Board has made an unreasonable decision. An irregularity in the conduct may be a not being allowed the amount of time you supposed to have or, in current circumstances, a defect may be an assessment submission closing earlier than advertised. A defect in the written instructions may be where a question paper is incorrectly worded or where you have been given written advice by a dissertation supervisor but then been given feedback to say that you have lost marks for following that feedback.
  3. Extenuating circumstances which can be shown to have had an adverse effect on your academic performance, which were unknown by the Examining Board and could not have been made known to the Examining Board by you before the School deadline, or which were known to the Examining Board and where the Examining Board has made an unreasonable decision. The University’s definition of extenuating circumstances is detailed in the University’s Extenuating Circumstance Procedure, which says that the circumstances must be:
    1. severe and exceptional; and
    2. unforeseen and unavoidable and 
    3. they MUST be close in time to the Assessment you are reporting for, or you MUST explain how the circumstances continued to have an impact on their academic performance.

If you appeal on grounds relating to extenuating circumstances that were previously rejected by your School, you must specify why you disagree with the School’s decision to reject the circumstances.

If you did not report your Extenuating Circumstances by the deadline, you must provide good reason why you could not have reported your circumstances on time.

Appeals submitted for any other reason will not be accepted. You cannot challenge academic judgment or appeal because you think you deserve a higher mark.

The University’s Student Complaint Procedure allows you to submit a complaint where you feel you have suffered a detriment, dissatisfaction, or disadvantage due to:

  • The alleged action(s) of a member of staff;
  • The alleged action(s) of a student;
  • bullying, harassment, discrimination, or sexual violence from someone in the University community;
  • Irregularities in the delivery of a programme of study;
  • The quality of or access to supervision;
  • Issues with your placement or your placement year;
  • The quality of facilities, services, or learning resources.

When Appeals and Complaints overlap

The University’s Student Complaint Procedure allows students to submit complaints where they feel they have suffered a detriment, dissatisfaction, or disadvantage due to:

  • The alleged action(s) of a member of staff;
  • The alleged action(s) of a student;
  • Bullying, harassment, discrimination, or sexual violence from someone in the University community;
  • Irregularities in the delivery of a programme of study;
  • The quality of or access to supervision;
  • Issues with your placement or your placement year;
  • The quality of facilities, services, or learning resources.

Some complaints may then raise issues that also fall within two of the three the permitted grounds of appeal in the Academic Appeals Policy and Procedure:

  • Ground 2, an irregularity in the conduct of the assessment, the written instructions, or written advice relating to the assessment, where this can be shown to have had an adverse effect on the outcome and which was not known by the Examining Board at the time it considered your results, or which known to the Examining Board and where the Examining Board has made an unreasonable decision.

This ground of appeal potentially overlaps with the following grounds of complaint:

Suffering detriment, dissatisfaction, or disadvantage due to:

  • the alleged action(s) of a member of staff;
  • irregularities in the delivery of a programme of study;
  • the quality of or access to supervision; Issues with your placement or your placement year;
  • the quality of facilities, services, or learning resources.
  • Ground 3, extenuating circumstances which can be shown to have had an adverse effect on your academic performance, which were unknown by the Examining Board and could not have been made known to the Examining Board by you before the School deadline, or which were known to the Examining Board and where the Examining Board has made an unreasonable decision.

This ground of appeal potentially overlaps with the following grounds of complaint:

Suffering detriment, dissatisfaction, or disadvantage due to

  • the alleged action(s) of a member of staff;
  • the alleged action(s) of a student;
  • bullying, harassment, discrimination, or sexual violence from someone in the University community;
  • irregularities in the delivery of a programme of study; The quality of or access to supervision;
  • issues with your placement or your placement year.

For comprehensive advice on both procedures, please see our advice pages:

Reasons for submitting both an Appeal and a Complaint

  • If you are appealing on the grounds that relate to a service, your supervision, or another student or staff member, the Appeals Procedure says that you should submit a complaint under the Complaints Procedure. It does not go as far as to say you must, but failure to do so may result in your appeal being rejected.
  • The University will not seek out evidence to support your appeal. The Appeals Procedure states that each appeal will be considered using the information and evidence you have provided. It is your responsibility to provide all the evidence and information that you want to be considered at the time that you submit your appeal. The University will not contact third parties (e.g. doctors, tutors, police, School or University departments) to obtain this evidence for you.

In some cases, you will need to submit a complaint to try and get more evidence to support your appeal. If, for example, you are appealing because of defective dissertation supervision, the University will almost certainly require a complaint on this ground to be upheld before accepting it as grounds for appeal.

