Academic Appeals

Welcome to the Academic Appeal webpages of the Students' Union website. Here you will find all the information you need about the Cardiff University Academic Appeals Policy and Procedure and guidance in making a successful academic appeal. 

We have divided the information and resources you need into the pages below. 

Frequently Asked Questions

Getting Your Results

I have just received my result, when can I appeal?

All results are provisional until they have been confirmed by an Examining Board. Examining Boards usually meet later in the year, around May/June and then August/September for re-sits. The Appeals Procedure only allows you to appeal a result that has been confirmed by an Examining Board. The confirmed results should be confirmed to you in an official results transcript, usually by email and made available on the Transcripts section of your SIMS account.

You can submit an Academic Appeal within 28 days of receiving your Official Results Transcript. Official Results Transcripts are normally released in June/July, usually by email and made available on the Transcripts section of your SIMS account.

Too early to appeal: If you receive a result in the January assessment period, or indeed any time before the Examining Board have met, and you are not happy, you will need to wait until much later in the year before you can submit an appeal. If you click on the ‘manage/submit an appeal’ tab on your SIMS account, and you have not yet received your formal results, you will see that a message comes up explaining this. If this applies to you, we strongly advise to keep any evidence of grounds for appeal safe so that you can use it to support an appeal later on.

Importantly, if you are considering an appeal on the grounds of Extenuating Circumstances and you have not yet reported any, we strongly advise to try reporting immediately and see what your School say. They may reject your circumstances but, the longer you wait to submit, the longer you will need to provide very good reason for waiting. If and when you appeal.

Too late to appeal: If you miss the 28 day window, you can still submit an Academic Appeal, but you will have to contact Student Cases and provide a very good reason as to why you missed the initial deadline. If the reason for lateness is not deemed good enough, your appeal will be rejected. Please refer to the Late Appeals section on our Appeal Process webpage for how to submit a late appeal.

If you are too early or too late to appeal and need further advice on this point, please contact Student Advice.

I don’t understand my transcript, what do the codes mean?
Code Meaning
P Passed assessment
F Failed assessment
X Absent from assessment without good cause
A Accepted extenuating circumstances that have not been remedied against the assessment
B Accepted extenuating circumstances relating to a protected characteristics that has not been remedied against the assessment
UA Academic Misconduct upheld against the assessment
UM Academic Misconduct upheld against the module
XW Withdrawn from the programme of study
I Interruption of Study
T Transferred Programme
OA Oustanding Result
D Assessment affected by Industrial Action
Z Not successful in formative assessment
Can I get a re-mark?

Cardiff University’s Academic Regulations very clearly state that students cannot challenge academic judgement. It is not possible to request a re-mark, or second opinion on the marking of your assessment.

If you believe there has been an arithmetical error, or error of fact, in calculating your mark, you can ask for your mark to be checked. You can contact your School informally first and discuss the issue with them. If the School do not resolve are unable to resolve this informally, you can submit a ground one appeal to have the calculations or facts checked.

I think my lecturer purposely gave me a low mark. How can I challenge it?

There is no policy within Cardiff University’s Academic Regulations that allows students to challenge academic judgement. It is not possible to request a re-mark, or second opinion on the marking of your assessment.

If you have evidence to suggest that you have experienced an irregularity in the conduct, guidance and/or feedback relating to the assessment, which may have misled you to attain a low mark, then you may be able to make an appeal-complaint.

I’ve been given a re-sit, will this be capped at the pass-mark?

If you have failed an assessment you may be required to re-sit in order to progress to the next level of study.

If the assessment that you have failed took place before the 16th March 2020 it will be capped at the pass-mark.

This may not be the case if you submitted extenuating circumstances for the assessment in question, which granted you an assessment remedy. If you are unsure that this remedy has been applied to your assessment, we would advise you to refer back to the extenuating circumstances correspondence you received from your School, or to contact your School for clarification.

If you have had extenuating circumstances relating to a protected characteristic accepted, you may have been offered a resit for a passed assessment. If this is the case, you may be given an opportunity to resit, with a view to improving your passed mark.

If the failed assessment took place after the 16th March 2020, the Safety Net Policy may apply. In which case, you will be permitted a further attempt but the attempt number for the resit will remain unchanged i.e. if you have failed an module at the first attempt, the resit attempt number will remain at attempt one and the resit mark will not be capped at the minimum pass mark.

