Spanning both the Cathays and Heath Park campuses, the purpose-built SU building operates 24-hours a day and houses cafes, shops, bars, music venues, a letting agency and study spaces for students to make the most of their time at University.
Our address
Cardiff Students' Union
Park Place
Cardiff
CF10 3QN
Getting here
By road
Cardiff is served by the M4 and is easily accessible from all parts of the UK.
  • From the southwest, take the M5 and from the south of England, follow major A roads to the M4.
  • From Scotland, the north of England and the Midlands, travel via the M50 to the M4.
  • Travelling east on the M4. Leave the motorway at Junction 32, follow the A470, signposted City Centre, into the Cathays area of the city.
  • Travelling west on the M4. Leave the motorway at Junction 29, follow the A48(M)/A48, signposted Cardiff East and South, to the A470. Follow the A470, signposted City Centre, into the Cathays area of the city.
By rail
High speed inter-city trains provide frequent services between all major UK cities. The Cardiff-London service, from London Paddington, runs regularly throughout the day.
Frequent services also connect Cardiff with Bristol, Birmingham, Southampton, Manchester, Liverpool and with many other cities and towns.
From Cardiff Central Station there is a frequent train service which stops at Cathays Station, next to the Students' Union.
Visit the Transport for Wales website for further information.
By bus
Visit Cardiff Bus to plan your journey by bus within Cardiff.
If you’re travelling to Cardiff via bus from outside of the city, National Express and Megabus offer services that run regularly.
Accessibility
We want all visitors to our building to feel welcome when they visit us.
Accessing our building
The Students’ Union building can be accessed from both our Senghennydd Road entrance and our Park Place entrance.
If entering from Park Place - Cardiff University has installed a lift at the Park Place entrance to the Students’ Union. You will find this lift next to the entrance to the Centre for Student Life at the bottom of the steps to the Students’ Union. On exiting the lift, please use the automatic door located on the left to enter our Welcome Centre. Once inside the building, we have a lift that will take you to all other floors.
If entering from Senghennydd Road, you can use the lift from the Ground Floor to access all other floors in the building.
If you have any issues accessing the building, please call our Security Team on 029 2078 1412.
Disabled access at live music events
We operate a bookable balcony for all shows for those who have special accessible requirements, however it is operated on a first come, first served basis due to capacity limitations. It is often the case that we are unable to facilitate requests made on the night, but we will always aim to do what we can. Due to capacity restrictions, we can only reserve spaces for 1 user and 1 carer - if your requirements surpass this please let us know.
To book a space on the balcony you must FIRST purchase a ticket for the show for yourself, we can then offer you a complimentary carer ticket when requested in advance using the form below. All tickets are subject to availability and capacity. If the balcony is full, we will process a full refund for the ticket purchased so you won't be out of pocket. Please note carers may have a restricted view.
Requests must be made via our easy online booking system. Click here to access the booking system.
Speak to our Customer Service team
Email our Customer Service team at SUCustomerServices@cardiff.ac.uk.
Gyda phresenoldeb ar draws campysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, mae adeilad yr UM yn gweithredu 24 awr y dydd, ac mae’n cynnwys caffis, siopau, bariau, lleoliadau cerddoriaeth, asiant tai, ac ardaloedd astudio er mwyn i fyfyrwyr gwneud y mwyaf o’u hamser yn y Brifysgol.
Ein cyfeiriad
Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3QN
Cyrraedd yma
Car
Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd o’r rhan fwyaf o’r DU gan ddefnyddio’r M4.
  • O’r de-orllewin, dilynwch yr M5 cyn defnyddio heolydd A i gyrraedd yr M4.
  • O’r Alban, a gogledd a chanolbarth Lloegr, teithiwch ar hyd yr M50 i’r M4.
  • Wrth deithio tua’r dwyrain ar yr M4, gadewch y draffordd ar gyffordd 32, a dilynwch yr A470, gydag arwyddion Canol y Ddinas, at ardal Cathays.
  • Wrth deithio tua’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd ar gyffordd 29, gan ddilyn yr A48(M)/A48 ac arwyddion Dwyrain a Gogledd Caerdydd, tan i chi gyrraedd yr A470. Wedyn dilynwch yr A470, gydag arwyddion Canol y Ddinas, at ardal Cathays.
Trên
Mae trenau cyflym yn rhedeg yn gyson rhwng dinasoedd mawr y DU. Mae gwasanaeth Caerdydd-Llundain yn rhedeg yn gyson trwy gydol y dydd.
Mae gwasanaethau cyson hefyd yn cysylltu Caerdydd â Bryste, Birmingham, Southampton, Manceinion, Lerpwl, a sawl dinas a thref arall.
O Orsaf Caerdydd Canolog mae gwasanaeth rheolaidd i Orsaf Cathays, gerllaw Undeb y Myfyrwyr.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru am ragor o wybodaeth.
Bws
Ewch i Fws Caerdydd i gynllunio eich siwrnai bws o fewn Caerdydd.
Os yn teithio i Gaerdydd ar fws o ddinas arall, mae’r National Express a Megabus yn cynnig gwasanaethau rheolaidd.
Hygyrchedd
Rydym am i bob ymwelydd i’n hadeilad deimlo wedi’u croesawu.
Mynediad i’n hadeilad
Mae modd cael mynediad at adeilad Undeb y Myfyrwyr o Heol Senghennydd a Phlas y Parc.
Os yn defnyddio mynedfa Plas y Parc gallwch ddefnyddio lifft Prifysgol Caerdydd. Mae’r lifft ger troed y grisiau at Undeb y Myfyrwyr. Wedi i chi adael y lifft, defnyddiwch y drws awtomatig wedi’i leoli ar ochr chwith ein Canolfan Groeso. Unwaith yn yr adeilad, gallwch gymryd lifft i loriau eraill.
Os yn defnyddio mynedfa Heol Senghennydd, gallwch ddefnyddio’r lifft ar y llawr gwaelod i gyrraedd pob llawr o’r adeilad.
Os gewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad at yr adeilad cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar 029 2078 1412.
Mynediad anabl at ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw
Mae gennym ardal balconi y mae modd ei archebu ar gyfer rheiny ag anghenion hygyrchedd ychwanegol. Caiff y system archebu ei weithredu ar sail gyntaf i’r felin o ganlyniad i gyfyngiadau capasiti. Yn aml, ni allwn gyflawni ceisiadau sy’n cael eu gwneud ar y noson, ond byddwn bob tro yn ceisio eich helpu os fydd modd. O ganlyniad i gyfyngiadau capasiti gallwn ond gadw lle ar gyfer 1 defnyddiwr ac 1 gofalwr – os oes angen mwy o gymorth arnoch rhowch wybod i ni.
I archebu lle ar y balconi rhaid i chi archebu tocyn i’r sioe YN GYNTAF, wedyn gallwn gynnig tocyn gofalwr am ddim wedi i’r ffurflen isod cael ei chwblhau. Mae pob tocyn yn ddibynnol ar argaeledd a chapasiti. Os yw’r balconi yn llawn, byddwn yn darparu ad-daliad llawn ar gyfer y tocyn gwnaethoch archebu. Nodwch, efallai y bydd gallu gofalwyr i weld y llwyfan wedi’i gyfyngu ychydig.
Rhaid gwneud ceisiadau trwy ein system archebu syml. Cliciwch yma am fynediad at y system archebu.
Cysylltu â’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid
E-bostiwch ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar SUCustomerServices@caerdydd.ac.uk.
dominos