In other cases, where you have very clear evidence of an indisputable defect in written instructions given to you about an assessment, you can argue that it is unreasonable for the University to expect you to submit a complaint if you do not want to. An example of this would be where you have the written instructions saying that the word limit was 2000 and you have written feedback saying that you were marked down for exceeding the 1500 word limit.

Important Considerations

  • If you submit a complaint without an appeal, you will not get an academic outcome because the Complaints Procedure does not allow for one. If you want an academic outcome and/or want to challenge any academic decision in respect to your results, you will need to submit an academic appeal.
  • If submit an appeal without a complaint, but your appeal relates to issues that relate to a service, your supervision, or another student or staff member, your appeal may be rejected.
  • If you submit an appeal and a complaint, the Student Cases team will decide which order to process your case. From our experience, this usually means that your appeal will be put on hold until your complaint has been concluded, which can lead to a considerable delay in your appeal outcome. To put this in context, it is not uncommon in our experience for complaints to be seriously delayed and take many months to be concluded. Appeals then take around 90 days to be concluded. Added together, you could be waiting a very long time for the outcome of your appeal.

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 

Apeliadau a Chwynion

Mae rhai amgylchiadau'n codi materion sy'n sail dros gyflwyno apêl a chwyn. Mewn rhai o'r achosion hyn, eich penderfyniad chi fydd p'un a ydych yn cyflwyno cwyn ai peidio yn ogystal ag apêl. Mewn achosion eraill, bydd y Brifysgol yn gofyn i chi wneud y ddau. Os ydych am gyflwyno naill ai un neu’r llall, RHAID bod gennych o leiaf un o'r seiliau angenrheidiol er mwyn gallu gwneud hynny. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn apeliadau na chwynion sy'n ceisio herio barn academaidd felly mae angen i chi edrych i weld a yw'r hyn rydych chi'n ei ddisgrifio yn cwrdd ag un o’r seiliau a ganiateir.

 

Wrth gyflwyno apêl a chwyn, rhaid i chi ddatgan eich bod yn gwneud hynny yn eich cwyn a'ch apêl. Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno cwyn ac apêl, efallai y bydd yr apêl yn cael ei chadw yn ôl tra'n disgwyl canlyniad yr ymchwiliad i’r cwyn. Bydd y canlyniad wedyn yn llywio penderfyniad yr apêl.

 

Mae Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol yn eich caniatáu i apelio penderfyniad gan Fwrdd Arholi, gan gynnwys cadarnhad o'ch graddau, y penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu i chi symud ymlaen ai peidio, a dosbarth eich gradd. Mae'r rheolau sy'n ymwneud ag apeliadau'n llym ac wedi'u nodi ym Mholisi a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol.

 

Gallwch apelio ar y seiliau canlynol yn unig:

 

  • Gwall rhifyddol neu ffeithiol yn y canlyniadau a gyhoeddwyd yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Arholi. Enghraifft o gamgymeriad rhifyddol fyddai lle dyfernir 55% i chi am fodiwl pan fydd eich marciau asesu yn adio hyd at 58%. Mae'n RHAID i'r camgymeriad ffaith fod yn gamgymeriad o ffaith, nid barn. Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu ichi herio barn academaidd. Enghraifft o hyn fyddai lle mae eich adborth ysgrifenedig yn dweud eich bod wedi colli marciau oherwydd nad oeddech yn cynnwys tabl canlyniadau pan wnaethoch chi mewn gwirionedd.
  •  

  • Anghysondeb wrth gynnal yr asesiad, y cyfarwyddiadau ysgrifenedig, neu gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r asesiad, lle gellir dangos bod hyn wedi cael effaith andwyol ar y canlyniad ac nad oedd y Bwrdd Arholi yn gwybod ar yr adeg y bu'n ystyried eich canlyniadau, neu a oedd yn hysbys i'r Bwrdd Arholi a lle mae'r Bwrdd Arholi wedi gwneud penderfyniad afresymol. Gall anghysondeb yn yr ymddygiad olygu na chaniateir i chi gael yr amser y dylech ei gael i gwblhau asesiad neu, gall olygu fod dyddiad cyflwyno asesiad yn cau yn gynt na’r amser yr hysbysebwyd. Enghraifft o ddiffyg yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig yw pan fydd papur cwestiynau wedi'i eirio'n anghywir neu lle rydych wedi cael cyngor ysgrifenedig gan oruchwyliwr traethawd hir ond yna cewch adborth i ddweud eich bod wedi colli marciau am ddilyn yr adborth hwnnw.
  •  