If this is your second attempt at the module, the resit attempt number will remain at attempt two but the mark will remain capped at the pass mark.

This will be my last attempt at the assessment, what does this mean for me?

If you are an Undergraduate, and have failed your second attempt at the module after the 16th March 2020, the resit number will remain at attempt two and the mark will remain capped at the pass mark.

If your first two attempts at this assessment took place before 16th March 2020, this may be considered your third and final attempt at the module, unless you are granted an examining board remedy through the Extenuating Circumstances Procedure. If you fail your final attempt at the module, you may be withdrawn from your course.

If you are a Postgraduate and have failed your first attempt at the module after the 16th March 2020, the resit number will remain at attempt one and the mark will remain uncapped.

If your first attempt at this assessment took place before 16th March 2020, this may be considered your second and final attempt at the module, unless you are granted an examining board remedy through the Extenuating Circumstances Procedure. If you fail your final attempt at the module, you may be withdrawn from your course.

Now I’ve got my results, I want to appeal an module from last year to improvedivy final mark, how can I do this?

You can submit an Academic Appeal for assessments that took place in a previous academic year, however this will be considered as a late appeal as it should have been appealed within 28 days of receiving your official transcript in that academic year. We would advise you to make a late appeal at your earliest possibility.

A late appeal needs to be submitted in writing to your Head of Student Cases. In your correspondence, you will need to include why it was not possible or reasonable for you to submit an appeal within the time limit. You will need to provide evidence to support your explanation.


 

The Appeals Procedure

How long does the Academic Appeals Procedure take?

The Academic Regulations state that the appeals procedure can take around 90 days.

I’m meant to graduate in August, will my appeal be processed by then?

The appeals procedure usually takes around 90 days from the date that you submit your appeal.

If you submit an appeal under ground one, the appeal outcome is usually released sooner than the specified time frame.

If you are in your final year of study and you have failed an assessment, you will not be able to graduate until you have successfully completed an appropriate number of credits. If you submit an appeal under grounds two or three, it is likely that you will still have to resit the assessment in question before you able to graduate. This assessment will be retrospectively uncapped pending the outcome of a successful appeal.

If you due to graduate and you are appealing a passed grade with a view to having a credits discounted, it is likely that you will still graduate. However, your degree classification may change pending the outcome of your appeal, and an updated degree certificate will be sent to you.

90 days is too long, how can I speed this up?

According to the 19/20 Academic Appeals Procedure you cannot request for individual appeals to be expedited.

What assessments can I appeal?

If you wanted to, you can appeal all the assessments on your transcript. However, you can only submit an Academic Appeal under the specific grounds outlined in the Academic Appeals procedure. If your appeal does not fall under these grounds it may not be considered by the University. If you believe that you have an appropriate reason to appeal, but it does not coincide with any of the specified grounds, we suggest that you speak to one of our advisers.

You can also submit an academic appeal for assessments or module results that you received in previous academic years, but this would be considered a late appeal. When submitting a late appeal, you need to provide a very good reason as to why you missed the original deadline.

Will my appeal affect my relationship with the University?

The Academic Appeals process has been designed to allow student to challenge their marks under specified grounds. We understand that you may be reluctant to express dissatisfaction with your experience in case it has repercussions on your future assessments.

As a student at Cardiff University you are a consumer of a service. It is important that you are able to appeal a result that you are not happy with, and you should not be in receipt of prejudice or discrimination for doing so.

If you believe that you are being treated unfavourably as a result of an appeal, you may want to engage with the University Complaints Procedure.

What remedies can I get from the Appeals Procedure?

Using the Academic Appeals procedure you can request purely academic remedies. This can include:

  • For Ground 1 Appeals: the error should be amended and any decision on progression or award should be revised accordingly.
  • For Ground 2 Appeals: the University can discount assessment marks where there is a defect or irregularity found. They may also be able to offer you the chance to redo the assessment for a higher mark.
  • For Ground 3 Appeals: if your extenuating circumstances are accepted, your case will be referred back to a reconvened Examining Board who can:
    • Disregard any failed attempts and allow you another first/second/third attempt (depending on which you were on>.
    • Discount marks for assessments that you have passed when calculating your classification. For 2019/20, this rule only applies to extenuating circumstances before 19th March 2020 - unless your circumstances relate to a protected characteristic.
    • If your circumstances relate to a prtected characteristic, the Board can also offer you the opportunity to re-sit assessments you have already passed, with a view to improving your mark.
    • The Examining Board cannot increase your marks as a result of your extenuating circumstances.

