Beth yw Rho Gynnig Arni?
Mae Rho Gynnig Arni yn rhaglen o weithgareddau sy’n galluogi i chi gael blas ar bethau newydd a phrofi beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig. Mae dau fath o ddigwyddiadau, rhai a arweinir gan ein grwpiau myfyrwyr (clybiau, cymdeithasau, grwpiau gwirfoddoli a grwpiau cyfryngau), a rhai sydd dan arweiniad yr UM. Mae’r UM yn rhedeg nifer o sesiynau Rho Gynnig Arni, y rhan fwyaf yn deithiau ar draws y DU - rydym yn ymweld â llefydd megis Côr y Cewri, Rhydychen a’r Arfordir Jwrasig am brisoedd fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnal teithiau hirach i ddinas brydferth a hanesyddol Caeredin a chefn gwlad Gogledd Cymru.
Mae ein clybiau, cymdeithasau, grwpiau gwirfoddoli a grwpiau cyfryngau yn cael eu rhedeg gan fyfyrwyr gwirfoddol gwych ac mae rhywbeth at ddant pawb – gyda chwaraeon o bêl-droed i ffrisbi neu gymdeithasau o rai diwylliannol i’r gymdeithas bobi neu'r gymdeithas gwin a chaws. Mae eu sesiynau Rho Gynnig Arni yn eich galluogi i ‘drio cyn prynu’ fel y gallwch gwrdd â’r gymdeithas a chael blas ar yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Gallwch ddod o hyd i’r holl sesiynau Rho Gynnig Arni ar y dudalen hon.
Oes angen i mi fod yn aelod o Rho Gynnig Arni er mwyn cymryd rhan?
Na! Yr hyn sy’n wych am Rho Gynnig Arni yw eich bod yn gallu trio rhywbeth newydd heb fod yn aelod er mwyn cael blas arni. Ni fydd angen aelodaeth ar gyfer digwyddiadau a drefnir gan yr UM, ond er mwyn aros yn rhan o gymdeithas tu hwnt i sesiynau Rho Gynnig Arni, bydd angen aelodaeth arnoch. Bydd y grwpiau yn eich rhoi gwybod i chi am sut i wneud hyn.
Ar dudalen Rho Gynnig Arni, mae rhestr o ddigwyddiadau wedi’i rannu’n ddau ran. Mae’r digwyddiadau a drefnir gan yr UM ar frig y dudalen a’r rhai gan fyfyrwyr isod. Mae penawdau clir yn eu gwahanu.
Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer teithiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni?
Rhaid i chi fewngofnodi i’r wefan trwy glicio ar yr eicon siâp person yn y gornel dde ar frig y dudalen.
Gallwch ddod o hyd i holl sesiynau Rho Gynnig Arni ar y dudalen hon.
Cliciwch ar ‘Prynu Tocynnau’, ac fe gewch chi neges yn eich cyfeirio at y fasged. O’r fasged, gallwch brynu’ch tocyn. Os hoffech barhau i edrych ar y wefan a mynd at eich basged yn hwyrach, gallwch ddod o hyd i’r fasged yn y gornel dde ar frig y dudalen.
Sut allaf gael gafael ar fy nhocyn?
Bydd E-docyn yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio i gofrestru.
Os nad ydych yn derbyn yr e-bost hwn, cysylltwch â giveitago@caerdydd.ac.uk.
Oes rhestr o’r cymdeithasau, clybiau, grwpiau gwirfoddoli a grwpiau cyfryngau?
Oes hawl gan fyfyrwyr allanol gofrestru ar gyfer gweithgareddau/teithiau Rho Gynnig Arni?
Os mai Undeb y Myfyrwyr sy’n trefnu, gall fyfyrwyr allanol fynychu teithiau diwrnod a digwyddiadau. Os yw myfyriwr allanol yn awyddus i ddod ar daith dros nos, e-bostiwch giveitago@caerdydd.ac.uk ac fe fydd y tîm yn ystyried eich cais.
Os yw’r daith/digwyddiad yn cael ei drefnu gan grŵp o fyfyrwyr, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.
Sut ydw i'n prynu tocyn os nad wyf yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd?
Gallwch greu cyfrif gwestai yma.