  • Amgylchiadau esgusodol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith andwyol ar eich perfformiad academaidd, nad oedd y Bwrdd Arholi yn gwybod amdanynt ac na allech fod wedi eu hysbysu i'r Bwrdd Arholi cyn dyddiad cau'r Ysgol, neu a oedd yn hysbys i'r Bwrdd Arholi a lle mae'r Bwrdd Arholi wedi gwneud penderfyniad afresymol. Mae diffiniad y Brifysgol o amgylchiadau esgusodol wedi'i nodi yng Ngweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol, sy'n dweud bod yn rhaid i'r amgylchiadau fod yn:
    • ddifrifol ac eithriadol; ac
    • heb ei ragweld ac yn amhosib i’w osgoi; a
    • RHAID iddynt fod yn agos at yr Asesiad yr ydych yn adrodd amdano, neu RHAID i chi egluro sut y parhaodd yr amgylchiadau i gael effaith ar eu perfformiad academaidd.

 

Os ydych yn apelio ar sail sy'n ymwneud ag amgylchiadau esgusodol a wrthodwyd yn flaenorol gan eich ysgol, rhaid i chi nodi pam rydych yn anghytuno â phenderfyniad yr Ysgol i wrthod yr amgylchiadau.

 

Os na wnaethoch roi gwybod am eich Amgylchiadau Esgusodol erbyn y dyddiad cau, rhaid i chi roi rheswm da pam nad oedd odd i chi roi gwybod am eich amgylchiadau ar amser.

 

Ni fydd apeliadau a gyflwynir am unrhyw reswm arall yn cael eu derbyn. Ni allwch herio barn academaidd nac apêl oherwydd eich bod yn credu eich bod yn haeddu marc uwch.

 

Mae Gweithdrefn Gwynion Myfyrwyr y Brifysgol yn caniatáu i chi gyflwyno cwyn lle rydych yn teimlo eich bod wedi dioddef anfantais neu anfodlonrwydd o ganlyniad i:

  • Gweithred(oedd) honedig aelod o staff;
  • Gweithred(oedd) honedig myfyriwr;
  • Bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, neu drais rhywiol gan rywun yng nghymuned y Brifysgol;
  • Anghysondeb wrth gyflwyno rhaglen astudio;
  • Ansawdd neu fynediad at oruchwyliaeth;
  • Problem gyda'ch lleoliad neu eich blwyddyn yn y gweithle;
  • Ansawdd y cyfleusterau, gwasanaethau neu adnoddau dysgu.

 

Pan fydd Apeliadau a Chwynion yn Gorgyffwrdd

 

Mae Gweithdrefn Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno cwynion lle maent yn teimlo eu bod wedi dioddef anfantais neu anfodlonrwydd o ganlyniad i:

  • Gweithred(oedd) honedig aelod o staff;
  • Gweithred(oedd) honedig myfyriwr;
  • Bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, neu drais rhywiol gan rywun yng nghymuned y Brifysgol;
  • Anghysondeb wrth gyflwyno rhaglen astudio;
  • Ansawdd neu fynediad at oruchwyliaeth;
  • Problem gyda'ch lleoliad neu eich blwyddyn yn y gweithle;
  • Ansawdd y cyfleusterau, gwasanaethau neu adnoddau dysgu.

 

Yna gall rhai cwynion godi materion sydd hefyd yn dod o fewn dau o'r tri sail apelio a ganiateir yn y Polisi a'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd:

  • • Sail 2, anghysondeb wrth gynnal yr asesiad, y cyfarwyddiadau ysgrifenedig, neu gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r asesiad, lle gellir dangos bod hyn wedi cael effaith andwyol ar y canlyniad ac nad oedd y Bwrdd Arholi yn ymwybodol ar yr adeg y bu'n ystyried eich canlyniadau, neu a oedd yn hysbys i'r Bwrdd Arholi a lle mae'r Bwrdd Arholi wedi gwneud penderfyniad afresymol.

 

Gallai'r sail hon o apêl orgyffwrdd â'r seiliau cwynion canlynol:

Dioddef anfantais neu anfodlonrwydd o ganlyniad i:

  • Gweithred(oedd) honedig aelod o staff;
  • Anghysondeb wrth gyflwyno rhaglen astudio;
  • Ansawdd neu fynediad at oruchwyliaeth;
  • Problem gyda'ch lleoliad neu eich blwyddyn yn y gweithle;
  • Ansawdd y cyfleusterau, gwasanaethau neu adnoddau dysgu.
  • • Sail 3, amgylchiadau esgusodol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith andwyol ar eich perfformiad academaidd, nad oeddent yn hysbys i’r Bwrdd Arholi ac na allech fod wedi eu hysbysu i'r Bwrdd Arholi cyn dyddiad cau'r Ysgol, neu a oedd yn hysbys i'r Bwrdd Arholi a lle mae'r Bwrdd Arholi wedi gwneud penderfyniad afresymol.