You cannot get a political or financial remedy from the Appeals procedure. If you are seeking a remedy that is not outlined above, it may appropriate for you to engage with the University Complaints Procedure in addition to, or instead of, the Academic Appeals Procedure.

Can I get a financial remedy?

No. If you are seeking a financial remedy it may appropriate for you to engage with the University Complaints Procedure in addition to, or instead of, the Academic Appeals Procedure.

Do I have to pay to appeal?

No. The Appeals procedure is available for all students of Cardiff University that are unhappy with their University results. You do not need to pay to submit an academic appeal.

If, as a result of your appeal, you are given the opportunity to resit an assessment in the next academic year, this may incur additional fees. The Money and Funding Advice Team may be able to advise you if this is the case.

Additionally, if you want further professional, legal advice to support your appeal, you may be able to pay an independent provider but this is not a necessary requirement of the Academic Appeals procedure.

Do I have to pay for my resit?

You do not incur additional costs as a result of resitting an assessment in the August resit period.

If, as a result of your appeal, you are given the opportunity to resit an assessment in the next academic year, this may incur additional fees. Tuition fees may vary depending on whether you sit the year as an internal or external student.

The Money and Funding Advice Team may be able to advise you if this is the case


 

Writing Your Appeal

English isn't my first language, can somone write my appeal for me?

Unfortunately, Student Advice does not offer an appeal writing or checking service.

We provide a range of resources, including a series of detailed webpages, info-videos on appeals, and a tool to help you write and structure your appeal effectively.

If you feel that you are unable to write an effective appeal owing to an English Language barrier, you made need to seek professional, legal support. Please note, all appeals need to be submitted in English or Welsh.

What is the Appeal Generator?

Student Advice had generated this Appeals Generator to assist students with writing their appeals.

The online form will ask you for all the details needed for an appeal, and will then send you an email with a word document attachment that contains a draft appeal. This tool is designed to support the appeal-writing process, but it should not be assumed that your appeal will be automatically approved because of this. You should first look at the Writing Your Appeal webpages.

What is a Protected Characteristic?

Protected Characteristics are categories defined by the Equality Act 2010. If your appeal related to circumstances that have been affected by a Protected Characteristic you may be eligible for additional support or remedies.

If you believe your studies have been effected by extenuating circumstances relating to a protected characteristic we would advise you to mention this in your appeal.

Do I need evidence of this?

You must usually provide evidence to support everything you say in your appeal. Evidence should ideally be independent and support all elements of your argument.

It is your responsibility to provide all the evidence and information that you want to be considered at the time that you submit your appeal.

The University will not contact third parties (e.g. doctors, tutors, police, School or University departments) to obtain this evidence for you.

If you are stating that your circumstances and your appeal related to a Protected Characteristic, it is important that you provide evidence of this too.

I can’t get evidence right now – can I appeal anyway?

If you are unable to present evidence with your appeal, you should detail why the evidence has not been included and indicate when it will be provided. The Head of Student Cases will consider if it is appropriate to allow you additional time to provide the evidence.


 

What Happens Next?

What if my appeal is rejected? Can I challenge this decision?

If your appeal is rejected, you can request a review of this decision using the University’s Review Procedure.

You have 14 days from receiving the decision of your Academic Appeal in which to apply for a review. We would strongly advise you to be proactive in engaging with this procedure so that you do not miss the deadline.

If your application for a review is rejected, and you feel that this is unreasonable given the detail, evidence and circumstances of your appeal, you may be able to appeal through the OIA (Office of the Independent Adjudicator). If this is a course of action that you need to pursue please contact an adviser.

Apeliadau Academaidd

Croeso i dudalennau Apeliadau Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Yma dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â Pholisi a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol ac arweiniad ar gyflwyno apêl academaidd llwyddiannus.