Cliciwch ar y botwm ‘Creu cyfrif gwestai’ pinc tuag at waelod y dudalen.
Gallwch wedyn brynu tocyn yn y ffordd arferol. Gweler ‘Sut ydw i’n archebu lle ar deithiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni?’ am fanylion ar sut i wneud hyn.
Beth sydd angen arna i?
Os oes angen i chi ddod ag unrhyw beth, bydd y dudalen we yn eich hysbysu o hyn neu fe dderbyniwch e-bost gyda mwy o fanylion.
Rwy’n ceisio prynu tocyn ond mae’r wefan yn dweud ‘Terfyn cynnyrch wedi’i gyrraedd’. Beth mae hyn yn ei olygu?
Golyga hyn bod y daith neu’r digwyddiad wedi gwerthu allan.
Os mai Undeb y Myfyrwyr sy’n trefnu’r digwyddiad, gallwch gofrestru ar gyfer y rhestr aros yma.
Os yw’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan fyfyrwyr, cysylltwch â’r grŵp yn uniongyrchol i’w hysbysu eich bod eisiau mynychu. Bydd gan bob grŵp proses rhestr aros eu hunain.
Oes modd i mi brynu tocyn mewn person?
Oes, gallwch brynu tocyn o’r UM ar gampws Cathays.
Gwerthir tocynnau o’r swyddfa gyllid, sydd ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr. O’r grisiau, trowch i’r chwith ar y trydydd llawr gan fynd heibio’r swyddfa wydr gron, a pharhau i’r chwith trwy’r ardal swyddfa. Mae arwydd oren amlwg tu allan i’r swyddfa gyllid sydd ar ddiwedd y coridor.
Mae’r adran gyllid ar agor 10yb – 4yh yn ystod yr wythnos.
Mae desg Rho Gynnig Arni ar yr un coridor gydag arwydd gwyrdd, felly croeso i chi alw mewn i holi unrhyw gwestiynau. Os ydych yn ansicr o hyd, bydd y Ganolfan Groeso fwy na hapus i’ch helpu.
Nid yw fy ngharden banc yn gweithio ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Beth ddylwn i ei wneud?
Y prif reswm tu ôl hyn yw bod y cyfeiriad anghywir yn cael ei ddefnyddio wrth wirio’r gwerthiant. Os yw eich carden wedi’i gofrestru i’ch cartref teulu neu gyfeiriad y tu allan i Gaerdydd, rhowch gynnig ar ddefnyddio’r cyfeiriad hwn yn lle. Os nad yw hyn yn gweithio, awgrymwn eich bod yn prynu tocyn mewn person neu dros y ffôn ar 029 2078 1512.
Rheswm arall y bod rhai trosglwyddiadau’n cael eu marcio’n dwyllodrus. Gall hyn ddigwydd os yw'r pryniant yn fwy nag un y byddech fel arfer yn ei wneud ar-lein. Mae hyn tu hwnt i reolaeth Undeb y Myfyrwyr ac awgrymwn eich bod yn prynu tocyn mewn person neu dros y ffôn ar 029 2078 1512 yn yr achos hwn.
Rwy’n cael trafferth mewngofnodi i wefan Undeb y Myfyrwyr i brynu tocyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Yn gyntaf, ewch i'n tudalen cymorth mewngofnodi yma.
Os na chewch ateb i’ch cwestiwn yma, e-bostiwch SUweb@caerdydd.ac.uk am gymorth.
Efallai yr hoffech brynu tocyn mewn person tra bod y tîm gwe yn mynd i'r afael â'r mater. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn o dan ‘Oes modd i mi brynu tocyn mewn person?’
Oes modd cael ad-daliad?
Os mai’r UM sy’n trefnu’r daith, nid oes modd i chi gael ad-daliad. Er hyn, efallai y gallwch drosglwyddo eich tocyn i daith arall. Gweler ein ‘Amodau a Thelerau’ am fwy o fanylion.
Os yw’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan fyfyrwyr, cysylltwch â’r grŵp yn uniongyrchol.
Sut ydw i’n cysylltu â Rho Gynnig Arni?
Y ffordd orau i gysylltu â Rho Gynnig Arni gydag ymholiadau arferol yw dros e-bost.