Gallai'r sail hon o apêl orgyffwrdd â'r seiliau cwynion canlynol:

Dioddef anfantais neu anfodlonrwydd o ganlyniad i:

  • Gweithred(oedd) honedig aelod o staff;
  • Gweithred(oedd) honedig myfyriwr;
  • Bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, neu drais rhywiol gan rywun yng nghymuned y Brifysgol;
  • Anghysondeb wrth gyflwyno rhaglen astudio;
  • Ansawdd neu fynediad at oruchwyliaeth;
  • Problem gyda'ch lleoliad neu eich blwyddyn yn y gweithle.

Am gyngor cynhwysfawr ar y ddwy weithdrefn, gweler ein tudalennau cyngor:

 

Rhesymau dros gyflwyno Apêl a Chwyn

 

  • Os ydych yn apelio ar y sail sy'n ymwneud â gwasanaeth, eich goruchwyliaeth, neu fyfyriwr neu aelod arall o staff, mae'r Weithdrefn Apelio yn dweud y dylech gyflwyno cwyn o dan y Weithdrefn Gwyno. Nid yw'n mynd mor bell â dweud bod yn rhaid i chi, ond gall methu â gwneud hynny arwain at wrthod eich apêl.
  • • Ni fydd y Brifysgol yn gofyn am dystiolaeth gan eraill i gefnogi eich apêl. Mae'r Weithdrefn Apelio yn nodi y bydd pob apêl yn cael ei hystyried gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r dystiolaeth a ddarparwyd gennych. Eich cyfrifoldeb chi yw darparu'r holl dystiolaeth a gwybodaeth yr ydych am gael eich ystyried ar yr adeg y byddwch yn cyflwyno eich apêl. Ni fydd y Brifysgol yn cysylltu â thrydydd partïon (e.e. meddygon, tiwtoriaid, yr heddlu, adrannau ysgol neu brifysgol) i gael y dystiolaeth hon ar eich rhan.

 

Mewn rhai achosion, bydd angen i chi gyflwyno cwyn i geisio cael mwy o dystiolaeth i gefnogi eich apêl. Er enghraifft, os ydych yn apelio oherwydd goruchwyliaeth traethawd hir diffygiol, bydd y Brifysgol bron yn sicr o fynnu bod cwyn ar y sail hon yn cael ei chynnal cyn ei derbyn fel sail i apelio.

 

Mewn achosion eraill, lle mae gennych dystiolaeth glir iawn o ddiffyg diamheuol mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig a roddir i chi am asesiad, gallwch ddadlau ei bod yn afresymol i'r Brifysgol ddisgwyl i chi gyflwyno cwyn os nad ydych am wneud hynny. Enghraifft o hyn fyddai lle mae gennych y cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn dweud bod y terfyn geiriau yn 2000 a'ch bod wedi ysgrifennu adborth yn dweud eich bod wedi'ch marcio i lawr am fod yn fwy na'r terfyn 1500 o eiriau.

Pethau Pwysig i’w Hystyried

  • Os byddwch yn cyflwyno cwyn heb apêl, ni fyddwch yn cael canlyniad academaidd oherwydd nad yw'r Weithdrefn Gwynion yn caniatáu un. Os ydych am gael canlyniad academaidd a/neu os ydych am herio unrhyw benderfyniad academaidd mewn perthynas â'ch canlyniadau, bydd angen i chi gyflwyno apêl academaidd.
  • Os byddwch yn cyflwyno apêl heb gwyn, ond bod eich apêl yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â gwasanaeth, eich goruchwyliaeth, neu fyfyriwr neu aelod arall o staff, gellir gwrthod eich apêl.
  • • Os byddwch yn cyflwyno apêl a chwyn, bydd y tîm Achosion Myfyrwyr yn penderfynu sut i brosesu'ch achos. O'n profiad ni, mae hyn fel arfer yn golygu y bydd eich apêl yn cael ei gohirio nes bod eich cwyn wedi dod i ben, a all arwain at oedi sylweddol yng nghanlyniad eich apêl. I roi hyn yn ei gyd-destun, nid yw'n anghyffredin i gwynion gael eu gohirio'n ddifrifol a chymryd misoedd lawer i'w cwblhau. Mae wedyn yn cymryd tua 90 diwrnod i'w gwblhau. Gyda'i gilydd felly, gallech fod yn aros yn hir iawn am ganlyniad eich apêl.

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410