 

Rydym wedi rhannu'r wybodaeth ac adnoddau gall fod eu hangen arnoch i'r tudalennau isod.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

Derbyn Eich Canlyniadau

Rwyf newydd dderbyn fy nghanlyniad, pryd alla i apelio?

Mae pob canlyniad yn ddarpariaethol nes ei fod wedi’i gadarnhau gan fwrdd arholi. Fel arfer, bydd byrddau arholi yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn, tua Mai/Mehefin ac yna Awst/Medi ar gyfer arholiadau ailsefyll. Mae'r Weithdrefn Apeliadau ond yn eich caniatáu i apelio yn erbyn canlyniad sydd wedi'i gadarnhau gan fwrdd arholi.

 

Gallwch gyflwyno apêl academaidd o fewn 28 diwrnod wedi derbyn eich trawsgrifiad canlyniadau swyddogol. Mae trawsgrifiadau canlyniadau swyddogol fel arfer yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin/Gorffennaf dros e-bost, ac maent hefyd ar gael o fewn adran Trawsgrifiadau eich cyfrif SIMS.

 

Rhy gynnar i apelio: Os fyddwch yn derbyn canlyniad yng nghyfnod asesu mis Ionawr, neu unrhyw bryd cyn i'r bwrdd arholi gyfarfod, ac nid ydych yn hapus, bydd angen i chi aros tan yn hwyrach yn y flwyddyn er mwyn cyflwyno apêl. Os fyddwch yn clicio ar y tab 'rheoli/cyflwyno apêl' ar eich cyfrif SIMS, ac nid ydych wedi derbyn eich canlyniadau ffurfiol eto, fe welwch fod neges yn egluro hyn. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rydym yn eich cynghori'n gryf i gadw unrhyw dystiolaeth yn ddiogel fel y gallwch ei defnyddio i gefnogi eich apêl yn nes ymlaen.

 

Yn bwysig, os ydych chi'n ystyried apelio ar sail amgylchiadau esgusodol ac nid ydych wedi rhoi gwybod am y rhain eto, rydym yn eich cynghori'n gryf i geisio eu hadrodd ar unwaith a gweld beth mae eich ysgol yn ei ddweud.

 

Rhy hwyr i apelio: Os fyddwch yn colli'r cyfnod o 28 diwrnod, gallwch barhau i gyflwyno apêl academaidd, ond bydd yn rhaid i chi gysylltu ag Achosion Myfyrwyr a rhoi rheswm da iawn dros fethu'r dyddiad cau cychwynnol. Os fernir nad yw’ch rheswm yn ddigon da, bydd eich apêl yn cael ei gwrthod. Cyfeiriwch at yr adran apeliadau hwyr ar ein tudalen Broses Apelio am wybodaeth ar sut i gyflwyno apêl hwyr.

 

Os ydych yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr i apelio ac angen cyngor pellach ar hyn, cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr.

Nid wyf yn deall fy nhrawsgrifiad, beth mae'r codau yn eu golygu?
Côd Ystyr
P Asesiad wedi’i basio
F Asesiad wedi’i fethu
X Absennol o'r asesiad heb achos da
A Amgylchiadau esgusodol a dderbyniwyd nad sydd wedi cael eu datrys ar gyfer yr asesiad
B Amgylchiadau esgusodol a dderbyniwyd yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig nad sydd wedi cael eu datrys ar gyfer yr asesiad
UA Camymddwyn academaidd wedi'i gadarnhau ar gyfer yr asesiad
UM Camymddwyn academaidd wedi'i gadarnhau ar gyfer y modiwl
XW Wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen astudio
I Amhariad ar astudiaethau
T Trosglwyddo rhaglen
OA Disgwyl canlyniad
D Asesiad wedi'i effeithio gan weithredu diwydiannol
Z Aflwyddiannus mewn asesiad ffurfiannol
A all fy ngwaith cael ei ail-farcio?

Mae Rheoliadau Academaidd Prifysgol Caerdydd yn nodi'n glir na all myfyrwyr herio dyfarniad academaidd. Nid yw'n bosibl gofyn am ail-farcio, nac ail farn ar eich asesiad.

