The Athletic Union

Welcome to the home of student sport at Cardiff University! We facilitate 70 student-led sports clubs and offer 5000+ students the opportunity to represent Cardiff regionally, nationally and beyond.

 

We primarily compete in BUCS (British Universities and Colleges Sport) whilst providing opportunities to compete at other prestigious competitions and events, both indoor and outdoor sports.

COME JOIN #TEAMCARDIFF, THE TOP RANKED WELSH UNIVERSITY IN BUCS

 

Membership

 

As part of the AU, you get the amazing opportunity to represent Cardiff University and join as many sports as you want! For a small fee, the AU provides all sorts of benefits to members including facility hire, BUCS affiliation, BUCS subsidy, insurance coverage, staff support and so much more!

 

Don’t know what sports club to join? Check out our Give It A Go programme!

 

Non-Cardiff University students can apply to join Sports Clubs as an Associate Member by completing this form and emailing it to the Students' Union Finance Department.

This product is not on sale.

Upcoming Events

How to join

Memberships are available to purchase from September - head to the Club pages below and the AU Fee will be applied to your first membership purchase.

 

Any questions? Come and see us on the 3rd floor of the Students' Union or contact us.

 

AWARDS

 

The Annual Athletic Union Awards ball will be taking place again on Wednesday 10th May 2023. There are 10 main awards on offer and additional individuals awards to recognize sporting success on and off the field.

 

PRODUCTS

 

This product is not on sale.

 

Sports Clubs

 

We are a fully inclusive institution providing activity for all abilities, but we advise that you contact Clubs prior to signing up to discuss commitments, additional costs and the timing of sessions. Also be aware that there may be limitations in capacity for a few of our more popular clubs linked solely to resources such as facilities, transport or instructor availability.

 

Check out Give It A Go or Trial sessions to get a taster before you join!

Yr Undeb Athletau

Croeso i gartref chwaraeon myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydym yn cynorthwyo 70 o glybiau dan arweiniad myfyrwyr ac yn darparu cyfleoedd i 5000+ o fyfyrwyr gynrychioli Caerdydd ar lefel rhanbarthol, cenedlaethol, neu du hwnt.

 

Rydym yn bennaf yn cystadlu yn BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) tra hefyd yn darparu cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau a digwyddiadau adnabyddus eraill, ar gyfer chwaraeon tu fewn a thu allan.

YMUNWCH Â #TÎMCAERDYDD, PRIFYSGOL UCHAF CYMRU YNG NGHYNGHRAIR BUCS

 

Aelodaeth

 

Fel rhan o'r UA cewch gyfleoedd anhygoel i gynrychioli Prifysgol Caerdydd ac ymuno â chymaint o glybiau a dymunwch! Am gost fach mae'r UA yn darparu pob math o fuddion i aelodau, gan gynnwys llogi cyfleusterau, aelodaeth BUCS, cymhorthdal BUCS, yswiriant, cefnogaeth staff, a llawer mwy!

 

Ddim yn gwybod pa glwb i ymuno â? Gwelwch pa sesiynau blasu sydd ar gael trwy Rho Gynnig Arni!

 

Gall myfyrwyr nad sy'n mynychu Prifysgol Caerdydd gwneud cais i ymuno â chlybiau chwaraeon fel Aelod Cyswllt trwy gwblhau'r ffurflen hon a'i he-bostio at Adran Gyllid Undeb y Myfyrwyr.

This product is not on sale.

Digwyddiadau i ddod

Sut i ymuno

Gallwch brynu aelodaeth o fis Medi ymlaen - ewch i dudalennau'r clybiau isod a bydd ffi'r UA yn cael ei hychwanegu at eich archeb aelodaeth gyntaf.

 

Unrhyw gwestiynau? Dewch i'n gweld ar 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr neu cysylltwch â ni.

 

GWOBRAU

 

Bydd dawns Gwobrau Blynyddol yr Undeb Athletau yn cael ei chynnal eto dydd Mercher 10fed Mai 2023. Mae yna 10 prif wobr a gwobrau unigol ychwanegol er mwyn cydnabod llwyddiannau ein hathletwyr ar y cae ac oddi arno hefyd.

 

NWYDDAU

 

This product is not on sale.

 

Clybiau Chwaraeon

 

Rydym yn sefydliad cynhwysol sy'n darparu gweithgareddau ar gyfer pob gallu, ond rydym yn argymell cysylltu â chlybiau cyn prynu aelodaeth er mwyn trafod ymrwymiadau, costau ychwanegol, ac amseroedd sesiynau hyfforddi. Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod gan rhai o'n clybiau mwyaf poblogaidd gyfyngiadau ar faint o bobl gallant dderbyn o ganlyniad i argaeledd adnoddau megis cyfleusterau, trafnidiaeth, neu hyfforddwyr.

 

Gwelwch pa sesiynau blasu sydd ar gael gyda Rho Gynnig Arni cyn ymuno!