Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Undeb yn cael ei reoli’n effeithiol o ddydd i ddydd, gosod amcanion hirdymor, gosod polisïau gweithredol, a rheoli risgiau. Y Bwrdd sy'n bennaf gyfrifol am gyfarwyddo’r sefydliad, gan sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn cyflawni ei amcanion elusennol.
I helpu gyda gwneud penderfyniadau, mae gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr chwe Phwyllgor sydd ag awdurdod dros feysydd penodol o weithgarwch sefydliadol.
Pwyllgor Pobl, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Diogelwch
Pwyllgor Bodlonrwydd, Ymgysylltu a Chyfranogiad
Grŵp Arfarnu'r Prif Weithredwr
Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol
Mae GUCC yn bodoli i hyrwyddo lles cymdeithasol ac addysgol myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd trwy ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau. Mae unrhyw elw a wneir gan GUCC yn cael ei roi i UMPC tuag at amcanion elusennol yr Undeb.
Mae gan GUCC Fwrdd Cyfarwyddwyr annibynnol sy'n goruchwylio gwaith y cwmni, sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion, a’n gyfrifol amdano yn y pen draw. Madison Hutchinson, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yw Cadeirydd Bwrdd GUCC a Daniel Palmer (PSG) yw'r Rheolwr Gyfarwyddwr.