 

Os ydych chi'n credu bod gwall rhifyddol wrth gyfrifo'ch marc, gallwch ofyn iddo gael ei wirio. Gallwch gysylltu â'ch ysgol yn anffurfiol yn gyntaf a thrafod y mater gyda nhw. Os nad yw'r ysgol yn gallu datrys hyn yn anffurfiol, gallwch gyflwyno apêl i gael y cyfrifiad wedi’i wirio.

Rwy'n credu bod fy narlithydd wedi rhoi marc isel i mi'n fwriadol. Sut allaf herio hyn?

Nid oes polisi o fewn Rheoliadau Academaidd Prifysgol Caerdydd sy’n galluogi myfyrwyr i herio barn academaidd. Nid yw'n bosibl gofyn am ail-farcio, nac ail farn ar eich asesiad.

 

Os oes gennych dystiolaeth i awgrymu eich bod wedi profi anghysondeb yn y canllawiau a/neu adborth gwnaethoch dderbyn yn ymwneud â'r asesiad, a allai fod wedi eich camarwain i ennill marc isel, yna efallai gallwch apelio.

Rwy’n ailsefyll asesiad, a fydd yn cael ei gapio i’r marc pasio?

Os ydych wedi methu asesiad, efallai y bydd gofyn i chi ailsefyll er mwyn symud ymlaen at y lefel nesaf.

 

Os gynhaliwyd yr asesiad gwnaethoch fethu cyn mis Mawrth bydd y marc yn cael ei gapio.

 

Efallai na fydd hyn yn wir os wnaethoch gyflwyno amgylchiadau esgusodol ar gyfer yr asesiad dan sylw. Os nad ydych yn siŵr bod cydnabyddiaeth o’r amgylchiadau esgusodol wedi’i gosod ar gyfer yr asesiad, byddem yn eich cynghori i gyfeirio'n ôl at yr ohebiaeth amgylchiadau esgusodol a gawsoch gan eich ysgol, neu i gysylltu â'ch ysgol am eglurhad.

 

Os gawsoch amgylchiadau esgusodol yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig wedi’u derbyn, efallai eich bod wedi cael cynnig ailsefyll asesiad gwnaethoch basio. Os felly, y bwriad yma yw rhoi cyfle i chi wella eich marc.

 

Os fethoch asesiad a gynhaliwyd wedi mis Mawrth gall y Polisi Rhwyd Diogelwch fod yn berthnasol. Os felly, caniateir ymgais arall ond bydd rhif yr ymgais yn aros yr un peth h.y. os ydych wedi methu modiwl ar yr ymgais gyntaf, bydd y rhif ymgais ailsefyll yn aros ar ymgais un ac ni fydd y marc ailsefyll yn cael ei gapio ar y marc pasio isaf. Os mai hwn yw eich ail ymgais ar y modiwl, bydd y rhif ymgais ailsefyll yn aros ar ymgais dau ond bydd y marc yn parhau i gael ei gapio ar y marc pasio.

Dyma fydd fy ymgais olaf ar yr asesiad, beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Os ydych yn fyfyriwr is-raddedig, ac wedi methu eich ail ymgais ar fodiwl wedi mis Mawrth, bydd y rhif ailsefyll yn aros ar ymgais dau a bydd y marc yn parhau i gael ei gapio ar y marc pasio.

 

Os gynhaliwyd eich dau ymgais gyntaf ar yr asesiad hwn cyn mis Mawrth, gellir ystyried hyn yn drydedd ymgais a'r olaf ar gyfer y modiwl, oni bai eich bod yn derbyn addasiad gan fwrdd arholi drwy'r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol. Os fyddwch yn methu'ch ymgais olaf ar y modiwl, efallai y cewch eich tynnu'n o'ch cwrs.

 

Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig, ac wedi methu eich ymgais gyntaf ar fodiwl wedi mis Mawrth, bydd y rhif ailsefyll yn aros ar ymgais un a bydd y marc yn parhau heb ei gapio.

 

Os gynhaliwyd eich ymgais gyntaf ar yr asesiad cyn mis Mawrth, gellir ystyried hyn fel ail ymgais a'ch ymgais olaf ar gyfer y modiwl, oni bai eich bod derbyn addasiad gan fwrdd arholi drwy'r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol. Os fyddwch yn methu'ch ymgais olaf ar y modiwl, efallai y cewch eich tynnu o'ch cwrs.