E-bost: giveitago@caerdydd.ac.uk
Ffôn: 029 2078 1411
Instagram: @giveitagocsu
Oriau agor swyddfa Rho Gynnig Arni: Llun-Gwe, 9yb – 5yh
A fydd y daith neu ddigwyddiad yn cael ei ohirio mewn tywydd gwael?
Bydd teithiau a drefnir gan yr UM yn rhedeg beth bynnag yw’r tywydd – dyma’r DU wedi’r cyfan! Gwisgwch ddillad addas a dewch â chot law neu ymbarél.
Yn amlwg, mewn tywydd eithriadol, byddwn yn gohirio teithiau am resymau iechyd a diogelwch. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu dros e-bost cyn gynted â phosibl. Byddwch yn cael gwybod am eich opsiynau, sy'n debygol o gynnwys symud i daith arall, dyddiad newydd ar gyfer y daith neu ad-daliad llawn. Bydd ad-daliad llawn bob amser yn cael ei gynnig.
Gall sesiynau a gynhelir gan grwpiau myfyrwyr fod yn ddibynnol ar y tywydd. Cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost a chysylltwch â’r grŵp yn uniongyrchol os nad ydych yn siŵr a yw'r digwyddiad yn mynd yn ei flaen.
Telerau ac Amodau
Dyma ein telerau ac amodau sylfaenol ar gyfer teithiau dydd. Bydd gan bob taith delerau ac amodau wedi'u rhestru ar dudalen y digwyddiad. Os bydd unrhyw anghysondebau, mae'r telerau ac amodau ar dudalen y digwyddiad yn diystyru'r rhai isod.
Mae'r amseroedd a restrir ar y digwyddiad yn nodi’r adeg y bydd y bws yn gadael Undeb y Myfyrwyr yn y bore, a’r amser bras y bydd yn cyrraedd yn ôl i Gaerdydd. Mae amseroedd cyrraedd yn ôl yn ddibynnol ar draffig, tywydd ac amodau'r ffordd, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, gan olygu na allwn gadarnhau’r union amser dychwelyd.
Bydd y teithiau yn mynd yn eu blaen beth bynnag yw'r tywydd, felly paratowch. Nid yw hyn yn cynnwys tywydd eithafol neu beryglus; byddem wrth gwrs yn gohirio er lles eich diogelwch. Yn yr achos hwn, byddwch yn cael cynnig ad-daliad llawn neu ddyddiad wedi'i aildrefnu (lle mae'n bosibl aildrefnu).
Nid yw unrhyw ddigwyddiadau Rho Gynnig Arni yn cynnig ad-daliad. Pan fyddwch yn cofrestru, rydym yn talu'ch arian yn uniongyrchol i'r cwmni bysiau a/neu'r atyniad, felly rydym wedi ein rhwymo i’r rheolau ad-dalu hyn. Yn yr achos prin iawn y mae angen i ni ganslo taith, byddwch wrth gwrs yn derbyn ad-daliad llawn (neu gyfle i drosglwyddo i daith arall).
Os na allwch fynychu’r daith bellach, efallai y bydd cyfle i drosglwyddo eich tocynnau i daith arall. Bydd hyn yn cael ei wneud fesul achos gan y tîm gweithgareddau ac nid yw wedi’i warantu. Bydd ffi weinyddol o £5 i newid teithiau, ynghyd â'r gwahaniaeth yn y pris os yw'r daith rydych yn ei throsglwyddo i yn costio mwy na’r tocyn gwreiddiol. Ni chaniateir trosglwyddo tocynnau ar ôl 3yh ar y diwrnod gwaith olaf cyn y daith. I holi am drosglwyddo eich tocyn, e-bostiwch giveitago@caerdydd.ac.uk gyda'ch enw, rhif myfyriwr, y daith yr hoffech drosglwyddo ohoni a'r daith hoffech drosglwyddo iddi, a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Os na fyddwch yn dal y bws yn ôl wedi taith, rhowch wybod i'ch arweinydd. Os na fyddwch yn dal y bws yna, e-bostiwch giveitago@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 5yh ar y dydd Gwener cyn y daith. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd eich sedd yn cael ei cholli.