Welsh Translations for Clubs and
Societies
Here at Cardiff University we have a thriving community of Welsh speaking students. Your Society could benefit and appeal to a wider range of audience using bilingual promotion. We encourage all societies to use the Welsh Language within their communications.
What sort of stuff could you translate?
- Social Media posts (Posting some key messages in both languages)
- Posters / Screens around the building
- Power points at major events
- Promotional material for Freshers’ Fayres such as leaflets or posters.
At the Students’ Union we have a Welsh Language Policy and we are here to facilitate committees and societies to use the Welsh Language within the society.
We offer a free translation service (up to 500 words) to clubs, societies, associations and student led services for publicity materials:
Key words and sentences in Welsh for sports clubs
Welsh Sports Clubs Key Words
This document contains some of the key words and sentences you use as a sports club. Please download this document and try to use it when you create your social media posts or other shared materials.
If there is something not included here, you can follow the process below to use our free translation service.
The process of receiving translations
- Send your translation to greenhalghm3@cardiff.ac.uk with the subject (Society Name – Translation Request)
- For anything under 50 words, you will receive back in 2 working days. For anything between 50 – 100 words you will receive back in 3 working days. Up to 500 words you will receive by in 5 working days.
- To avoid disappointment (if our Welsh Translator is away on annual leave) please send the translation 7 days in advance.
- There will be no charge for your society for this service.
Additionally, if you would like us to proof-read a translation that you may already have for your society, please use the same process above.
Cyfieithu Cymraeg ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau
Yma ym Mhrifysgol Caerdydd mae gennym gymuned lewyrchus o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Gall eich Cymdeithas elwa ac apelio at ystod ehangach o fyfyrwyr gan ddefnyddio deunydd hyrwyddo dwyieithog. Rydym yn annog pob cymdeithas i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu cyfathrebu.
Pa fath o bethau allech chi eu cyfieithu?
- Cynnwys cyfryngau cymdeithasol (Gan bostio negeseuon allweddol yn y ddwy iaith)
- Posteri / Sgriniau o amgylch yr adeilad
- Powerpoints ar gyfer digwyddiadau mawr
- Deunydd hyrwyddo ar gyfer Ffeiriau’r Glas fel posteri a thaflenni.
Yn Undeb y Myfyrwyr mae gennym Bolisi Iaith Gymraeg ac rydym yma i hwyluso pwyllgorau a chymdeithasau i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu cymdeithasau.
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu am ddim i glybiau, cymdeithasau a gwasanaethau dan arweiniad myfyrwyr.
Geirfa a brawddegau allweddol yn Gymraeg ar gyfer clybiau chwaraeon
Geirfa Cymraeg Allweddol Clybiau Chwaraeon
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys rhai o'r geiriau a brawddegau allweddol rydych yn eu defnyddio fel clybiau chwaraeon. Lawrlwythwch y ddogfen a cheisiwch ei defnyddio pan fyddwch yn rhannu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu'n creu posteri.
Os nad yw rhywbeth wedi'i gynnwys yma, gallwch ddilyn y broses isod i ddefnyddio ein gwasanaeth cyfieithu am ddim.
Y broses o dderbyn cyfieithiadau
- Anfonwch eich cyfieithiad at greenhalghm3@cardiff.ac.uk a rhowch 'Enw'r Gymdeithas — Cais am Gyfieithiad' yn y llinell pwnc
- Ar gyfer unrhyw beth o dan 50 gair, byddwch yn ei dderbyn yn ôl mewn 2 ddiwrnod gwaith. Ar gyfer unrhyw beth rhwng 50 — 100 gair byddwch yn ei dderbyn yn ôl mewn 3 diwrnod gwaith ac yn y blaen.
- Er mwyn osgoi cael eich siomi (os yw ein Cyfieithydd Cymraeg i ffwrdd ar wyliau blynyddol) anfonwch y cyfieithiad 7 diwrnod ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
- Ni chodir tâl i'ch cymdeithas am y gwasanaeth hwn.
Os hoffech i ni brawf-ddarllen cyfieithiad y gall fod gennych chi'n barod i'ch cymdeithas, defnyddiwch yr un broses ag uchod os gwelwch yn dda.