Nawr fod gen i fy nghanlyniadau, rwyf am apelio yn erbyn modiwl o'r llynedd er mwyn gwella fy marc terfynol, sut alla i wneud hyn?

Gallwch gyflwyno apêl academaidd ar gyfer asesiadau a gynhaliwyd mewn blwyddyn academaidd flaenorol, fodd bynnag ystyrir hyn fel apêl hwyr gan y dylech fod wedi apelio o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich trawsgrifiad swyddogol yn y flwyddyn academaidd honno. Byddem yn eich cynghori i wneud apêl hwyr cyn gynted â phosibl.

 

Mae angen cyflwyno apêl hwyr yn ysgrifenedig i'ch Pennaeth Achosion Myfyrwyr. Wrth gyfathrebu bydd angen i chi gynnwys rheswm dros pam nad oedd yn bosibl neu'n rhesymol i chi gyflwyno'ch apêl o fewn y terfyn amser. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch esboniad.


 

Y Weithdrefn Apelio

Pa mor hir mae'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd yn ei chymryd?

Mae'r Rheoliadau Academaidd yn nodi y gall y Withdrefn Apeliadau gymryd tua 90 diwrnod.

Rydw i fod graddio ym mis Awst. A fydd fy apêl yn cael ei phrosesu erbyn hynny?

Mae'r Weithdrefn Apeliadau fel arfer yn cymryd tua 90 diwrnod o'r dyddiad y byddwch yn cyflwyno eich apêl.

 

Os fyddwch yn cyflwyno apêl o dan sail un, bydd canlyniad yr apêl fel arfer yn cael ei ryddhau yn gynt na'r amserlen benodedig.

 

Os ydych yn eich blwyddyn olaf a'ch bod wedi methu asesiad, ni fyddwch yn gallu graddio nes eich bod wedi cwblhau nifer briodol o gredydau yn llwyddiannus. Os fyddwch yn cyflwyno apêl o dan sail dau neu dri, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi ailsefyll yr asesiad dan sylw cyn y gallwch raddio. Ni fydd yr asesiad hwn yn cael ei gapio tra byddwch yn disgwyl canlyniad eich apêl.

 

Os ydych fod graddio a'ch bod yn apelio gradd wedi'i basio gyda'r bwriad o gael credydau wedi’u hail-ystyried, mae'n debygol y byddwch chi'n dal i raddio. Fodd bynnag, efallai y bydd dosbarth eich gradd yn newid hyd nes y byddwch yn derbyn canlyniad eich apêl, a bydd tystysgrif gradd newydd yn cael ei hanfon atoch.

Mae 90 diwrnod yn rhy hir, a oes modd cyflymu’r broses?

Yn ôl Gweithdrefn Apeliadau Academaidd 19/20 ni allwch ofyn i apeliadau unigol gael eu cyflymu.

Pa asesiadau alla i apelio?

Os ydych eisiau, gallwch apelio'r holl asesiadau ar eich trawsgrifiad. Fodd bynnag, gallwch ond gyflwyno apêl academaidd o dan un o’r rhesymau penodol a amlinellir yn y Weithdrefn Apeliadau Academaidd. Os nad yw eich apêl yn cydfynd ag un o'r rhesymau hyn, efallai na fydd y Brifysgol yn ei hystyried. Os ydych yn credu bod gennych reswm priodol dros apelio, ond nid yw'n cyd-fynd ag unrhyw un o'r seiliau penodedig, awgrymwn eich bod yn siarad ag un o'n cynghorwyr.

 

Gallwch hefyd gyflwyno apêl academaidd ar gyfer asesiadau neu ganlyniadau modiwlau a gawsoch mewn blynyddoedd academaidd blaenorol, ond byddai hyn yn cael ei hystyried yn apêl hwyr. Wrth gyflwyno apêl hwyr, mae angen i chi ddarparu rheswm da iawn dros fethu'r dyddiad cau gwreiddiol.

A fydd fy apêl yn effeithio ar fy mherthynas gyda'r Brifysgol?

Mae'r broses apeliadau academaidd wedi'i gynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr herio eu marciau yn unol â seiliau penodol. Rydym yn deall y gallech fod yn amharod i fynegi anfodlonrwydd â'ch profiad rhag ofn y bydd yn effeithio ar eich asesiadau yn y dyfodol.

