We are looking for new Student Trustees to provide more strength and depth to the Board and ensure that the Union continues to develop.
A strong and active Board of Trustees is essential for us as we go forward to make CSU even better, to renew our success and continue to move forward.
To apply
 
  • Send your CV, plus a supporting statement detailing why you are applying for the position and how you meet the requirements to Kate Owen suexecoffice@cardiff.ac.uk.
  • Your supporting statement should be no more than two sides of A4 and should show how you meet the requirements described in the person specification.
  • Complete the Equal Opportunities Monitoring Form.
  • The closing date for applications is 5.00pm on Tuesday 22nd October 2024.
  • Further information on the role of trustees can be found from the Charity Commission or the National Council for Voluntary Organisations (NCVO).
About Cardiff Students’ Union (CSU)
The Students’ Union is a not for profit membership organisation independent of Cardiff University and provides a range of services for its members. These include academic representation, commercial operations and financial and welfare advice. CSU receives a grant from Cardiff University and generates other income from its commercial outlets such as venues, bars Jobshop and Cardiff Lettings. It is governed by a Board of Trustees and supported by a Senior Management Team, around 100 salaried staff and 300 student staff.
The CSU Board
Cardiff Students' Union governed by a Board of Trustees comprising elected Sabbatical officers, Student Trustees, and external non-student appointed Trustees. The Board is supported by a Senior Management Team, around 100 salaried staff and around 300 student staff.
The Board comprises 15 members and meets at least four times a year to carry out its business. Trustees are elected (or selected) via the criteria established within the Union’s Articles of Association to ensure both student leadership and the recruitment of professional expertise.
The Board currently comprises:
  • Seven Sabbatical Trustees
  • Three Student Trustees
  • Two University Nominated Trustees
  • Three External Trustees
Trustee Role Description
Key responsibilities
All Trustees have a duty to:
Ensure that CSU acts in accordance with its charitable objectives and governing documents
Ensure that CSU remains true to its Mission, Vision and Values
Help CSU achieve its objectives and benefit the members
Ensure that CSU complies with all relevant legislation and regulations
Ensure that CSU does not undertake activities that put its financial stability, members or reputation at risk
Work with other Trustees and staff in a constructive manner
Participate fully in Board meetings
Use their professional skills and experience to ensure that CSU is well run and efficient
Seek professional external advice where there may be a risk to the Union or where the Trustees may be in breach of their duties
Add value to the Board and the Union through generating ideas, challenging the status quo, broadening thinking, and supporting and promoting innovation and creativity.
Rydym yn edrych am Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr newydd i gryfhau ein Bwrdd a sicrhau fod yr Undeb yn parhau i ddatblygu.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr cryf a gweithredol yn hanfodol wrth i ni weithio i wella UMC, parhau â’n llwyddiannau, ac edrych tua’r dyfodol.
I ymgeisio
 
  • Anfonwch eich CV, a datganiad cefnogol yn manylu ar pam rydych yn gwneud cais am y rôl a sut rydych yn cwrdd â’r anghenion, i Kate Owen suexecoffice@cardiff.ac.uk.
  • Ni ddylai eich datganiad cefnogol fod yn hirach na dwy ochr A4. Dylai eich datganiad cefnogol ddangos sut rydych yn cwrdd â’r anghenion a manylir yn y pecyn manyleb person.
  • Cwblhau’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5:00yh ddydd Mawrth 22 Hydref 2024.
  • Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am rôl ymddiriedolwyr ar wefannau’r Comisiwn Elusennau neu Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (CCMG).
Ynglŷn ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd (UMC)
Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefydliad aelodaeth nid er elw, sy’n annibynnol o Brifysgol Caerdydd, ac sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer ei aelodau. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth academaidd, gweithredu masnachol, a chyngor ariannol a lles. Mae UMC yn derbyn grant gan Brifysgol Caerdydd ac incwm gan ei adran fasnachol sy’n cynnwys lleoliadau, bariau, y SiopSwyddi, ac asiant dai. Mae wedi’i lywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a’i gefnogi gan Uwch Dîm Rheoli, tua 100 o staff llawn amser, a 300 o staff sy’n fyfyrwyr.
Bwrdd UMC
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi’i lywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy’n cynnwys Swyddogion Sabothol etholedig, Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr, ac Ymddiriedolwyr Allanol. Mae’r Bwrdd wedi’i gefnogi gan Uwch Dîm Rheoli, tua 100 o staff llawn amser, a 300 o staff sy’n fyfyrwyr.
Mae gan y Bwrdd 15 aelod ac mae’n cwrdd o leiaf pedair gwaith y flwyddyn. Mae Ymddiriedolwyr wedi’u hethol (neu eu dewis) yn seiliedig ar y criteria a amlinellir yn Erthyglau Cymdeithasu’r Undeb, er mwyn sicrhau bod arweiniad ar ran myfyrwyr ac arbenigedd proffesiynol.
Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cynnwys:
  • Saith Ymddiriedolwr Sabothol
  • Tri Ymddiriedolwr sy’n Fyfyrwyr
  • Dau Ymddiriedolwr wedi’u Henwebu gan y Brifysgol
  • Tri Ymddiriedolwr Allanol
Disgrifiad Rôl Ymddiriedolwyr
Prif Gyfrifoldebau
Mae gan bob Ymddiriedolwr gyfrifoldeb i:
Sicrhau fod UMC yn gweithredu yn unol â’i amcanion elusennol a dogfennau llywodraethu
Sicrhau bod UMC yn dilyn ei Strategaeth, Gweledigaeth, a Gwerthoedd
Helpu UMC i gyflawni ei amcanion er budd aelodau
Sicrhau bod UMC yn dilyn unrhyw ddeddfwriaethau a rheoliadau perthnasol
Sicrhau nad yw UMC yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau allai peryglu ei sefydlogrwydd ariannol, ei aelodau neu ei enw da
Gweithio gydag Ymddiriedolwyr eraill a staff mewn modd adeiladol
Cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Bwrdd
Defnyddio eu sgiliau a phrofiadau proffesiynol i sicrhau bod UMC yn rhedeg yn dda ac yn effeithiol
Chwilio am gyngor allanol proffesiynol pan fod risg i’r Undeb neu le bod Ymddiriedolwyr yn torri disgwyliadau eu rôl
Cyfrannu at y Bwrdd a’r Undeb trwy greu syniadau, herio arferion, meddwl ymhellach, a chefnogi a hyrwyddo arloesedd a chreadigrwydd.
dominos