 

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd rydych yn ddefnyddiwr gwasanaeth. Mae'n bwysig eich bod yn gallu apelio yn erbyn canlyniad nad ydych yn hapus ag ef, ac ni ddylech dderbyn rhagfarn neu wahaniaethu am wneud hynny.

 

Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn anffafriol o ganlyniad i apêl, ystyriwch ymgysylltu â Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol.

Pa ddatrysiadau gallaf eu derbyn o'r Weithdrefn Apeliadau?

Gan ddefnyddio'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd gallwch ofyn am ddatrysiadau academaidd:

 

  • Ar gyfer Apeliadau Sail 1: Dylid diwygio'r gwall a dylid diwygio unrhyw benderfyniad ar ddilyniant neu wobr yn unol â hynny
  •  

  • Ar gyfer Apeliadau Sail 2: Gall y Brifysgol diystyru marciau asesu lle ceir diffyg neu anghysondeb. Efallai y byddant hefyd yn gallu cynnig cyfle i chi ailsefyll yr asesiad ar gyfer marc uwch.
  •  

  • Ar gyfer Apeliadau Sail 3: Os dderbynnir eich amgylchiadau esgusodol, bydd eich achos yn cael ei gyfeirio yn ôl at fwrdd arholi wedi'i ailymgynnull a all:
    • Diystyru unrhyw ymdrechion a fethwyd a chaniatáu ymgais arall - cyntaf, ail neu drydydd (yn dibynnu ar ba un yr oeddech arno).
    • Diystyru marciau ar gyfer asesiadau yr ydych wedi'u pasio wrth gyfrifo eich dosbarthiad. Ar gyfer 2019/20, mae'r rheol hon ond yn berthnasol i amgylchiadau esgusodol cyn mis Mawrth - oni bai bod eich amgylchiadau'n ymwneud â nodwedd warchodedig.
    • Os yw eich amgylchiadau'n ymwneud â nodwedd warchodedig, gall y bwrdd hefyd gynnig cyfle i chi ailsefyll asesiad rydych eisoes wedi'i basio, gyda'r bwriad o wella eich marc.
    • Ni all y bwrdd arholi gynyddu eich marciau o ganlyniad i'ch amgylchiadau esgusodol.

 

Ni allwch dderbyn datrysiad gwleidyddol neu ariannol o'r Weithdrefn Apeliadau. Os ydych yn edrych am ganlyniad nad sydd wedi'i amlinellu uchod, efallai y byddai'n briodol i chi ymgysylltu â Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol yn ogystal â, neu yn lle, y Weithdrefn Apeliadau Academaidd.

A oes modd derbyn datrysiad ariannol?

Nac oes. Os ydych yn edrych am ddatrysiad ariannol, efallai y byddai'n briodol i chi ymgysylltu â Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol yn ogystal â, neu yn lle, y Weithdrefn Apeliadau Academaidd.

Oes rhaid i mi dalu i apelio?

Nac oes. Mae'r Weithdrefn Apeliadau ar agor i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n anhapus gyda'u canlyniadau. Nid oes angen i chi dalu i gyflwyno apêl academaidd.

 

Os, o ganlyniad i'ch apêl, y cewch gyfle i ailsefyll asesiad yn y flwyddyn academaidd nesaf, efallai y bydd hyn yn arwain at ffioedd ychwanegol. Efallai y bydd y Tîm Cyngor Ariannol yn gallu eich cynghori os yw hyn yn wir.

 

Yn ogystal, os ydych chi eisiau cyngor cyfreithiol proffesiynol pellach i gefnogi'ch apêl, efallai y gallwch dalu darparwr annibynnol ond nid yw hyn yn ofyniad angenrheidiol ar gyfer y Weithdrefn Apeliadau Academaidd.

Oes rhaid i mi dalu i ailsefyll?

Nid oes costau ychwanegol ar gyfer ailsefyll asesiad yng nghyfnod ailsefyll mis Awst.

 

Ond, os o ganlyniad i'ch apêl cewch gyfle i ailsefyll asesiad yn y flwyddyn academaidd nesaf, efallai y bydd hyn yn arwain at ffioedd ychwanegol. Gall ffioedd dysgu amrywio yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn fel myfyriwr mewnol neu allanol.

 

Efallai y bydd y Tîm Cyngor Ariannol yn gallu eich cynghori os yw hyn yn wir.


 

Ysgrifennu Eich Apêl

Nid Saesneg yw fy iaith gyntaf, a all rhywun ysgrifennu fy apêl ar fy rhan?

Yn anffodus, nid yw Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu neu wirio apeliadau.

 

Rydym yn darparu ystod o adnoddau, gan gynnwys cyfres o dudalennau gwe manwl, fideos defnyddiol ar apeliadau, ac adnodd i'ch helpu i ysgrifennu a strwythuro eich apêl yn effeithiol.

 

Os ydych chi'n teimlo na allwch ysgrifennu apêl effeithiol oherwydd rhwystr iaith dylech ofyn am gymorth proffesiynol a chyfreithiol. Sylwer, mae’n rhaid cyflwyno pob apêl yn Gymraeg neu Saesneg.

Beth yw'r Generadur Apeliadau?

Mae Cyngor i Fyfyrwyr wedi creu'r Generadur Apeliadau i gynorthwyo myfyrwyr wrth ysgrifennu eu hapeliadau.

 

Bydd y ffurflen ar-lein yn eich gofyn am holl fanylion eich apêl, ac yna bydd yn anfon e-bost atoch gydag atodiad sy'n cynnwys drafft. Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r broses ysgrifennu apêl, ond ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd eich apêl yn cael ei chymeradwyo'n awtomatig oherwydd hyn. Yn gyntaf dylech edrych ar ein tudalennau Ysgrifennu Eich Apêl.

Beth yw nodwedd warchodedig?

Mae nodweddion gwarchodedig yn gategorïau a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os yw eich apêl yn ymwneud ag amgylchiadau sydd wedi cael eu heffeithio gan nodwedd warchodedig, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth neu ddatrysiadau ychwanegol.

 

Os ydych yn credu bod eich astudiaethau wedi cael eu heffeithio gan amgylchiadau esgusodol sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig, byddem yn eich cynghori i sôn am hyn yn eich apêl.

Oes angen tystiolaeth arnaf?

Fel arfer, mae'n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi popeth a ddywedwch yn eich apêl. Yn ddelfrydol, dylai tystiolaeth fod yn annibynnol a chefnogi pob elfen o'ch dadl.

 

Eich cyfrifoldeb chi yw darparu'r holl dystiolaeth a gwybodaeth yr ydych am gael ei hystyried pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.

 

Ni fydd y Brifysgol yn cysylltu â thrydydd parti (e.e. meddygon, tiwtoriaid, yr heddlu, adrannau ysgol neu brifysgol) i gasglu'r dystiolaeth hon ar eich rhan.

 

Os ydych yn datgan bod eich amgylchiadau a'ch apêl yn ymwneud â nodwedd warchodedig, mae'n bwysig eich bod yn darparu tystiolaeth o hyn hefyd.

Ni allaf gasglu tystiolaeth ar hyn o bryd - a allaf apelio beth bynnag?

Os na allwch gyflwyno tystiolaeth gyda'ch apêl, dylech nodi pam nad yw'r dystiolaeth wedi'i chynnwys a nodi pryd y bydd yn cael ei darparu. Bydd y Pennaeth Achosion Myfyrwyr yn ystyried a yw'n briodol caniatáu amser ychwanegol i chi ddarparu'r dystiolaeth.


 

Y Camau Nesaf

Beth os yw fy apêl yn cael ei gwrthod? A allaf herio'r penderfyniad?

Os wrthodir eich apêl, gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad gan ddefnyddio Gweithdrefn Adolygu’r Brifysgol.

 

Mae gennych 14 diwrnod o dderbyn penderfyniad eich apêl academaidd i wneud cais am adolygiad. Byddem yn eich cynghori'n gryf i fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r weithdrefn hon fel na fyddwch yn methu'r dyddiad cau.

 

Os wrthodir eich cais am adolygiad, a'ch bod yn teimlo bod hyn yn afresymol o ystyried manylion, tystiolaeth, ac amgylchiadau eich apêl, efallai y gallwch apelio drwy'r Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA). Os yw hwn yn gam gweithredu y mae angen i chi ei ddilyn, cysylltwch â chynghorydd.